Y Gymraeg

Dau Gomisiynydd y Gymraeg, un Adroddiad Blynyddol: Llwyddiannau allweddol yn 2018-19, a’r heriau at y dyfodol.

Mae Adroddiad Blynyddol 2018-19 Comisiynydd y Gymraeg yn cofnodi diwedd cyfnod Meri Huws, y Comisiynydd y Gymraeg cyntaf yn y swydd, a dechrau cyfnod y Comisiynydd newydd, Aled Roberts.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

04 Tachwedd 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Adroddiad Blynyddol 2018-19 Comisiynydd y Gymraeg yn cofnodi diwedd cyfnod Meri Huws, y Comisiynydd y Gymraeg cyntaf yn y swydd, a dechrau cyfnod y Comisiynydd newydd, Aled Roberts.

Roedd ansicrwydd wedi bwrw ei gysod dros flwyddyn olaf Meri Huws yn y swydd. Hyd at fis Chwefror 2019, roedd Llywodraeth Cymru yn cynnig newid strwythur y sefydliad, ei rôl a’i swyddogaethau. Cafodd y cynigion eu hamlinellu ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru – Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Er gwaetha’r ansicrwydd, mae’r Comisiynydd newydd yn nodi yn ei ragair:

Welwch chi ddim ôl yr ansicrwydd hwn yn yr adroddiad; ac mae’n destament i Meri a’r staff eu bod wedi dal ati gyda dycnwch ac argyhoeddiad, gan gynnal momentwm y gwaith. 

Comisiynydd newydd

Bu i’r Comisiynydd newydd ddechrau cyfnod cysgodol fel ‘Darpar Gomisiynydd’ ym mis Chwefror 2019, cyn cymryd yr awenau yn swyddogol ym mis Ebrill 2019. Nododd yn ei ragair i’r adroddiad ei fod yn ystod ei fisoedd cyntaf fel Comisiynydd wedi teithio o amgylch Cymru gan gwrdd â sefydliadau a grwpiau cymunedol. Y nod, yn ôl y Comisiynydd oedd helpu ei ddealltwriaeth o’r berthynas sydd gan wahanol gymunedau â’r iaith. Nododd byddai hyn yn ‘siapio fy ngweledigaeth a’m blaenoriaethau ar gyfer y sefydliad’. 

Yn ei dystiolaeth yn ddiweddar i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (DGCh), dywedodd y Comisiynydd newydd mai un o’r prif gasgliadau a gymerodd o’i gyfarfodydd oedd:

fod y safonau yn dechrau gweithio, eu bod nhw’n effeithiol, a bod hynny’n dod o’r sefydliadau eu hunain yn dweud eu bod nhw wedi gweld gwella o ran y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu.

Er bod arwyddion clir o gynnydd o ran darparu gwasanaethau Cymraeg, mae’r Comisiynydd yn nodi ei bryderon ynghylch defnydd o’r iaith. Mae’n awgrymu y bydd angen mwy o ‘egni’ wrth hyrwyddo a marchnata’r iaith a’i defnydd wrth symud ymlaen.

Pa gynnydd a wnaed yn ystod 2018-19?

Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd yn nodi peth cynnydd a chyflawniadau arwyddocaol yn ystod 2018-19. Mae’r rhain yn amrywio o rannu arferion arloesol, gwneud argymhellion ar ofal dementia, ac hefyd y Gymraeg mewn carchardai, a lansio rhestr o enwau lleoedd Cymraeg safonol.

Un maes cynnydd arwyddocaol a welwyd yn ystod 2018-19 oedd y safonau. Ar ddiwedd mis Mawrth 2018, roedd 103 o sefydliadau yn gweithredu dyletswyddau’r Gymraeg. Cynyddodd hyn i 122 yn 2018-19, gyda phob un o’r cyrff hyn yn y sector iechyd. Mae cyflwyno’r safonau yn y sector hwn wedi bod yn broses araf, gyda’r Comisiynydd blaenorol ym mis Tachwedd 2017 yn sôn am rwystredigaeth gyda’r diffyg cynnydd: 

Erbyn hyn, mae hynny’n creu problemau ar lawr gwlad oherwydd y mae gofal cymdeithasol yn gweithredu erbyn hyn, ers blwyddyn a hanner, o fewn safonau… Rwy’n clywed, wrth fy mod i’n mynd o gwmpas ac yn siarad â phenaethiaid, fod yna rhwystredigaeth bod yna ddwy gyfundrefn yn rhedeg.

Clywodd y Pwyllgor DGCh yn ddiweddar fod y sector iechyd yn y gorffennol wedi perfformio’n ‘sylweddol waeth na sectorau eraill yng Nghymru’ wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Ond gwelodd y Comisiynydd newydd beth cynnydd yn y sector yn ystod 2018-19 wrth i’r sector baratoi ar gyfer y safonau, sy’n arwydd ‘bod y drefn ynddi’i hun yn cymell gweithredu’.

Beth yw’r sefyllfa ariannol?

Dyrannodd Gweinidogion Cymru £3.074 miliwn i’r Comisiynydd ar gyfer 2018-19. Roedd gwariant net ar gyfer 2018-19 yn £3.137 miliwn, gan arwain at orwariant o £63,000. Mae hyn yn is na’r gorwariant o £200,000 a nodwyd yn 2017-18.

Yn ei sesiwn graffu olaf gyda’r Pwyllgor DGCh (Hydref 2018), esboniodd Meri Huws fod y gorwariant o £200,000 yn 2017-18 yn hollol fwriadus a hollol strategol. Dywedodd:

O fod yn wynebu cyllideb fflat am gyfnod o dair blynedd…fe wnaethom ni benderfyniad fel tîm rheoli, a gafodd ei gefnogi gan ein pwyllgor archwilio risg ni, i ddefnyddio peth o’r cyllid wrth gefn.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y gorwariant diweddaraf, yn enwedig ei effaith ar gronfeydd wrth gefn y Comisiynydd. Lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn ym mis Mawrth 2019 oedd £438,000, i lawr o £501,000 y flwyddyn flaenorol.

Er gwaetha cronfeydd wrth gefn gymharol iach yn gyffredinol, mae’r Comisiynydd newydd yn nodi yn ei adroddiad bod angen edrych ar lefel gwaelodol y gronfa wrth gefn sydd ar gael. Dyma, meddai, yw’r ‘gwir swm sydd ar gael i’r sefydliad i ddiogelu rhag unrhyw orwariant potensial yn y dyfodol’. Y cronfeydd wrth gefn gwaelodol ym mis Mawrth 2019 yw £287,000.

Mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn ddoeth cynnal tua £250,000 mewn cronfeydd wrth gefn, tua 5% o’r gyllideb flynyddol (oddeutu £150,000), a £100,000 ychwanegol ar gyfer achosion cyfreithiol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol gan fod Tribiwnlys y Gymraeg bellach yn gwbl weithredol. Yn seiliedig ar wariant refeniw a ragwelir gan y Comisiynydd ar gyfer 2019-20, bydd y cronfeydd wrth gefn gwaelodol yn gostwng i £229,000. Mae hyn ryw £20,000 yn is na’r hyn y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn ‘ddarbodus i’w gadw’.

Beth yw’r prif heriau at y dyfodol?

Er bod llawer o heriau yn wynebu’r Comisiynydd newydd, mae risg ariannol i’r sefydliad yn uchel ar y rhestr. Dywed y Comisiynydd fod y swyddfa wedi wynebu ‘toriadau sylweddol dros y blynyddoedd’:

Yn 2013-14 roedd y gyllideb flynyddol yn £4,100,000, felly mae gostyngiad o 23% wedi bod mewn termau ariannol ers y cyfnod hwnnw ac mae lefel y gyllideb yn 2019-20 yn golygu y bydd rhaid inni wneud defnydd o’r gronfa wrth gefn.

Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd yn nodi bod gostyngiadau diweddar yn y gyllideb yn golygu ei bod yn ‘gynyddol anodd cefnogi prosiectau a gweithgareddau uchelgeisiol i gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg’.

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor DGCh, nododd y Comisiynydd newydd y gallai fod pryderon ariannol eraill o’u blaenau hefyd. Mae’r Comisiynydd wedi cytuno â’r undebau yn ddiweddar i ariannu codiad cyflog, ac mae materion ariannu posibl ynghylch cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn. 

Mae’r cyfraniadau o’n rhan ni ar gyfer pensiynau wedi cynyddu o 21 y cant i 27 y cant. Felly, mae yna gostau ychwanegol dŷn ni’n eu rhagweld o ryw £180,000 ar hyn o bryd sydd ddim wedi cael eu hariannu.

Yn ôl y Comisiynydd, byddai ddiffyg cyllid yn y dyfodol yn ‘effeithio ar faint o waith hybu a hyrwyddo y medrwn ni ei wneud’, ond hefyd, gall effeithio ar yr ‘amserlen o ran delio efo cwynion, achos bydd yna lai o swyddogion i ddelio efo’r gwaith hynny’.

Beth nesaf?

Ar ddydd Mawrth 5 Tachwedd, bydd y Cynulliad yn trafod Adroddiad Blynyddol 2018-19 Comisiynydd y Gymraeg, gallwch wylio’r ddadl ar SeneddTV.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: