Cydsyniad Brenhinol i Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Cyhoeddwyd 13/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Disgwylir i’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol yr wythnos hon.

Mae’r Bil:

  • yn newid enw’r Cynulliad i “Senedd Cymru” yn Gymraeg a “Welsh Parliament” yn Saesneg, ac yn gwneud newidiadau canlyniadol i enwau, teitlau a disgrifyddion perthnasol;
  • yn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ac yn gwneud newidiadau cysylltiedig i drefniadau cofrestru etholiadol;
  • yn gwneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i’r Cynulliad am ei waith mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig Cymru;
  • yn newid y rheolau ynghylch anghymhwyso pobl rhag bod yn Aelodau Cynulliad;
  • yn ymestyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad ar ôl etholiad; ac
  • yn egluro pwerau Comisiwn y Cynulliad i godi tâl am nwyddau a gwasanaethau.

Y Bil yn pasio’r cyfnod olaf

Ar 27 Tachwedd 2019, pleidleisiodd y Cynulliad i dderbyn testun terfynol y Bil a hynny o 41 pleidlais i 19.

Roedd angen uwch-fwyafrif i basio’r Bil, felly roedd angen 40 o Aelodau i bleidleisio o'i blaid, a hynny oherwydd bod y Bil yn ymwneud â phynciau gwarchodedig (PDF, 80KB) fel y’i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (h.y. enw'r Cynulliad a phwy gaiff bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad).

Yna, aeth y Bil drwy’r cyfnod o bedair wythnos pan gaiff y Cwnsler Cyffredinol neu’r Twrnai Cyffredinol ofyn i’r Goruchaf Lys gadarnhau a yw’r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo, yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Ysgrifennodd (PDF, 32KB) y Cwnsler Cyffredinol at Ddirprwy Lywydd y Cynulliad ar 3 Rhagfyr yn datgan nad oedd unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, yn ei farn ef, y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Mewn llythyr dyddiedig 20 Rhagfyr, cadarnhaodd (PDF, 234KB) Ysgrifennydd Gwladol Cymru na fyddai’n defnyddio’i bŵer o dan adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i atal y Bil rhag cael ei gyflwyno i gael Cydsyniad Brenhinol.

Newidiadau allweddol a wnaed yng Nghyfnod 3

Cynhaliwyd trafodaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Tachwedd. Darllenwch ein herthygl i weld sut y cafodd y Bil ei ddiwygio yng Nghyfnod 2.

Roedd y gwelliannau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 3 yn cynnwys nifer a gyflwynwyd gan Carwyn Jones AC i ddisodli’r enw “Senedd Cymru” mewn gwahanol rannau o’r Bil a chyfeirio at y “Senedd”, i weithredu ei amcan polisi o sicrhau mai “Senedd” yw teitl gweithio’r Cynulliad. Bydd Aelodau’n cael eu galw’n “Members of the Senedd” yn Saeseng, yn hytrach na “Members of Senedd Cymru” neu “Members of the Welsh Parliament”.

Diwygiwyd hefyd y rhan honno o’r Bil sy’n ymwneud â’r rheolau’n ymwneud ag anghymhwyso pobl rhag bod yn Aelod Cynulliad. Yn ystod Cyfnod 2, diwygiwyd y Bil i anghymhwyso Aelodau o ddeddfwrfeydd y tu allan i’r DU rhag sefyll yn etholiadau’r Cynulliad. O ganlyniad, byddai Aelodau o ddeddfwrfeydd eraill y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop yn cael sefyll yn etholiadau’r Cynulliad a gwasanaethu yn y Cynulliad yn ogystal â’r deddfwrfeydd eraill os cânt eu hethol.

Cafodd y Bil ei ddiwygio yng Nghyfnod 3 i ganiatáu i’r Aelodau hyn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad ond nid i wasanaethu. O ganlyniad, byddant yn cael eu trin yn yr un modd ag Aelodau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, sy’n cael sefyll yn etholiadau’r Cynulliad, ond byddai’n rhaid iddynt roi’r gorau i fod yn Aelodau o ddeddfwrfeydd eraill er mwyn bod yn Aelod Cynulliad.

Pryd y bydd y darpariaethu’n dod i rym?

Bydd y darpariaethau’n ymwneud â newid enw’r Cynulliad yn dod i rym ar 6 Mai 2020. Felly, o’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd y Cynulliad yn cael ei alw’n “Senedd” neu’n “Welsh Parliament”.

Bydd y darpariaethau sy'n ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a gwladolion tramor yn dod i rym pan fydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ond dim ond yng nghyd-destun etholiadau Cynulliad a gynhelir ar 5 Ebrill 2021, neu wedyn. Bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys yn gallu dechrau cofrestru o 11 Mehefin 2020 ymlaen, i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad a gynhelir ar 5 Ebrill 2021, neu wedyn.

Yn yr un modd, bydd y newidiadau yn y gyfraith yn ymwneud ag anghymhwyso pobl rhag bod yn Aelod Cynulliad hefyd yn dod i rym yr wythnos hon ond dim ond yng nghyd-destun etholiadau a gynhelir ar 5 Ebrill 2021 neu wedyn.

Bydd y pwerau’n ymwneud â goruchwylio’r Comisiwn Etholiadol yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol. Mae’r Bil yn darparu i Bwyllgor Cynulliad sef “Pwyllgor y Llywydd” graffu ar waith y Comisiwn Etholiadol.

Diwygio etholiadol - yr ail gam

Rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai ail Fil i ddarparu ar gyfer cynyddu maint y Cynulliad ac i wneud diwygiadau canlyniadol i’r system etholiadol ar sail yr argymhellion a wnaeth y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol yn ei adroddiad. Fodd bynnag, ar 10 Mehefin, ysgrifennodd y Llywydd ar holl Aelodau'r Cynulliad i ddweud wrthynt fod Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu nad oedd yn bosibl ddeddfu ar gam dau o’r rhaglen diwygio etholiadol yn y Cynulliad presennol. Yn hytrach, sefydlwyd Pwyllgor Cynulliad newydd ar 18 Medi i drafod argymhellion y Panel Arbenigol.


Erthygl gan Manon George, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru