Cyllid

Pam y gwrthodwyd datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru?

Gwrthododd Llywodraeth y DU alwadau’n ddiweddar i ddatganoli pwerau dros Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

Amcangyfrif o amser darllen: 2 Munud

01 Hydref 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gwrthododd Llywodraeth y DU alwadau’n ddiweddar i ddatganoli pwerau dros Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

Beth yw Toll Teithwyr Awyr (TTA)?

Mae TTA yn doll a godir ar yr holl hediadau teithwyr sy’n gadael y DU. Mae teithwyr yn talu cyfraddau gwahanol am hediadau pellter byr a phellter hir fel rhan o bris eu tocyn, a drosglwyddir i’r llywodraeth gyfrifol gan y cwmnïau hedfan. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl blog yn nodi statws TTA ar draws y DU.

Pam nad yw TTA wedi’i datganoli i Gymru?

Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU adroddiad yn argymell bod Llywodraeth y DU yn llunio cynlluniau i ddatganoli TTA i Gymru erbyn 2021. Daeth yr adroddiad i’r casgliad a ganlyn:

…if the UK Government has been prepared to devolve the other taxes recommended by the Silk Commission, including the partial devolution of income tax which involves a significant amount of money, it should be able to trust the Welsh Government with APD, which involves only a fraction of this amount.

Ymatebodd Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys i adroddiad y Pwyllgor mewn llythyr a gyhoeddwyd ar 6 Medi 2019. Nododd hyn nad yw penderfyniadau sy’n ymwneud â TTA yn gwestiwn o ymddiriedaeth ynglŷn â Llywodraeth Cymru a nododd y canlynol:

In the case of APD devolution, the UK government remains concerned about the competitive impact of introducing tax competition within a single aviation market.

Mae Llywodraeth y DU o’r farn bod Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Bryste yn gwasanaethu’r un farchnad y mae’n nodi ei bod yn gyson â chanllawiau cymorth gwladwriaethol oherwydd bod y ddau faes awyr o fewn 63 milltir i’w gilydd. O ganlyniad i hynny, mae Llywodraeth y DU yn honni bod hyn yn cyflwyno sefyllfa wahanol i’r Alban lle mae TTA wedi’i datganoli’n llawn a Gogledd Iwerddon sydd â phwerau i osod ei doll ei hun ar gyfer hediadau pellter hir.

Mae’r llythyr yn esbonio sail resymegol Llywodraeth y DU dros wrthod datganoli TTA i Gymru:

Our primary concern is to ensure the best outcome for businesses and consumers on both sides of the border. We do not believe introducing tax competition in this market will be beneficial overall and therefore have no current plans to change APD policy.

Beth oedd yr ymateb?

Roedd Llywodraeth Cymru yn feirniadol o benderfyniad Llywodraeth y DU, gan ddweud y canlynol:

Eto fyth, mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei bod yn amharod i dderbyn y dystiolaeth glir y dylid datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru. Mae anhyblygrwydd safbwynt Llywodraeth y DU yn achosi penbleth pellach oherwydd ei phenderfyniadau blaenorol i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Does dim cyfiawnhad i drin Cymru yn llai ffafriol na gwledydd datganoledig eraill.

Roedd David Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig hefyd yn amheugar o ymateb Llywodraeth y DU. Roedd o’r farn nad oedd y ddadl dros wrthod datganoli TTA yn gwestiwn o ymddiriedaeth, ond yn hytrach marchnadoedd hedfan a rennir a dywedodd nad yw’n argyhoeddi o gwbl.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Nododd Llywodraeth Cymru a David Davies AS fod cefnogaeth unfrydol dros ddatganoli TTA gan y sectorau hedfan, twristiaeth a busnes yng Nghymru ac y byddent yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i newid ei safbwynt.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: