Addysg

Sut mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu cyllido a beth yw’r prif broblemau?

Ddydd Mercher (23 Hydref 2019), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ar Gyllido Ysgolion (PDF 1MB) ac ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 703KB).

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

17 Hydref 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Mercher (23 Hydref 2019), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ar Gyllido Ysgolion (PDF 1MB) ac ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 703KB).

Prif argymhelliad y Pwyllgor, a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, yw y dylai gomisiynu adolygiad brys o faint o gyllid sydd ei angen ar ysgolion, yn enwedig o ystyried faint o ddiwygiadau sy’n digwydd ym maes addysg ar hyn o bryd.

Er nad oedd yn rhan o’r argymhelliad ffurfiol, awgrymodd y Pwyllgor y dylai amcan yr adolygiad fod yn debyg i amcan Adolygiad Nuffield yn 2014, a drafododd y bwlch cyllido sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru.

Pam mae cyllido ysgolion yn bwnc llosg?

Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys undebau’r athrawon ac awdurdodau lleol, yn poeni bod diffyg cyllid yn peri risg o ran cyflawni diwygiadau allweddol megis y cwricwlwm newydd a gweithredu’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd , yn ogystal â chyflawni’r flaenoriaeth o wella ysgolion a chodi safonau.

Mae adroddiad y Pwyllgor PPIA yn tynnu sylw at y ffaith fod pwysau ar gyllidebau ysgolion a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar addysg plant a phobl ifanc wedi cael eu codi dro ar ôl dro yn ystod ei waith craffu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mynegwyd pryderon hefyd am ddiffyg tryloywder ac anghysondebau wrth ddyrannu cyllid i ysgolion, yn benodol, y cydbwysedd rhwng y cyllid ar gyfer cyllidebau craidd ysgolion (a ddyrennir gan awdurdodau lleol) a blaenoriaethau addysg cenedlaethol (a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru).

Felly, edrychodd y Pwyllgor PPIA ar ddigonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion a’r ffordd y caiff cyllid ar gyfer ysgolion ei bennu a’i ddyrannu.

Cyllido ysgolion: proses gymhleth

Mae’r broses ar gyfer dyrannu a dosbarthu cyllid ysgolion yn gymhleth, fel y dangosir yn ein ffeithlun isod (os hoffech gael esboniad manylach, gweler ein canllaw Cyllido Ysgolion yng Nghymru, Awst 2018).

Mae hwn yn ffeithlun sy'n dangos y broses gymhleth o sut mae cyllid yn cyrraedd ysgolion.

Mae’r broses o bennu cyllideb graidd ysgol yn cynnwys sawl haen ac yn seiliedig ar nifer o wahanol ffactorau, y gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

  • Faint o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol (a benderfynir yn bennaf gan San Steffan);
  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhannu ei hadnoddau a faint y mae’n ei roi i lywodraeth leol yn gyffredinol;
  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhannu’r setliad llywodraeth leol rhwng pob awdurdod;
  • Gan nad yw’r setliad llywodraeth leol wedi’i neilltuo, faint o flaenoriaeth y mae pob awdurdod lleol yn ei rhoi i addysg, ac yn benodol i gyllidebau ysgolion, yn sgil y pwysau ariannol ar feysydd gwasanaeth eraill;
  • I ba raddau y mae awdurdodau lleol yn dirprwyo cyllid addysg i’r ysgolion eu hunain a faint y maent yn ei gadw ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn ganolog;
  • Sut y mae awdurdodau lleol yn dyrannu eu cyllid ar gyfer ysgolion rhwng ysgolion (maent yn gwneud hyn gan ddefnyddio eu fformiwla eu hunain yn unol â Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010).

Er bod mwyafrif helaeth y cyllid ar gyfer ysgolion yn cael ei ddyrannu drwy awdurdodau lleol, mae cyllideb addysg Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol at ddibenion penodol, sydd wedi’u targedu. Mae rhywfaint o’r arian hwn yn mynd yn ei gyfanrwydd i ysgolion, er enghraifft y Grant Datblygu Disgyblion ond mae llawer ohono’n cael ei sianelu drwy’r pedwar consortiwm rhanbarthol.

Lefelau cyllido presennol ysgolion

Mae’r tabl isod yn dangos faint o arian a gyllidebwyd ar gyfer gwariant ar ysgolion er 2010-11:

Tabl 1: Gwariant gros yr arian a gyllidebwyd ar gyfer gwariant ar ysgolion

Dyma dabl sy'n dangos y lefelau cyllid ar gyfer ysgolion ar sail cyfanswm a fesul disgybl ar gyfer pob blwyddyn er 2010-11. Mae'r tabl hefyd yn dangos faint o arian sydd wedi'i ddyrannu’n uniongyrchol i ysgolion bob blwyddyn.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Bwletin Ystadegol: Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion (sawl rhifyn blynyddol)

Mae’r data yn Nhabl 1 yn dangos:

  • Yn 2019-20, cafodd £2.654 biliwn ei gyllidebu ar gyfer gwariant ar ysgolion, sef 3.4 y cant yn uwch na 2018-19.
  • Rhwng 2010-11 a 2019-20, cynyddodd y gwariant gros a gyllidebwyd ar gyfer ysgolion 8.0 y cant mewn termau arian parod (£196 miliwn), sef gostyngiad o 7.6 y cant mewn termau real (yn ôl prisiau 2019-20, gan ddefnyddio datchwyddwyr CMC Trysorlys EM, Medi 2019).
  • Yn 2019-20, mae £5,849 wedi’i gyllidebu fesul disgybl ar gyfer gwariant ar ysgolion, 3.1 y cant yn uwch na 2018-19.
  • Mae’r swm a gyllidebwyd fesul disgybl yn 2019-20 8.1 y cant yn uwch mewn termau arian parod (£440) o’i gymharu â 2010-11, sef gostyngiad o 7.5 y cant mewn termau real (yn ôl prisiau 2019-20, gan ddefnyddio datchwyddwyr CMC Trysorlys EM, Medi 2019).
  • Yn 2019-20, ar gyfartaledd ledled Cymru, dyrennir 83.9 y cant o wariant y gyllideb argyferysgolion, sef cynnydd o 75 y cant yn 2010-11.

Cymariaethau â Lloegr

Gwnaeth Llywodraeth Cymru roi’r gorau i gyhoeddi data ynghylch lefelau cyllid ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn 2011, gan nodi nad oedd bellach yn bosibl cynhyrchu data cadarn a chymaradwy. Fodd bynnag, yn 2018, daeth gwaith dadansoddi gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i’r casgliad,  ar ôl diystyru Llundain, nad oes fawr ddim gwahaniaeth o ran cyllid fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr (gweler tudalen 21 Cyllido Ysgolion yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth).

Sut y mae cyllid ysgolion yn cael ei ddefnyddio?

Awdurdodau lleol sy’n dyrannu’r mwyafrif helaeth o gyllid ar gyfer cyllidebau craidd ysgolion, sy’n dod o’r setliad llywodraeth leol heb ei neilltuo (£2.015 biliwn o’r cyfanswm o £2.654 biliwn).

Mae £428 miliwn ychwanegol yn cael ei gadw a’i ddyrannu gan awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau y gellir eu darparu’n ganolog er budd effeithlonrwydd, arbedion maint, neu am eu bod yn wasanaethau arbenigol neu ganolog yn eu hanfod, megis trafnidiaeth ysgol.

Caiff £211 miliwn arall o gyllid grant ei ddyrannu i ysgolion, ochr yn ochr â’u cyllideb graidd.

Mae’r pedwar consortia rhanbarthol yn cael oddeutu £11 miliwn y flwyddyn gan awdurdodau lleol am eu gwasanaethau i wella ysgolion, a nhw sy’n gyfrifol am ddyrannu oddeutu £140 miliwn o gyllid grant Llywodraeth Cymru (mae’r symiau hyn yn rhan o’r ffigurau a nodwyd uchod).

Tabl 2: Dadansoddiad o’r gwariant gros a gyllidebwyd ar gyfer ysgolion yn 2019-20

Dyma dabl sy'n rhoi dadansoddiad o'r cyfanswm o £2.654 biliwn sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer gwariant ar ysgolion yn 2019-20.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, StatsCymru: Gwariant refeniw addysg a gyllidebwyd yn ôl awdurdod a gwasanaeth a Chyllidebau Ysgol Dirprwyedig yn ōl sector

Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb?

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r 21 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor PPIA. 

Yn gyfan gwbl, roedd yr 21 argymhelliad gan y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn (mae’r niferoedd mewn cromfachau yn dynodi nifer yr argymhellion):

  • Digonolrwydd cyllid ar gyfer ysgolion a’r flaenoriaeth a roddir i addysg gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol (3)
  • Dyraniad Llywodraeth Cymru ar yr adnoddau sydd ar gael rhwng awdurdodau lleol (1)
  • Blaenoriaethau’r awdurdodau lleol o ran cyllid ar gyfer ysgolion (3)
  • Sut mae’r awdurdodau lleol yn dyrannu’r cyllid y maent yn ei ddarparu i’r ysgolion, rhwng yr ysgolion (2)
  • Cyllid heb ei neilltuo a chyllid wedi’i dargedu (2)
  • Cronfeydd wrth gefn a diffygion yng nghyllidebau’r ysgolion (3)
  • Cyllidebau tair blynedd ar gyfer ysgolion (1)
  • Rôl yr ‘haen ganol’ (consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol) (1)
  • Dyblygu gwariant posibl ar wella ysgolion (2)
  • Cyfran yr arian a roddir i ysgolion (3)

Fel y dywedwyd eisoes, roedd argymhellion y Pwyllgor yn nodi y dylid cynnal adolygiad brys i asesu faint o gyllid sydd ei angen ar ysgolion i gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gynnwys gweithredu’r diwygiadau sylweddol sydd ar y gweill. Disgwylir i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, roi rhagor o fanylion yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch sut y bydd yr adolygiad hwn ar gyllido ysgolion yn mynd yn ei flaen.

Sut i ddilyn y ddadl

Mae’r ddadl wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mercher 23 Hydref 2019 tua 4.25yp. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: