Brexit Cyfansoddiad

Cymru ac Araith y Frenhines

Nododd Llywodraeth y DU ei chynlluniau ar gyfer deddfwriaeth yn ystod y flwyddyn seneddol sydd i ddod yn y Araith y Frenhines ar 19 Rhagfyr - gan gynnwys mwy na 30 o Filiau a fydd yn berthnasol i Gymru. Mae rhai yn ymwneud ag ymadawiad y DU â'r UE; bydd eraill yn ymwneud â pholisi newydd, mewn meysydd a gedwir yn ôl fel cyfiawnder yn bennaf. Bydd angen i'r Cynulliad ystyried pa effaith y gallai'r Biliau hyn ei chael ar Gymru a rhoi ei gydsyniad i unrhyw rai sy'n effeithio ar bwerau datganoledig.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

15 Ionawr 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Nododd Llywodraeth y DU ei chynlluniau ar gyfer deddfwriaeth yn ystod y flwyddyn seneddol sydd i ddod yn y Araith y Frenhines ar 19 Rhagfyr – gan gynnwys mwy na 30 o Filiau a fydd yn berthnasol i Gymru. Mae rhai yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r UE; bydd eraill yn ymwneud â pholisi newydd, mewn meysydd a gedwir yn ôl fel cyfiawnder yn bennaf. Bydd angen i’r Cynulliad ystyried pa effaith y gallai’r Biliau hyn ei chael ar Gymru a rhoi ei gydsyniad i unrhyw rai sy’n effeithio ar bwerau datganoledig.  

Beth yw’r Biliau Brexit y bydd angen i’r Cynulliad ystyried rhoi cydsyniad iddynt?

Mae Araith y Frenhines yn nodi cynlluniau ar gyfer nifer o Filiau i alluogi llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig i roi deddfau a pholisïau newydd ar waith o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE. Mae llawer o’r rhain yn disodli Biliau a gwympodd ar ddiwedd Senedd 2017-19: nid yw’n glir eto pa mor debyg y bydd y fersiynau newydd. Mae pump yn debygol o gynnwys darpariaethau sylweddol o fewn cymhwysedd datganoledig Cymru: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), y Bil Amaethyddiaeth, y Bil Pysgodfeydd, y Bil Masnach a Bil yr Amgylchedd.  Bydd angen i’r Cynulliad ystyried a fydd yn rhoi cydsyniad i’r Biliau hyn.

Pasiodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar 9 Ionawr. Bil yw hwn i weithredu’r Cytundeb Ymadael rhwng yr UE a’r DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn argymell bod y Cynulliad yn rhoi cydsyniad i’r Bil ac esboniodd pam mewn memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.  Mae Senedd yr Alban wedi gwrthod cydsynio i’r Bil. Gallwch ddarganfod mwy am y Bil a’r hyn y mae’n ei olygu i Gymru o’n trosolwg.

Yn bennaf, mae’r Bil Amaethyddiaeth yn Fil i alluogi Llywodraeth y DU i baratoi polisi i ddisodli’r polisi amaethyddol cyffredin yn Lloegr. Ar gais Llywodraeth Cymru, byddai Bil Amaethyddiaeth 2017-19  wedi ymestyn pwerau i Weinidogion Cymru i wneud hyn yng Nghymru hefyd. Mae’r Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd y Bil newydd yn gwneud yr un peth.

Bydd y Bil Pysgodfeydd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig reoli pysgodfeydd y tu allan i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin – rheolau’r UE ar reoli stociau pysgod yn gynaliadwy. Byddai Bil 2017-19 wedi ymestyn cymhwysedd y Cynulliad a Gweinidogion Cymru ynghylch polisi pysgodfeydd. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru argymell bod y Cynulliad yn rhoi cydsyniad i Fil Pysgodfeydd 2017-19 cyn iddo gwympo.

Pan fydd y DU yn gadael yr UE ni fydd bellach yn rhan o gytundebau masnach yr UE â thrydydd gwledydd. Mae’r DU yn trafod trosglwyddo rhai o ddarpariaethau cytundebau masnach yr UE â thrydydd gwledydd i gytundebau â’r DU. Bydd y Bil Masnach yn rhoi pwerau i weinidogion weithredu cytundebau a drosglwyddwyd. Byddai Fersiwn 2017-19 o’r Bil wedi rhoi rhai o’r pwerau hyn i weinidogion Cymru: mae’n debygol y bydd y Bil newydd yn gwneud yr un peth. Rhoddodd y Cynulliad gydsyniad i Fil Masnach y Senedd ddiwethaf.

Bydd Bil yr Amgylchedd yn sefydlu strwythurau llywodraethu amgylcheddol newydd i ddisodli goruchwyliaeth amgylcheddol yr UE. Bydd yn ymwneud â Lloegr yn bennaf, ond bydd tua hanner ei ddarpariaethau’n berthnasol i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ymgynghoriad ar sut i ddisodli goruchwyliaeth amgylcheddol yr UE yng Nghymru, gan nodi lle y gallai gyflwyno deddfwriaeth newydd ei hun. Cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr Amgylchedd ym mis Hydref 2019, cyn i’r Senedd gael ei diddymu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Bil hwn yn canolbwyntio ar Loegr a ‘nid oedd […] yn ymateb a gynlluniwyd i fynd i’r afael â llywodraethu ar lefel y DU gyfan’ a’i bod yn ‘barod i ymgysylltu â’r gweinyddiaethau eraill ynghylch sut i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau ar lefel y DU gyfan’. Darparodd Llywodraeth y DU restr o ddarpariaethau yn y fersiwn o’r Bil a gyflwynwyd ym mis Hydref y credai y byddai angen cydsyniad y Cynulliad arno.  

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried pa ddeddfwriaeth Brexit ei hun i’w chyflwyno. Wrth siarad â’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 6 Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog: ‘I don’t expect that we will have Welsh-only legislation in those areas on the statute book by the time this Assembly term ends, but I would expect that there will be significant preparation for that that would allow the incoming Assembly in 2021 to embark on that agenda.’

Mae’n annhebygol y bydd gweddill Biliau Brexit y Llywodraeth yn cynnwys darpariaethau mawr o fewn cymhwysedd y Cynulliad – ond byddant yn dal i fod yn berthnasol yng Nghymru, sef y Bil Mewnfudo, y Bil Cyfraith Ryngwladol Breifat a deddfwriaeth gwasanaethau ariannol.

Pa Filiau eraill fydd yn berthnasol i Gymru?

Bydd y Biliau eraill a fydd yn berthnasol i Gymru yn ymwneud yn bennaf â materion a gedwir yn ôl. Yn eu plith mae amryw o Filiau cyfiawnder a phlismona.  Er enghraifft, bwriad y Bil Dedfrydu yw cynyddu’r amser y mae troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar difrifol yn ei dreulio yn y carchar a deddfwriaeth troseddwyr cenedlaethol tramor i gynyddu cosbau i droseddwyr cenedlaethol tramor sy’n dychwelyd i’r DU yn groes i orchymyn allgludo. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys deddfwriaeth telathrebu i gyflymu’r broses o ddarparu band eang sy’n gallu ymdopi â gigabit; deddfwriaeth rheilffyrdd i wneud streiciau rheilffyrdd yn anghyfreithlon oni bai y deuir i gytundeb gwasanaeth sylfaenol; a Bil Cyflogaeth i amddiffyn hawliau gweithwyr ar ôl i’r DU adael yr UE.

Gall ychydig o’r Biliau hyn gynnwys darpariaethau o fewn cymhwysedd y Cynulliad a gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad. Gallai’r Bil Lles Anifeiliaid fod yn enghraifft bwysig: yn 2017 dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn credu bod y Bil drafft ar y pryd yn cynnwys darpariaethau ar greulondeb i anifeiliaid o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a’i bod yn bwriadu gofyn am gydsyniad.

Y camau nesaf

Disgwylir i’r Cynulliad bleidleisio ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) erbyn diwedd mis Ionawr. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, bydd angen i’r Cynulliad ystyried sut y mae’n ymateb i’r Biliau newydd wrth iddynt gael eu cyflwyno ac fel y maent yn pasio drwy’r Senedd – a, lle maent yn effeithio ar bwerau datganoledig, i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd.


Erthygl gan  Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: