Mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau ymysg pobl sy'n cysgu ar y stryd: sut y gellir gwella gwasanaethau?

Cyhoeddwyd 07/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

https://videopress.com/v/uNHz4H2I?autoPlay=true&loop=true&preloadContent=metadata

Mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn parhau i fod yn agos at frig yr agenda wleidyddol ym Mae Caerdydd. Gyda Strategaeth ar ddigartrefedd newydd wedi’i lansio ddiwedd y llynedd, a Grŵp Gweithredu o ran Digartrefedd sy’n cynnwys arbenigwyr yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, a gwaith ymchwil ar y defnydd parhaus o anghenion blaenoriaeth i’w gyhoeddi’n fuan, mae'n ymddangos bod momentwm cynyddol yn sail i alwadau am ddull gweithredu mwy effeithiol ar gyfer atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Dywed y strategaeth newydd, lle na ellir ei atal, dylid sicrhau bod digartrefedd “yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd eto”. Ni fyddai neb yn dadlau â’r safbwynt hwnnw, ond mae llawer o waith i’w gyflawni i hynny fod yn realiti. Mae data newydd a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos bod cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ledled Cymru ym mis Hydref a mis Tachwedd 2019, pan gymharwyd y ffigurau â rhai yr un cyfnod yn 2018.

Fel rhan o'i waith craffu parhaus ar y polisi o ran cysgu ar y stryd, cynhaliodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad sesiwn dystiolaeth ym mis Tachwedd 2019 a oedd yn edrych yn fanwl ar y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n cysgu ar y stryd sydd â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau.

Yn ystod y sesiwn, edrychodd y Pwyllgor yn fanwl ar bryderon yn ymwneud ag a oedd cefnogaeth integredig ar gael i bobl sy'n cysgu ar y stryd ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Clywodd y Pwyllgor gan amrywiaeth o randdeiliaid arbenigol sy'n gyfarwydd â digartrefedd, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Ym mis Rhagfyr 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad byr (PDF, 194KB) yn seiliedig ar y dystiolaeth a glywodd, a gwnaeth naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Ddydd Mercher, 12 Chwefror 2020, bydd y Cynulliad yn cael cyfle i drafod y materion a godwyd yn yr adroddiad hwnnw, ei argymhellion ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo.

Gwasanaethau integredig a gwell comisiynu

Ychydig o dystiolaeth a ganfu'r Pwyllgor am wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Er bod enghreifftiau o arfer gorau wrth integreiddio fel y Cydweithfa Gofal Cymunedol, sef menter gymdeithasol yn Wrecsam, roedd yn ymddangos bod y gwasanaethau hyn yn eithriad yn hytrach nag yn arfer cyffredin. Clywodd y Pwyllgor feirniadaeth am y broses comisiynu gwasanaethau, a dywedodd rhai tystion wrtho eu bod yn teimlo nad oedd y system gomisiynu yn cefnogi dysgu nac arfer gorau ymhlith darparwyr gwasanaeth. Tynnodd y Pwyllgor sylw hefyd at bryderon ynghylch diwylliant ac arweinyddiaeth rhai sefydliadau, ac roedd hynny'n rhwystr i ddarparu gwasanaethau integredig.

Gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl sy'n cysgu ar y stryd

Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi bod dwy o bob pump marwolaeth pobl ddigartref yn gysylltiedig â gwenwyn cyffuriau. Clywodd bryderon nad oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn; nid yw'r gwasanaethau presennol yn diwallu anghenion llawer o bobl sy'n cysgu ar y stryd ac, mewn rhai achosion, roedd pobl sy'n cysgu ar y stryd yn dewis y strydoedd yn hytrach na chael mynediad at wasanaethau. Galwodd rhai tystion am weithredu radical, fel darparu ystafelloedd chwistrellu (lleoedd diogel, glân lle gellir cymryd cyffuriau anghyfreithlon) a newidiadau i'r gyfraith a fyddai'n galluogi pobl sy'n derbyn cefnogaeth i ddefnyddio cyffuriau yn eu llety heb roi'r landlord mewn perygl o gael ei erlyn. Dywedodd tystion wrth y Pwyllgor fod llawer o bobl sy’n cysgu ar y stryd â ffordd o fyw anhrefnus, ac y byddai ‘dull dim drws anghywir’, lle mae pobl yn cael eu cynorthwyo i lywio’r amrywiaeth o wasanaethau iechyd a chymorth, waeth pwy y maent yn cysylltu â hwy’n gyntaf, yn caniatáu mynediad haws at wasanaethau. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhagor o gamau i gefnogi mentrau lleihau niwed, fel ystafelloedd chwistrellu, ac i gadarnhau a fyddai'r setliad datganoli presennol yn caniatáu i hyn ddigwydd yng Nghymru.

Croesawyd argymhelliad y Pwyllgor yn y maes hwn gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru. Mewn llythyr (PDF, 1MB) yn ystod mis Ionawr 2020 at y Pwyllgor, dywedodd:

The level of drug related deaths have increased in recent years and as demonstrated within the report two out of five deaths of rough sleepers were drug related in 2018. An Enhanced Harm Reduction Centre would give rough sleepers a safe and clean environment to take substances but also to have access to health services, drug testing services and housing services. Despite the current legislation around Enhanced Harm Reduction Centres their success in countries around [the world] to reduce drug related deaths far outweigh the legal concerns.

Gwell hyfforddiant, gwell gwasanaethau

Amlygodd adroddiad y Pwyllgor frwdfrydedd, angerdd a gweledigaeth y tystion y clywodd dystiolaeth ganddynt. Galwodd am ddefnyddio’r “egni hwn” i wella darpariaeth a dyluniad gwasanaethau. Gallai'r hyn y clywodd y Pwyllgor amdano a oedd yn digwydd yn Wrecsam ac mewn prosiectau Tai yn Gyntaf ledled Cymru ddarparu model ar gyfer y sector ehangach, gan ei fod yn dangos y gellir darparu gwasanaethau integredig.

Canfu’r Pwyllgor, ar hyn o bryd, nad oes digon o staff â'r hyfforddiant a'r arbenigedd cywir i ymdrin â chymhlethdodau pobl sy’n cysgu ar y stryd sydd ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r hyfforddiant sydd ar gael i bobl sy'n cefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd. Tynnodd sylw hefyd at yr her ychwanegol o gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a allai fod â chyflyrau niwro-amrywiol fel awtistiaeth neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwyd (ADHD). Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud rhagor o waith ymchwil i'r rhwystrau sy'n wynebu'r grŵp o bobl hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ymatebodd (PDF, 493KB) Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 5 Chwefror, a derbyniodd yr holl argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor.

Mae’r ymateb yn tynnu sylw at rywfaint o’r gwaith y mae’r Llywodraeth eisoes yn ei wneud, gan gynnwys:

  • camau yn y Cynllun Gweithredu Cysgu Allan i ddatblygu protocolau gweithio ar y cyd ar gyfer pobl sydd ag anhwylderau’n cyd-ddigwydd.
  • Rhoi’r Grant Cymorth Tai ar waith i annog comisiynu gwasanaethau ar y cyd, a
  • chamau gweithredu penodol yn y Cynllun Cyflawni ar Gamddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 a’r Cynllun Cyflawni: Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019 i 2022.

Hefyd mae ffocws ar ddatblygu’r gweithlu er mwyn gwella hyfforddiant a sgiliau i’r rhai sy’n gweithio yn y sector.

Derbyniwyd argymhelliad y Pwyllgor o ran ystafelloedd chwistrellu, a elwir hefyd yn Ganolfannau Uwch ar gyfer Lleihau Niwed (EHRCs), mewn egwyddor. Ond roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn amlygu “pryderon sylweddol hefyd ynglŷn â chydnawsedd Canolfannau Uwch ar gyfer Lleihau Niwed â'r gyfraith droseddol bresennol”. Roedd yn dyfynnu adroddiad a gyhoeddwyd yn 2017 gan y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau, a oedd yn dod i’r casgliad ”…na allai … ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael, argymell bod Canolfannau Uwch ar gyfer Lleihau Niwed yn cael eu gweithredu yng Nghymru”.

Beth nesaf?

Ers i'r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad Bywyd ar y Strydoedd: Atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru (PDF, 918KB) ym mis Ebrill 2018 mae wedi dychwelyd yn rheolaidd at y mater hwn.

Bydd yn gwneud hynny eto ym mis Ebrill 2020 pan fydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno tystiolaeth. Mae Aelodau'r Pwyllgor yn debygol o fynd ar drywydd llawer o'r materion a godwyd yn adroddiad diweddaraf y Pwyllgor, yn ogystal ag asesu effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir i bobl sy'n cysgu ar y stryd dros gyfnod y gaeaf presennol.

Gyda disgwyl rhai datblygiadau allweddol yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, gan gynnwys adroddiad arall gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, a chynllun gweithredu ar waith i gyd-fynd â'r strategaeth ddigartrefedd newydd, mae Aelodau'r Cynulliad yn debygol o gymryd diddordeb mawr yn y datblygiadau wrth i 2020 fynd rhagddi.


Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru