Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Cyhoeddwyd 11/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) gerbron y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2019. Amcan y Bil yw gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru am resymau moesegol.

Bydd dadl Cyfnod 1 y Bil yn cael ei chynnal ar 7 Ionawr lle bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil.

Paratowyd y Crynodeb hwn o’r Bil cyn y ddadl ac mae’n rhoi cefndir i’r materion, crynodeb o’r Bil, ymatebion rhanddeiliaid a barn ac argymhellion Pwyllgorau’r Cynulliad hyd yn hyn.

Darllenwch y briff yma: Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (PDF, 1,295KB)


Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru