Y Cyflog Byw: Beth yw’r datblygiadau diweddaraf yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 13/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

13 Tachwedd 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Cyflog Byw, sef dathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU.  Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y DU gan y Living Wage Foundation (y Sefydliad Cyflog Byw, y corff a sefydlwyd gan Citizens UK i ymgyrchu dros dalu’r Cyflog Byw gwirfoddol.

Gyda mwy nag un o bob pump o weithwyr ledled Cymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw, mae’r mater hwn wedi bod ar yr agenda wleidyddol ers nifer o flynyddoedd.  I gyd-fynd â’r Wythnos Cyflog Byw, mae Caerdydd wedi’i henwi fel yr ardal drefol fawr gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas Cyflog Byw gan y Sefydliad Cyflog Byw.

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng y Cyflog Byw, y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Mae’r tri therm hyn yn swnio’n debyg, ond maent yn cyfeirio at gyfraddau gwahanol o dâl yr awr:

  • Y Cyflog Byw yw’r cyflog fesul awr sydd ei angen ar berson cyffredin i dalu’r isafswm costau byw cyfartalog.  Mae wedi’i gyfrifo gan y Resolution Foundation ar ran y Sefydliad Cyflog Byw, ac mae’n feincnod gwirfoddol y gall cyflogwyr ddewis ei fabwysiadu. Cyfradd y cyflog byw yn 2019 yw £9.30 yr awr, gyda chyfradd ar wahân ar gyfer Llundain, sef £10.75 yr awr;
  • Y Cyflog Byw Cenedlaethol yw isafswm cyflog cyfreithiol Llywodraeth y DU ar gyfer gweithwyr 25 oed neu’n hŷn ledled y DU, a bennir yn flynyddol yn dilyn cyngor gan y Comisiwn Cyflogau IselY Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer 2019-20 yw £8.21 yr awr; a 
  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r isafswm cyflog cyfreithiol sy’n berthnasol i weithwyr 24 oed ac iau a phrentisiaid, ac mae wedi’i osod ar lefelau amrywiol yn ddibynnol ar oedran y gweithiwr ac a yw’n brentis ai peidio.

Beth yw’r goblygiadau o ran Caerdydd yn dod yn Ddinas Cyflog Byw i’w gweithwyr a’i chyflogwyr?

I gyd-fynd â’r Wythnos Cyflog Byw, cyhoeddwyd y bydd Caerdydd yn dod yn Ddinas Cyflog Byw.  Mae’r Grŵp Llywio Cyflog Byw, o dan gadeiryddiaeth Arweinydd Cyngor Caerdydd, a chydag uwch gynrychiolwyr o’r gymdeithas sifil a chyflogwyr lleol yn aelodau ohono, wedi gosod nifer o amcanion ar gyfer Caerdydd:

  • Cynyddu nifer y Cyflogwyr Cyflog Byw achrededig o 100 i 150 erbyn 2022;
  • Cynyddu nifer y rolau sy’n cael y Cyflog Byw gan gyflogwyr achrededig o oddeutu 27,250 i 48,000 erbyn 2022; ac
  • Annog cyflogwyr mawr i ddod yn Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gweithredu Cynllun Cymorth Achredu Cyflog Byw Gwirioneddol sy’n cynnig cymorth ariannol o hyd at £720 i fusnesau bach a chanolig yng Nghaerdydd os ydynt yn dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig erbyn 31 Mawrth 2020.

Beth all y data ei ddweud wrthym am dalu’r Cyflog Byw i weithwyr yng Nghymru?

Mae’r Sefydliad Cyflog Byw yn tynnu sylw at y ffaith bod mwy na 220 o Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghymru, yn ogystal â nifer o gyflogwyr eraill ledled y DU sy’n gweithredu yng Nghymru.  Mae’r cyflogwyr hyn yn cynnwys sefydliadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Mae llawer o erthyglau yn y cyfryngau ar y pwnc hwn yn defnyddio dadansoddiad a gyhoeddir gan IHS Markit ar gyfer KPMG yn seiliedig ar Arolwg Blynyddol Enillion yr Awr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n darparu data ychydig yn wahanol i’r hyn a nodir isodMae dadansoddiad IHS Markit yn nodi bod 241,000 o swyddi yng Nghymru, neu 21% o’r holl swyddi, yn talu islaw’r Cyflog Byw, ac mai yng Nghymru y cafwyd y gostyngiad canrannol mwyaf mewn swyddi a oedd yn talu’n is na’r Cyflog Byw o blith holl genhedloedd y DU a rhanbarthau Lloegr, ac eithrio Gorllewin Canolbarth Lloegr, rhwng 2018 a 2019.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi data ar dalu’r cyflog byw ar sail ad-hoc, fel y dangosir yn y graffeg isod, gyda’r data diweddaraf ar gael ar gyfer Ebrill 2019.  Mae’r data hwn yn dangos bod 268,000 o swyddi yng Nghymru a oedd yn talu llai na’r Cyflog Byw ym mis Ebrill 2019, sy’n cyfateb i 22.6% o’r holl swyddi yng Nghymru.

Canran y swyddi a oedd yn talu llai na’r Cyflog Byw ym mis Ebrill 2019, fesul cenedl y DU a rhanbarth Lloegr

Ffeithlun yn dangos canran y gweithwyr yng ngwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr sy’n cael eu talu llai na’r Cyflog Byw

Canran y swyddi a oedd yn talu llai na’r Cyflog Byw ym mis Ebrill 2019, fesul rhywedd                    

Ffeithlun yn dangos canran y menywod a dynion sy’n gweithio yng Nghymru sy’n cael eu talu llai na’r Cyflog Byw

Canran y swyddi a oedd yn talu llai na’r Cyflog Byw ym mis Ebrill 2019, fesul oriau gwaith       

Ffeithlun yn dangos canran y gweithwyr amser llawn a’r gweithwyr rhan-amser yng Nghymru sy’n cael eu talu llai na’r Cyflog Byw

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhagor o dalu’r Cyflog Byw yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cysyniad Cyflog Byw ac mae’n Gyflogwr Cyflog Byw achrededig sy’n talu’r Cyflog Byw i’w staff.  Mae’n annog cyflogwyr i fabwysiadu’r Cyflog Byw fel un o amrywiaeth o gamau i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan dlodi a chyflogau isel yng Nghymru.  Mae’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn cael eu talu o leiaf y Cyflog Byw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried hyn er mwyn sicrhau cyflog teg i staff y GIG yn y blynyddoedd nesaf. Mae hefyd wedi cynnwys ymrwymiad yn ei Chod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi y dylai sefydliadau sy’n cofrestru i’r cod ystyried talu’r Cyflog Byw o leiaf i’r holl staff, ac annog cyflenwyr i wneud yr un peth.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar sut i ddefnyddio caffael i gyflawni hyn

Yn ei faniffesto o ran ei arweinyddiaeth, cynigiodd Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb drwy agenda gwaith teg y Cyflog Byw;
  • Cyflwyno’r Comisiwn Gwaith Teg a chamau i sicrhau bod Cymru yn genedl waith deg, gyda “thalu’r cyflog byw gwirioneddol ym mhob cwmni sy’n cael arian cyhoeddus fel cam cyntaf”; a
  • Datblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol i sicrhau bod safonau moesegol cyflogaeth a chydraddoldeb “wrth wraidd polisi economaidd a chymdeithasol Llywodraeth Cymru a darparu gwasanaethau cyhoeddus”.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar Gryfhau Partneriaeth Gymdeithasol ar 7 Tachwedd, ac mae ymgynghoriad arno yn parhau tan 2 Ionawr 2020.  Mae ei gynigion ar gyfer deddfwriaeth Partneriaeth Gymdeithasol yn cynnwys dyletswydd arfaethedig ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo gwaith teg, gan gynnwys gwobr deg.

Cyhoeddodd y Comisiwn Gwaith Teg annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ei adroddiad ym mis Mai 2019.  Roedd yr adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ac yn dod i nifer o gasgliadau o ran y Cyflog Byw, gan gynnwys:

  • Sicrhau ei fod yn faromedr o wobr deg wrth ddiffinio gwaith teg, ac y dylai cyflogwyr naill ai gyflawni, neu weithio tuag at achrediad fel cyflogwyr Cyflog Byw;
  • Ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ymrwymo i God Ymarfer: Llywodraeth Cymru, sef Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi i ddangos y rhoddwyd ystyriaeth i dalu’r Cyflog Byw;
  • Gofyn i’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth edrych ar ddichonoldeb graddoli’r Cyflog Byw fel isafswm cyfradd tâl yn y sector hwnnw; a
  • Chynnwys dangosyddion Cyflog Byw fel Dangosyddion Cenedlaethol yn Adroddiad Llesiant Cymru blynyddol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mai y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn chwe argymhelliad blaenoriaethol y Comisiwn.  Mewn datganiad ysgrifenedig pellach ar 9 Gorffennaf, cyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn y 42 argymhelliad sy’n weddill gan y Comisiwn ‘mewn egwyddor’, gan olygu y bydd yn gwneud rhagor o waith ar fanylion yr argymhellion, er mwyn asesu eu heffaith ar ddatblygu a darparu polisi, a’u heffaith gronnol.

Ar 12 Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig yn dweud y byddai’n ysgrifennu at bob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddynt gyflawni achrediad cyflogwr Cyflog Byw.

Beth mae llywodraethau yng ngweddill y DU yn ei wneud mewn perthynas â’r Cyflog Byw?

Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymgymryd â nifer o gamau i hyrwyddo’r Cyflog Byw yn yr Alban, gan gynnwys gweithio gyda’r Gynghrair Tlodi i greu Cenedl Cyflog Byw lle mae 25,000 yn fwy o bobl yn yr Alban yn cael y Cyflog Byw erbyn 2021; lansio cynllun achredu rhanbarthol ar gyfer trefi, dinasoedd a rhanbarthau; a gweithio i gynyddu cyfran y gweithwyr mewn sectorau cyflog isel fel lletygarwch a thwristiaeth sy’n cael y Cyflog Byw.  Mae hefyd wedi datblygu Addewid Busnes yr Alban i gyflogwyr ddangos eu hymrwymiad i waith teg drwy dalu’r Cyflog Byw, peidio â defnyddio contractau dim oriau a gweithio i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.  Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd Gynllun Gweithredu Gwaith Teg, sy’n cynnwys camau gweithredu o ran y Cyflog Byw.

Mae Llywodraeth y DU wedi canolbwyntio ar gynyddu cyflog yn unol â’r Cyflog Byw Cenedlaethol, y mae’n cynnig a fydd yn codi i £10.50 yr awr erbyn 2024, i oddeutu 60% i 66% o ganolrif enillion y DU.  Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth y DU gan yr Athro Arindrajit Dube yr wythnos diwethaf ar ddichonoldeb ei chynigion.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell ar gyfer yr holl graffeg: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o nifer a chyfran y swyddi gweithwyr gyda thâl fesul awr sy’n is na’r cyflog byw, yn ôl daearyddiaeth gwaith, awdurdod lleol ac etholaeth seneddol, y DU, yn Ebrill 2018 ac Ebrill 2019