Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

A yw Cymru ar y trywydd cywir i arwain y byd ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau?

Yn 2018, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad beiddgar i ddod yn llywodraeth ffeministaidd. Mae’r weledigaeth ac egwyddorion sy’n gysylltiedig â’r nod hwn pwysleisio’r angen i rannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a pherson anneuaidd. Mae Fforwm Economaidd y Byd yn amcangyfrif y bydd yn cymryd bron i 100 mlynedd i gau’r bwlch byd-eang rhwng y rhywiau ar y gyfradd bresennol. Mae’r DU yn yr unfed safle ar hugain allan o 153 o wledydd ym mynegai’r bwlch rhwng y rhywiau, sef chwe safle’n is na’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, o ystyried yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i arwain y byd ar y mater hwn, a yw bylchau rhwng y rhywiau yn cau yng Nghymru? Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi dangosyddion i asesu a yw’r diffyg cydraddoldeb rhwng menywod a dynion yng Nghymru yn gwella neu’n gwaethygu.

Amcangyfrif o amser darllen: 9 Munud

06 Mawrth 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn 2018, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad beiddgar i ddod yn llywodraeth ffeministaidd. Mae’r weledigaeth ac egwyddorion (PDF, 775KB) sy’n gysylltiedig â’r nod hwn pwysleisio’r angen i rannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a pherson anneuaidd.

Mae Fforwm Economaidd y Byd yn amcangyfrif y bydd yn cymryd bron i 100 mlynedd i gau’r bwlch byd-eang rhwng y rhywiau ar y gyfradd bresennol. Mae’r DU yn yr unfed safle ar hugain allan o 153 o wledydd ym mynegai’r bwlch rhwng y rhywiau, sef chwe safle’n is na’r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, o ystyried yr ymrwymiad (PDF, 199KB) gan Lywodraeth Cymru i arwain y byd ar y mater hwn, a yw bylchau rhwng y rhywiau yn cau yng Nghymru? Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi dangosyddion i asesu a yw’r diffyg cydraddoldeb rhwng menywod a dynion yng Nghymru yn gwella neu’n gwaethygu.

Ceir cynrychiolaeth dda o fenywod yn arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad, ond ni ellir dweud hyn i’r un graddau mewn llywodraeth leol

Mae’r Cynulliad wedi cynnal lefelau uchel o Aelodau’r Cynulliad sy’n fenywod ers datganoli, ac ar hyn o bryd mae 47 y cant o Aelodau’r Cynulliad yn fenywod. Mae’r sefyllfa’n debyg iawn yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, gyda dros 50 y cant o’r rolau wedi’u llenwi gan fenywod.

Mae data a gyhoeddwyd ar gyfer 2017-18 yn awgrymu bod llai na 40 y canto’r rolau uwch yn y gwasanaeth sifil yn Llywodraeth Cymru wedi’u llenwi gan fenywod, o gymharu â 64 y cant o rolau yn y radd isaf. Mae’r Cynulliad yn cyflogi mwy o fenywod na dynion ar y lefelau uchaf, ac mae dynion yn llenwi 61 y cant o’r rolau yn y radd isaf.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd nifer y cynghorau sydd ag arweinwyr sy’n fenywod o 18 y cant o gynghorau i 23 y cant.  Fodd bynnag, dim ond 28 y cant o’r cynghorwyr a etholwyd yn 2017 oedd yn fenywod, ac ar hyn o bryd mae 32 y cant o aelodau Cabinet y cynghorau yn fenywod, yn ôl gwaith ymchwil gan Chwarae Teg (PDF, 312KB).

Ffeithlun yn dangos ystod o ystadegau am rywedd

Ychydig iawn o newid sydd wedi bod i fenywod yn economi Cymru

Mae’r Fforwm Economaidd y Byd yn nodi:

“In contrast to [..] positive progress in the lofty world of leadership, women’s participation in the wider labour market has stalled and financial disparities are increasing.”

Mae menywod yng Nghymru yn dal yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser, ac ni chaeodd y bylchau rhwng dynion a menywod mewn hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r dangosyddion hefyd yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi ehangu ychydig bach yn ôl un mesur. Mae’r bwlch rhwng yr holl weithwyr gwrywaidd a benywaidd (amser llawn a rhan amser) bellach yn £1.90 yr awr, o’i gymharu â £1.65 y llynedd. Fodd bynnag, caeodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ychydig ar gyfer gweithwyr amser llawn.

Dim ond ychydig iawn o newid a fu yn y bwlch rhwng cyfraddau gweithgaredd economaidd ymhlith dynion a menywod rhwng 2018 a 2019. Roedd 73 y cant o fenywod ac 81 y cant o ddynion yn weithgar yn economaidd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019.

Ffeithlun yn dangos ystod o ystadegau am rywedd

Mae oedran, bod yn rhiant, ethnigrwydd ac anabledd yn effeithio ar weithgaredd economaidd a chyfraddau cyflogaeth

Fel yr amlygwyd gan Adroddiad Cyflwr y Genedl 2020(PDF, 312KB) gan Chwarae Teg, mae’r bwlch rhwng y rhywiau o ran gweithgaredd economaidd yn ehangu ar ôl 25-34 oed. Mae cyfraddau ar gyfer menywod a dynion bron yn gyfartal yn y grŵp rhwng 16 a 19 oed, ond mae’r bwlch rhyngddynt yn tyfu ar ôl hyn, gyda’r bwlch ehangaf rhwng dynion a menywod rhwng 25 a 34 oed.

Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o fod yn ddi-waith ym mhob grŵp oedran, a dynion rhwng 16 a 19 oed yw’r rhai mwyaf tebygol o fod yn ddi-waith.

Mae’r prif resymau dros anweithgarwch economaidd yn wahanol i ddynion a menywod. O’r bobl hynny sy’n anweithgar yn economaidd, mae 33 y cant o ddynion a 26 y cant o fenywod yn anweithgar oherwydd salwch tymor hir; mae 32 y cant o ddynion a 21 y cant o fenywod yn anweithgar oherwydd eu bod yn astudio; ac mae 28 y cant o fenywod a 7 y cant o ddynion yn anweithgar oherwydd eu bod yn gofalu am deulu/cartref.

Yn 2017, y gyfradd gyflogaeth i fenywod yng Nghymru sydd â phlant dibynnol oedd 75 y cant, o’i chymharu â chyfradd o 91 y cant i ddynion sydd â phlant dibynnol.

Mae’r adroddiad gan Chwarae Teg hefyd yn dangos bod cyfran y menywod o leiafrifoedd ethnig mewn cyflogaeth yn 2018-19 yn llawer is nag ar gyfer menywod gwyn (55 y cant o’i chymharu â 71 y cant), ond roedd y bwlch hwn yn llai o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod dynion ag anabledd yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na menywod ag anabledd. Y gyfradd ddiweithdra (wedi’i chyfrif fel cyfran o’r boblogaeth economaidd weithgar) ar gyfer dynion ag anabledd yw 11 y cant, o’i chymharu â 6.5 y cant ar gyfer menywod ag anabledd.  Mae cyfran uwch o fenywod na dynion yn nodi eu bod yn anabl (23 y cant o’i chymharu â 19 y cant).

Mae menywod yn llai tebygol o weithio mewn sectorau datblygol

Mae Fforwm Economaidd y Byd yn nodi mai’r her fwyaf sy’n atal camau i gau’r bwlch economaidd rhwng y rhywiau yw tangynrychiolaeth gan fenywod mewn rolau datblygol.

Yn ôl Fforwm Economaidd y Byd:

“women have greater representation in roles that are being automated; not enough women are entering professions where wage growth is the most pronounced (most obviously, but not exclusively, technology), and women face the perennial problem of insufficient care infrastructure and access to capital.”

Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, roedd 81 y cant o weithwyr proffesiynol ym maes gwyddoniaeth, ymchwil, peirianneg a thechnoleg yng Nghymru yn ddynion, tra bod menywod yn llenwi 85 y cant o’r swyddi gofal personol.

Canfu adroddiad (PDF, 773KB) gan Lywodraeth Cymru yn 2017 fod galw mawr am rolau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yng Nghymru, sy’n talu 20 y cant yn fwy na sectorau eraill ar gyfartaledd.

Fodd bynnag, mae menywod wedi’u tangynrychioli ymhlith darpar weithwyr ym maes STEM, a dim ond 12 y cant o fyfyrwyr prifysgol ym maes peirianneg a thechnoleg yng Nghymru sy’n fenywod. Mae llai na 10 y cant o gyflogeion ym maes peirianneg a gweithwyr proffesiynol STEM yn y DU yn fenywod, a chaiff menywod eu tangynrychioli ym mhob math o rolau arweiniol perthnasol.

Yn aml, caiff profiadau o dlodi sy’n amrywio ar sail rhywedd eu cuddio gan y prif ystadegau

Roedd cyfraddau tlodi ymhlith menywod a dynion o oedran gweithio yn y DU yn 2017-18 yn dangos bod 20 y cant o fenywod yn byw mewn cartrefi incwm isel o’u cymharu â 18 y cant o ddynion. Nid oes unrhyw ddata cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru.

Cyhoeddodd Chwarae Teg a Sefydliad Bevan ymchwil ar fenywod mewn tlodi ym mis Rhagfyr 2019, a oedd yn nodi gwahaniaethau mewn lefelau tlodi rhwng dynion a menywod sengl, yn enwedig rhieni sengl:

“The data that are available for Wales assume that resources in couple households are split equally and hence women and men both have the same poverty rate: 22 per cent for couples with children and 15 per cent for couples without children.

There is a difference between the genders amongst single people: single women without children have a higher risk of being in poverty than single men (32 per cent compared with 28 per cent).

Single parents, the vast majority of whom are women, are even more likely to live in poverty, with 44 per cent living below the poverty threshold. Assuming that household income is equally shared, being in a couple significantly reduces the risk of poverty for women, roughly halving it.”

Roedd y gwaith ymchwil hwn hefyd yn dangos bod incwm isel cymharol yn mesur rhan o brofiadau menywod yn unig – mae menywod yn fwy tebygol o wynebu amddifadedd materol ac, yn nodweddiadol, mae ganddynt lai o asedau a mwy o ddyledion.

Yn 2018-19, roedd 63 y cant o ymgeiswyr am gymorth gan awdurdodau lleol oherwydd eu bod dan fygythiad o ddigartrefedd yn fenywod, o gyfanswm o oddeutu 10,700 o bobl. Daeth traean o’r holl geisiadau o deuluoedd ag un rhiant.

Fodd bynnag, roedd y sefyllfa wedi’i gwrthdroi ar gyfer aelwydydd a aseswyd fel rhai ‘digartref’, lle’r oedd 55 y cant o’r ymgeiswyr yn ddynion. Er nad oes ystadegau wedi’u dadgyfuno ar sail rhywedd ar gael ar gyfer nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru, mae ymchwil yn Lloegr yn dangos bod dynion yn llawer mwy tebygol o gysgu ar y stryd.

Ffeithlun yn dangos ystod o ystadegau am rywedd

Mae nifer y menywod sy’n cael eu lladd gan bartneriaid neu aelodau o’r teulu wedi cynyddu

Mae mwy o fenywod yng Nghymru yn cael eu lladd gan bartneriaid neu aelodau o’r teulu erbyn hyn (a elwir yn ‘ddynladdiad domestig’) nag mewn blynyddoedd blaenorol.

Rhwng 2015 a 2018, cafodd 26 o fenywod a 7 o ddynion yng Nghymru eu lladd mewn achosion o ddynladdiad domestig. Mae hyn yn gynnydd ers 2012-15, pan gafodd 15 o fenywod a 3 dyn eu lladd.

Mae dynion yn llawer mwy tebygol o ddioddef dynladdiad annomestig (34 dyn o’u cymharu â 5 menyw), sy’n gynnydd bach o’r ffigur ar gyfer 2012-15, sef 33 o ddynion a 4 menyw.

Gostyngodd cyfran y menywod rhwng 16 a 59 oed a oedd yn nodi eu bod wedi wynebu unrhyw fath o gam-drin domestig o 8.7 y cant i 7 y cant. Gostyngodd cyfran y dynion hefyd o 6.0 y cant i 4.8 y cant.

Ffeithlun yn dangos ystod o ystadegau am rywedd

Mae disgwyliad oes dynion yn llawer is na disgwyliad oes menywod, ac mae bylchau addysgol rhwng y rhywiau yn parhau

Disgwylir i ddynion fyw bedair blynedd yn llai na menywod (ar adeg genedigaeth), ac maent yn fwy tebygol o fod dros bwysau neu’n ordew, yn fwy tebygol o ysmygu ac yn fwy tebygol o yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos.

Mae dynion hefyd yn dal yn llawer mwy tebygol o farw drwy hunanladdiad. Fodd bynnag, cynyddodd nifer y menywod sy’n marw drwy hunanladdiad o 5.8 fesul 100,000 o bobl yn 2017 i 6.9 yn 2018, tra gostyngodd nifer y dynion ychydig, o 20.9 fesul 100,000 o bobl i 19.1.

Mae merched yn fwy tebygol o gael pum gradd A* i C yn eu harholiadau TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf). Hefyd, maent yn fwy tebygol o gael eu cofrestru ar gyrsiau israddedig a rhaglenni prentisiaeth. Mae bechgyn rhwng 16 a 18 oed a rhwng 19 a 24 oed yn dal i fod ychydig yn fwy tebygol o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

Ffeithlun yn dangos ystod o ystadegau am rywedd

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gau bylchau rhwng y rhywiau?

Cafodd Chwarae Teg eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cyflym o bolisïau’r Llywodraeth ynghylch cydraddoldeb rhwng y rhwyiau i ddeall y materion perthnasol ac awgrymu atebion.

Cyhoeddwyd canfyddiadau cymal cyntaf yr adolygiad ar 10 Gorffennaf 2018, ynghyd â gwaith ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar arferion da rhyngwladol. Gwnaeth yr adroddiad ystod o argymhellion, a chafodd detholiad ohonynt eu trafod yn fanylach yn ein herthygl ar rywedd yn 2018.

Cafodd yr adroddiad ar yr ail gymal ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2019, ochr yn ochr â chynllun  (PDF, 627KB) ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru a phapur ar asesu’r effaith (PDF, 744KB). Roedd gwaith ymchwil gan Dr Alison Parken ar alinio canlyniadau llesiant a chydraddoldeb (PDF, 884KB), yn ogystal â model datblygu polisi i brif-ffrydio cydraddoldeb (PDF, 446KB), yn cyd-fynd â’r adroddiad hwn hefyd.

Ym mis Tachwedd 2019 ymatebodd Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, i’r adolygiad drwy ddweud bod “swyddogion wrthi’n datblygu ein Cynllun Gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau nid dim ond ein bod yn gallu monitro ac adolygu cynnydd, ond hefyd ein bod yn gallu cadw’r ffocws a’r momentwm”.

Cyhoeddodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Oxfam Cymru gerdyn sgorio ffeministaidd (PDF, 315KB) yn 2019 i asesu cynnydd Llywodraeth Cymru tuag at ddod yn llywodraeth ffeministaidd, ac roedd yn cynnwys ystod o argymhellion.

Mae Pwyllgorau’r Cynulliad hefyd wedi gwneud argymhellion sy’n gysylltiedig â rhywedd, gan gynnwys (ymhlith eraill):

Mae cau bylchau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hir sefydlog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gofyn am ymrwymiad tymor hir a pharhaus. Bydd y cynllun gweithredu arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad seiliedig ar rywedd, a’i chynllun cydraddoldeb strategol newydd ar gyfer 2020-2024 (y disgwylir i’r fersiwn derfynol ohono gael ei chyhoeddi ym mis Mawrth), yn allweddol i ddeall sut mae’n bwriadu cynyddu cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn ymarferol.

Nodyn ar y data: Rydym yn diweddaru’r dangosyddion bob blwyddyn i gynnwys y dystiolaeth ddiweddaraf. Nid oes modd cymharu rhai setiau data o flwyddyn i flwyddyn, ac mae dangosyddion eraill yn newydd. Mae data croestoriadol sy’n ymdrin ag oedran, ethnigrwydd, anabledd a nodweddion eraill ochr yn ochr â rhywedd wedi’u cynnwys lle mae ar gael.

Ffeithlun yn dangos ystod o ystadegau am rywedd

Erthygl gan Hannah Johnson a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: