A all Cymru ddod yn ôl ar y trywydd iawn i ddileu hepatitis C erbyn targed 2030?

Cyhoeddwyd 01/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i'r cynnydd tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru, a fydd yn cael ei drafod yn y Cynulliad ar 6 Tachwedd. Daeth adroddiad y Pwyllgor i'r casgliad bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i ddatblygu strategaeth newydd i ddileu’r afiechyd a darparu buddsoddiad cynaliadwy tan fod hepatitis C wedi'i ddileu.

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn bryderus ar ôl clywed tystiolaeth nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed y cytunwyd arno, sef targed 2030 Sefydliad Iechyd y Byd, i ddileu’r afiechyd yng Nghymru, ac roeddent yn bryderus hefyd am ba mor ansicr yw’r darlun y tu hwnt i 2020/21 o ran strategaeth a chyllid Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar gyfer swyddi staff penodol.

Rhybuddiodd y Pwyllgor, “heb weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r materion hyn, byddwn yn colli'r cyfle i ddileu'r haint”. Fodd bynnag, dim ond un o argymhellion y Pwyllgor a dderbyniodd Lywodraeth Cymru, gan dderbyn y tri arall mewn egwyddor.

Beth yw hepatitis C?

Feirws a gludir yn y gwaed yw hepatitis C (HCV) ac mae’n effeithio ar yr afu. Os na chaiff ei drin, mae pedair allan o bob pum person sydd wedi'u heintio yn datblygu hepatitis C cronig, a all achosi sirosis angheuol (creithio ar yr afu a all arwain at fethiant yr afu) a chanser yr afu. Caiff y feirws ei ledaenu pan fydd gwaed rhywun sydd wedi’i heintio yn mynd i mewn i lif gwaed rhywun arall.

Mae tua 210,000 o bobl sydd wedi'u heintio â HCV cronig yn y DU, ac mae tua 12,000-14,000 o'r rhain yng Nghymru.

Lluniodd Sefydliad Iechyd y Byd strategaeth ar gyfer y sector iechyd byd-eang ar hepatitis feirysol sy'n ceisio dileu hepatitis B a hepatitis C fel bygythiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Mae Cymru wedi ymrwymo i'r strategaeth hon.

Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu yng Nghymru yn ymdrin â hepatitis C. Mae’r cynllun yn parhau hyd at 2020. Dim ond hyd at 2021 (estyniad blwyddyn) y mae cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer grŵp gweithredu clefyd yr afu a’r swyddi penodol (gan gynnwys yr arweinydd cenedlaethol ar gyfer hepatitis).

Safbwynt y Pwyllgor

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod modd dileu hepatitis C, ond dim ond os bydd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth glir i ddileu’r afiechyd yn ddi-oed, gyda chyllid cynaliadwy, targedau uchelgeisiol, a chynllun ar gyfer y gweithlu.

Nododd yr aelodau bod yn rhaid gwneud hyn ar frys, o gofio y bydd y cynllun cyfredol yn dod i ben y flwyddyn nesaf, a dim ond hyd at 2021 y mae’r cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer y swyddi penodol. Roedd consensws cryf yn y dystiolaeth a gafwyd bod angen strategaeth bwrpasol a buddsoddiad parhaus i sicrhau cynnydd.

Mae'r Pwyllgor o'r farn ei bod hi’n hollbwysig mynd ati’n rhagweithiol i ymweld â chymunedau er mwyn chwilio am unigolion sydd 'mewn perygl', eu profi a’u trin, ynghyd â mwy o arian ar gyfer profion a thriniaeth mewn carchardai. Mae hefyd yn nodi bod stigma o hyd ynghylch y cyflwr a’r mathau o driniaeth a gynigiwyd yn y gorffennol. Mae'n credu bod angen ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus wedi'i thargedu i fynd i'r afael â'r stigma, ac i ledaenu’r neges bod triniaeth yn syml, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Sut ymatebodd Llywodraeth Cymru?

Derbyniodd Llywodraeth Cymru un o bedwar argymhelliad y Pwyllgor: i ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Cyllid a Phrif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol i bwysleisio bod yn rhaid ystyried y targedau triniaeth cenedlaethol ar gyfer hepatitis C fel y targedau mwyaf sylfaenol, ac y dylid rhagori arnynt lle bynnag y bo modd. Roedd hyn yn adlewyrchu'r pryderon a glywodd y Pwyllgor bod rhai’n ystyried y targedau fel terfyn uchaf i anelu ato yn hytrach na’r safon mwyaf sylfaenol.

Cafodd y tri argymhelliad arall eu 'derbyn mewn egwyddor' gan Lywodraeth Cymru, er nad yw'r prif alwad i baratoi strategaeth bwrpasol yn cael ei datblygu.

Dadl Llywodraeth Cymru yw bod ei pholisi wedi symud i ffwrdd o strategaethau penodol iawn ar gyfer clefydau “am fod eu ffocws cyfyngedig, ynghyd â baich gweinyddol strategaeth wedi'i ffurfioli'n creu cyfyngiadau.” Mae'n dweud “ni waeth a yw'n cael ei gynnwys mewn strategaethau ehangach, gwyddys beth y mae ei angen i ddileu hepatitis C yn llwyddiannus: mwy o brofion a thriniaeth yn y gymuned.”

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld gwelliannau sylweddol drwy gyflwyno Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Byrddau Cynllunio Ardal mewn perthynas â phrofi am feirysau a gludir yn y gwaed mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Mae'n nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno targedau ffurfiol i’r Byrddau Iechyd o ran cynnal profion a chynnig triniaeth ar gyfer hepatitis C fel rhan o Fframwaith Cyflenwi'r GIG ar gyfer 2020/21. Bydd hefyd yn “cynhyrchu cylchlythyrau Iechyd Cymru ar gyfer GIG Cymru yn amlinellu cynnydd ac yn tanlinellu camau penodol y mae eu hangen i ddileu hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf.”

Dywed Llywodraeth Cymru hefyd, er y cytunir y bydd angen swyddi cenedlaethol allweddol y tu hwnt i fis Mawrth 2021 os ydym am ddileu’r feirws yn llwyddiannus, “caiff unrhyw benderfyniad ar gyfer ariannu y tu hwnt i'r cyfnod y mae gennym setliad ar ei gyfer tuag adeg cylch priodol cynllunio'r gyllideb.”

Mae'n debygol y bydd rhanddeiliaid yn siomedig na chaiff strategaeth genedlaethol newydd ei llunio i ddileu hepatitis C. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C wrth y Pwyllgor y byddai'n bryderus pe na bai cynllun newydd i fynd i'r afael â hepatitis C y tu hwnt i'r trefniadau presennol, gan nodi nad yw'r targed i ddileu’r feirws erbyn 2030 mor bell â hynny i ffwrdd mewn gwirionedd, ac felly nid dyma'r amser i godi ein troed oddi ar y sbardun – mae angen gwneud y gwrthwyneb, a dweud y gwir.

Galwodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd am strategaeth bwrpasol:

Having a focused strategy on an all-Wales basis, which encompasses all the key interventions, and identifies the roles for different stakeholders with appropriate local delivery plans, is something that will really help us refocus our attention and bring us back to the target of elimination by 2030.

Ar y trywydd presennol, amcangyfrifwyd y bydd Cymru yn methu’r targed o dros ddegawd, felly mae'n amlwg bod angen ymdrechion brys a pharhaus i drawsnewid hyn a dileu’r feirws erbyn 2030.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru