Cyfansoddiad

Ei gael yn iawn: Datganoli cyfiawnder i Gymru

Dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli’n llawn i Gymru, yn ôl y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Byddai datganoli cyfiawnder yn ail-lunio'r setliad datganoli, gan ddod â Chymru yn unol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. O'r herwydd, byddai'n newid cyfrifoldebau'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn sylweddol. Mae'r blog hwn yn edrych ar yr hyn y byddai datganoli cyfiawnder yn ei olygu i'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru a sut y maent wedi ymateb i adroddiad y Comisiwn.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

13 Chwefror 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli’n llawn i Gymru, yn ôl y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Byddai datganoli cyfiawnder yn ail-lunio’r setliad datganoli, gan ddod â Chymru yn unol â’r Alban a Gogledd Iwerddon. O’r herwydd, byddai’n newid cyfrifoldebau’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn sylweddol.

Mae’r blog hwn yn edrych ar yr hyn y byddai datganoli cyfiawnder yn ei olygu i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru a sut y maent wedi ymateb i adroddiad y Comisiwn. I ddysgu mwy am pam y cafodd y Comisiwn ei sefydlu a’r hyn yr oedd yn ei argymell, gallwch ddarllen ein blog ar ddarparu cyfiawnder yng Nghymru.

Cynigiwyd datganoli cyfiawnder yn llawn

Argymhelliad pwysicaf y Comisiwn yw y dylid datganoli cyfiawnder yn llawn i Gymru. Byddai cyfyngiadau ar bwerau’r Cynulliad i ddeddfu ar gyfiawnder yn dod i ben a byddai Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â swyddogaethau gweithredol dros gyfiawnder yng Nghymru. Byddai rheolaeth dros yr holl adnoddau ariannol hefyd yn cael ei drosglwyddo: gwariodd Llywodraeth y DU £723 miliwn ar gyfiawnder yng Nghymru yn 2017-18.

Dywed y Comisiwn y byddai datganoli cyfiawnder yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sefydlu adran gyfiawnder newydd dan arweiniad gweinidog Cabinet ac y dylai’r Cynulliad sefydlu pwyllgor cyfiawnder i graffu ar ei waith. Oherwydd y byddai datganoli cyfiawnder yn golygu mwy o ddeddfwriaeth a mwy o waith craffu, dywed y Comisiwn Cyfiawnder ei bod yn anodd gweld sut y gellid craffu’n briodol ar Adran Gyfiawnder neu Filiau sy’n ymwneud â chyfiawnder pe na bai cynnydd ym maint y Cynulliad.

Mae’r Comisiwn yn canfod nad oes dull cydgysylltiedig nac integredig priodol gyda chyfiawnder wedi’i gadw i San Steffan ond mae meybsydd polisi fel iechyd ac addysg wedi’u datganoli. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ofal cymdeithasol plant a chefnogaeth i blant yn y llysoedd, ond Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gyfraith teulu. Dywed y Comisiwn fod y cymhlethdod hwn yn ei gwneud hi’n fwy anodd i’r system gyfiawnder ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru ac yn fwy anodd i bobl ddeall pwy sy’n gyfrifol am beth. Mae’n dadlau y byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn caniatáu i’r Cynulliad a’r Llywodraeth lunio polisi cyfiawnder i alinio â pholisïau cymdeithasol, iechyd, addysg a datblygu economaidd yng Nghymru.

Argymell rhoi diwedd ar ddeddf sengl Cymru a Lloegr

Fel y mae pethau, mae Cymru a Lloegr yn ffurfio un system gyfreithiol. Gall y Cynulliad basio deddfau sy’n berthnasol yng Nghymru – ond maent yn dal i ‘ymestyn’, neu’n cael eu cydnabod yn gyfreithiol gan, lysoedd ledled Cymru a Lloegr. Yn yr un modd, os yw Senedd y DU yn pasio deddf sy’n berthnasol yn Lloegr yn unig, mae’r gyfraith honno’n dal i ‘ymestyn’ i Gymru a Lloegr. Ers datganoli, mae’r gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru wedi dod yn fwyfwy gwahanol i’r gyfraith sy’n berthnasol yn Lloegr. Mae datganoli cyfiawnder yn debygol o arwain at fwy o wahaniaeth. Mae’r Comisiwn yn rhybuddio ei bod yn fwyfwy anodd nodi’r gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru yn hytrach na Lloegr. I wneud pethau’n gliriach, mae’r Comisiwn yn argymell y dylid nodi’r gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru yn ffurfiol fel cyfraith Cymru, ar wahân i gyfraith Lloegr.

Mae’r Comisiwn hefyd yn edrych ar sut y byddai angen i’r llysoedd newid o dan ddatganoli cyfiawnder. Fel y mae pethau, yr Arglwydd Brif Ustus yw pennaeth y farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr ac mae’n llywyddu llysoedd Cymru a Lloegr. Gyda datganoli cyfiawnder, mae’r Comisiwn yn argymell y dylid sefydlu barnwriaeth ar wahân yng Nghymru, gydag Uchel Lys a Llys Apêl dan arweiniad Prif Ustus Cymru. Byddai hyn yn ffurfio cangen farnwrol o lywodraeth yng Nghymru, i eistedd ochr yn ochr â’r canghennau gweithredol a deddfwriaethol presennol.

Mae angen ‘arweinyddiaeth glir ac atebol’ nawr

Byddai’n rhaid i Senedd y DU ddeddfu er mwyn datganoli cyfiawnder i Gymru yn llawn. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn tynnu sylw at y ffaith bod digon y gall y Cynulliad a Llywodraeth Cymru ei wneud eisoes i lunio cyfraith a chyfiawnder yng Nghymru.

Dywed y Comisiwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud yn well wrth lunio a chraffu ar bolisi ar gyfraith a chyfiawnder. Oherwydd bod gan fwy nag un gweinidog yn Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros gyfiawnder, mae’n dadlau fod y Llywodraeth wedi cael trafferth cymryd agwedd gydgysylltiedig. Dywed fod hyn wedi cyfrannu at fethiannau i gyflawni cynlluniau, gan gynnwys sefydlu llysoedd alcohol a chyffuriau teulu a chynllun ar gyfer datrys anghydfodau mewn ffordd amgen. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r Comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ‘arweinyddiaeth glir ac atebol’ ar bolisi cyfiawnder.

Dywed y Comisiwn hefyd fod angen i’r Cynulliad graffu ar bolisi cyfiawnder yn effeithiol. Hyd yma, mae gwahanol bwyllgorau’r Cynulliad wedi craffu ar wahanol agweddau ar bolisi cyfiawnder. Er enghraifft, mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrthi’n cynnal ymchwiliad i ddarpariaeth gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion. Ond dywed y Comisiwn y dylai’r Cynulliad fynd ymhellach a chymryd ‘rôl fwy rhagweithiol’ wrth graffu ar bolisi cyfiawnder, gan gynnwys drwy gynnal sesiynau craffu pwyllgor blynyddol gydag uwch-aelodau o’r farnwriaeth yng Nghymru.

Mae’r Comisiwn hefyd yn dadlau bod digon o wahaniaeth bellach rhwng cyfraith Cymru a Lloegr nad yw’n gwneud synnwyr mwyach i Gymru a Lloegr gael eu trin fel un awdurdodaeth ar gyfer penodiadau i’r Goruchaf Lys. Mae’n argymell y dylid penodi barnwr dros Gymru i’r Goruchaf Lys, fel yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai’r barnwr hwn yn gallu dod â phrofiad o gyfraith Cymru a sut y mae setliad datganoli Cymru yn gweithio i’r llys.

Ymateb y Cynulliad a Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw’n cefnogi datganoli cyfiawnder i Gymru ac na fydd yn ymateb yn ffurfiol i’r Comisiwn.

Trafododd y Cynulliad argymhellion y Comisiwn ar 4 Chwefror. Cynigiodd y Prif Weinidog y dylai’r Cynulliad gefnogi datganoli cyfiawnder a phlismona a’i fod yn cefnogi ‘bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu ar yr argymhellion hynny sydd o fewn ei chymhwysedd ar hyn o bryd a gweithio gyda chyrff eraill i weithredu ar argymhellion sy’n gyfrifoldeb arnynt hwythau’. Pasiwyd y cynnig o 38 o bleidleisiau yn erbyn 15.

Roedd y Prif Weinidog wedi cyhoeddi o’r blaen ei fod wedi penderfynu sefydlu pwyllgor Cabinet ar gyfiawnder. Bydd y pwyllgor yn gyfrifol am fwrw ymlaen â’r argymhellion sy’n disgyn i Lywodraeth Cymru a goruchwylio trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Penderfynodd y Cynulliad hefyd ychwanegu cyfiawnder at gylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a newid ei enw i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: