Tai

Beth sy’n cael ei wneud i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru?

Wrth i’r gaeaf agosáu, dichon mai cysgu ar y stryd sy’n ein hatgoffa yn y ffordd fwyaf gweladwy bod digartrefedd yn parhau’n realiti i ormod o bobl yng Nghymru. Y dillad gwely mewn drysau, y pebyll sy’n edrych mor hynod yng nghysgod swyddfeydd a siopau ac, wrth gwrs, y bobl sy'n cysgu ar y stryd eu hunain, mae’r rhain i gyd yn amlygu maint yr her sy'n wynebu pawb sy'n gweithio i ddod â digartrefedd i ben.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

05 Tachwedd 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Wrth i’r gaeaf agosáu, dichon mai cysgu ar y stryd sy’n ein hatgoffa yn y ffordd fwyaf gweladwy bod digartrefedd yn parhau’n realiti i ormod o bobl yng Nghymru. Y dillad gwely mewn drysau, y pebyll sy’n edrych mor hynod yng nghysgod swyddfeydd a siopau ac, wrth gwrs, y bobl sy’n cysgu ar y stryd eu hunain, mae’r rhain i gyd yn amlygu maint yr her sy’n wynebu pawb sy’n gweithio i ddod â digartrefedd i ben.

Ym mis Hydref 2019, roedd digartrefedd yn y penawdau. Ar ddechrau’r mis, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ystadegau ar farwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr. Canfu SYG mai’r oedran ar adeg marwolaeth ar gyfartaledd yn 2018 oedd 45 oed ar gyfer dynion a 43 oed ar gyfer menywod. Cymharer hynny â 76 oed i ddynion ac 81 oed i fenywod ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Mae’r ffigurau tra gwahanol hynny yn waith darllen anodd ac maent dangos cost ddynol digartrefedd.

Strategaeth

Wrth i’w Chynllun Digartrefedd 10 mlynedd ddod i ben, lansiodd Llywodraeth Cymru strategaeth ar ddigartrefedd newydd ar 8 Hydref gydag addewid i sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw’n digwydd eto Mae ymdrin â digartrefedd yn waith cymhleth a gall ymgysylltu â phobl sy’n cysgu allan fod yn heriol. Mae’r strategaeth newydd yn ffafrio dull mwy unigol ac awydd i gael nid yn unig y gwasanaethau tai, ond hefyd ystod o wasanaethau cyhoeddus i weithio ar y cyd i atal a lliniaru digartrefedd.

Ar 10 Hydref, Diwrnod Digartrefedd y Byd, lansiodd Ceidwadwyr Cymru eu Cynllun gweithredu 10 pwynt i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru (PDF, 6.2MB) gydag ymrwymiadau i wneud tai yn hawl ddynol sylfaenol (PDF, 9.6MB) yng Nghymru ac i benodi Tsar digartrefedd. Yr wythnos ganlynol gwelwyd adroddiad cyntaf Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd, dan gadeiryddiaeth Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis. Argymhellodd yr adroddiad hwnnw nifer o gamau ymarferol y gellid eu cymryd yn gyflym y gaeaf hwn, gan ganolbwyntio’n bennaf ar bedair ardal drefol, sef Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, lle mae cysgu ar y stryd yn arbennig o weladwy, gan gynnwys:

  • Cynyddu’r defnydd o wasanaethau allgymorth grymusol sy’n targedu pobl sy’n cysgu allan sydd wedi ymddieithrio fwyaf ac sydd ag anghenion cymorth cronig;
  • Atal yn wirfoddol y defnydd o rai deddfau a rheoliadau; a
  • Sicrhau bod digon o lety brys a llety dros dro.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o argymhellion tymor byr y Grŵp Gweithredu, a chaiff y rhain eu cyflwyno yn awr. Mae Jon Sparkes wedi ysgrifennu cyfres o erthyglau blog gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Gweithredu, a gallwch eu darllen ar flog Crisis.

Beth mae’r Cynulliad yn ei wneud?

Cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Gweithredu a’i argymhellion cychwynnol yn yr un wythnos ag y craffodd un o Bwyllgorau’r Cynulliad ar waith Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ynglŷn ag ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chysgu ar y stryd.  Mae gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ddiddordeb hirsefydlog mewn cysgu ar y stryd yn dilyn ei ymchwiliad yn 2018, Bywyd ar y Strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru (PDF, 900KB).

Ychydig cyn cymryd tystiolaeth y Gweinidog ar 17 Hydref, cafodd Aelodau’r Pwyllgor gyfle i glywed gan Dr Helen Taylor o Brifysgol Metropolitan Caerdydd am ei hymchwil i gysgu ar y stryd fel rhan o gymrodoriaeth academaidd gydag Ymchwil y Senedd. Gall pobl sy’n cysgu ar y stryd ddod o dan un neu ragor o’r categorïau angen blaenoriaethol sy’n rhoi hawl i ymgeisydd gael y ddyletswydd digartrefedd “lawn” a hawl i gael llety, ond o dan y ddeddfwriaeth gyfredol, nid yw pobl sy’n cysgu ar y stryd yn grŵp ag angen blaenoriaethol penodol.

Mae canfyddiadau Helen yn pwysleisio cymhlethdod yr her sy’n wynebu llunwyr polisi ac maent yn cyflwyno nifer o argymhellion gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae’r argymhellion yn cynnwys galwadau am fwy o hyblygrwydd yn y system, mwy o staff sydd â phrofiad o fod yn ddigartref, a sefydlu rheolydd gwasanaethau digartrefedd. Gellir gweld ymchwil Helen yn llawn, ynghyd â chymhariaeth o’r defnydd o angen blaenoriaethol wrth ddelio â digartrefedd ledled y DU, ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ar ôl i Aelodau’r Cynulliad wrando ar ganfyddiadau Helen, dywedodd y Gweinidog wrthynt fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda’r pedwar awdurdod lleol y canolbwyntiwyd arnynt gan argymhellion cychwynnol y Grŵp Gweithredu. Gofynnodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor, i’r Gweinidog a oedd gan yr awdurdodau lleol hynny unrhyw bryderon ynghylch cynigion y Grŵp Gweithredu o ran atal yn wirfoddol feini prawf o ran bwriadoldeb a chysylltiad lleol, yn ogystal â thrin pobl sy’n cysgu allan yn awtomatig fel eu bod ag angen blaenoriaethol dros gyfnod y gaeaf. Bydd y newidiadau hynny i gyd yn creu goblygiadau o ran adnoddau a goblygiadau ymarferol eraill i awdurdodau lleol.

Ceisiodd y Gweinidog roi sicrwydd i’r awdurdodau lleol ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig, a dywedodd:

What we don’t want is somebody not getting the help they need because the authority isn’t in a position to know at that point that they can sort it out. So, we’ve just tried to reassure the authorities, and I’m saying it absolutely categorically here in the committee that we will sort that out upstream and that should not be a barrier to assisting somebody who is on the street. 

Cyfeiriodd y Pwyllgor hefyd at yr hawl i dai digonol, sef hawl y gofynnwyd amdani mewn ymgyrch dan arweiniad Tai Pawb, CIH Cymru a Shelter Cymru.  Pan ofynnodd Dawn Bowden AC iddi sut beth fyddai hawl i dai digonol yn ymarferol, cadarnhaodd y Gweinidog ei bod yn ystyried a ddylid gosod gofyniad ar bob awdurdod lleol i roi “sylw dyledus” i dai digonol. Dywedodd y gallai hyn gael ei gynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) sydd ar ddod. Ni fyddai hyn yr un peth â hawl i dai digonol, ond dywedodd rhanddeiliaid wrth gylchgrawn Inside Housing y byddai er hynny yn gam cyntaf arloesol sydd i’w groesawu’n fawr, ond galwyd hefyd ar i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach a darparu hawl i dai y gellid ei gorfodi mewn llysoedd a thribiwnlysoedd.

Beth nesaf?

Camau cyntaf dull mwy strategol o ddod â digartrefedd i ben yw’r ymdrechion i wneud gwahaniaeth y gaeaf hwn, ac mae nifer o ddatblygiadau allweddol ar y gweill ar gyfer 2020.

Disgwylir i’r cynllun gweithredu cyntaf i gyd-fynd â strategaeth ddigartrefedd newydd Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi unwaith y bydd y Grŵp Gweithredu yn cwblhau ei waith ym mis Mawrth. Bydd gwaith y Grŵp Gweithredu yn llywio’r cynllun gweithredu, fel y bydd yr ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chomisiynu gan Brifysgol Caerdydd i’r defnydd o angen blaenoriaethol yng Nghymru.

A fydd Cymru’n wynebu’r un heriau ym mhen blwyddyn wrth i aeaf 2020/21 agosáu? Ni wyddys i sicrwydd, ond bydd gwleidyddion, y sector tai ac eraill yn cynnal gwaith craffu pellach ar bolisi digartrefedd wrth i atebion gael eu ceisio i newid system sydd wedi caniatáu i nifer sylweddol lithro trwy rwyd achub.


Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: