Busnes y Cynulliad Cyfansoddiad Cyllid

Y Rhaglen Lywodraethu: Sut ydym ni’n gwybod pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Gwnaeth Llywodraeth Cymru set o ymrwymiadau ar ôl etholiad 2016 ar gyfer yr hyn yr oedd am ei gyflawni erbyn diwedd tymor y Cynulliad yn 2021. Gydag ychydig dros flwyddyn i fynd, mae'r blog hwn yn edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru yn pennu amcanion ac yn mesur cynnydd.

Amcangyfrif o amser darllen: 3 Munud

10 Chwefror 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gwnaeth Llywodraeth Cymru set o ymrwymiadau ar ôl etholiad 2016 ar gyfer yr hyn yr oedd am ei gyflawni erbyn diwedd tymor y Cynulliad yn 2021.  Gydag ychydig dros flwyddyn i fynd, mae’r blog hwn yn edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru yn pennu amcanion ac yn mesur cynnydd.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn pennu amcanion ac yn mesur canlyniadau?

Pennodd Llywodraeth Cymru ei blaenoriaethau ar gyfer tymor y Cynulliad hwn yn ei Rhaglen Lywodraethu gychwynnol yn 2016, Symud Cymru Ymlaen. Roedd hyn yn cynnwys 121 o ymrwymiadau am yr hyn yr oedd am ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Yn 2017, penderfynodd Llywodraeth Cymru roi’r ymrwymiadau allweddol hynny mewn ‘cyd-destun hirdymor’ a nodi ‘sut y maent yn cyd-fynd â’r gwaith y mae gwasanaeth cyhoeddus ehangach Cymru yn ei wneud’. Gwnaeth hyn drwy strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb. Roedd y strategaeth yn nodi 12 amcan llesiant ac ymrwymiadau o ran yr hyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni pob un.

Mae Llywodraeth Cymru yn llunio adroddiadau blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae’r adroddiadau hyn yn olrhain cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau Ffyniant i Bawb. Cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar 31 Ionawr. Mae atodiad i’r adroddiad yn nodi pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn erbyn pob ymrwymiad.

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, mae hefyd yn rhaid i Lywodraeth Cymru adrodd bob blwyddyn ar gynnydd tuag at y saith nod llesiant statudol (sy’n wahanol i’w 12 amcan llesiant ei hun). Mae’n gwneud hyn drwy’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol – ystadegau sy’n olrhain dangosyddion llesiant yn amrywio o ddisgwyliad oes i niferoedd siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru yn ceisio mesur effaith gwariant na pholisi’r llywodraeth ar y canlyniadau hynny. Nid yw ychwaith yn pennu targedau ar gyfer cynnydd ar bob canlyniad. Yn 2016, esboniodd Llywodraeth Cymru ‘eu bod yn ddangosyddion sy’n mesur Cymru gyfan, nid Llywodraeth Cymru’n unig’.

Fel rhan o’r fframwaith cyffredinol hwn, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn pennu amcanion i’w hun ac yn adrodd ar ganlyniadau mewn mannau eraill, gan gynnwys drwy ei hamcanion cydraddoldeb a’r gyllideb flynyddol.

Beth mae’r Cynulliad wedi’i ddweud am sut mae Llywodraeth Cymru yn adrodd ar gynnydd?

Mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy eglur am y ffordd y mae’n integreiddio’i hamcanion yn y broses o wneud penderfyniadau ac yn mesur effaith y penderfyniadau hynny ar ganlyniadau.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn craffu ar gyfrifon Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Yn ei Adroddiad Craffu ar Gyfrifon 2017-18 [1MB], daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dylai’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ganlynol fynd ati ‘o leiaf’ i nodi ‘sut y mae’r arian wedi’i wario a’r hyn y mae wedi’i gyflawni, gan gyfeirio at y targedau a bennwyd gan Weinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r perfformiad yn eu herbyn’. Ychwanegodd y dylai hyn gynnwys ‘dadansoddiad o wariant yn erbyn nodau Ffyniant i Bawb. Fel rhan o’i waith craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 [3.2MB], argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai Llywodraeth Cymru integreiddio’r nodau llesiant yn well wrth gyflwyno’r gyllideb.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn pennu ei hamcanion deddfwriaethol?

Yn wahanol i’r Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd y mae eisiau ei chyflwyno bob blwyddyn. Mae’n rhoi’r diweddaraf i’r Cynulliad am y cynlluniau hyn bob haf.

Yn niweddariad mis Gorffennaf 2019, nododd y Prif Weinidog y Biliau yr oedd Llywodraeth Cymru eisiau eu cyflwyno cyn diwedd tymor y Cynulliad. Eto i’w cyflwyno mae Biliau ar gyfer:

Mae’r Biliau eraill a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog wrthi’n mynd drwy’r Cynulliad neu eisoes yn gyfraith.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol ar 11 Chwefror. Gallwch wylio hyn yn fyw ar Senedd.tv.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: