Addysg

Beth ddylem ni ei addysgu mewn gwersi hanes: a yw pawb yn cael eu cynnwys?

Mae diddordeb mawr yn y ffordd y mae hanes Cymru yn cael ei addysgu. Roedd y pwnc hwn ar frig arolwg cyhoeddus haf 2018 Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad hefyd wedi cymryd tystiolaeth ar y pwnc ar ôl i Ddeiseb ar ddysgu hanes Cymru gasglu dros 5,500 o lofnodion, ac roedd dadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2019. Ond er bod pobl wedi galw am ragor o fanylion ar sut y mae hanes Cymru yn cael ei addysgu mewn ysgolion, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cwricwlwm newydd, llai rhagnodol sy'n ceisio rhoi mwy o ryddid i athrawon ynghylch sut i addysgu eu pynciau.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

10 Ionawr 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Diddordeb mewn hanes

Mae diddordeb mawr yn y ffordd y mae hanes Cymru yn cael ei addysgu. Roedd y pwnc hwn ar frig arolwg cyhoeddus haf 2018 Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.  Mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad hefyd wedi cymryd tystiolaeth ar y pwnc ar ôl i Ddeiseb ar ddysgu hanes Cymru gasglu dros 5,500 o lofnodion, ac roedd dadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2019. Ond er bod pobl wedi galw am ragor o fanylion ar sut y mae hanes Cymru yn cael ei addysgu mewn ysgolion, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cwricwlwm newydd, llai rhagnodol sy’n ceisio rhoi mwy o ryddid i athrawon ynghylch sut i addysgu eu pynciau.

Mae ein herthygl blog flaenorol, Hanes Cymru – sut mae’n cael ei gynrychioli yn y cwricwlwm? yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir ar hanes yn y cwricwlwm presennol, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru a chynigion ar gyfer hanes yn y cwricwlwm newydd.

Persbectif Cymreig

Pryder allweddol a godwyd yn ymchwiliad y Pwyllgor a’r Ddeiseb oedd y gallai disgyblion ddysgu mwy am hanes gwledydd eraill yn hytrach na Chymru a’u hardal eu hunain.  Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Deisebau ym mis Gorffennaf 2018, cytunodd y Gweinidog Addysg y bu diffyg ffocws yn flaenorol, yn y cwrs TGAU, a diffyg disgwyliad penodol y byddai hanes Cymru yn cael ei addysgu, ond roedd cyflwyno cyrsiau hanes TGAU a Safon Uwch diwygiedig wedi golygu mwy o bwyslais ar yr angen i addysgu agweddau ar hanes Cymru i blant .  Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu nad yw disgyblion yn gwybod hanes eu cymuned na’u gwlad o hyd, ac argymhellodd y dylid gofyn i Estyn ystyried sut mae ysgolion yn bodloni cynnwys Cymreig hanes TGAU a Safon Uwch.

Corff cyffredin o wybodaeth?

Yn y Cwricwlwm newydd i Gymru 2022, bydd hanes yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (AoLE) ac nid yn bwnc penodol ar wahân fel y mae ar hyn o bryd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Meysydd Dysgu a Phrofiad (AoLE) yn ein blog Y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022 (Mai 2019)    Mae canllawiau statudol drafft Llywodraeth Cymru ar Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau  yn nodi:

Yn y Dyniaethau, dylai dysgwyr o bob oedran allu cymryd rhan mewn dysgu sy’n ymwneud â dimensiynau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. […] Dylai pob dysgwr gael cyfleoedd i seilio ei ddealltwriaeth o fater yn ei ardal leol ac yna ddwyn perthynas rhyngddo â’r cyd-destun rhyngwladol.

Nid yw’r Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau drafft yn rhoi manylion penodol ynghylch pa ddigwyddiadau mewn hanes y dylid neu sy’n rhaid eu haddysgu.  Mae’n bwriadu cefnogi dysgwyr i: 

ddatblygu dealltwriaeth o Gymru a datblygu eu hymdeimlad eu hunain o Gymreictod/yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymry. 

Mae hefyd yn nodi y dylai ysgolion ac athrawon sicrhau eu bod yn dethol cynnwys cwricwlaidd sy’n caniatáu i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth drylwyr o’u hardal leol, o Gymru ac o’r byd ehangach.

Soniodd llawer o’r rhai a roddodd dystiolaeth, gan gynnwys cymdeithasau hanes Cymru, am yr angen i gael digwyddiadau neu themâu penodol y dylai pob dysgwr wybod amdanynt. Awgrymodd un gymdeithas restr o bynciau ‘y mae’n rhaid eu haddysgu’ i holl ddisgyblion y wlad i sicrhau gwybodaeth gyflawn o’r digwyddiadau sydd wedi ffurfio’r Gymru gyfoes.

Mae’r Gweinidog Addysg wedi honni bod nodi’n fanwl yr hyn y mae’n rhaid ei addysgu i bob dysgwr yn gwrth-ddweud ethos y cwricwlwm amhenodol newydd.  Serch hynny, roedd y Pwyllgor yn teimlo ei bod yn angenrheidiol i bob disgybl ddysgu cyfres gyffredin o bynciau a digwyddiadau sydd wedi llunio’r genedl y cawsant eu magu ynddi ac argymhellodd y dylai’r cwricwlwm newydd gynnwys canllawiau sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth i bob disgybl sy’n astudio hanes.

Hanes cynhwysol?

Dywedodd Race Council Cymru wrth y Pwyllgor, er bod pobl o wledydd eraill, fel Somalia neu’r Yemen, wedi ymgartrefu yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, nid yw eu straeon yn cael eu hadrodd yn ysgolion Cymru. Dywedwyd nad oes neb yn adrodd y straeon am ddewrder a chyfraniad, arloesedd na gwyddoniaeth.

Yn ôl yr hyn a ddywedodd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant wrth y Pwyllgor, yn y cwricwlwm cyfredol:

there’s nothing about being black and Welsh. There is an assumption that they’re from somewhere else.

Ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad, mynegwyd pryderon y bydd opsiwn ticio ar gyfer Cymry gwyn, ond nid ar gyfer unrhyw ethnigrwydd arall, yng nghyfrifiad 2021.  Rhaid ysgrifennu hynny ar wahân.

Mae’r canllawiau Dyniaethau drafft yn nodi y bydd hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru yn helpu dysgwyr i werthfawrogi i ba raddau y mae Cymru yn rhan o gymuned ryngwladol ehangach.  Cytunodd y Pwyllgor fod hanes Cymru yn amlddiwylliannol ac argymhellodd y dylai amrywiaeth fod yn elfen graidd o’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru 2022.  Fe wnaethant hefyd argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi ei hymdrechion i gynyddu nifer yr athrawon Du, Asiaidd a’r rhai sydd o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor y dylid cael corff cyffredin o wybodaeth, er ei fod yn nodi y bydd yn gweithio gydag ymarferwyr addysg i gomisiynu adnoddau newydd a fydd yn cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanes Cymru a’r byd.  Fodd bynnag, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad y dylai amrywiaeth fod yn elfen graidd o’r cwricwlwm newydd, gan nodi mai un o bedwar diben y cwricwlwm yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu fel dinasyddion moesegol, gwybodus, sy’n barod i fod yn ddinasyddion y byd.

Cyhoeddwyd adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Ymchwiliad i addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru [PDF1.2KB] ym mis Tachwedd 2019 a bydd yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr 2020.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb [PDF 228KB] ar 8 Ionawr 2020.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: