Y Gymraeg

Cefnogi a hybu’r Gymraeg: A yw Mesur y Gymraeg yn llwyddo?

Dydd Mercher 2 Mehefin, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Cefnogi a Hybu’r Gymraeg (728KB). Prif ddiben yr ymchwiliad oedd gwneud gwaith craffu ôl ddeddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”).

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

30 Medi 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar ddydd Mercher 2 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Cefnogi a Hybu’r Gymraeg (728KB). Prif ddiben yr ymchwiliad oedd gwneud gwaith craffu ôl ddeddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”).

Y Cyd-destun

Roedd pasio Mesur 2011 yn gam arwyddocaol i’r iaith Gymraeg. Roedd yn benllanw 70 mlynedd o ddatblygiadau deddfwriaethol yn ymwneud â’r Gymraeg. Rhoddwyd am y tro cyntaf, statws swyddogol i’r iaith Gymraeg yng Nghymru, a hawliau i siaradwyr Cymraeg nad oedd yn bodoli o’r blaen. Cafwyd sicrwydd ac eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir gan sefydliadau cyhoeddus (ac ambell un preifat) o ran eu gwasanaethau Cymraeg, a’r hyn gallai’r cyhoedd ei ddisgwyl ganddynt.

Er pwysigrwydd y Mesur fel teclyn sy’n gosod sylfeini statudol gadarn i’r Gymraeg, yn ôl sawl arbenigwr, nid yw’r ddeddfwriaeth ar ei phen ei hun o reidrwydd yn gallu sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr a’i defnydd. Fel nododd y cyn-Weinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fel rhan o’r ymchwiliad:

Ni wnes i erioed ddweud mai’r ddeddfwriaeth oedd y peth pwysicaf o safbwynt parhad a chynyddu defnydd y Gymraeg. Roeddwn i’n meddwl bod strategaeth y Gymraeg yr un mor bwysig, hynny ydy, hyrwyddo a hybu—yr un mor bwysig â’r ddeddfwriaeth. Ond dwy ochr yr un geiniog ydyn nhw. Nid ydy’r naill yn gallu bodoli heb y llall.

Prif themâu a negeseuon

Daeth tair prif thema i’r amlwg yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor – rhwystredigaeth gyda’r drefn safonau, yr angen i symleiddio’r weithdrefn gwyno, a chyfrifioldebau hybu’r Gymraeg.

Er y gwahaniaeth barn am y modd y dylid mynd i’r afael â’r materion hyn, roedd y tystion yn gytûn o’r angen i atgyfnerthu gwaith hybu a hyrwyddo’r iaith yn fwy cyffredinol. Nododd y Pwyllgor yn ei adroddiad ei fod o’r farn mai nid ‘pwy sy’n gyfrifol am weithgareddau hybu yw’r prif ffactor yma, ond pa mor effeithiol y gwneir y gweithgaredd hwnnw.’ Mae arwyddion fod Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar y gwaith o roi mwy o bwyslais ar gynllunio ieithyddol a hybu’r iaith yn fewnol ac yn allanol. 

Safonau’r Gymraeg

Trwy osod dyletswyddau iaith (safonau) ar sefydliadau cyhoeddus, rhoddir effaith gyfreithiol i statws y Gymraeg. Mae’r safonau hefyd yn sicrhau hawliau penodol i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith gyda’r cyrff hynny.

Cafwyd tystiolaeth fod ansawdd ac argaeledd gwasanaethau wedi gwella dan y gyfundrefn newydd, a bod y safonau wedi rhoi eglurder i sefydliadau nad oedd yn bodoli dan y system flaenorol. Mae tystiolaeth diweddar y Comisiynydd sy’n cymharu gwasanaethau a ddarperir dan y gyfundrefn safonau o’u cymharu â chynlluniau iaith yn dystiolaeth o hynny.

Roedd rhwystredigaeth gyda chymhlethdod y drefn safonau yn amlwg er hynny, gyda sawl tyst yn galw am symleiddio’r system. Er y rhwystredigaeth hwn, nododd y Comisiynydd ei bod yn ‘lot rhy gynnar i benderfynu bod angen newid y ddeddfwriaeth yn llwyr’, barn oedd yn cael ei rannu gan y Pwyllgor. 

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ceisio addasu safonau’r Gymraeg o fewn y fframwaith ddeddfwriaethol presennol, a chyflymu’r broses o gyflwyno a gweithredu safonau ar sectorau newydd.    

Cwynion

Nod y ddeddfwriaeth oedd sicrhau trywydd clir a chadarn i siaradwyr Cymraeg wneud cŵyn am wasanaethau Cymraeg anfoddhaol. Mae’r system bresennol, ym marn y Pwyllgor, yn darparu ‘sicrwydd i achwynwyr y bydd eu cwyn yn cael ei datrys’.

Roedd sawl tyst o’r farn bod angen newid y system gwynion fyddai’n cyd-fynd â systemau cwynion eraill. Byddai hyn yn golygu na fyddai gan achwynydd hawl i wneud cwyn yn uniongyrchol i’r Comisiynydd heb yn gyntaf wneud cwyn i’r sefydliad. Roedd y Pwyllgor, am y tro beth bynnag, o’r farn y dylid cadw’r system gyfredol, ond bod angen ymchwilio i ffyrdd o gyflymu’r broses gwynion.    

Nododd y Comisiynydd wrth y Pwyllgor yn ddiweddar ei fod wedi adolygu prosesau cwynion y sefydliad, a bod angen pwyso a mesur yr angen am ymchwiliad llawn i gŵyn:

Lle dwi’n credu bod yna dor safon sydd yn effeithio ar hawl unigolyn, mi fyddwn i’n awyddus iawn i ymchwilio. Ond, mae’n rhaid i mi bwyso a mesur i weld yn union beth sy’n mynd i gael ei gyflawni drwy ymchwiliad llawn.

…unwaith mae ymchwiliad yn cael ei ddechrau, mae’n rhaid i ni ddilyn y broses drwyddo i’r diwedd—ond os buaswn i wedi mynnu bod y sefydliad yn cynnig tystiolaeth llawn i ni yn y cychwyn, hwyrach y buasai’r penderfyniad i ymchwilio yn y gorffennol ddim wedi cael ei gymryd.

Hybu a Hwyluso’r Gymraeg

Yn sgil pasio’r Mesur, sefydlwyd corff newydd, Comisiynydd y Gymraeg, gyda’r nod o hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg. Gwneir hyn trwy osod dyletswyddau iaith ar gyrff cyhoeddus gan fwyaf. Er hyn, roedd y ddarpariaeth yn y Mesur oedd yn grymuso’r Comisiynydd i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg wedi codi disgwyliadau ynghylch pwerau a chyfrifoldebau’r Comisiynydd.

Trosglwyddwyd prif gyfrifioldebau hybu’r corff blaenorol i Lywodraeth Cymru, ynghyd a’r adnoddau. Y Llywodraeth oedd bellach yn gyfrifol am ddosbarthu grantiau i fudiadau sy’n hybu’r iaith ar lawr gwlad, megis y Mentrau Iaith, yr Urdd a Chlwb Ffermwyr Ifanc. Yn yr un modd, trosglwyddwyd elfennau cyllido addysg y blynyddoedd cynnar a Chymraeg i Oedolion i’r Llywodraeth, ynghyd â gorolwg strategol dros y meysydd hyn.

Nododd y Pwyllgor yn ei hadroddiad bod y Comisiynydd wedi derbyn beirniadaeth annheg mewn perthynas â hybu’r Gymraeg. Yn ôl y Pwyllgor, ‘rheoleiddiwr yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyntaf oll’, a bod y ‘dystiolaeth yn glir bod y swyddogaethau hybu allweddol yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru’.          

Argymhellion y Pwyllgor

Gwnaethpwyd 14 argymhelliad gan y Pwyllgor, oedd, ar y cyfan, wedi eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru. Derbyniwyd pob un o’r argymhellion, unai yn llwyr, neu mewn egwyddor. Gellir dod o hyd i ddatganiad y Gweinidog ynghylch yr argymhellion ar wefan y Llywodraeth.  


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: