Cadarnhawyd cynnydd cyllid craidd i'r holl awdurdodau lleol yn 2020-21

Cyhoeddwyd 27/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2020-21 yn gynnydd o 4.3 y cant o'i gymharu â 2019-20 ac mae'r dyraniadau'n aros yr un fath â'r Setliad Dros Dro a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.

Setliad terfynol 2020-21

Y setliad llywodraeth leol yw prif ffynhonnell cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys manylion am gyllid grant a chyfalaf. Roedd y brif elfen - Cyllid Allanol Cyfun - yn cynnwys dros hanner y cyllid refeniw a oedd ar gael i awdurdodau lleol yn 2019-20.

Cyfanswm y Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2020-21 yw £4.5 biliwn, sef cynnydd o £184 miliwn (neu 4.3 y cant) o'i gymharu â 2019-20. Mae dwy elfen i’r Cyllid Allanol Cyfun:

  1. Grant Cynnal Refeniw - grant cyffredinol (£3.4 biliwn); ac
  2. Ardrethi annomestig - a elwir hefyd yn ‘ardrethi busnes’ (£1.1 biliwn).

Mae'r broses setlo dau gam yn adlewyrchu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb. Caiff Setliad Dros Dro ei ryddhau tua'r un amser â'r Gyllideb Ddrafft a chyhoeddir Setliad Terfynol o amgylch y Gyllideb Derfynol (25 Chwefror).

Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn croesawu y Setliad Dros Dro. Nododd y bydd awdurdodau lleol yn derbyn “y cynnydd mwyaf mewn 12 mlynedd o ran cyllid craidd”. Fodd bynnag, rhybuddiodd fod y rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn “heriol” ac y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol barhau i wneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu gwasanaethau.

Dros dro i Derfynol - beth sydd wedi newid?

Dim - mae’r dyraniadau refeniw (Cyllid Allanol Cyfun) yn y Setliad Terfynol yr un fath ag yn y Setliad Dros Dro a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.

Nododd ein blog ar y Setliad Dros Dro ar gyfer 2020-21 duedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar gyfer cyllid ychwanegol yn y Setliad Terfynol, o'i gymharu â'r setliad dros dro. Y llynedd, roedd y cynnydd yn £23.6 miliwn (ychydig dros hanner y cant).

Yn ei adroddiad 'Austerity is over – for now' (PDF, 316KB), nododd Dadansoddi Cyllid Cymru fod y Setliad Dros Dro yn cynrychioli’r twf cyflymaf o bell ffordd mewn cyllid ar gyfer awdurdodau lleol Cymru mewn dros ddegawd. Amlinellodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ei datganiad ar y Setliad Terfynol nad oedd ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Setliad Dros Dro wedi nodi “unrhyw faterion […] a oedd yn gofyn am newid y dull gweithredu ar gyfer y setliad terfynol”.

Beth am awdurdodau lleol unigol?

Er bod y Setliad Terfynol yn gynnydd cyffredinol o 4.3 y cant o'i gymharu â 2019-20, mae amrywiaeth ymhlith awdurdodau lleol. Y cynnydd uchaf yw 5.4 y cant yng Nghasnewydd, a'r isaf yw 3.0 y cant yn Sir Fynwy. Mae'r setliad yn darparu cynnydd mewn termau real i'r holl awdurdodau lleol.

Mae ein ffeithlun isod yn dangos y newidiadau i bob awdurdod lleol:

Cyfanswm y gyllideb
Cyfanswm y gyllideb
Cyfanswm y gyllideb y pen
Cyfanswm y gyllideb y pen
Canran y newid mewn Cyllid Allanol Cyfun (AEF) o’i gymharu â ffigurau 2019-20 wedi’u haddasu.
Canran y newid mewn Cyllid Allanol Cyfun (AEF) o’i gymharu â ffigurau 2019-20 wedi’u haddasu.

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad yn craffu ar agweddau llywodraeth leol ar y gyllideb ddrafft yn flynyddol. Yn ei adroddiad (PDF, 465KB) ar gyllideb ddrafft eleni, dywedodd ei bod yn “falch” bod y gyllideb yn darparu cynnydd i awdurdodau lleol, ond “ni all blwyddyn wyrdroi effaith degawd o galedi ar awdurdodau lleol”.

Beth nesaf?

Mae 3 Mawrth yn ddiwrnod mawr i'r gyllideb. Disgwylir i'r Cynulliad drafod y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol, y Gyllideb Derfynol, Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar gyfer 2020-21 a'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2019-20 (gweler ein blog yma).

Gallwch wylio pob dadl yn fyw ar SeneddTV.

Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cyhoeddi ei chyllideb ar 11 Mawrth (fel y cadarnhawyd gan y Canghellor newydd yn gynharach y mis hwn). Gallai hyn fod â goblygiadau o ran faint o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn 2020-21. Bydd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu unrhyw newidiadau yng nghyllidebau atodol y dyfodol.


Erthygl gan Owen Holzinger a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru