Addysg

Edrych ymlaen at y Cwricwlwm cyntaf i Gymru

Caiff Cwricwlwm newydd i Gymru ei gyflwyno o fis Medi 2022 ymlaen. Sefydlwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn yr 1980au hwyr ar sail Cymru a Lloegr. Er bod datganoli wedi galluogi iddo gael ei addasu yng Nghymru, dyma'r tro cyntaf i gwricwlwm penodol gael ei lunio o'r newydd.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

24 Ionawr 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Caiff Cwricwlwm newydd i Gymru ei gyflwyno o fis Medi 2022 ymlaen. Sefydlwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn yr 1980au hwyr ar sail Cymru a Lloegr. Er bod datganoli wedi galluogi iddo gael ei addasu yng Nghymru, dyma’r tro cyntaf i gwricwlwm penodol gael ei lunio o’r newydd.

I ddechrau, bydd y Cwricwlwm i Gymru’n cael ei ddysgu mewn ysgolion cynradd ac i ddisgyblion Blwyddyn 7 (blwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd, fel arfer) cyn ymestyn i grwpiau blwyddyn dilynol wrth i’r disgyblion hynny wneud cynnydd drwy’r ysgol, hyd nes iddyn nhw gyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27.

Gyda fersiwn terfynol o’r cwricwlwm newydd i’w gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn, mae’r erthygl hon yn amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf.

Beth ydym ni eisoes yn ei wybod?

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cwmpasu dull gwahanol sydd wedi’i yrru gan ddibenion yn hytrach na chynnwys, gyda mwy o hyblygrwydd i ysgolion gyflwyno cwricwlwm lleol yn unol ag anghenion eu disgyblion. Cafodd ei ddatblygu yn dilyn adolygiad yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, yn 2015, a oedd yn argymell ailfeddwl yn sylfaenol am yr hyn sydd ei angen ar bobl ifanc yn sgil eu haddysg.

Bydd y cwricwlwm newydd yn cyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau. Bydd yn seiliedig ar y canlynol:

  • Pedwar diben o ran yr hyn fydd pobl ifanc yn ei gyflawni o ganlyniad i’w hamser yn yr ysgol;
  • Chwech o feysydd eang, sef Meysydd Dysgu a Phrofiad sy’n nodi ‘Beth sy’n Bwysig’ o ran yn yr hyn y mae disgyblion yn ei ddysgu;
  • Tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd ar gyfer addysgu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol;
  • Pump o Gamau Cynnydd â disgwyliadau o ran cyflawniad.

Eglurir y termau hyn i gyd yn fanylach yn ein herthygl flaenorol o fis Mai 2019. Cafodd y rhain eu cyhoeddi yn fuan ar ôl cyhoeddi fersiwn ddrafft o’r cwricwlwm ym mis Ebrill 2019, ar ffurf canllawiau statudol drafft ar bob Maes Dysgu a Phrofiad.

Beth sydd wedi digwydd ers cyhoeddi’r cwricwlwm drafft?

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymarfer adborth gyda gweithwyr addysg proffesiynol a’r cyhoedd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2019. Ers hynny, mae wedi bod yn ‘mireinio’r’ cwricwlwm gan ganolbwyntio ar ‘sut y gellir symleiddio’r canllaw a’i wneud yn fwy defnyddiol i’r proffesiwn addysgu’. Gyda Llywodraeth Cymru’n rhoi pwyslais ar fireinio, ni ddisgwylir i strwythur, cysyniadau a dyluniad cyffredinol y cwricwlwm newid.

Er bod cefnogaeth eang i’r cwricwlwm, y pedwar diben a’r datganiadau Beth sy’n Bwysig, roedd 89% o’r rhai wnaeth ateb o’r farn y gellir gwella dogfennau’r cwricwlwm. Daeth dwy thema eang i’r amlwg o’r adborth.

  • Dylid symleiddio’r canllawiau, yn cynnwys yr iaith a’r cysyniadau a ddefnyddir i esbonio’r modd y mae’r cwricwlwm wedi’i strwythuro.
  • Byddai’r canllawiau’n buddio o gael rhagor o ddyfnder a manylder mewn rhai mannau i helpu ymarferwyr ac athrawon ddeall sut i weithredu’r cwricwlwm yn ymarferol.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi craffu ar ddiwygiadau i’r cwricwlwm drwy gydol y Cynulliad hwn. Bu’n holi Kirsty Williams AC, y Gweinidog dros Addysg, ym mis Medi 2019 ar y cynnydd diweddaraf a chymerodd dystiolaeth gan Dr Niogel Newton o Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym mis Tachwedd 2019 ar sut y gallai effeithio ar ddysgwyr sydd o dan anfantais.

Amlygodd ymchwil Dr Newton bod perygl y gallai rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion o ran yr hyn a addysgir arwain at ‘gwricwlwm sy’n wahaniaethol iawn, wedi’i haenu hyd yn oed, a fyddai yn dwysau anfanteision’

Pa ddeddfwriaeth fydd ei hangen?

Bydd angen diddymu elfennau o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn rhoi’r gorau i’r cwricwlwm cenedlaethol presennol a sefydlu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Yn gynnar y llynedd, bu Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar Bapur Gwyn ar gyfer Bil Cwricwlwm ac Asesu.  Ni fydd y Bil, y disgwylir iddo gael ei gyflwyno yn ystod toriad yr haf y Cynulliad, yn nodi cynnwys y cwricwlwm, ond bydd yn rhoi sail statudol i’r pedwar diben, chwe Maes Dysgu a Phrofiad, tair blaenoriaeth drawsgwricwlaidd, a Chamau Dilyniant.

Yn dilyn ambell bryder y bydd y ddeddfwriaeth yn rhy amwys ynghylch cynnwys y cwricwlwm, cyhoeddodd y Gweinidog ei bod wedi penderfynu cynnwys mwy o fanylion yn y Bil, gan gynnwys dyletswydd ar ysgolion i gyflawni pob un o’r datganiadau Beth sy’n Bwysig, sydd wedi’u cynnwys ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad. Fodd bynnag, caiff y datganiadau Beth sy’n Bwysig eu hunain a chyflawniadau disgwyliedig disgyblion o wahanol oed eu hamlinellu yn yr arweiniad statudol sy’n sail i’r cwricwlwm.

Dau faes y bydd y ddeddfwriaeth yn mynd i’r afael â hwy yw statws Addysg Grefyddol ac addysg rhyw. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eisoes y bydd addysg grefyddol yn parhau i fod yn orfodol, er yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd, gan ffurfio rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Bydd hyn yn cynnwys safbwyntiau nad ydynt yn ymwneud â’r byd crefyddol y gellir eu cymharu â safbwyntiau crefyddol, er enghraifft dyneiddiaeth. Caiff ei ailenwi’n ‘Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg’.

At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y gofyn presennol i addysgu addysg rhyw mewn ysgolion uwchradd yn cael ei ymestyn i ysgolion cynradd, ond y bydd hynny’n briodol o ran oed ac yn unol â’r ffocws diwygiedig ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae hyn yn dilyn argymhellion y Panel Arbenigol dan gadeiryddiaeth yr Athro Emma Renold.

Ar hyn o bryd, mae gan rieni’r hawl i atal eu plant rhag cael Addysg Grefyddol ac addysg rhyw pan nad yw hynny’n rhan o un o bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol. Datganodd y Gweinidog yn ddiweddar na fydd gan rieni yr hawl hon bellach o dan y Cwricwlwm i Gymru.

Beth sy’n cael ei wneud i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd?

Mae angen gwaith sylweddol i gefnogi ysgolion ac athrawon wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 (PDF 3MB), mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £15 miliwn ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon at y diben hwn, sy’n dilyn £15 miliwn yn 2019-20 a £9 miliwn yn 2018-19.

Mae Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a hyfforddiant yng Nghymru, Estyn, yn oedi ei arolygiadau rheolaidd o ysgolion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21, a’i nod yw ymweld â phob ysgol i drafod y paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, bydd Estyn yn parhau i fonitro ysgolion sy’n peri pryder. Ar hyn o bryd, mae’r rheoliadau sy’n ofynnol i alluogi’r newid hwn o ran arolygiad ar ei ffordd drwy’r Cynulliad. 

At hynny, gwnaeth Llywodraeth Cymru reoliadau yr haf diwethaf, yn sefydlu diwrnod Hyfforddiant mewn Swydd ychwanegol (6 yn hytrach na 5) ar gyfer paratoadau ysgolion ar gyfer y cwricwlwm, yn y flwyddyn academaidd hon a’r ddwy ganlynol. Bydd y rhain yn digwydd yn nhymor yr haf bob blwyddyn.

Pryd y cawn ni wybod mwy?

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fersiwn terfynol o’r cwricwlwm newydd cyn diwedd mis Ionawr 2020. Bydd holl lygaid y sector, felly, ar ddatganiad y Gweinidog Addysg yn y cyfarfod llawn ddydd Mawrth (28 Ionawr 2020), pryd y gallem weld ffurf derfynol Cwricwlwm cyntaf Cymru.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: