Yr Amgylchedd

Datglymu clymog Japan

Mae clymog Japan (Fallopia japonica) yn blanhigyn goresgynnol adnabyddus. Mae'n anodd iawn ei reoli ar ôl iddo osod ei wreiddiau; mae’n gorchfygu rhywogaethau cynhenid, ac yn difrodi eiddo. Fe'i cyflwynwyd fel planhigyn addurnol yng nghanol y 19eg ganrif, ac mae bellach yn tyfu ledled Cymru. Mae’n tyfu gan amlaf ar safleoedd lle mae pobl yn gweithio, megis rheilffyrdd, ac mae’n arbennig o broblemus mewn ardaloedd preswyl. Mae'r erthygl hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am glymog Siapan yng Nghymru, a’r hyn sydd angen ei wneud os rydych yn dod o hyd iddo ar eich tir.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

02 Hydref 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae clymog Japan (Fallopia japonica) yn blanhigyn goresgynnol adnabyddus. Mae’n anodd iawn ei reoli ar ôl iddo osod ei wreiddiau; mae’n gorchfygu rhywogaethau cynhenid, ac yn difrodi eiddo.

Fe’i cyflwynwyd fel planhigyn addurnol yng nghanol y 19eg ganrif, ac mae bellach yn tyfu ledled Cymru. Mae’n tyfu gan amlaf ar safleoedd lle mae pobl yn gweithio, megis rheilffyrdd, ac mae’n arbennig o broblemus mewn ardaloedd preswyl.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am glymog Siapan yng Nghymru, a’r hyn sydd angen ei wneud os rydych yn dod o hyd iddo ar eich tir.

Pam mae clymog yn bryder?

Mae clymog yn Rhywogaeth Estron Goresgynnol, sy’n golygu y cafodd ei gyflwyno o ran arall o’r byd, ac y gall ledaenu’n gyflym gan achosi nifer o effeithiau negyddol. Mae’n anodd iawn cael gwared arno; gall planhigion newydd dyfu o ganlyniad i ddarnau bach iawn o goesyn clymog hyd yn oed.

Mae’r risgiau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig â chlymog yn cynnwys:

  • twf cyflym (hyd at 4cm y dydd);
  • llystyfiant brodorol sy’n marw oddi tano oherwydd diffyg golau a dŵr;
  • mae’n gadael darnau moel ar hyd glannau afonydd pan fydd yn marw yn y gaeaf, ac mae’r rhain yn fwy agored i erydiad;
  • mae’n achosi difrod i adeiladau drwy dyfu mewn craciau asffalt a choncrit, ac
  • mae’n effeithio ar werth eiddo a’r gallu i gael morgais.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae clymog yn costio oddeutu £166 miliwn y flwyddyn i economi Prydain.

Mae porth rhywogaethau estron goresgynnol Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol Atlas Cymru yn cynnwys gwybodaeth am ddosbarthiad hysbys clymog.

Sut mae clymog yn effeithio ar werth eiddo a morgeisi?

Mae’r cyfryngau yn llawn straeon ynghylch sut mae clymog yn effeithio ar werth tai a morgeisi. Mae’n gallu hollti tarmac, blocio draeniau, tangloddio sylfeini, ac ymwthio i gartrefi. Dywed y BBC y gall ei bresenoldeb fod yn ddigon i leihau gwerth eiddo hyd at 20 y cant.

Fodd bynnag, yn gynnar yn 2019, cynhaliodd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin ymchwiliad i glymog a’r amgylchedd adeiledig a ddaeth i’r casgliad a ganlyn:

A significant industry is built around controlling Japanese knotweed, but we were told that mortgage lenders in other countries do not treat the plant with the same degree of caution. This gives us reason to believe that the UK has taken an overly cautious approach to this plant, and that a more measured and evidence-based approach is needed to ensure that the impact is proportionate to the physical effects of the plant in the built environment …

Mewn ymateb i’r ymchwiliad, ymrwymodd Llywodraeth y DU i gomisiynu astudiaeth ar ddulliau rhyngwladol, a chyflwyno adroddiad erbyn diwedd 2019.

Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) wedi nodi fframwaith (PDF 3.5MB) i helpu benthycwyr i feirniadu pa mor ddifrifol yw problem clymog.

Beth sy’n cael ei wneud i reoli clymog?

Mae Strategaeth Prydain Fawr ar Rywogaethau Estron Goresgynnol 2015-2020 yn strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio mai nod y strategaeth yw lleihau’r risg o rywogaethau estron goresgynnol drwy annog cydweithredu rhwng llywodraethau, rheolwyr tir, a’r cyhoedd.

Mae Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yn ddull newydd o fynd i’r afael â Rhywogaethau Estron Goresgynnol yng Nghymru. Mae grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (PBC) (sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i Lywodraeth Cymru) yn nodi y bydd WaREN yn cynyddu cydweithio rhwng rhanddeiliaid y sector cyhoeddus, y sector preifat, a’r trydydd sector. Nodau cychwynnol WaREN yw datblygu strategaeth i fynd i’r afael â Rhywogaethau Estron Goresgynnol drwy gydweithio, nodi cwmpas pecyn cymorth i helpu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a datblygu dull ar gyfer nodi ffrydiau cyllid.

Mae Prosiect Rhywogaethau Estron Goresgynnol Dyfrdwy ymlith y grwpiau lleol sy’n ceisio cael gwared ar glymog. Mae’r prosiect hwn yn fenter partneriaeth ar draws y dalgylch sy’n ceisio cydgysylltu a rheoli’r gwaith o fonitro Rhywogaethau Estron Goresgynnol o fewn dalgylch Dyfrdwy er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig.

Beth allwch chi ei wneud os oes gennych glymog ar eich eiddo?

Mae nifer o awdurdodau lleol yn darparu cyngor ar-lein ar glymog. Er enghraifft, mae Rhondda Cynon Taf wedi paratoi canllaw gwybodaeth ar sut i reoli clymog. Mae rhai awdurdodau lleol, megis Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, hefyd yn cynnig gwasanaeth triniaeth i dirfeddianwyr.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru dudalen we hefyd, sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddulliau o drin a rheoli. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at ffyrdd sy’n caniatáu i’r cyhoedd roi gwybod am achosion o glymog, gan ddefnyddio apiau am ddim, i wella dealltwriaeth o ran y rhywogaeth hon yng Nghymru drwy wyddoniaeth dinasyddion.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi creu amrywiaeth o ddogfennau canllaw ar glymog a rhywogaethau estron goresgynnol eraill.

Yn dibynnu ar y sefyllfa, efallai yr hoffech ofyn am gyngor cyfreithiol os yw rhywun arall yn ymwneud â’r broblem. Nid yw’n drosedd i dirfeddiannwr gael clymog ar ei dir. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ychwaith i reoli na chael gwared ar glymog, na rhoi gwybod ei fod yn tyfu. Fodd bynnag, gall y rheolau a ganlyn fod yn berthnasol:

Deunydd darllen ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r canllawiau a ganlyn ar glymog:


Erthygl gan Emily Williams, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: