Negodiadau ynghylch y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: Beth yw'r elfennau allweddol i Gymru?

Cyhoeddwyd 07/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae negodiadau rhwng y DU a'r UE ynghylch eu perthynas yn y dyfodol ar fin cychwyn.

Ar 3 Chwefror, nododd prif negodwr yr UE flaenoriaethau'r UE mewn cyfarwyddebau negodi drafft, a fydd yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor Ewropeaidd ddiwedd mis Chwefror. Nododd y Prif Weinidog y sail a ffefrir gan Lywodraeth y DU ar gyfer y berthynas mewn datganiad ysgrifenedig ac araith ar yr un diwrnod.

Ond pa elfennau o’r berthynas yn y dyfodol sydd bwysicaf i wasanaethau cyhoeddus, sefydliadau busnes a chymdeithas sifil yng Nghymru? Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddMADY) wedi bod yn trafod y mater hwn ers ei sefydlu yn 2016. Nodir ei brif flaenoriaethau isod.

Blaenoriaethau Cymru ar gyfer perthynas yn y dyfodol

Mynediad i'r farchnad

Mynediad i'r farchnad oedd un o'r blaenoriaethau allweddol a nodwyd gan y Pwyllgor Materion Allanol yn ei adroddiad ar Berthynas Cymru â'r UE yn y Dyfodol, (PDF 9MB). Canfu'r Pwyllgor fod busnesau a sefydliadau Cymru wedi nodi mai mynediad ffafriol at y farchnad, heb rwystrau tariff a rhwystrau di-dariff, oedd y flaenoriaeth bwysicaf o ran y negodiadau. Clywodd y Pwyllgor gan sefydliadau fel Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), Aston Martin, Toyota, Conffederasiwn GIG Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil y dylai'r DU geisio cynnal safonau rheoleiddio cyffredin gyda'r UE. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad a ganlyn:

… bod y dystiolaeth yn rhoi blaenoriaeth helaeth i gynnal safonau rheoleiddio cyfatebol er mwyn sicrhau mynediad ffafriol at y farchnad dros wahaniaethau rheoleiddio ar ôl Brexit.

Diogelu sectorau allweddol

Galwodd y Pwyllgor i’r negodiadau, a Llywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ddiogelu diwydiannau allweddol yng Nghymru a allai fod yn arbennig o fregus yn sgil rhwystrau masnach. Y rhain oedd y diwydiant ffermio, pysgota a bwyd.

Cydweithrediad ag asiantaethau'r UE

Nodwyd bod cydweithrediad parhaus ag asiantaethau'r UE ar ôl Brexit yn flaenoriaeth i lawer o randdeiliaid, yn enwedig yn y sector iechyd. Galwodd sefydliadau fel Conffederasiwn GIG Cymru, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru ar y DU i flaenoriaethu cydweithrediad parhaus â Chanolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop a’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd.

Ymhlith yr asiantaethau eraill y nodwyd eu bod yn bwysig i Gymru oedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd Ewropeaidd ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop.

Parhau i gymryd rhan mewn Rhaglenni’r UE

Gwnaeth y DU a'r UE fabwysiadu Datganiad Gwleidyddol a oedd yn nodi 'map o’r ffordd ymlaen’ ar gyfer y negodiadau ym mis Hydref 2019. Roedd y Datganiad yn rhestru nifer o feysydd lle byddai'r ddwy ochr yn ceisio parhau i gydweithredu yn y dyfodol.

Gwnaethom gyhoeddi cyfres o ffeithluniau gan dynnu sylw at y rhain yn ein blog ynghylch y berthynas yn y dyfodol ar 3 Chwefror 2020.

Roedd rhanddeiliaid o Gymru wedi blaenoriaethu cyfranogiad mewn rhaglenni ymchwil ac arloesi, addysg ac ymchwil feddygol megis Horizon 2020 ac Erasmus+ yn eu hymatebion i'r Pwyllgor Materion Allanol.

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru?

Nododd Llywodraeth Cymru ei safbwyntiau ar y negodiadau Brexit mewn cyfres o ddogfennau. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliadau a ganlyn:

  • dylid blaenoriaethu masnach â marchnad yr UE dros fasnach â marchnadoedd eraill. Dywedodd hefyd y dylai’r negodiadau anelu at fynediad mor gyflawn â phosibl i farchnad yr UE, heb rwystrau tariff a rhwystrau di-dariff;
  • i sicrhau hyn, dylai'r DU anelu at gytuno ar ymrwymiadau 'chwarae teg' eang gyda'r UE, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac agored ac aliniad â safonau;
  • dylai'r DU geisio cydweithredu a bod yn rhan o asiantaethau allweddol a rhaglenni'r UE;
  • dylai'r DU fynd ar drywydd partneriaeth ddiogelwch mor gyflawn â phosibl â’r UE. Dylai hyn gynnwys asesiad digonolrwydd data cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu i'r llif data barhau

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae'r safbwyntiau agoriadol wedi'u nodi gan y ddwy ochr a disgwylir i'r negodiadau ddechrau o ddifrif tua diwedd y mis hwn. Mae ein llinell amser Brexit yn nodi'r dyddiadau allweddol ar gyfer yr 11 mis nesaf.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn trafod gyda'r Llywodraethau datganoledig ynghylch pa rôl fydd ganddynt mewn negodiadau yn y dyfodol. Nid yw’r manylion am sut y byddant yn cymryd rhan ar gael eto, ond disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru