Rhanedig neu gysylltiedig: symud tuag at 'Gymru o gymunedau cydlynus'

Cyhoeddwyd 28/02/2020   |   Amser darllen munudau

Mae 'Cymru o gymunedau cydlynus' yn un o saith nod llesiant Cymru. Ond gwelwyd cwymp yng nghyfran yr oedolion yng Nghymru sy'n cytuno bod cydlyniant cymunedol yn eu hardal yn dda, o 62 y cant yn 2013-14 i 52 y cant yn 2018-19, ac mae nifer y troseddau casineb a gofnodir gan heddluoedd Cymru wedi dyblu yn ystod y chwe blynedd diwethaf.

Troseddau casineb a chydlyniant cymunedol

Ni waeth a yw’n digwydd ar-lein, mewn mannau cyhoeddus neu'n breifat, mae troseddau casineb ac iaith casineb yn arwain at raniadau cymunedol ac yn deillio o raniadau cymunedol.

Mae trosedd casineb yn drais, gelyniaeth neu fygythiad a gyfeirir at rywun ar sail ei hunaniaeth neu ar sail 'gwahaniaeth' canfyddedig. Gall ymwneud â hil neu ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, hunaniaeth drawsryweddol, rhyw neu oedran (er nad yw'r ddwy nodwedd ddiwethaf yn cael eu cydnabod yn swyddogol fel categorïau troseddau casineb yn gyson ledled y DU). Ond gall hefyd ymwneud â mwy nag un o'r nodweddion hyn.

Trafododd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) ar Droseddau Casineb effaith troseddau casineb ac iaith casineb ar unigolion a'u cymunedau yn ei ymchwiliad diweddar(PDF, 3.5MB). Canfu fod cymunedau sy’n darged i droseddau casineb yn tueddu i gael eu hynysu oddi wrth y gymuned ehangach oherwydd yr ymosodiadau hynny. Mae unigolion yn nodi eu bod yn teimlo dicter, gorbryder a chywilydd, a gall eu hymddygiad newid, o osgoi rhai llwybrau a newid eu ffordd i’r gwaith ac adref, i fod ag ofn gadael y cartref. Gall hefyd arwain at ddioddefwyr yn talu’r pwyth yn ôl, neu yn dymuno codi ymwybyddiaeth pobl eraill.

Canfu ymchwil gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol(PDF, 1.2MB) fod troseddau casineb yn wahanol i wahanol grwpiau:

“research suggests that hate crime towards lesbian, gay, bisexual or trans people can involve a greater propensity towards physical violence. Disability hate crime evidence shows high levels of sexual violence and property offences. Certain trigger events (such as global terrorist attacks) have been linked to sharp rises in anti-religious hate crime.”

Mesur troseddau casineb

Mae'n anodd mesur troseddau casineb. Nid yw arolygon yn ymdrin â phob trosedd lle gall casineb fod yn ffactor (megis dynladdiad neu droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus), ac nid ydynt yn ymdrin â throseddau yn erbyn pobl o dan 16 oed. Ond nid yw ystadegau'r heddlu yn rhoi’r stori gyfan gan fod llawer o bobl yn peidio â dweud wrth yr heddlu am droseddau casineb.

Rhwng 2012-13 a 2018-19, fe ddyblodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan heddluoedd Cymru, o 1,765 i 3,932. Yn 2018-19, cymhelliad hiliol oedd i fwyafrif llethol y troseddau hyn (2,676), cyfeiriadedd rhywiol oedd y cymhelliad yn 751 ohonynt, anabledd ydoedd mewn 443 ohonynt, crefydd ydoedd mewn 206 ohonynt, a hunaniaeth drawsryweddol ydoedd mewn 120 ohonynt.

Mae’r Swyddfa Gartref yn tynnu sylw (PDF, 1.4MB) at y ffaith mai gwelliannau yn y ffordd y mae’r heddlu’n cofnodi troseddau sydd y tu ôl i’r cynnydd yn ystadegau troseddau casineb yn bennaf, ond bod cynnydd sydyn yn nifer y troseddau casineb yn sgil refferendwm yr UE yn 2016 ac ymosodiadau’r terfysgwyr yn 2017 (a elwir yn 'ddigwyddiadau ysgogi').

Mae ymchwil (PDF 268KB) gan Ganolfan Ymchwil Gymdeithasol yn adleisio’r casgliad hwn. Ond canfu hefyd nad oedd newid dros amser yng nghyfran y troseddau casineb a adroddir i’r heddlu, gan nodi: “the increase in racially and religiously motivated hate crime did not reflect a growing tendency for victims to report hate crime”.

Canfu ymchwil yr APPG fod diffyg adrodd o hyd o ran troseddau casineb i raddau helaeth, a hynny am nifer o resymau. Mae'r rhain yn cynnwys yr ofn na chaiff y mater ei gymryd o ddifrif, a 'chyffredinedd' troseddau casineb - hynny yw, mae mor gyffredin nad yw pobl yn ei weld fel trosedd casineb.

Effaith iaith casineb ar-lein

Canfu ymchwil yr APPG y gall iaith casineb ac ymosodiadau ar-lein helpu i normaleiddio safbwyntiau eithafol, a bod hynny wedyn yn rhoi i bobl yr hyder i gam-drin pobl ac ymosod arnynt ar y stryd, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac ati.

Mae LabordyGwrthGasineb Prifysgol Cymru yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer data a dirnadaeth ynghylch iaith casineb a throseddau casineb. Mae'n defnyddio dulliau gwyddorau data, gan gynnwys ffurfiau moesegol o ddeallusrwydd artiffisial, i fesur a gwrthweithio problemau casineb ar-lein ac all-lein. Yn 2019, cyhoeddodd ymchwil (PDF, 1.9MB) gyda’r canfyddiadau a ganlyn:

  • gwelwyd cynnydd o ran adrodd, cofnodi a mynychder iaith casineb ar-lein dros y ddwy flynedd ddiwethaf;
  • mae nifer gynyddol o blant y DU (12-15 oed) yn nodi eu bod yn dod i gysylltiad â chynnwys atgas ar-lein;
  • tueddir i weld cynnydd sydyn mewn iaith casineb ar-lein yn y 24 i 48 awr yn dilyn digwyddiadau mawr ar lefel genedlaethol neu ryngwladol fel ymosodiad gan derfysgwyr, gyda chwymp sydyn ar ôl hynny, er y gall llinell sylfaen casineb ar-lein aros yn uchel am sawl mis wedyn;
  • nid dibwys yw’r niwed a wneir i bobl a chymunedau gan iaith casineb ar-lein; yn aml, bydd cynddrwg â’r niwed a achosir gan droseddau corfforol;
  • o gyrraedd rhyw lefel, gall iaith casineb troi’n droseddau casineb all-lein, ar y stryd;
  • yn aml, mae iaith casineb yn ymledu trwy'r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau 'cyfryngol' eraill; fe gysgodir y rhain rhag atebolrwydd cyfreithiol ar hyn o bryd am mai 'llwyfannau nid cyhoeddwyr' ydynt;
  • mae Llywodraeth y DU yn pwyso am reoleiddio newydd a mwy o reoleiddio o’r rhyngrwyd, ac mae wedi cynnig rhoi dyletswydd gofal newydd ar gwmnïau technoleg, sef cam a groesewir gan yr ymchwilwyr; a
  • welir bod gwrthiaith (sef unrhyw ymateb i iaith casineb, yn uniongyrchol neu yn gyffredinol, sy'n ceisio ei thanseilio) yn effeithiol o dan yr amgylchiadau iawn ac os caiff ei defnyddio yn y ffordd iawn.

Rhwymedigaethau rhyngwladol yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil

Ym mwyafrif (64 y cant) y troseddau casineb a adroddir i'r heddlu yng Nghymru mae cymhelliant hiliol.

Yn 2016, yn sylwadau terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar gydymffurfiad y DU â'r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (ICERD), codwyd pryderon difrifol am ddiwylliant iaith casineb hiliol a throseddau casineb hiliol yn y DU. Dywedodd: “the [2016] referendum campaign was marked by divisive, anti-immigrant and xenophobic rhetoric”, a bod llawer o wleidyddion “failed to condemn”.

Gwnaeth y Pwyllgor amrywiaeth o argymhellion ynghylch lleihau troseddau casineb hiliol yn y DU, gan gynnwys diwygio cyfreithiol, gwella casglu data, cynyddu adroddiadau, a chymryd camau i fynd i’r afael ag iaith casineb hiliol ar-lein ac mewn disgwrs cyhoeddus.

Ailadroddwyd pryderon y Pwyllgor gan Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ynghylch ffurfiau cyfoes o hiliaeth, gwahaniaethu hiliol, senoffobia ac anoddefgarwch cysylltiedig yn 2019. Disgwylir adroddiad cyfnodol y DU i bwyllgor monitro CERD yn y cylch adrodd hwn ym mis Ebrill 2020.

Dull Cymru

Mae rhai ysgogiadau dylanwad sy'n gysylltiedig â chydlyniant a throseddau casineb heb gael eu datganoli, megis plismona, cyfiawnder troseddol, y cyfryngau a rheoleiddio’r rhyngrwyd. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau dros nifer o flynyddoedd i fynd i’r afael â throseddau casineb ac i wella cydlyniant cymunedol ym mhob un o’i hadrannau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 'Cymru fwy cyfartal' ac ynddi 'gymunedau cydlynol' yn ei nodau llesiant. Mae hefyd yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr ar gyfer y Ganolfan Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb, sy'n darparu eiriolaeth a chymorth annibynnol i ddioddefwyr troseddau casineb yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystod o fuddsoddiadau a mentrau yn 2019 i fynd i’r afael â throseddau casineb a hiliaeth yng Nghymru, gan gynnwys:

  • cronfa grant untro dros ddwy flynedd gwerth £840,000 ar gyfer Cymunedau Lleiafrifol i fynd i’r afael â Throseddau Casineb. Rhoddwyd £360,000 o'r gronfa hon i'r Ganolfan Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb er mwyn gwella capasiti. O’r £480,000 a oedd yn weddill, cefnogwyd sefydliadau cymunedol sy'n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig a chymunedau ffydd i fynd i'r afael â throseddau casineb, i liniaru effaith Brexit, ac i roi sicrwydd yn sgil ymadael â’r UE;
  • gwerth £330,00 o gyllid ar gyfer nifer o sefydliadau ledled Cymru i wella dealltwriaeth o droseddau casineb a sut i'w hadrodd, i herio agweddau negyddol mewn ysgolion a cholegau, ac i drafod dulliau cyfiawnder adferol â chyflawnwyr;
  • ymgyrch genedlaethol i leihau nifer yr achosion o droseddau casineb a digwyddiadau yng Nghymru, ac
  • ymrwymiad i 'adfywio' ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ICERD.

Mae dull strategol y Llywodraeth ar gyfer troseddau casineb a chydlyniant cymunedol yn cael ei adolygu. Mae'r amcanion cydraddoldeb drafft ar gyfer 2020-2024 yn cynnwys nodau hirdymor i ddileu camdriniaeth, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio ar sail hunaniaeth, a chreu “Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal”. Bydd camau penodol i gyflawni'r amcanion hyn yn cael eu nodi wedyn.

Mae dau o Bwyllgorau’r Cynulliad wedi argymell droeon y dylai'r Llywodraeth ddiweddaru ei chynllun cyflenwi cydlyniant cymunedol(PDF, 1MB), sef rhywbeth yr ymrwymodd i'w wneud ddwywaith o'r blaen (yn 2018 (PDF, 301KB) ac yn 2017 (PDF, 326KB)). Ym mis Rhagfyr, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y Llywodraeth yn “parhau i ystyried y dulliau mwyaf effeithiol a phriodol o ddiweddaru ein cynllun cydlyniant cymunedol ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Yn dilyn y Fframwaith Gweithredu yn erbyn Troseddau Casineb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni yn 2016. Cyhoeddwyd yr adroddiad cynnydd mwyaf diweddar yn 2017, ond ni ddiweddarwyd y naill na'r llall yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y Cynulliad yn trafod y cynnydd a wnaed mewn perthynas â mynd i'r afael â throseddau casineb ddydd Mawrth 3 Mawrth, a bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gydraddoldeb Hiliol newyddyn cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos hon.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru