Brexit

Brexit: Ble rydym ni nawr?

Ar 17 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a’r UE eu bod cytuno ar gytundeb newydd ar gyfer ymadawiad y DU o’r UE yn ogystal â datganiad gwleidyddol diwygiedig ar berthynas yn y dyfodol. Cefnogodd y 27 Aelod-wladwriaeth o’r UE y cytundeb diwygiedig yng nghyfarfod diweddaraf Cyngor yr UE ar 18 Hydref. Mae’r erthygl blog yma yn rhoi trosolwg o’r cytundeb a’r datganiad gwleidyddol diwygiedig, yn egluro sut mae’r broses gadarnhau yn gweithio ac yn edrych ar y camau nesaf yn y broses Brexit.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

22 Hydref 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 17 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a’r UE eu bod cytuno ar gytundeb newydd ar gyfer ymadawiad y DU o’r UE yn ogystal â datganiad gwleidyddol diwygiedig ar berthynas yn y dyfodol. Cefnogodd y 27 Aelod-wladwriaeth o’r UE y cytundeb diwygiedig yng nghyfarfod diweddaraf Cyngor yr UE ar 18 Hydref. Mae’r erthygl blog yma yn rhoi trosolwg o’r cytundeb a’r datganiad gwleidyddol diwygiedig, yn egluro sut mae’r broses gadarnhau yn gweithio ac yn edrych ar y camau nesaf yn y broses Brexit.

Cytundeb Ymadael newydd

Mae’r cytundeb drafft yn cynnwys protocol diwygiedig ar Ogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae’r protocol newydd yn cynnig gwahanol drefniadau er mwyn osgoi cael ffin tir ‘galed’ ar ynys Iwerddon i’r rhai y cytunwyd arnynt yn flaenorol. Yn y dyfodol, byddai Gogledd Iwerddon yn dilyn mwyafrif rheolau’r UE ar reoliadau tollau, TAW a nwyddau ond byddent yn aros yn nhiriogaeth dollau’r DU. Bydd nwyddau sy’n dod i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr yn gorfod defnyddio cod tollau a thariffau’r UE os byddant yn cael eu hallforio i’r UE neu mewn perygl o gael eu hallforio i’r UE. Mae hyn yn golygu y byddai yna ffin reoleiddio ym Môr Iwerddon rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Byddai’r trefniant newydd hwn yn berthnasol am gyfnod o bedair blynedd i ddechrau ac yna byddai ei barhad yn amodol ar gydsyniad Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Datganiad Gwleidyddol newydd

Nid testun cyfreithiol yw’r Datganiad Gwleidyddol ond mae’n darparu fframwaith gwleidyddol ar gyfer trafodaethau ar berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Mae’r Datganiad Gwleidyddol diwygiedig yn cefnogi cytundeb masnach rydd ‘dwfn ac uchelgeisiol’ gyda’r UE a chytundebau cydweithredu mewn sectorau eraill. Er bod y rhan fwyaf o’r testun wedi aros yr un peth, mae rhai newidiadau pwysig wedi’u gwneud:

  • Perthynas yn y dyfodol: mae’r ddwy ochr yn ymrwymo’n benodol i gytuno ar eu perthynas yn y dyfodol erbyn diwedd y cyfnod pontio presennol (31 Rhagfyr 2020);
  • Sefyllfa deg i bawb: mae paragraff mwy manwl wedi’i ychwanegu ar sicrhau sefyllfa deg i bawb a chynnal safonau uchel cyffredin ar gymorth gwladwriaethol, cystadleuaeth, trethiant, safonau cymdeithasol a chyflogaeth, yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd mewn unrhyw gytundeb yn y dyfodol;
  • Anghydfodau: os bydd anghydfod, dylai’r ddwy ochr wneud pob ymdrech yn gyntaf i ddatrys anghydfodau trwy drafod ac ymgynghori.  Mae’r posibilrwydd y bydd y naill ochr neu’r llall yn ceisio cael iawndal ariannol am beidio â chydymffurfio â’r llall wedi’i ddileu, a bydd Llys Cyfiawnder Ewrop yn parhau i chwarae ei rôl mewn anghydfodau sy’n ymwneud â dehongli cyfraith yr UE;
  • Alinio tollau: mae’r Datganiad yn gwneud ymrwymiadau llacach ar alinio tollau, gan gynnwys rheolau tarddiad.  

Yr elfennau o’r Datganiad sydd wedi aros yr un peth yw:

  • ymrwymiad i sefydlu egwyddorion cyffredinol ar gyfer cyfranogiad y DU ar ôl Brexit mewn rhai o raglenni’r UE;
  • yr opsiwn i’r DU archwilio perthynas yn y dyfodol â Banc Buddsoddi Ewrop ac edrych ar y posibilrwydd o gydweithrediad y DU â rhai asiantaethau’r UE fel Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop, Asiantaeth Cemegau Ewrop ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop; a
  • gallai’r cytundeb rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol fod ar ffurf Cytundeb Cymdeithas.

Cadarnhau

Yn y DU, mae angen i’r Cytundeb Ymadael a’r gyfraith sy’n ei wneud yn ddeddfwriaeth ddomestig gael eu pasio cyn y ‘diwrnod ymadael’, sef 31 Hydref ar hyn o bryd. Cafodd Bil y Cytundeb Ymadael ei gyflwyno ar 21 Hydref.

Bydd Senedd y DU yn dechrau ar ei hail ddarlleniad o’r Bil heddiw.

Ar ochr yr UE, rhaid i Gytundeb Ymadael gael ei gymeradwyo gan Senedd Ewrop cyn y gall y Cyngor Ewropeaidd ei fabwysiadu’n ffurfiol.

Y camau nesaf

Galwodd Prif Weinidog y DU sesiwn eithriadol o Senedd y DU ddydd Sadwrn 19 Hydref i geisio cael pleidlais ystyrlon ar delerau’r cytundeb newydd. Methodd Llywodraeth y DU â sicrhau cefnogaeth ar y cytundeb diwygiedig. Yn hytrach, pleidleisiodd Senedd y DU o blaid cynnal pleidlais ystyrlon ar y cytundeb diwygiedig os yw’r ddeddfwriaeth i’w weithredu wedi cael ei hystyried a’i phasio gan y Senedd.

Roedd y methiant i sicrhau cefnogaeth yn golygu bod yn rhaid i’r Prif Weinidog gydymffurfio â gofynion Deddf ‘Benn’ (Deddf Ymadael â’r UE (Rhif 2) 2019) a gofyn i’r Cyngor Ewropeaidd am estyniad i’r cyfnod negodi hyd at 31 Ionawr 2020. Ar adeg ysgrifennu, roedd y Cyngor Ewropeaidd wrthi’n ystyried y cais hwn.

Ar 21 Hydref, cyhoeddodd Prif Weinidogion Cymru a’r Alban lythyrau ar y cyd at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, yn gofyn am ganiatáu’r estyniad ar y sail ei bod yn ‘amhosibl’ cyflawni eu cyfrifoldebau cyfansoddiadol o fewn yr amserlen hon. Yn y llythyr, dywedwyd:

Our joint view is that the ultimate result of the Westminster Parliamentary process should be a referendum on EU membership. But in any event it is also essential to ensure that there is sufficient time for proper scrutiny of the Withdrawal Agreement Bill.

A hefyd:

A critical part of the legislative process on any Bill which affects devolved competences is that the Scottish Parliament and National Assembly for Wales are invited to provide legislative consent. This is clearly the case with the Withdrawal Agreement Bill. This obviously requires detailed analysis and scrutiny of what we understand will be a lengthy and complex piece of legislation.

Bydd y dyddiau nesaf yn allweddol yn llinell amser Brexit. Bydd pleidleisiau yn y Senedd, penderfyniad y Llys ar gydymffurfiaeth y Prif Weinidog â Deddf Benn a phenderfyniad gan Gyngor yr UE o ran a ddylid caniatáu estyniad pellach i’r cyfnod negodi hyd at 31 Ionawr 2020. Tan hynny, mae disgwyl i’r DU adael ar 31 Hydref, ymhen 9 diwrnod yn unig.


Erthygl gan Nia Moss a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: