Brexit

Newid y gwarchodlu: Comisiwn newydd yr UE, a Chymru

Y Comisiwn Ewropeaidd yw cangen weithredol annibynnol yr UE. Mae’n cynnig ac yn goruchwylio deddfau’r Undeb Ewropeaidd, yn gweinyddu ei pholisïau a’i rhaglenni, yn goruchwylio cyllideb yr UE ac yn cynrychioli’r UE mewn trafodaethau rhyngwladol.

Amcangyfrif o amser darllen: 3 Munud

20 Tachwedd 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y Comisiwn Ewropeaidd yw cangen weithredol annibynnol yr UE. Mae’n cynnig ac yn goruchwylio deddfau’r Undeb Ewropeaidd, yn gweinyddu ei pholisïau a’i rhaglenni, yn goruchwylio cyllideb yr UE ac yn cynrychioli’r UE mewn trafodaethau rhyngwladol.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys Llywydd a 28 Comisiynydd, pob un o Aelod-wladwriaeth wahanol. Enwebir y Comisiynwyr gan Aelod-wladwriaethau’r UE ac fe’u cadarnheir gan Senedd Ewrop. Mae’r Llywydd a’r Comisiwn yn y swydd am gyfnod o bum mlynedd.

Mae tymor y Comisiwn presennol o dan y Llywydd Jean-Claude Junker yn dod i ben ac mae disgwyl i Lywydd a Chomisiwn newydd ddod i rym ddechrau mis Rhagfyr. Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am arwain unrhyw drafodaethau gyda’r DU ynghylch Brexit, ac felly bydd cyfansoddiad y Comisiwn newydd a’i flaenoriaethau strategol yn bwysig i’r DU ac i Gymru.

Y Llywydd a’r Comisiynwyr Newydd

Ym mis Gorffennaf, enwebodd Cyngor yr UE, sy’n cynnwys Penaethiaid Aelod-wladwriaethau’r UE Ursula Von der Leyen, cyn Weinidog Amddiffyn yr Almaen, i fod yn Llywydd newydd y Comisiwn. Cymeradwywyd ei henwebiad gan  Senedd Ewrop a phan fydd yn dechrau yn ei swydd, hi fydd y fenyw gyntaf i arwain y Comisiwn Ewropeaidd. Enwebodd yr Aelod-wladwriaethau unigolion o’u gwledydd hefyd i ffurfio gweddill y Comisiwn. Fel y Llywydd newydd, mae Von der Leyen yn gyfrifol am ddyrannu gwahanol bortffolios pwnc i’r Comisiynwyr newydd, ac am gyflwyno’r enwebeion i Senedd Ewrop i’w cymeradwyo. Gwnaeth hyn ym mis Medi.

Mae Senedd Ewrop yn cynnal cyfres o wrandawiadau cyhoeddus ar enwebeion y Comisiwn. Yn ystod y gwrandawiadau, gwrthododd Senedd Ewrop dri o enwebeion y Llywydd newydd; sef Rovana Plumb o Rwmania, László Trócsányi o Hwngari a Sylvie Goulard o Ffrainc. Mae hyn wedi gohirio dyddiad cychwyn y Comisiwn newydd o ddechrau mis Tachwedd tan fis Rhagfyr, a bu’n rhaid i’r Aelod-wladwriaethau a’r Llywydd newydd gyflwyno enwebeion newydd i’w cymeradwyo gan y Senedd.

Mae’r rhain bellach wedi’u cymeradwyo a bydd Senedd Ewrop yn pleidleisio ar gyfansoddiad y Comisiwn newydd yn ei gyfanrwydd. Disgwylir i’r bleidlais hon gael ei chynnal ar 27 Tachwedd ar hyn o bryd. Yn olaf, mae Cyngor yr Undeb Ewropeaidd yn penodi’r Comisiwn yn ffurfiol mewn pleidlais.

Comisiynydd newydd yn y DU?

Gan fod y DU i fod wedi ymadael â’r UE ar 31 Hydref, cadarnhaodd Prif Weinidog y DU ym mis Gorffennaf na fyddai’r DU yn enwebu Comisiynydd yr UE newydd.

Gan na chytunwyd ar fargen rhwng y DU a’r UE erbyn y dyddiad cau ym mis Hydref, fodd bynnag, gofynnodd Llywodraeth y DU am estyniad i’r trafodaethau ymadael tan 31 Ionawr 2020. Cytunodd yr UE i’r cais ond dywedodd fod hyn yn golygu y byddai angen i’r DU enwebu Comisiynydd newydd yn y DU.

Ysgrifennodd Ms Von der Leyen at Brif Weinidog y DU ar 6 Tachwedd i ofyn am enwebai erbyn 11 Tachwedd 2019. Ni chyflwynodd Llywodraeth y DU unrhyw enwebeion cyn i Senedd y DU gael ei diddymu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Mae wedi ymateb ers hynny, gan ddweud na fydd nawr yn enwebu Comisiynydd tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr, yn unol â chanllawiau sy’n dweud na all ddewis ymgeiswyr ar gyfer uwch benodiadau rhyngwladol yn ystod cyfnod Etholiad.

A hithau’n anfodlon â methiant Llywodraeth y DU i fodloni’r telerau y cytunwyd arnynt o ran yr estyniad, lansiodd yr UE yr hyn a elwir yn ‘drafodion achos torri’ yn erbyn y DU ar 14 Tachwedd. Mae trafodion achos torri yn weithdrefnau cyfreithiol ffurfiol y gall yr UE eu defnyddio yn erbyn Aelod-wladwriaethau nad ydynt yn dilyn deddfau’r UE. Yn y pen draw, gall y gweithdrefnau arwain at ddirwyon neu sancsiynau eraill, ond fe’u datrysir fel arfer cyn iddynt gyrraedd y pwynt hwn. Mae Llywodraeth y DU wedi cael hyd 22 Tachwedd i ymateb i’r rhybudd ffurfiol.

Pam fod hyn i gyd o bwys i Gymru?

Bydd Comisiwn yr UE yn parhau i arwain trafodaethau ar berthynas y DU â’r UE a bydd yn cysylltu â Llywodraeth newydd y DU ar ôl yr Etholiad.  Bydd Von der Leyen yn cymryd lle Jean-Claude Juncker, y Llywydd presennol, ac yn cynrychioli’r UE yn allanol ac mae wedi cyhoeddi canllawiau gwleidyddol sy’n amlinellu meysydd ffocws i’w Chomisiwn, gan gynnwys Bargen Werdd Ewropeaidd, ac Ewrop gryfach yn y byd.

Bydd Comisiynwyr unigol hefyd â rôl yn eu maes cyfrifoldeb, sy’n croestorri â meysydd sy’n dod o dan gyfrifoldeb y DU a meysydd datganoledig. Er enghraifft, os bydd Llywodraeth newydd y DU yn dilyn Cytundeb Masnach Rydd gyda’r UE, bydd y Comisiynydd Masnach newydd yn cael effaith sylweddol ar y trafodaethau hyn. Mae Phil Hogan o Iwerddon wedi’i gymeradwyo fel yr ymgeisydd am y swydd Comisiynydd Masnach.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal ei pherthynas â’r bobl allweddol yn yr UE, beth bynnag fydd canlyniad Brexit. Dywedodd wrth y Cynulliad:

Some of these people may be in place while Brexit is still in play. Even if the United Kingdom leaves the European Union, there will be a legacy beyond our membership that will be important to Wales.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: