Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Ymateb i’r coronafeirws newydd (COVID-19)

Ar 31 Rhagfyr 2019 adroddwyd nifer o achosion o niwmonia yn Wuhan, Tsieina, a nodwyd yn ddiweddarach fel straen newydd o’r coronafeirws na welwyd mewn pobl o'r blaen: y coronafeirws newydd (y cyfeirir ato fel COVID-19 o 11 Chwefror a defnyddir y term hwn drwy'r erthygl hon). Ar 30 Ionawr 2020, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd fod COVID-19 wedi cwrdd â'r meini prawf o fod yn Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol (PHEIC).

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

14 Chwefror 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae hwn yn fater sy’n esblygu ac mae’r erthygl hon yn gywir ar adeg ei hysgrifennu.

Ar 31 Rhagfyr 2019 adroddwyd nifer o achosion o niwmonia yn Wuhan, Tsieina, a nodwyd yn ddiweddarach fel straen newydd o’r coronafeirws na welwyd mewn pobl o’r blaen: y coronafeirws newydd (y cyfeirir ato fel COVID-19 o 11 Chwefror a defnyddir y term hwn drwy’r erthygl hon). Ar 30 Ionawr 2020, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd fod COVID-19 wedi cwrdd â’r meini prawf o fod yn Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol (PHEIC). Diffinnir PHEIC fel:

An extraordinary event which is determined to constitute a public health risk to other States through the international spread of disease and to potentially require a coordinated international response.

Ar 14 Chwefror, mae cyfanswm o 2,964 o bobl wedi cael eu profi am COVID-19 yn y DU, y cadarnhawyd bod 9 ohonynt yn bositif. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud nad yw’n darparu sylwebaeth ar nifer yr achosion a amheuir, nac ar nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio, yng Nghymru. Mae’r ffigurau yng Nghymru wedi’u cynnwys yn niferoedd y DU uchod.

Beth yw COVID-19?

Mae COVID-19 (y cyfeiriwyd ato o’r blaen fel y coronafeirws newydd neu 2019-nCoV) yn straen newydd o’r coronafeirws a nodwyd gyntaf yn Ninas Wuhan, Tsieina.

Mae coronafeirws yn fath o feirws sy’n gyffredin ledled y byd. Mae’n achosi ystod o afiechydon o annwyd ysgafn i afiechydon mwy difrifol. Mae coronafeirysau yn glefydau milheintiol, ac mae’r term hwn yn golygu eu bod yn glefydau a gaiff eu trosglwyddo o anifeiliaid i fodau dynol. Mae afiechydon milheintiol yn gyffredin iawn ac mae Llywodraeth y DU yn cynnal rhestr o’r rhai sy’n bresennol yn y DU. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn egluro nad yw ffynhonnell anifail COVID-19 wedi’i nodi eto.

Fel arfer gall symptomau’r coronafeirws gynnwys peswch a thwymyn. Yn gyffredinol, gall coronafeirysau achosi symptomau mwy difrifol yn y rhai sydd â system imiwnedd wan, gan gynnwys pobl hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

Mae Llywodraeth y DU yn nodi’r canlynol:

Based on current evidence, novel coronavirus (COVID-19) presents with flu-like symptoms including a fever, a cough, or difficulty breathing. The current evidence is that most cases appear to be mild. Those who have died in Wuhan appear to have had pre-existing health conditions

Ymateb Cymru a’r DU i COVID-19

Mewn datganiad ar 24 Ionawr 2020 eglurodd Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae Prif Swyddogion Meddygol ac asiantaethau iechyd y cyhoedd yn y pedair gwlad yn cydlynu eu camau gweithredu fel bod Cymru a’r DU yn barod i ymateb i unrhyw ddatblygiadau pellach o ran y digwyddiad iechyd cyhoeddus hwn

Yn dilyn datganiad Sefydliad Iechyd y Byd o Argyfwng Iechyd Cyhoeddus, ar 31 Ionawr cynghorodd Prif Swyddogion Meddygol y DU y dylid cynyddu lefel risg y DU o isel i gymedrol. Fodd bynnag, gwnaed yn glir “nid yw hyn yn golygu [eu] bod yn meddwl bod y risg i unigolion yn y Deyrnas Unedig wedi newid […] ond dylai llywodraethau gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd”.

Ar 1 Chwefror lansiodd Llywodraeth y DU ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i gynghori ar sut i arafu lledaeniad COVID-19, sy’n debyg i’r ymgyrch ‘Ei Ddal. Ei Daflu. Ei Ddifa’. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi’r ymgyrch hon.

Rheoliadau newydd

Ar 4 Chwefror 2020, mewn ymateb i COVID-19, gosododd Vaughan Gething reoliadau newydd Cymru y dywedodd y byddent yn “dileu’r gofyniad i godi tâl ar ymwelwyr o dramor i gael diagnosis a thriniaeth ar gyfer coronafeirws (2019-nCoV)”. Dywedodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd mewn llythyr bod hyn yn “lleihau’r risg na fydd pobl yn ceisio triniaeth ac felly’n rhoi amddiffyniad mwy eang ac yn lleihau’r risg i iechyd y cyhoedd”.

Mewn ymateb i COVID-19 yn Lloegr, gwnaeth Matt Hancock AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, reoliadau ar 10 Chwefror 2020 gan ddefnyddio pwerau a roddwyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefyd) 1984 (“Deddf 1984”). Dywed datganiad i’r wasg  y bydd y rheoliadau’n sicrhau bod gan weithwyr iechyd proffesiynol y pwerau i gadw unigolion ar wahân lle maent yn credu bod risg resymol y gall yr unigolyn fod â’r feirws. Mae’r rheoliadau yn berthnasol i Loegr yn unig.

Mewn ymateb i reoliadau Lloegr, gwnaeth Vaughan Gething ddatganiad ar 11 Chwefror 2020 yn egluro:

[roedd yn] ystyried […] a yw […] deddfwriaeth [Cymru] yn ddigonol er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol rhag y coronafeirws […] ynteu a ddylem wneud darpariaethau cyffelyb yng Nghymru.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud y rheoliadau cyfatebol ar gyfer Cymru o dan Ddeddf 1984.

Dywedodd Vaughan Gething mewn datganiad ysgrifenedig y bydd “yn parhau i roi diweddariad ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad bob dydd Mawrth, neu’n amlach os bydd angen”.

Cael gwared ar wybodaeth ffug am COVID-19

Ers yr achos cyntaf o COVID-19 bu pryderon ynghylch lledaeniad twyllwybodaeth, yn enwedig ynghylch triniaethau ffug a sut mae’r afiechyd yn lledaenu. Mae wedi bod yn fater mor eang fel y dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd yn ei adroddiad sefyllfa ar 2 Chwefror 2020:

The [COVID-19] outbreak and response has been accompanied by a massive ‘infodemic’ – an over-abundance of information – some accurate and some not – that makes it hard for people to find trustworthy sources and reliable guidance when they need it.

O ganlyniad i hyn, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi ‘atalwyr myth’ i chwalu rhywfaint o’r wybodaeth ffug hon.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19

Hyd yma, gellir dod o hyd i wybodaeth swyddogol am COVID-19 a’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy’r lincs a ganlyn:


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: