Addysg

Sut mae mesurau perfformiad ac atebolrwydd ysgolion yn newid?

Gyda’r gwaith o ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru wedi hen gychwyn, cyn bod disgwyl iddo gael ei gyflwyno o fis Medi 2022, mae llawer o sylw wedi’i roi ar sut y bydd ysgolion yn atebol o dan y cwricwlwm newydd a sut y bydd eu perfformiad yn cael ei fesur.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

16 Hydref 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda’r gwaith o ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru wedi hen gychwyn, cyn bod disgwyl iddo gael ei gyflwyno o fis Medi 2022, mae llawer o sylw wedi’i roi ar sut y bydd ysgolion yn atebol o dan y cwricwlwm newydd a sut y bydd eu perfformiad yn cael ei fesur. 

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu system atebolrwydd newydd i ysgolion ac wedi cyhoeddi ei threfniadau drafft ar gyfer gwerthuso a gwella ysgolion ym mis Chwefror 2019. Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, wrth Aelodau’r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Gorffennaf 2019:

Bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yn helpu i sicrhau’r newid diwylliannol sydd ei angen yn y pen draw i gefnogi’r gwaith o wireddu ein cwricwlwm newydd.

Gwahanu atebolrwydd ysgol oddi wrth asesiad disgyblion

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng asesu ar gyfer dysgu a dilyniant disgyblion, ac offer atebolrwydd a ddefnyddir i fesur perfformiad ysgolion. Cyhoeddodd ei chynigion ar gyfer asesu (PDF 1.09MB) o dan y cwricwlwm newydd ar wahân (ochr yn ochr â’r deunyddiau cwricwlwm drafft ym mis Ebrill 2019) i’w threfniadau gwerthuso a gwella ysgolion drafft.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio tuag at ‘Fframwaith Asesu a Gwerthuso’ ers i hynny gael ei argymell gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2014 (PDF 3.57MB) a 2017 (PDF 2.91MB), gyda’r Gweinidog yn cyfeirio ato fel hynny mor ddiweddar â mis Medi 2018 (para 147). Fodd bynnag, mae hyn bellach wedi esblygu’n ddau gylch polisi ar wahân:

  • asesiad disgyblion unigol i gefnogi eu dilyniant; a
  • gwerthuso ysgolion er mwyn eu helpu i wella a’u gwneud nhw’n atebol.

Pan ofynnwyd a oes llinell ddu drwchus rhwng y ddau gysyniad o asesiad ac atebolrwydd, dywedodd y Gweinidog Addysg wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Medi 2019:

Yes, absolutely. I think some of the trouble that we’ve got ourselves in previously is because there has not been a clear distinction between assessment and accountability, and, when you start using assessment for accountability purposes, that’s when, potentially, that assessment process gets corrupted and you have gaming.

Mae Llywodraeth Cymru (drwy reoliadau yn 2018) wedi gorffen cyhoeddi data asesu athrawon a chanlyniadau profion darllen a rhifedd cenedlaethol ar lefel ysgol, awdurdod lleol a chonsortia. Mae hyn yn golygu nad yw canlyniadau disgyblion ysgol yn cael eu cyhoeddi mwyach cyn eu harholiadau allanol yng Nghyfnod Allweddol 4.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddefnyddio asesiadau i lywio gwaith addysgu a dysgu yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd ysgolion, gallwch ddarllen ein herthyglau blaenorol ar 7 Ionawr 2019 a 23 Mai 2017.

Newid tuag at hunanwerthuso a rôl sy’n esblygu i Estyn

Mae hunanwerthuso yn nodwedd sy’n dod yn fwy amlwg o ddull Llywodraeth Cymru o wella ysgolion ac atebolrwydd ysgolion, yn sgil dylanwad arsylwadau’r OECD bod hunanwerthuso effeithiol gan ysgolion yn nodwedd amlwg o systemau addysg sy’n perfformio’n dda ledled y byd. Mae Estyn a’r OECD wrthi’n datblygu pecyn cymorth hunanwerthuso cenedlaethol ar gyfer ysgolion (a fydd yn cael ei alw’n ‘adnodd cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion’).

Fe wnaeth adolygiad yr Athro Graham Donaldson yn 2018 ragweld y bydd mwy o rôl i Estyn wrth helpu i wella ysgolion (yn ychwanegol at y pwyslais sydd ganddo ar hyn o bryd ar ddarparu sicrwydd ac atebolrwydd). Bydd arolygiadau ysgolion yn cael eu hatal yn rhannol yn 2020/21 er mwyn galluogi Estyn i baratoi ar gyfer diwygio’r cwricwlwm, er y bydd yn parhau i fonitro ysgolion sy’n peri pryder.

Bydd Estyn yn ailafael yn ei arolygiadau cylchol arferol o fis Medi 2021 o dan fframwaith arolygu newydd. Yn y tymor hwy, fel yr oedd yr Athro Donaldson yn ei argymell, mae Estyn yn bwriadu symud tuag at fodel dilysu o arolygu ar sail ‘ymreolaeth wedi’i ennill’ o 2024, lle na fyddai angen arolygu ysgolion sydd â gallu wedi’i brofi o gynnal a gweithredu hunanwerthusiadau yn yr un modd ag y gwneir ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, nodwyd yn ddiweddar, yn sgil pryderon ynghylch y dirywiad posibl yn absenoldeb arolwg, mae Ofsted am ailafael mewn arolygiadau o ysgolion yn Lloegr sydd wedi’u dyfarnu yn y gorffennol yn ‘Rhagorol’. Ers 2011, mae’r ysgolion hynny wedi’u heithrio rhag arolygiadau.

Y trefniadau arfaethedig ar gyfer gwerthuso a gwella ysgolion

Mae’r trefniadau drafft ar gyfer gwerthuso a gwella ysgolion, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019, yn seiliedig ar y broses gylchol ganlynol:

  • Hunanwerthuso: Bydd ysgolion yn defnyddio’r pecyn cymorth hunanwerthuso cenedlaethol a bydd awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru yn hunanwerthuso yn erbyn blaenoriaethau Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl.
  • Cynllunio ar gyfer gwella: Canlyniadau’r broses hunanwerthuso fel sail ar gyfer Cynlluniau Datblygu Ysgolion.
  • Cyhoeddi crynodeb o flaenoriaethau a chynllun gweithredu: Cyhoeddi blaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Ysgolion.
  • Dilysu: Consortia rhanbarthol i ddilysu hunanwerthusiad yr ysgol i ddangos ei fod yn adlewyrchiad gwir a chywir o gryfderau’r ysgol a meysydd i ddatblygu.
  • Arolygu: Dilysu drwy arolygu a rheoleiddio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud (PDF 453KB) bod y system categoreiddio ysgolion cenedlaethol, sy’n dyfarnu categori lliw i ysgolion yn seiliedig ar eu perfformiad a lefel yr her a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, am barhau ‘yn y dyfodol agos’. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Medi y bydd y categoreiddio yn parhau i esblygu fel y mae eisoes o dan y dull sy’n datblygu o fesur perfformiad ysgol.

Dywedodd y Gweinidog fod y cyfeiriad yn golygu atebolrwydd gwell, atebolrwydd craffach, ac nid llai o atebolrwydd, gan ychwanegu:

We’re moving to a system of schools as learning organisations, and a greater emphasis on self-evaluation, with external verification of that by Estyn, our inspectors. (…)

The ultimate system that we’re going to get to and the ultimate arbiter and the part of the system that provides public assurance and public confidence ultimately ends in Estyn. But it starts with our teaching standards and the professionalism of individual members of staff. That’s where it starts, and it ends in Estyn.

Mesurau perfformiad ysgolion

Bydd y system atebolrwydd o dan y Cwricwlwm newydd i Gymru yn gofyn am gyfres newydd o fesurau perfformiad ysgolion ar lefel disgyblion.

Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fesurau perfformiad ysgolion dros dro a fydd yn dod i rym o flwyddyn academaidd 2018/19 ymlaen. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â chanlyniadau anfwriadol y mesurau trothwy Lefel 2 blaenorol, a oedd yn blaenoriaethu’r ffin gradd C/D ac y gellid dadlau nad oeddent yn rhoi llawer o gymhelliant i ysgolion helpu dysgwyr i gyflawni’r graddau uchaf posibl.

Yn dilyn adolygiad gan Cymwysterau Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio mynd i’r afael â’r arfer sy’n digwydd yn rhy aml o gofrestru disgyblion yn gynnar ac yn amhriodol ar gyfer arholiadau. O 2019, dim ond canlyniad cyntaf ymgeisydd fydd yn cyfrif ym mesurau perfformiad ysgol.

Mae’r trefniadau dros dro wedi’u nodi’n llawn yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys a mesur ‘Capio 9’ diwygiedig, sy’n cymryd naw canlyniad gorau dysgwyr, y mae’n rhaid i dri ohonynt gynnwys TGAU Saesneg/Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, a chreu cyfartaledd i’r ysgol. Rhoddir sgôr pwyntiau uwch ar gyfer gradd A * nag A, ac ar gyfer gradd A na B ac ati. Ymhlith y mesurau eraill y bydd disgwyl i ysgolion hunanwerthuso yn eu herbyn mae perfformiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM), bechgyn a merched, a disgyblion o bob ystod gallu. Bwriad Llywodraeth Cymru yw bod perfformiad ‘mae pob dysgwr yn cyfrif’ mewn ysgolion yn cael eu mesur.

Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2019 (a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Gorffennaf 2019) yn adlewyrchu’r trefniadau interim hyn, gan ddileu’r gofynion ar ysgolion i ddilyn y targedau trothwy Lefel 2 (5 neu fwy TGAU A*-C). Yn hytrach, o 2019/20 mae’n ofynnol i ysgolion osod chwe tharged amhenodol yn seiliedig ar eu hunanwerthusiad eu hunain nes bod trefniadau atebolrwydd ysgolion tymor hir ar waith.

Beth nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud (PDF 453KB) yn ystod y misoedd nesaf y bydd yn comisiynu gwaith ymchwil annibynnol i adolygu’r system mesur perfformiad ac yn ymgynghori ag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol, i lywio’r gwaith o ddatblygu mesurau perfformiad newydd i fynd ochr yn ochr â’r cwricwlwm newydd.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: