O egwyddor i ymarfer: sicrhau bod Cymru yn cyflawni ar ei haddewidion ym maes hawliau dynol

Cyhoeddwyd 10/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Where, after all, do universal human rights begin? In small places, close to home – so close and so small that they cannot be seen on any maps of the world. [...] Unless these rights have meaning there, they have little meaning anywhere.

Eleanor Roosevelt

Heddiw (10 Rhagfyr) yw Diwrnod Hawliau Dynol. Ar y diwrnod hwn ym 1948, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Roedd y ddogfen hon yn nodi dechrau hawliau dynol fel yr ydym yn eu hadnabod heddiw – sef fframwaith o rwymedigaethau i gynnal hawliau a rhyddid sylfaenol. Ond ni ddeellir bob amser sut mae hyn yn gweithio’n ymarferol na’r hyn y mae’n ei olygu i fywydau pobl o ddydd i ddydd.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ystod o addewidion ynghylch hawliau dynol ar lefel ryngwladol (fel y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a saith cytundeb craidd y Cenhedloedd Unedig ynghylch hawliau dynol), ar lefel y DU (fel Deddf Hawliau Dynol 1998) ac yng Nghymru (fel Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).

Fodd bynnag, sut ydyn ni’n gwybod a yw Cymru’n cadw at yr addewidion hyn?

Cryfhau amddiffyniadau

Mae Cymru wedi dewis llwybr sy’n fwyfwy gwahanol i weddill y DU o ran hawliau dynol. Er enghraifft, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn y gyfraith.

Mae’r ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar ei hamcanion strategol newydd ynghylch cydraddoldeb ar gyfer 2020-2024 yn awgrymu wyth nod hirdymor, ac mae un ohonynt yn trafod datblygu ‘mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i Gymru’.

Mae’n tynnu sylw at y gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ymgorffori mwy o gytuniadau’r Cenhedloedd Unedig ynghylch hawliau dynol yng nghyfraith Cymru, a’r posibilrwydd o gael Bil hawliau dynol i Gymru. Roedd hyn yn un o argymhellion dau o bwyllgorau’r Cynulliad yn 2018 pan wnaethant weithio ar y cyd i drafod diogelu hawliau dynol yng Nghymru ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar gyflwyno’r ‘ddyletswydd economaidd-gymdeithasol’ (sydd hefyd wedi’i argymell dro ar ôl tro gan bwyllgorau’r Cynulliad). Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau mewn ffordd sy’n ymdrin ag anghydraddoldebau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae’r ymgynghoriad yn dyfynnu rhwymedigaethau’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, a’r argymhellion ar gyflwyno’r ddyletswydd a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig dro ar ôl tro. Arweiniodd yr Alban y ffordd drwy wneud hynny yn 2018.

Hawliau ar waith

Gall fod yn anodd trosi hawliau lefel uchel (fel yr hawl i fywyd teuluol a bywyd preifat) i’r byd go iawn. Mae llywodraethau yn aml yn canolbwyntio ar yr amddiffyniadau eu hunain yn hytrach nag edrych ar yr hyn y mae’n ei olygu i brofiadau pobl o ddydd i ddydd. Hefyd, lle cymerwyd camau o’r fath, nid yw’r effaith o reidrwydd wedi’i mesur.

Er enghraifft, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau atal gwahaniaethu ar sail mamolaeth. Fodd bynnag, yn 2016, canfu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod hyd at 54,000 o fenywod yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn colli eu swyddi bob blwyddyn oherwydd gwahaniaethu ar sail mamolaeth.

I weithio tuag at y nod llesiant o sicrhau ‘Cymru fwy cyfartal’, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn awgrymu y dylai cyrff cyhoeddus gyflwyno targedau ar gyfer cadw gweithwyr pan fyddant yn dychwelyd ar ôl cyfnod mamolaeth. Hefyd, gwnaeth Pwyllgor Cydraddoldeb y Cynulliad argymell y dylid ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gasglu data ar gyfraddau cadw gweithwyr sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod mamolaeth, ac fe dderbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ein helpu i ddeall a yw ymrwymiadau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod yn gwella bywydau pobl mewn gwirionedd.

Enghraifft arall yw diddymu’r amddiffyniad cosb resymol, a gafodd ei argymell gan y Cenhedloedd Unedig dro ar ôl tro. Mae’r Alban bellach wedi diddymu’r amddiffyniad hwn, ac mae Cymru wrthi’n deddfu i wneud yr un peth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir fod hawliau dynol yn greiddiol i’w phenderfyniad i ddeddfu ar y mater hwn.

Dilyn argymhellion y Cenhedloedd Unedig

Mae llywodraethau yn darparu adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig ar bob cytuniad y maent wedi ymrwymo iddo, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn gwneud ‘arsylwadau i gloi’, sy’n cynnwys argymhellion penodol ar gyfer newid.

Fodd bynnag, ni weithredir ar lawer o argymhellion y Cenhedloedd Unedig, felly cânt eu hailadrodd yn aml yn adolygiadau/cyfnodau adrodd y Cenhedloedd Unedig. Lle mae cynnydd yn cael ei wneud, mae llywodraethau’n aml yn methu â gwneud cysylltiadau ag argymhellion.

I fynd i’r afael â hyn, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi lansio Humanrightstracker.com i helpu i fesur cynnydd argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Gallant gael eu hidlo yn ôl y llywodraeth gyfrifol, neu yn ôl y mater, y cytuniad neu’r grŵp o bobl yr effeithir arnynt.

Mae rhai o’r argymhellion sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • cynnwys cytuniadau craidd y Cenhedloedd Unedig mewn cyfraith ddomestig;
  • adolygu argaeledd llochesau, gwasanaethau cam-drin domestig a chanolfannau cymorth trais;
  • sicrhau bod prosiectau seilwaith newydd yn gwbl gynhwysol a bod modd i bobl anabl gael mynediad atynt, o drafnidiaeth i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau, yn ogystal â mynediad at yr amgylchedd adeiledig; a
  • chryfhau annibyniaeth y Comisiynwyr Plant yn unol ag egwyddorion Paris a chyngor y Cenhedloedd Unedig ar weithredu’r confensiwn ar hawliau’r plentyn.

Mae’r Cenhedloedd Unedig a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi galw dro ar ôl tro am sefydlu mecanweithiau cenedlaethol ar gyfer gweithredu, adrodd a gwaith dilynol i helpu i fonitro rhwymedigaethau o ran hawliau dynol mewn ffordd fwy cydgysylltiedig.

Aeth yr Alban i’r afael â hyn drwy ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol ynghylch hawliau dynol ar gyfer 2013-17. Mae cynllun newydd wedi’i gynnig, sy’n seiliedig ar themâu penodol o ran hawliau dynol. A allai Cymru ddilyn drwy sefydlu system fonitro ar gyfer materion ynghylch hawliau dynol mewn meysydd datganoledig?

Cyfrifoldeb pawb

Mae cyrff eraill yn allweddol i fonitro materion ynghylch hawliau dynol ac annog newid, fel Seneddau, ombwdsmyn, comisiynwyr, y farnwriaeth, cymdeithas sifil ac unigolion. Er enghraifft:

  • Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gasgliad o’i achosion lle codwyd ystyriaethau o ran hawliau dynol naill ai fel rhan o’r gŵyn neu fel rhan ganolog o’i ganfyddiadau.

Mae Coflyfr syn canolbwyntio ar hawliau dynol yr Ombwdsmon ar gyfer 2019-20 yn dangos effaith ymarferol cyfraith hawliau dynol mewn meysydd datganoledig fel gofal diwedd oes, tai, iechyd meddwl, trafnidiaeth ysgol, gwasanaethau cymdeithasol, gofal mamolaeth a’r penderfyniadau cyllido a wneir gan awdurdodau lleol. Mae’r coflyfr yn amlinellu’r hyn a aeth o’i le o safbwynt hawliau dynol, a’r hyn y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol o safbwynt ymarferol.

  • Mae’r adroddiad blynyddol diweddar gan Gomisiynydd Plant Cymru yn rhybuddio yn erbyn bod yn hunanfodlon ynghylch hawliau plant, gan nodi “Rydyn ni wedi arwain y byd wrth hybu a diogelu hawliau plant; rhaid i ni beidio rhoi’r gorau arni nawr.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud ystod o argymhellion penodol i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau plant i gael addysg, i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau, ac i fod yn ddiogel. Gallwch ddarllen dadansoddiad pellach o argymhellion y Comisiynydd yn ein blog diweddar.

  • Roedd ymatebion istrategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi y gallai hawliau dynol chwarae rhan fwy blaenllaw yn y nod o ddangos i’r byd yr hyn yr ydym yn ei wneud fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Gallai’r strategaeth roi cyfle i Gymru ddangos sut mae’n cyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol ynghylch hawliau dynol.

Mae agwedd benodol Cymru tuag at hawliau dynol yn parhau i ddatblygu. Bydd y gwaith cychwynnol ar ymgorffori cytuniadau a’r amcanion cydraddoldeb terfynol yn ddangosyddion pwysig o ran i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru am i’r mater gael ei ymgorffori ym mholisi Cymru yn y dyfodol.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru