Yr Amgylchedd

Storm Ciara a Storm Dennis yn arwain at lifogydd dinistriol yng Nghymru

Ar 9 Chwefror achosodd Storm Ciara lifogydd ar draws gogledd Cymru, gan effeithio’n arbennig ar Lanrwst yn nyffryn Conwy. Roedd y gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 93mya yn Aberdaron ym Mhenrhyn Llŷn, ac mewn sawl lle yn Eryri roedd 50-75 y cant o law misol yr ardal wedi syrthio mewn 18 awr.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

28 Chwefror 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 9 Chwefror achosodd Storm Ciara lifogydd ar draws gogledd Cymru, gan effeithio’n arbennig ar Lanrwst yn nyffryn Conwy. Roedd y gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 93mya yn Aberdaron ym Mhenrhyn Llŷn, ac mewn sawl lle yn Eryri roedd 50-75 y cant o law misol yr ardal wedi syrthio mewn 18 awr.

Y penwythnos canlynol, sef ar 15 a 16 Chwefror fe darodd Storm Dennis y DU. Yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf oedd de Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr. Ar anterth y storm roedd 61 Hysbysiad am Lifogydd, 89 Rhybudd Rhag Llifogydd a dau Rybudd Rhag Llifogydd Difrifol mewn grym ledled Cymru. Ar fore 16 Chwefror, cyrhaeddodd Afon Taf ei lefelau uchaf mewn 40 mlynedd ym Mhontypridd. Roedd Afon Gwy yn Nhrefynwy 70cm yn uwch na’r cofnod uchaf blaenorol.

Beth oedd y difrod a achoswyd?

Cadarnhaodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ar 25 Chwefror bod llifogydd wedi effeithio’n uniongyrchol ar fwy na 1,000 o gartrefi a 300 o fusnesau ledled Cymru.

Effeithiodd y stormydd ar seilwaith ledled y wlad. Caewyd ffordd yr A470 mewn sawl lleoliad yng Ngwynedd a Chonwy yn dilyn Storm Ciara. Caewyd y rheilffordd rhwng Machynlleth a’r Amwythig, ac mae’r llinell rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn parhau ar gau. Mae’r A479 yn Nhalgarth, Powys hefyd ar gau oherwydd tirlithriad.

Yn ardal Rhondda Cynon Taf (RCT), mae Cyngor Bwrdeistref y Sir wedi archwilio dros 190 o bontydd. Mae naw pont ar gau ar hyn o bryd oherwydd difrod strwythurol. Roedd Crughywel ym Mhowys wedi cael llifogydd ar ôl i’r Afon Wysg orlifo’i glannau, ac effeithiwyd yn uniongyrchol ar oddeutu 60 o gartrefi a busnesau yn y dref.

Bu tirlithriad yn nhomen lo Llanwynno,  Tylorstown, Cwm Rhondda a bellach caiff y domen ei monitro 24 awr y dydd.. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi comisiynu asesiadau annibynnol o’r tomenni glo risg uchel yn yr ardal. Disgwylir i’r rhain gael eu cwblhau erbyn diwedd yr wythnos.

Cyflwynwyd amrywiaeth o amcangyfrifon ar gyfer cost y difrod. Dywedodd Chris Bryant, yr Aelod Seneddol dros y Rhondda:

“A quarter of all the families who were affected across the whole of the United Kingdom were in one local authority in Wales, Rhondda Cynon Taff […] We have a massive bill for the local authority of more than £30 million just to put the culverts right, to dredge the rivers and to sort out the bridges that have fallen into the rivers.”

Awgrymodd Adam Price AC y gallai’r ffigwr fod yn £180 miliwn, dim ond yn Rhondda Cynon Taf. Ymatebodd Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog, drwy ddweud nad oedd hwn yn amcangyfrif afresymol, ond pwysleisiodd:

“It isn’t possible […] to put a precise figure on how much that will be, because some of the damage that will need to be repaired is literally still under water”.

Sut ymateb a gafwyd hyd yma?

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo bod £10 miliwn ar gael i helpu i dalu’r costau o ran ymateb cychwynnol. Gall pob cartref yr effeithiwyd arno hawlio £500, a bydd £500 ychwanegol ar gael i’r rheini nad oes ganddynt yswiriant rhag llifogydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu 100 y cant o’r cyllid sydd ei angen i atgyweirio amddiffynfeydd a cheuffosydd sydd wedi’u difrodi i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Darparodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dros £2 filiwn i helpu gyda’r ymdrech adfer ar unwaith wedi’r llifogydd ac ar gyfer trwsio eiddo sydd wedi’i ddifrodi. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd wedi dyrannu £250,000 i gynorthwyo gydag eiddo yr oedd llifogydd wedi effeithio arnynt yn ei ardal.

Sicrhaodd y Prif Weinidog yr awdurdodau lleol:

“… councils are able to use their discretionary powers to suspend council tax and non-domestic rate obligations on properties that have been flooded, and that the Welsh Government will reimburse those costs to local authorities under the emergency financial assistance scheme.”

Rhoddodd Llywodraeth y DU ei chynllun cymorth ariannol brys ar waith ar 17 Chwefror. Mae’n caniatáu i awdurdodau lleol hawlio 100 y cant o’u costau uwchlaw trothwy penodol oddi wrth Lywodraeth y DU. Mae’r cynllun hwn ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr yn unig.

Gofynnwyd i George Eustice, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig,  pam nad oedd arian ar gael i gymunedau yng Nghymru? Ei ymateb oedd:

“flooding and response to floods is a devolved matter […] but I am aware that he [Chris Bryant] and others have raised some concerns about funding, and of course if the Welsh Government were to approach my colleagues in the Wales Office that is something that could be considered.”

Ar 24 Chwefror, ysgrifennodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, at Drysorlys y DU. Cadarnhaodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ariannol i dalu costau adfer ar ôl  y llifogydd. Mewn llythyr a anfonwyd at Gadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 26 Chwefror, nododd y Gweinidog y bydd y costau sy’n gysylltiedig â’r difrod llifogydd yn sylweddol.

Dywedodd Boris Johnson, y Prif Weinidog, ar 26 Chwefror y byddai cyllid gan Lywodraeth y DU yn cael ei “basbortio” i Gymru.

Cyfarfu Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, â Phrif Weinidog Cymru a chynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Glo a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod diogelwch tomenni glo. Ar 25 Chwefror fe wnaethant gyhoeddi y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i bobl sy’n byw yng nghymoedd de Cymru am ddiogelwch tomenni lleol, wedi’u cydgysylltu gan un pwynt cyswllt. Bydd y cyfarfod yn ailymgynnull yr wythnos nesaf.

Ysgrifennodd un ar ddeg o Aelodau Seneddol o Gymru lythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 26 Chwefror yn gofyn i Lywodraeth y DU gynnal adolygiad llawn o’r holl hen safleoedd glo ar draws meysydd glo de Cymru. Gofynasant hefyd am ymrwymiad i ddarparu’r holl arian sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y safleoedd yn ddiogel.

Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r perygl o lifogydd?

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu a chymhwyso’r strategaeth rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol. Mae awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau priffyrdd a chwmnïau dŵr a charthffosiaeth hefyd yn gyfrifol am weithredu’r strategaeth.

Cyhoeddwyd y strategaeth genedlaethol bresennol yn 2011. Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y strategaeth newydd i ben ym mis Medi 2019 ac mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd y fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn 2020.

Mae’r cyfrifoldeb am reoli tomenni glo yn yn nwylo perchennog y domen (a allai fod yn berchennog / rheolwr tir preifat, yr Awdurdod Glo, neu yr awdurdod lleol). Fodd bynnag, rhaid i awdurdodau lleol (fel yr awdurdod gorfodi ar gyfer pob tomen segur) benderfynu a yw’r domen yn achosi perygl i’r cyhoedd, a chanddynt hwy y mae’r pwerau i gynnal archwiliadau a chyflawni gwaith lle bo angen. Ar hyn o bryd mae’r Awdurdod Glo yn archwilio nifer fawr o safleoedd tomenni a chwareli segur ar gyfer rhai awdurdodau lleol a chyrff statudol.

Beth arall sy’n cael ei wneud?

Mae ymgyrchoedd cyllido torfol a sefydlwyd gan wleidyddion lleol hyd yma wedi codi dros £70,000. Mewn ymgyrch ar wahân, mae’r actor Michael Sheen wedi codi bron i £60,000 i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd.

Mae Ymddiriedolaeth a Gŵyl Green Man wedi addo £10,000 tuag at gymunedau Cymru a threfnir cyngerdd “Cymorth i’r Cymoedd” ar gyfer 13-14 Mawrth yn Porth, y Rhondda. Bydd cerddorion proffil uchel fel James Dean Bradfield ac Amy Wadge yn cymryd rhan i gefnogi’r cyngerdd, a bydd yr holl elw’n mynd i’r rhai sydd wedi dioddef effeithiau’r llifogydd.

Disgwylir i Storm Jorge daro’r Deyrnas Unedig yn ystod y penwythnos, ac mae’n bosibl y bydd yn achosi rhagor o lifogydd a difrod. Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am dywydd garw, ac ar adeg ysgrifennu’r neges hon roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi deg rybudd o lifogydd a 37 rhybudd i fod yn barod am lifogydd.


Erthygl gan Thomas Mitcham, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Thomas Mitcham gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: