Etholiad cyffredinol 2019: sut pleidleisiodd Cymru?

Cyhoeddwyd 13/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn yr Etholiad Cyffredinol ddoe fe welwyd nifer sylweddol o etholaethau Cymru yn newid dwylo, wrth i Geidwadwyr Cymru gipio seddau oddi ar Blaid Lafur Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Llafur yw'r blaid fwyaf yng Nghymru o hyd: enillodd 22 o'r 40 sedd. Cafodd y Ceidwadwyr eu canlyniad gorau yng Nghymru ers 1983 gyda chyfanswm o 14 sedd, gan fynd â chwech sedd oddi ar Lafur yn ogystal ag unig sedd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Cadwodd Plaid Cymru'r pedair sedd a gafodd yn yr etholiad blaenorol yn 2017.

Y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru oedd 66.6 y cant, i lawr o 68.6 y cant yn etholiad 2017.

ASau Cymru yn Senedd y DU

Mae gan Gymru 40 o'r 650 AS yn Senedd y DU. Y Blaid Lafur enillodd nifer fwyaf y seddau yn yr etholiad hwn, yna y Ceidwadwyr, ac yna Plaid Cymru. Dyma niferoedd y seddau:

Seddau Cymru yn Senedd y DU

Graffig yn dangos nifer y seddau y mae pob plaid wedi ei ennill.Ffynhonnell: BBC

Beth oedd cyfrannau’r pleidleisiau?

Cyfran pleidleisiau yw canran cyfanswm y pleidleisiau y mae plaid yn ei chael. Mae'r diagram hwn yn dangos cyfrannau pleidleisiau Cymru a’r newidiadau er Etholiad Cyffredinol 2017:

Cyfrannau pleidleisiau Cymru a’r newid er 2017

Graffig yn dangos cyfanswm cyfran pleidleisiau pob plaid ynghyd ag unrhyw newidiadau er Etholiad Cyffredinol 2017. Ffynhonnell: BBC

A oes etholaethau sydd wedi newid dwylo?

Mae cyfanswm o 7 etholaeth wedi newid dwylo yng Nghymru, gyda phob un yn mynd at Geidwadwyr Cymru. Enillodd y Ceidwadwyr Ynys Môn, Wrecsam, Dyffryn Clwyd, De Clwyd, Delyn a Phen-y-bont ar Ogwr oddi ar Lafur. Fe wnaethant hefyd ennill etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Seddau sydd wedi newid

Graffig yn dangos pob sedd a newidiodd yn Etholiad Cyffredinol 2019. Ffynhonnell: BBC


Erthygl gan Sara Moran, Rhun Davies, Helen Jones a Joe Wilkes Ymchwil y Senedd