Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2019-20

Cyhoeddwyd 13/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Ail Gyllideb Atodol 2019-20 yn dyrannu dros £1 biliwn o gyllid ychwanegol i adrannau, gan gynyddu gwariant Llywodraeth Cymru 5.7%, o £18.7 biliwn yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2019-20 i £19.7 biliwn.

Mae hyn yn cynnwys cynnydd o £97 miliwn (0.7%) mewn adnoddau cyllidol (sy'n cynnwys gwariant beunyddiol ar gyflogau, caffael cyfredol, grantiau cyfredol a chymorthdaliadau), £69 miliwn (3.7%) mewn cyfalaf cyffredinol a £130 miliwn (119%) mewn Cyfalaf Trafodion Ariannol ad-daladwy.

Mae ein ffeithlun yn dangos y prif ffigurau o'r Ail Gyllideb Atodol 2019-20, a’r newidiadau cyffredinol ers y Gyllideb Atodol Gyntaf.

Ffeithlun yn dangos y prif ffigurau o'r Ail Gyllideb Atodol 2019-20, a’r newidiadau ers y Gyllideb Atodol Gyntaf.
Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Refeniw yw £15,294 miliwn, cynnydd £525 miliwn neu 3.6%.
Y DEL cyfalaf yw £2,177 miliwn, cynnydd £199 miliwn neu 10.1%.
Y DEL cyfalaf yw £17,471 miliwn, cynnydd £724 miliwn neu 4.3%.
Y gwariant a reolir yn flynyddol yw £2,276 miliwn, cynnydd £347 miliwn neu 18%.
Cyfanswm y gwariant a reolir yw £19,747 miliwn, cynnydd £1,072 miliwn neu 5.7%.
Cyfanswm y gwariant a reolir yw swm y gwariant a reolir yn flynyddol a'r DELs refeniw a chyfalaf.
Dyma gyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf ar gyfer pob portffolio cyllideb, gan gynnwys newidiadau o'r gyllideb atodol gyntaf
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: £8,477 miliwn, cynnydd £103 miliwn neu 1.2%.
Tai a Llywodraeth Leol: £4,621 miliwn, cynnydd £99 miliwn neu 2.2%. Dylid nodi bod hyn yn eithrio £1 biliwn mewn incwm ardrethi annomestig.
Addysg: £2,133 miliwn, cynnydd £404 miliwn neu 23.4%.
Economi a Thrafnidiaeth: £1,376 miliwn, cynnydd £85 miliwn neu 6.6%.
Yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: £296 miliwn, gostyngiad £3 miliwn neu 1.0%.
Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: £384 miliwn, cynnydd £29 miliwn neu 8.0%.
Y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: £184 miliwn, cynnydd £8 miliwn neu 4.4%.
Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu, dylech gyfeirio at Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2019-20 i gael yr union ffigurau.

Mae'r cynnydd mwyaf mewn meysydd lle nad yw Llywodraeth Cymru yn pennu gwariant, er enghraifft, dyraniadau ychwanegol gan Drysorlys EM i dalu taliadau uwch mewn perthynas â benthyciadau myfyrwyr a rhagolygon wedi'u diweddaru ar gyfer namau a darpariaethau sy'n ymwneud â'r GIG yng Nghymru. Mae hyn yn arwain at gynnydd o £429 miliwn mewn adnoddau anariannol (sef y rhan fwyaf o'r cyfanswm cynnydd refeniw o £525 miliwn) a Gwariant a Reolir yn Flynyddol o £347 miliwn. Dangosir newidiadau mewn dyraniadau adnoddau cyllidol a chyfalaf yn ôl portffolio Gweinidogol yn y siart isod.

Newid o'r Gyllideb Atodol Gyntaf i'r Ail Gyllideb Atodol

Siart bar yn dangos newidiadau i ddyraniadau Adnoddau Cyllidol a Chyfalaf yn ôl portffolio Gweinidogol o'r Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-20 i'r Ail Gyllideb Atodol.
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adnoddau Cyllidol £33.9 miliwn a £53.9 miliwn o Gyfalaf.
Tai a Llywodraeth Leol: Adnoddau Cyllidol £1.1 miliwn a £98.1 miliwn o Gyfalaf.
Economi a Thrafnidiaeth: Adnoddau Cyllidol £7.3 miliwn a £14.4 miliwn o Gyfalaf.
Addysg: Adnoddau Cyllidol £21.4 miliwn a £30.2 miliwn o Gyfalaf.
Y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Adnoddau Cyllidol £1.8 miliwn a £4.9 miliwn o Gyfalaf.
Yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Adnoddau Cyllidol -£3 miliwn a £4.1 miliwn o Gyfalaf.
Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: Adnoddau Cyllidol £34.4m a -£6.7 miliwn o Gyfalaf.


Erthygl gan Joe Wilkes, Christian Tipples a Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru