Diddordeb yn tyfu mewn banc cymunedol i Gymru

Cyhoeddwyd 06/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae canghennau banc wedi bod yn cau ar raddfa frawychus o gyflym,gyda mwy na chwarter y canghennau’n cau yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig. A thros y 10 mlynedd diwethaf, mae 40% o holl ganghennau pedwar prif fanc y stryd fawr wedi cau yng Nghymru. Maenifer y peiriannau ATM am ddim yng Nghymru hefyd wedi gostwng yn ddiweddar, gan ostwng 10% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019.

Bu ymchwiliad diweddar o’r enw ‘Mynediad at Fancio’ gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn edrych ar y nifer o ffyrdd y gall cau canghennau banc, yn ogystal â cholli peiriannau ATM am ddim, effeithio ar bobl, cymunedau a busnesau. Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar gamau y gallai’r llywodraeth ac eraill eu cymryd i wella’r sefyllfa ac ystyriodd benderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i helpu i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru.

Gwnaeth y Pwyllgor 14 argymhelliad i gyd – 13 wedi’u cyfeirio at Lywodraeth Cymru ac un at Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o’r argymhellion (naill ai’n llawn, mewn egwyddor neu’n rhannol) ac wedi gwrthod un argymhelliad.

Sut wnaeth y Pwyllgor lunio ei argymhellion?

Fel rhan o’r broses o gasglu tystiolaeth, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg ar-lein a gasglodd farn bron i 900 o bobl a threfnodd grwpiau ffocws gyda grwpiau cymunedol mewn ardaloedd lle roedd banc ola’r dref wedi cau.

Canfu’r Pwyllgor fod tensiwn amlwg rhwng y ffaith bod cwsmeriaid yn ystyried bod banciau’n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, ond mewn gwirionedd, mae penderfyniadau o ran cau banciau yn cael eu gadael yn llwyr i’r farchnad, gyda chwsmeriaid yn cael gwybod yn hytrach na bod y cwmnïau yn ymgynghori â nhw ynghylch cau canghennau.

Clywodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth ysgubol o’r effaith negyddol yn sgil cau banciau a gostyngiadau mewn peiriannau ATM am ddim yng Nghymru. Canfu’r arolwg fod cau’r banciau wedi effeithio ar 87% o gwsmeriaid bancio personol a 78% o gwsmeriaid bancio busnes, a bod 50% o’r ymatebwyr yn pryderu ynghylch cael mynediad i gyfleusterau codi arian parod.

Dywedodd mwy na thraean o ymatebwyr yr arolwg (36%) fod yn rhaid iddynt deithio hanner awr ychwanegol i gael mynediad at gangen banc, a bod yn rhaid i 29% o bobl deithio awr yn ychwanegol.

Diflannu’n raddol…

Mae hyn yn effeithio ar bob rhan o Gymru, ond mae’r broblem o gael gafael ar arian parod a gwasanaethau bancio yn fwy dwys mewn ardaloedd gwledig, ac ar gyfer pobl hŷn ac anabl. Mae Ymchwil y Senedd wedi creu mapiau i ddangos sut mae cau canghennau banc dros y 10 mlynedd diwethaf wedi arwain at lawer o bobl yn gorfod teithio pellteroedd llawer mwy i ymweld â’u cangen agosaf.

Mae’r darnau porffor tywyllaf yn dangos ardaloedd lle mae’r pellter teithio i’r gangen agosaf filltir neu lai. Mae’r darnau porffor goleuach yn dangos ardaloedd lle mae’r pellter teithio i’r gangen agosaf rhwng 3 a 5 milltir. Mae’r darnau gwyn ar y map yn dangos ardaloedd lle mae’r pellter teithio i’r gangen agosaf dros 5 milltir.

Beth ellir ei wneud i wella’r sefyllfa?

Edrychodd y Pwyllgor ar y buddion a’r heriau posibl sy’n gysylltiedig â sefydlu banc cymunedol gyda nifer o ganghennau yng Nghymru, fel ffordd o wella'r sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cefnogi Banc Cambria a’r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol (CSBA) i ‘brofi dichonolrwydd sefydlu banc cymunedol i Gymru’. Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, nododd Mark Hooper o Banc Cambria raddfa bosibl y banc cymunedol yn y dyfodol gan nodi y gallai’n hawdd gyrraedd y 50 cangen orau ledled Cymru o fewn 5 i 7 mlynedd. O’r 50 o ganghennau hynny, byddai pob un ohonynt yn cynnig peiriannau ATM am ddim, ac amcangyfrifodd y byddai tua 12 cangen yn cael eu staffio’n llawn tra byddai gan y 38 arall ddull mwy awtomataidd yn cynnwys llai o aelodau staff.

Derbyniodd y Pwyllgor farn gymysg ynghylch Llywodraeth Cymru yn cefnogi creu banc cymunedol yng Nghymru a’r effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl yn sgil hynny. Er enghraifft, amlygodd Undeb Credyd Cambrian fod gan fanc cymunedol, sy’n cael ei redeg fel cwmni cydweithredol er budd ei aelodau, y potensial i weithredu fel catalydd ar gyfer mwy o degwch a llai o ecsbloetio wrth ddarparu gwasanaethau ariannol.

Fodd bynnag, mynegwyd pryder hefyd yn y sector undebau credyd. Ysgrifennodd grŵp o 11 o undebau credyd Cymru at y Pwyllgor i dynnu sylw at y ffaith y byddai bwriad Banc Cambria i ddarparu benthyciadau personol ar sail model cydweithredol mewn cystadleuaeth uniongyrchol ag undebau credyd ac y byddent yn bygwth yn uniongyrchol gynaliadwyedd rhwydwaith undebau credyd yng Nghymru yn y dyfodol.

Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gref hefyd ynghylch yr heriau sy’n gysylltiedig â sefydlu banc cymunedol – yn anad dim y gofynion ariannol a rheoliadol, yr amserlenni ar gyfer ei sefydlu, a’r angen i ddenu nifer sylweddol o bobl i newid eu cyfrifon banc.

Beth oedd casgliad y Pwyllgor?

At ei gilydd, cydnabu’r Pwyllgor fod y ‘dadleuon a gyflwynwyd o blaid banc cymunedol i Gymru yn gymhellol’. Fodd bynnag, rhybuddiodd y Pwyllgor fod bancio cymunedol yn y DU yn ‘dal i fod yn sefyllfa ddieithr’.

O ganlyniad, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru amlinellu ei strategaeth ar gyfer ‘rheoli’r risgiau parhaus sy’n gysylltiedig â rhoi arian cyhoeddus ym model bancio heb ei brofi y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, ac egluro lefel y gefnogaeth y mae’n rhagweld y bydd yn ei chynnig i’r banc cymunedol yn y dyfodol’. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn.

Mae’n rhaid mynd i’r afael â’r materion ehangach mewn ymateb i ostyngiad yn nifer y canghennau banc a pheiriannau ATM am ddim mewn ffordd niferus ac amrywiol. Adlewyrchir hyn yn argymhellion eraill y Pwyllgor sy’n trafod meysydd fel rheoleiddio’r llywodraeth, cynhwysiant ariannol a digidol, adfywio a chynllunio canol trefi, y rôl y mae Swyddfa’r Post ac undebau credyd yn ei chwarae, cysylltedd digidol a’r Gymraeg.

Beth nesaf?

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad (PDF, 2MB) y Pwyllgor ar 11 Rhagfyr, a gallwch wylio’n fyw ar SeneddTV.


Erthygl gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru