Maes Awyr Caerdydd - Faint mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario hyd yma?

Cyhoeddwyd 04/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyfyngedig (“y Maes Awyr”) ym mis Mawrth 2013. Ers hynny mae wedi parhau i fuddsoddi yn y Maes Awyr ac wedi darparu cymorth ariannol iddo trwy fenthyciadau a grantiau. Mae'r erthygl hon yn amlinellu faint y talodd Llywodraeth Cymru am y Maes Awyr, yr hyn a wariwyd ers ei brynu, a pha gymorth ariannol y gallai fod ei angen arno yn y dyfodol.

Dyma'r gyntaf mewn cyfres o erthyglau ar drothwy dadl Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd ar 10 Mawrth 2020. Bydd yr erthygl yfory yn dadansoddi nifer y teithwyr, a bydd y drydedd erthygl yn y gyfres yn rhoi sylw i berfformiad ariannol y Maes Awyr.

Prynu'r Maes Awyr

Mae teithiau awyren masnachol wedi gweithredu o safle presennol y Maes Awyr ers y 1950au. Hyd nes i TBI Group ei brynu ym 1995, roedd y Maes Awyr dan berchnogaeth gyhoeddus. Yn 2005, fe wnaeth Abertis Infraestructuras SA (Abertis) brynu Grŵp TBI a daeth yn berchennog ar y Maes Awyr.

Ym mis Mai 2012, fe wnaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones AC, dynnu sylw at bwysigrwydd y Maes Awyr i seilwaith Cymru a'r economi ehangach. Roedd hyn yn dilyn cyfnod o ddirywiad yn nifer teithwyr y Maes Awyr ac adroddiadau am ddiffyg buddsoddiad (PDF 461 KB). Ym mis Rhagfyr 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad a gadarnhaodd ei bod yn cyd-drafod ynghylch prynu'r Maes Awyr:

[…] os yw Llywodraeth Cymru yn hapus ei fod yn fuddsoddiad cadarn, yna gallwn fwrw ymlaen gyda’r prynu.

Yn y datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, er “yn amlwg byddai gan Lywodraeth Cymru fuddiant strategol cryf”, na fyddai’n rhedeg y Maes Awyr, ac y byddai’n gweithredu ar sail fasnachol.

Ym mis Mawrth 2013, cyhoeddodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd am £52 miliwn. Wedi hynny, sefydlodd gwmni daliannol - WGC Holdco Ltd (‘HoldCo’) - i gadw’r cyfranddaliadau a goruchwylio sut mae’r Maes Awyr yn cael ei redeg.

Ar ôl ei brynu, darparodd Llywodraeth Cymru £3.3 miliwn ychwanegol (PDF 133 KB) mewn cymorth arian parod i'r Maes Awyr, a throswyd hynny wedyn yn gyfalaf cyfranddaliadau. Cododd hyn fuddsoddiad cychwynnol Llywodraeth Cymru i £55.3 miliwn.

Y cymorth ariannol hyd yma

Gan mai Llywodraeth Cymru yw'r unig gyfranddaliwr yn y Maes Awyr, mae unrhyw gyllid preifat a geisir gan y Maes Awyr yn cyfrif yn erbyn terfynau benthyca Llywodraeth Cymru. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfyngu’r Maes Awyr rhag canfod ffynonellau o gyllid neu fuddsoddiad preifat, ac mae’n dibynnu ar Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol.

Mae ffurf y cymorth ariannol yn cael ei lywio gan reolau manwl Cymorth Gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd (UE) (Saesneg yn unig). Mae’r rhain yn atal cyrff cyhoeddus rhag defnyddio adnoddau mewn ffordd a allai effeithio ar gystadleuaeth a masnach yn yr UE. O'r herwydd, mae'n ofynnol i unrhyw fenthyciadau a wneir gan Lywodraeth Cymru i'r Maes Awyr fod yn rhai masnachol, a chyda llog yn cael ei godi yn unol â Fframwaith yr UE (Saesneg yn unig). Bydd rheolau Cymorth Gwladwriaethol yr UE yn parhau’n gymwys yn y DU yn ystod 2020. Y tu hwnt i hyn, bydd y sefyllfa’n dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau rhwng y DU a’r UE ynghylch y berthynas yn y dyfodol.

Ers ei brynu, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyfleusterau benthyciadau masnachol ar gyfer y Maes Awyr ac wedi darparu cymorth ariannol drwy brynu cyfranddaliadau ychwanegol ynddo drwy HoldCo. Mae’r ffeithlun isod yn dangos amserlen buddsoddiadau Llywodraeth Cymru yn y Maes Awyr. Yn 2018, dyfarnodd Llywodraeth Cymru grant o £1 miliwn i'r Maes Awyr hefyd ar gyfer gosod e-gatiau. Er bod y cyfrifon yn awgrymu bod grantiau eraill y Llywodraeth wedi'u dyfarnu i'r Maes Awyr, nid yw'n bosibl nodi’r cyfanswm gwerth yn bendant.

Ym mis Ionawr 2020, dywedodd Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd Llywodraeth Cymru a Chadeirydd HoldCo, wrth Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad fod y Maes Awyr wedi tynnu’r benthyciad o £38 miliwn yn llawn. Hefyd, dywedodd fod y benthyciad £21.2 miliwn wedi'i gyfuno â'r cyfleuster presennol. Mae hyn yn dod â chyfanswm y cyfleuster benthyciadau masnachol i oddeutu £59 miliwn. Ni fydd yr ad-daliad yn ddyledus nes bydd y Maes Awyr wedi defnyddio estyniad diweddaraf y cyfleuster benthyca – sef y dyfarniad £21.2 miliwn – yn llawn.

Mewn llythyr at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ym mis Chwefror 2020, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y maes awyr wedi “gofyn am fenthyciad a oedd yn werth cyfanswm o £28 miliwn”. Bryd hynny, dim ond £21.2 miliwn roedd Llywodraeth Cymru wedi’i gymeradwyo. Roedd y £6.8 miliwn sy’n weddill yn amodol ar gymeradwyaeth, gyda dadansoddiad ychwanegol ategol a diwydrwydd dyladwy.

Uwchgynllun y Maes Awyr

Mae Uwchgynllun 2040 y Maes Awyr yn nodi ei “gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf dros yr 20 mlynedd nesaf”. Nododd tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yr hyn a ganlyn, cyn sesiwn ym mis Medi 2019 ar y Maes Awyr gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

Mae'n amlwg y bydd yn rhaid wrth ragor o fuddsoddi i wireddu ein huchelgais ac uchelgais y Maes Awyr i dyfu ac ehangu, ond rydym yn sylweddoli bod terfyn ar yr hyn y gellid ei wneud yn hyn o beth o'r pwrs cyhoeddus.

Dywedodd Simon Jones wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd eraill posibl o ariannu cynlluniau'r Maes Awyr:

…there may be other means of [the Airport] getting that money in. So, there might be other sources of income for that that don’t involve an equity stake in the airport.

Dywedodd y gallai’r rhain gynnwys rhyw fath o fargen partneriaeth neu weithio gyda phartneriaid yn y sector preifat i ysgogi eu buddsoddiad.

Fodd bynnag, dywedodd Andrew Slade mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) ym mis Chwefror 2020:

Caiff meysydd awyr eu gweld fel buddsoddiadau strategol, hirdymor gan fuddsoddwyr ac maent yn tueddu i gael eu cadw am gyfnodau o 25 i 30 mlynedd. Mae ein sefyllfa gyda [y Maes Awyr] yn cyd-fynd â’r dull hwn o weithio.

Rhagor o wybodaeth

Ar 10 Mawrth bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl ynghylch y Maes Awyr y gallwch ei gwylio ar SeneddTV.

Hefyd, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i’r Maes Awyr ar hyn o bryd. Bydd y bedwaredd sesiwn dystiolaeth yn cael ei chynnal ar 23 Mawrth, a gellir gwylio hon ar SeneddTV hefyd.

Yn ein herthygl nesaf yn y gyfres ar Faes Awyr Caerdydd, byddwn yn nodi gwybodaeth am nifer y teithwyr.


Erthygl gan Joanne McCarthy and Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru