Cysylltedd digidol: mae’r bwlch band eang cyflym iawn yn cau ond mae’r bwlch o ran 4G yn parhau

Cyhoeddwyd 08/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae’r bwlch o ran mynediad at fand eang cyflym iawn yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wedi cau’n ddramatig, yn dilyn buddsoddiad a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Cyflymu Cymru. Mae’r darlun yn wahanol ar gyfer cysylltiadau ffonau symudol, lle mae Cymru yn parhau i sgorio’n sylweddol waeth ar lawer o fesurau o’i chymharu â chyfartaledd y DU. Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn seilwaith ffonau symudol; yn hytrach, fe’i cyflwynir yn seiliedig ar benderfyniadau masnachol gweithredwyr y rhwydweithiau ffonau symudol.

Mae’r blog hwn yn rhoi trosolwg o gysylltedd digidol, cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Tachwedd 2019.

Y cefndir

Mae telathrebu yn parhau’n fater a gedwir yn ôl gan San Steffan. Mae hyn yn golygu bod y pŵer i newid y rheolau ynghylch gwasanaethau band eang a rhwydweithiau ffonau symudol yn nwylo Ofcom, y rheoleiddiwr cyfathrebu, a Llywodraeth y DU.

Felly, mae gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn gyfyngedig i gyllid grant – gan gynnwys grantiau ar gyfer unigolion, fel Allwedd Band Eang Cymru, a grantiau ar gyfer darparwyr telathrebu, fel Cyflymu Cymru – a’r pwerau datganoledig eraill sydd ganddi, fel y system gynllunio a rhyddhad ardrethi busnes, i ysgogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau digidol.

Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Ofcom y Connected Nations Update, sy’n cynnwys ystadegau allweddol ar gyfer darpariaeth band eang a chysylltiadau ffonau symudol yng Nghymru a ledled y DU.

Wrth edrych yn ôl i 2014, gallwn weld sut mae gwasanaethau band eang cyflym iawn a mynediad at gysylltiadau 4G wedi gwella ledled y DU a Chymru:


Ffynonellau: Ofcom Adroddiad ‘Connected Nations’ ac adroddiad ar isadeiledd
Sylwer: dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio ffigurau ar gyfer cysylltiadau 4G cyn 2017 oherwydd amrywiadau yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gasglu’r data hyn.

Mae’r gwasanaeth band eang cyflym iawn yng Nghymru bron wedi cyrraedd yr un lefel â chyfartaledd y DU, ond mae’r bwlch rhwng Cymru a’r DU o ran cysylltiadau 4G yn parhau.

Cyflymu Cymru a’i olynydd

Cyflymu Cymru oedd rhaglen band eang cyflym iawn Llywodraeth Cymru, a oedd â’r nod o sicrhau bod gan oddeutu 96 y cant o adeiladau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn. Rhoddwyd cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag adnoddau Llywodraeth Cymru ei hun, i BT i ddarparu cysylltiadau band eang cyflym iawn mewn ardaloedd nad oedd disgwyl i wasanaethau masnachol eu cyrraedd. Llofnodwyd y contract gyda BT yn 2012, a daeth cymal cyntaf prosiect Cyflymu Cymru i ben ym mis Chwefror 2018.

Yn 2017, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad i Seilwaith Digidol Cymru. Daeth yr adroddiad i’r casgliad a ganlyn:

Yn gyffredinol, roedd y rhanddeiliaid o’r farn bod prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru wedi arwain at ganlyniadau digonol o ran cyflwyno seilwaith, ond roedd diffygion yn y modd y cafodd gwybodaeth am y prosiect ei chyfleu yn yr ardaloedd hynny lle mae’n weithredol.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio ar yr olynydd i brosiect Cyflymu Cymru, a gefnogir o bosibl gan £80 miliwn o arian cyhoeddus gan yr UE, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Roedd cymal ‘rhannu enillion’ yng nghontract Cyflymu Cymru yn golygu pan fyddai nifer y bobl a oedd yn manteisio ar wasanaethau cyflym iawn yn uwch na ffigur penodol, byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran o elw BT i’w buddsoddi mewn gwasanaethau band eang yn y dyfodol.

Mae BT Openreach wedi ennill pob un o’r tair lot, sy’n golygu y bydd yn cynnig mynediad at fand eang cyflym dibynadwy i 26,000 o safleoedd erbyn mis Mawrth 2021 ar gost o bron i £22.5 miliwn. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod 156,000 o safleoedd yng Nghymru sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd.

Yn ei ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ar 4 Chwefror 2019, nododd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (Lee Waters AC) nifer y safleoedd sydd i’w cynnwys yng nghymal nesaf y gwaith o gyflwyno gwasanaeth band eang fesul awdurdod lleol.

Mae’r ffigurau diweddaraf gan Ofcom yn dangos y gall 93 y cant o safleoedd yng Nghymru gael mynediad at fand eang cyflym iawn o’i gymharu â 95 y cant ar gyfartaledd yn y DU. Fodd bynnag, ni fydd y ffaith bod y bwlch o ran darpariaeth band eang cyflym iawn rhwng Cymru a’r DU wedi cau o gryn dipyn yn gysur i’r rhai sydd yn y 7 y cant o safleoedd yng Nghymru sy’n dal heb fynediad. Yn gynyddol, bydd y safleoedd heb gysylltiad mewn lleoliadau anghysbell ac anodd eu cyrraedd yn ddaearyddol. O’r herwydd, er mwyn eu cysylltu, bydd angen i’r cymhorthdal fesul safle fod yn uwch na’r hyn ydoedd i dan Cyflymu Cymru, a gynlluniwyd i gyflwyno band eang cyflym i’r nifer fwyaf o safleoedd am y gost isaf. A fydd y gyllideb y mae Llywodraeth Cymru wedi’i dyrannu yn ddigon i gyrraedd y 7 y cant ystyfnig hwn sydd weddill?

Cynlluniau talebau band eang

Hefyd, mae gan Lywodraeth Cymru ddau gynllun talebau i gefnogi safleoedd nad yw prosiect Cyflymu Cymru na’i olynydd yn eu cyrraedd:

  • Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn darparu talebau gwerth hyd at £800 i helpu i gael cysylltiad sy’n arwain at newid sylweddol mewn cyflymder (hyd at 30 Mbps). Mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu (neu ariannu’n rhannol) costau gosod cysylltiadau band eang newydd ar gyfer safleoedd yng Nghymru. Nid yw’n cynnwys costau rhent misol.
  • Cynllun Taleb Band Eang Gigabit. Mae Llywodraeth y DU yn darparu talebau – gwerth hyd at £2,500 – i fusnesau bach a’r cymunedau lleol o’u cwmpas i gyfrannu at gost gosod cysylltiad band eang sy’n gallu cyrraedd gigabit. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol – £3,000 yn ychwanegol i fusnesau hyd at faint penodol a £300 yn ychwanegol i bob eiddo preswyl – tuag at y costau hyn.

Rôl y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol o ran gwella signal ffonau symudol yn aneglur

Er 2017, mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Ffonau Symudol. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar y ffordd y bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei phwerau datganoledig – fel y system gynllunio a rhyddhad ardrethi busnes – i ysgogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffonau symudol. Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau adroddiad ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Er bod signal ffonau symudol wedi gwella yng Nghymru er 2017, dywedodd y Pwyllgor fod rôl y Cynllun Gweithredu yn y gwelliant hwn yn aneglur. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau datganoledig “i droi’r fantol o ran hyfywedd masnachol tuag at fwy o fuddsoddiad mewn rhai ardaloedd”.

Beth sydd nesaf ar gyfer gwasanaethau ffonau symudol?

Mae Ofcom yn pennu’r rheolau ar gyfer y defnydd o’r “sbectrwm” – sef y gwahanol amleddau y caiff signalau symudol eu trosglwyddo drostynt – gan weithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol. Cafodd rheolau newydd eu cyhoeddi yn ddiweddar ar gyfer yr ocsiwn sbectrwm nesaf, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr rannu eu seilwaith mewn ardaloedd gwledig. Amser a ddengys a fydd hyn yn ddigonol i helpu’r farchnad i gau’r bwlch parhaus rhwng Cymru a chyfartaledd y DU o ran cysylltiadau 4G, ynteu a fydd angen ymyrraeth bellach gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

5G yw’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg ffonau symudol. Disgwylir iddi ddarparu band eang symudol cyflymach a gwell, a galluogi defnydd chwyldroadol o’r dechnoleg mewn sectorau fel gweithgynhyrchu, trafnidiaeth a gofal iechyd. Pa ymyriadau polisi fydd eu hangen i sicrhau nad yw’r gwaith o gyflwyno gwasanaethau 5G yn adlewyrchu anghydraddoldebau daearyddol y cenedlaethau blaenorol o dechnoleg ffonau symudol?


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru