Fframweithiau polisi cyffredin y DU: Yr hanes hyd yma

Cyhoeddwyd 19/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

https://videopress.com/v/F383mgZ2?preloadContent=metadata

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraethau eraill y DU i gytuno ar fframweithiau polisi cyffredin newydd mewn meysydd fel amaethyddiaeth a'r amgylchedd ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r blog hwn yn edrych pam mae'r Llywodraethau o'r farn bod angen fframweithiau cyffredin arnom, sut rai fydd y fframweithiau hyn, a pha gynnydd a wnaed hyd yma.

Pam mae Llywodraethau'r DU yn credu bod angen fframweithiau cyffredin arnom yn dilyn Brexit?

Pan ddaw cyfnod gweithredu Brexit i ben, bydd cyfraith yr UE yn cael ei throsglwyddo i gyfraith ddomestig, a bydd Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig yn gallu gwneud newidiadau iddi. Bydd y corff hwn o gyfraith yn cael ei alw'n 'gyfraith yr UE a ddargedwir'. Yn 2017, cytunodd Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru  y byddai angen iddynt reoli gwahaniaethau polisi rhwng gwahanol rannau'r DU mewn rhai meysydd a gwmpesir gan gyfraith yr UE ar hyn o bryd. Cytunasant i weithio gyda'i gilydd i sefydlu fframweithiau polisi cyffredin ar sail meini prawf penodol, gan gynnwys i:

  • alluogi marchnad fewnol y DU i weithredu, ond gan gydnabod gwahaniaethau polisi;
  • sicrhau cydymffurfiad â chyfrifoldebau rhyngwladol a galluogi'r DU i ymrwymo i gytundebau rhyngwladol newydd; a
  • galluogi adnoddau cyffredin i gael eu rheoli;

Roedd Llywodraeth y DU yn dal i bryderu na fyddai hyn yn gwneud digon i gyfyngu ar ddargyfeirio polisi. Yn Neddf yr UE (Ymadael), rhoddodd Llywodraeth y DU y pŵer iddi’i hunan i wneud rheoliadau sy’n para hyd at bum mlynedd i 'rewi' cymhwysedd y sefydliadau datganoledig i basio deddfwriaeth i addasu cyfraith yr UE a ddargedwir mewn meysydd datganoledig am hyd at ddwy flynedd ar ôl y diwrnod ymadael. Roedd hyn er mwyn sicrhau na allai unrhyw ran o'r DU lunio polisi dargyfeiriol yn y meysydd hynny cyn y cytunir ar ddull cyffredin ledled y DU. Ni wnaed unrhyw reoliadau o'r fath hyd yma.

Sut rai fydd y fframweithiau cyffredin?

Mae'r llywodraethau wedi nodi 70 maes polisi lle bydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn croestorri â chymhwysedd datganoledig yng Nghymru. Maent wedi dod i'r casgliad bod tua 40 o'r meysydd hyn yn debygol o fod angen fframweithiau. Lle mae'r Llywodraethau wedi penderfynu na fydd angen unrhyw fframwaith, byddant yn gallu llunio polisi dargyfeiriol.

Mae'r rhan fwyaf o'r fframweithiau cyffredin yn debygol o fod angen cytundebau anneddfwriaethol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig hefyd. Gallai'r rhain gynnwys Memoranda Cyd-ddealltwriaeth, concordatau neu fathau eraill o gytundeb. Bydd y cytundebau yn ymdrin â gweithrediad deddfwriaeth y DU a deddfwriaeth ddatganoledig, ond ni fyddant hwy eu hunain wedi'u nodi mewn deddfwriaeth. Er enghraifft, mae’r fframwaith amlinellol drafft ar gyfer sylweddau peryglus a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019 yn dweud bod disgwyl i’r Llywodraethau gytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi ‘egwyddorion ymgysylltu… lle mae newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig yn y cwestiwn’.

Bydd tua 20 o'r fframweithiau'n cynnwys deddfwriaeth hefyd. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai’r fframwaith pysgodfeydd  fod yn cynnwys cyfres gyfyngedig o ddarpariaethau deddfwriaethol, yn ogystal â chytgord ar ffyrdd o weithio, datrys anghydfod a phrosesau gorfodi. Ar gyfer rhai meysydd polisi, defnyddir deddfwriaeth sylfaenol y DU. Mewn llythyr at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ym mis Rhagfyr, nododd y Prif Weinidog bod deddfwriaeth sylfaenol y DU, ar ffurf y Bil Amaethyddiaeth a’r Bil Pysgodfeydd, yn angenrheidiol ar gyfer y fframweithiau amaethyddiaeth a physgodfeydd. Os bydd Senedd y DU yn deddfu mewn maes datganoledig i sefydlu fframwaith, bydd y ddeddfwriaeth honno'n gofyn am gydsyniad y Cynulliad o dan y confensiwn cydsyniad deddfwriaethol.

Mewn meysydd eraill, defnyddir is-ddeddfwriaeth. Gallai’r meysydd hyn gynnwys iechyd anifeiliaid, diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, a masnachu allyriadau. Nid yw is-deddfwriaeth y DU yn ddarostyngedig i gydsyniad y Cynulliad. Fodd bynnag, mae gan y Cynulliad weithdrefn o dan Reol Sefydlog 30A ar gyfer craffu ar unrhyw is-ddeddfwriaeth yn y DU sy'n ceisio diwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn maes cymhwysedd datganoledig.

Pa gynnydd y mae'r Llywodraethau wedi'i wneud hyd yma?

Mae'r Llywodraethau wedi ymrwymo i gael yr holl fframweithiau ar waith erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Cyhoeddwyd Adroddiad cynnydd diwethaf Llywodraeth y DU  ar y rhaglen fframweithiau cyffredin ym mis Hydref 2019. Mae hwn yn nodi y bydd pob fframwaith yn mynd drwy bum cam datblygu:

  1. Egwyddorion a phrawf o gysyniad
  2. Datblygu polisi sy'n arwain at 'fframwaith amlinellol'
  3. Adolygiad ac ymgynghoriad sy’n arwain at 'fframwaith dros dro' sydd i'w gymeradwyo gan weinidogion o bob Llywodraeth.
  4. Paratoi a gweithredu
  5. Trefniadau ar ôl gweithredu ac ail-werthuso

Mae gwahanol fframweithiau'n mynd drwy'r broses hon ar gyfraddau gwahanol. Ym mis Hydref, dywedodd Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru ei fod yn disgwyl i gytundebau amlinellol gael eu hanfon at bwyllgorau'r Cynulliad ar ddiwedd Cyfnod 2 ac i waith craffu ffurfiol gael ei gynnal yng Nghyfnod 3. Y fframwaith amlinellol drafft ar sylweddau peryglus yw'r unig un a gyhoeddwyd hyd yma. Mae'r amlinelliad hwn yn cynnwys trosolwg o faes perthnasol cyfraith yr UE a'r trefniadau presennol; dadansoddiad o'r rhannau o'r maes polisi lle bydd angen rheolau cyffredin a lle na fydd angen rheolau cyffredin, ac unrhyw feysydd ble mae anghytundeb; amlinelliad o sut y bydd y fframwaith yn gweithredu, gan gynnwys sut y bydd anghydfodau'n cael eu datrys; a chrynodeb o sut y byddai'r fframwaith yn cael ei weithredu pe bai'n cael ei gymeradwyo. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y disgwylir fframweithiau drafft amlinellol ar gyfer masnachu allyriadau, sylweddau ymbelydrol a maeth yn gynnar yn 2020.

Ar yr un pryd â datblygu fframweithiau cyffredin, mae'r Llywodraethau'n gweithio ar y materion ehangach sy'n sail i'r rhaglen fframweithiau, gan gynnwys sut y bydd marchnad fewnol y DU yn gweithio a sut y bydd cyfrifoldebau rhyngwladol y DU yn effeithio ar fframweithiau. Yn ei Hadroddiad ym mis Hydref, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn edrych yn fanwl ar yr achos dros egwyddorion a strwythurau llywodraethu y gellid eu cymhwyso i farchnad fewnol y DU. Wrth siarad â'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 27 Ionawr, eglurodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit 'os oes gennych un rhan o’r DU yn dadreoleiddio a rhannau eraill yn ceisio alinio neu adeiladu ar safonau'r UE, bydd hynny'n ei gwneud yn ofynnol i'r fframweithiau weithredu mewn ffordd benodol. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r Cydbwyllgor Gweinidogol yn ystyried yn fuan sut y gallai fframweithiau ymateb i wyro rhwng gwahanol rannau o'r DU. Mae adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, sy’n edrych ar faterion sy’n cynnwys sut y dylai'r Llywodraethau ddatrys anghydfodau, hefyd yn parhau.

Yn y cyfamser, y sefyllfa ddiofyn o hyd yw y bydd cyfraith yr UE yn cael ei throsi i gyfraith ddomestig ar ddiwedd y cyfnod gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydsynio i Lywodraeth y DU wneud dros 150 o offerynnau statudol o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) i wneud hyn. Adroddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y broses hon ym mis Chwefror 2019.

Y camau nesaf

Un mater pwysig i'r Cynulliad dros y misoedd nesaf fydd sefydlu sut y creffir ar rannau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol y fframweithiau cyffredin newydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol bellach wedi cynnig model ar gyfer craffu gan y Cynulliad. I ddysgu rhagor, gallwch ddarllen ei adroddiad ac ymateb cychwynnol y Llywodraeth.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru