Addysg Busnes y Cynulliad Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Llinell amser coronafeirws: Ymateb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Mae'r llinell amser isod yn tynnu sylw at gyhoeddiadau a deddfwriaeth allweddol a wnaed gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod yr achosion o COVID-19. Caiff y dudalen hon ei diweddarau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Diweddarwyd: 06 Gorffennaf 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r llinell amser isod yn tynnu sylw at ddatblygiadau yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig mewn ymateb i’r coronafeirws – COVID-19. Caiff y dudalen hon ei diweddaru yn wythnosol.Gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r llinell amser yma.

Mae’r wybodaeth swyddogol ddiweddaraf am y coronafeirws, y cyngor i’r cyhoedd, a’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gael drwy glicio ar y lincs isod:

Codwyd cyfyngiadau teithio a chaniateir aelwydydd ‘estynedig’

6 Gorffennaf 2020

Codwyd gofyniad i ‘aros yn lleol’ heddiw, sy’n golygu bod pobl yn cael teithio yng Nghymru ac i Gymru. ‘Bydd atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored hefyd yn gallu agor a bydd hefyd yn gam tuag at ail-agor y sector twristiaeth o ddydd Llun Gorffennaf 13 ymlaen, os yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng’. Hefyd o’r dyddiad hwn, bydd pobl o ddwy aelwyd wahanol yn gallu ymuno i ffurfio un aelwyd estynedig rhyngddyn nhw yn unig. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd mesurau’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio mewn datganiad ar 3 Gorffennaf 2020.

Mae tafarndai a siopau trin gwallt yn Lloegr yn ailagor

4 Gorffennaf 2020

Mae tafarndai, bwytai a siopau gwallt yn ailagor yn Lloegr. Ymhlith y newidiadau eraill o’r dyddiad hwn yn Lloegr, bydd dwy aelwyd yn gallu cwrdd unrhyw le, gan gadw pellter cymdeithasol, bydd safleoedd llety gwyliau, rhai cyfleusterau hamdden ac atyniadau i dwristiaid yn ailagor, yn ogystal â llyfrgelloedd, clybiau cymdeithasol, addoldai a chanolfannau cymunedol. Cyhoeddwyd y newidiadau hyn gan gan Brif Weinidog y DU ar 23 Mehefin 2020.

Llacio cyfyngiadau teithio rhyngwladol yn Lloegr

3 Gorffennaf 2020

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pobl, o 10 Gorffennaf 2020, yn gallu teithio i wledydd y nodir eu bod yn ‘risg is’ heb orfod hunanynysu ar ôl dychwelyd i Loegr. Yn ôl y datganiad, bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn nodi eu dulliau eu hunain ar gyfer esemptiadau [o hunanynysu], ac felly dylai teithwyr sy’n dychwelyd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sicrhau eu bod yn dilyn y deddfau a’r canllawiau sy’n berthnasol yno.

Camau i’r sector lletygarwch a thwristiaeth ailagor yn raddol

2 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru wedi nodi amserlen i’r sector twristiaeth ailagor yn raddol. Bydd bariau, bwytai a chaffis gyda mannau awyr agored yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf 2020. ‘Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch ailagor yn yr adolygiad nesaf o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, a bydd yn dibynnu ar a yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng. Gwneir penderfyniadau ynghylch ailagor y sector o dan do maes o law, a bydd llawer yn dibynnu ar lwyddiant y cam cyntaf o agor y sector yn yr awyr agored.’ Hefyd, yn ddarostyngedig i’r adolygiad o reoliadau coronafeirws ar 9 Gorffennaf, mae’r dyddiad ar gyfer derbyn archebion llety gwyliau hunangynhwysol yn cael ei ddwyn ymlaen i 11 Gorffennaf o 13 Gorffennaf, i gyd-fynd â’r patrwm o aros o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn.

Mae’r cwarantîn i deithwyr rhyngwladol yn aros yng Nghymru

30 Mehefin 2020

Cafwyd datganiad gan y Prif Weinidog yn dilyn adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020: bydd y gofyniad i bobl sy’n cyrraedd neu sy’n dychwelyd o dramor i hunanynysu am 14 diwrnod aros mewn grym yng Nghymru. ‘Gellir diwygio’r Rheoliadau maes o law gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau sy’n parhau â gweinyddiaethau eraill y DU a chan ystyried yn llawn y cyngor meddygol a gwyddonol a fyddai’n sail ar gyfer unrhyw newidiadau a allai gael eu cynnig’.

Ysgolion yng Nghymru yn ailagor

29 Mehefin 2020

Mae plant yn dychwelyd i’r ysgol yng Nghymru mewn dull graddol. Bydd grwpiau blwyddyn yn cael eu rhannu’n garfannau gydag amseroedd cychwyn ac egwyliau gwahanol. Disgwylir, ar y mwyaf, y bydd traean o’r disgyblion yn bresennol ar unrhyw un adeg. Mae canllawiau wedi’u diweddaru i ysgolion a chwestiynau cyffredin wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Achosion mewn safleoedd prosesu cig a bwyd

24 Mehefin 2020

Y Gweinidog Iechyd yn gwneud datganiad ar achosion o’r coronafeirws sydd wedi’u canfod mewn dau safle prosesu cig a bwyd yng Nghymru, yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn a ffatri Rowan Foods yn Wrecsam. Cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer safleoedd prosesu cig a chynhyrchu bwyd ar atal a rheoli achosion o’r coronafeirws ar ôl hynny, ar 26 Mehefin 2020.

Adroddiad ar ganlyniadau pobl dduon a grwpiau lleiafrifoedd ethnig o ran y coronafeirws

22 Mehefin 2020

Cyhoeddwyd adroddiad ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar ganlyniadau negyddol Covid-19 i unigolion duon a rhai o gefndiroedd ethnig. Mewn datganiad ar 25 Mehefin 2020, dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r adroddiad ac yn darparu ymateb ffurfiol i argymhellion yr adroddiad yn fuan.

Adolygiad o gyfyngiadau’r coronafeirws

19 Mehefin 2020

Mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws yn dilyn y pedwerydd adolygiad o’r rheoliadau. O 22 Mehefin, caiff yr holl fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, cyfleusterau gofal plant a’r farchnad dai ailagor; a chaniateir gweddïau preifat mewn mannau addoli. Hefyd, ailadroddodd y Prif Weinidog y bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgolion ar 29 Mehefin.

Bydd y gofyniad i bobl aros yn lleol ac o fewn tua phum milltir o’u cartrefi yn parhau i fod mewn grym am ddwy wythnos arall. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog y caniateir teithio y tu allan i ardal leol rhywun ar seiliau tosturiol. Mae hyn yn cynnwys “i ymweld â pherthynas neu ffrind agos sydd angen cymorth neu i ymweld â rhywun yn yr awyr agored mewn cartref gofal”. Mae’r Prif Weinidog yn ystyried codi’r cyfyngiad hwn ar 6 Gorffennaf.

Defnyddio decsamethason i drin COVID-19

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi bod y canllawiau ar gyfer ysbytai sy’n trin COVID-19 wedi’u diweddaru i gynnwys defnyddio decsamethason. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Brifysgol Rhydychen bod decsamethason yn lleihau marwolaethau’n sylweddol ymhlith cleifion y mae arnynt angen ocsigen neu gymorth anadlu.

Gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell Nghymru

9 Mehefin 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell “y dylid gwisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle gall fod yn anoddach cadw pellter cymdeithasol… fel ar gludiant cyhoeddus”. Fodd bynnag, ni fydd yn orfodol i bobl wisgo gorchuddion wyneb. Eglurodd Llywodraeth Cymru yn glir hefyd nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn dileu’r angen i gadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo yn rheolaidd. Ailbwysleisiodd hefyd fod yn rhaid i unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws “hunanynysu am o leiaf saith diwrnod a chael prawf cyn gynted â phosibl”.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i wneud gorchudd wyneb 3 haen a chwestiynau cyffredin.

Cwarantin i’r rhai sy’n cyrraedd y DU mewn grym yn awr

8 Mehefin 2020

Daw’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020   i rym – rhaid i breswylwyr ac ymwelwyr sy’n dod i’r wlad o dramor hunanynysu am 14 diwrnod rhag i’r coronafeirws ymledu ymhellach. Mae hyn yn adlewyrchu sefyllfa gyffredin ym mhedair gwlad y DU. Mae nifer o eithriadau i’r rheolau newydd.

Cyhoeddi y bydd disgyblion Cymru yn dychwelyd i’r ysgol

3 Mehefin 2020

Cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd ysgolion yn ailagor i bob grŵp blwyddyn ar 29 Mehefin 2020. Bydd y tymor yn para wythnos ychwanegol tan 27 Gorffennaf 2020. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen yn egluro’i dealltwriaeth ddiweddaraf o’r coronafeirws mewn perthynas â phlant ac addysg. Mae ysgolion Lloegr wedi bod ar agor ers 1 Mehefin 2020. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni fydd disgyblioon yn dychwelyd i’r ysgol cyn Awst 2020 pan fydd y flwyddyn academaidd yn dechrau yno.

Olrhain cysylltiadau yn dechrau yng Nghymru

1 Mehefin 2020

Wrth i’r system olrhain cysylltiadau gael ei chyflwyno, bydd aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau’n cysylltu ag unrhyw un sy’n cael canlyniad prawf coronafeirws positif ac yn gofyn am fanylion pawb maent wedi dod i gysylltiad agos â hwy. Bydd y tîm yn cysylltu â’r holl gysylltiadau hyn a gofynnir iddynt hunanynysu am 14 diwrnod.

Mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud o 8 Mehefin y bydd olrhain cysylltiadau’n cael ei gefnogi gan system ar-lein newydd a fydd yn rhoi opsiwn i bobl i ddarparu manylion am eu cysylltiadau ar-lein.

Newidiadau ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain

1 Mehefin 2020

Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi dau newid i bobl sy’n gwarchod eu hunain o heddiw, ond fe’u cynghorir i wneud hynny ar adegau llai prysur i leihau’r risg o ddod i gysylltiad ag eraill. Yn gyntaf, gallant wneud ymarfer corff yn yr awyr agored nifer diderfyn o weithiau’r dydd. Yn ail, gallant gyfarfod ag aelwyd arall yn yr awyr agored, ar yr un telerau â phawb arall yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog y dylent barhau i ddilyn y cyngor arall ar warchod, fel y nodwyd yn flaenorol, a bydd pawb sy’n gwarchod yn “cael llythyr oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru cyn 15 Mehefin yn nodi’r camau nesaf”.

Aros yn lleol

29 Mai 2020

Yng Nghymru, yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o’r rheoliadau, mae Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi bod y neges i ‘aros gartref’ yn newid i ‘aros yn lleol’. O 1 Mehefin, gall dwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored a dylid parhau i ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid da. Pwysleisiwyd y dylai pobl barhau i aros yn lleol gan ddefnyddio “pum milltir fel canllaw” ond bod “hyblygrwydd i hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn”. Nododd Prif Weinidog Cymru hefyd i “fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol i ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i ddechrau paratoi i ailagor”.

O 1 Mehefin yn Lloegr, gall grwpiau o 6 o bobl gwrdd yn yr awyr agored. Ers 13 Mai, mae pobl yn Lloegr wedi gallu teithio pellteroedd diderfyn.

Cyhoeddi mesurau ffiniau’r DU

22 Mai 2020

Mae Ysgrifennydd Cartref y DU wedi cyhoeddi mesurau iechyd cyhoeddus newydd ar gyfer pob un sy’n cyrraedd y DU, er mwyn helpu i warchod rhag ail don o’r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys 14 diwrnod o hunanynysu i unrhyw un sy’n dod i mewn i’r DU, gydag ambell eithriad prin.

Llywodraeth Cymru wedi’i chyfeirio i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

21 Mai 2020

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am ymchwiliad i Lywodraeth Cymru gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dros bryderon bod hawliau dynol pobl hŷn wedi’u torri mewn cartrefi gofal. Mae gan y Comisiynydd bryderon nad yw hawliau pobl hŷn wedi’u diogelu ddigon yn y lleoliadau hyn ac ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach. Ymatebodd y Comisiynydd i ddweud ei fod yn ‘parhau i fod â chryn bryder am y posibilrwydd y torrwyd hawliau dynol pobl hŷn yn ystod y pandemig’. Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn gweithio’n agos gyda’r Comisiynydd ac yn “ystyried defnyddio ei holl bwerau i warchod hawliau pobl hŷn”.

Cyflwyno prawf coronafeirws gartref

18 Mai 2020

O’r dyddiad hwn ymlaen, dylai pobl yng Nghymru sydd â symptomau’r coronafeirws allu gofyn am gael prawf coronafeirws gartref trwy wasanaeth archebu ar-lein. Mae’r prawf yn rhan o system newydd ledled y DU ar gyfer archebu pecynnau i brofi am y coronafeirws gartref. At hynny, gall gweithwyr hanfodol yng Nghymru ofyn am becynnau profi gartref trwy’r gwasanaeth ar-lein, a “rhoddir blaenoriaeth i’r gweithwyr hynny dros aelodau o’r cyhoedd yn ôl y capasiti”. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddefnyddio’r pecyn profi gartref.

Diweddariad o ran symptomau

18 Mai 2020

Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cyhoeddi diweddariad o ran symptomau’r coronafeirws i gynnwys colli arogl neu flas. O’r dyddiad hwn ymlaen, dylai pob unigolyn hunanynysu os yw’n datblygu o leiaf un o’r symptomau hyn: peswch parhaus o’r newydd; twymyn; colli arogl neu flas (anosmia).

Profi ar gyfer pob cartref gofal

16 Mai 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y gall holl breswylwyr a staff cartrefi gofal gael mynediad at brofion ar borth Llywodraeth y DU.

Fframwaith ar gyfer addysg a gofal plant

15 Mai 2020

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, , yn cyhoeddi fframwaith yn amlinellu’r egwyddorion a’r meddylfryd cyfredol ynghylch y camau nesaf ar gyfer addysg a gofal plant yng Nghymru.

Canllaw golau traffig ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud

15 Mai 2020

Prif Weinidog Cymru yn amlinellu’r map o’r ffordd ymlaen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru. Mae’n cynnwys naw maes gyda phedwar cam ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud, o goch i oren i wyrdd. Dywed y ddogfen fod y camau hyn yn “amlinellu camau bras” ac na fydd Cymru’n “symud popeth ar yr un pryd o’r naill gam i’r llall”. Mae’n bosibl, felly, bod wrth y cam coch mewn un maes, a cham gwyrdd mewn maes arall.

Profi, Olrhain, Diogelu

13 Mai 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth brofi er mwyn “gwella gwyliadwriaeth iechyd” ac “olrhain cysylltiadau yn effeithiol ac yn helaeth”. Dywed fod profi, hyd yn hyn, wedi canolbwyntio ar bobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr allweddol symptomatig a bydd y cam nesaf yn golygu profi unrhyw un yn y gymuned â symptomau.

Dim rhaid gorchuddio’r wyneb/ neu Nid yw gorchuddion wyneb yn orfodol

12 Mai 2020

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn dweud mewn datganiad nad yw’n “argymell gorfodi pob un i wisgo gorchudd wyneb bob tro y byddant yn gadael eu cartref – dylai hyn fod yn fater o ddewis personol.”

Prif Weinidog yn dweud wrth Loegr am aros yn wyliadwrus

10 Mai 2020

Mewn anerchiad teledu, mae Prif Weinidog y DU wedi amlinellu newidiadau i’r cyfyngiadau symud yn Lloegr ac wedi hyrwyddo neges newydd i ‘aros yn wyliadwrus’. Caiff mwy o fanylion eu cyflwyno i Senedd y DU ar 11 Mai 2020. Mae’r neges ‘aros gartref’ yn parhau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyhoeddi cyngor gwyddonol

8 Mai 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r modelu diweddaraf gan ei Chell Cynghori Technegol (TAC). Caiff cyngor TAC, yn ogystal â chyngor Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar gyfer Argyfyngau (SAGE), ei ddefnyddio i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws.

Cynllun ‘profi, monitro ac olrhain’

5 Mai 2020

Y Gweinidog Iechyd yn amlinellu Cynllun Ymateb Llywodraeth Cymru er mwyn Diogelu Iechyd y Cyhoedd. Bydd y Cynllun ‘yn nodi sut y bydd rhaglen effeithiol o brofi, monitro ac olrhain yn allweddol er mwyn rheoli trosglwyddiad y feirws’.

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn holi’r Gweinidog Iechyd

5 Mai 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar effaith pandemig y coronafeirws ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant, ac ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cymorth i brifysgolion a myfyrwyr

4 Mai 2020

Y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi datganiad polisi addysg uwch yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prifysgolion a myfyrwyr i ymdopi ag effaith y coronafeirws.

Taliad o £500 i weithwyr gofal

1 Mai 2020

Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi taliad ychwanegol o £500 i staff gofal cymdeithasol. “Mae’r taliad hwn yn gydnabyddiaeth bellach o weithlu sydd yn aml yn cael ei anwybyddu, a ddim yn cael digon o werthfawrogiad. Bydd y taliad ar gael i tua 64,600 o weithwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal yn y cartref ar draws Cymru.”

Heibio’r brig?

30 Ebrill 2020

Dywed Prif Weinidog y DU yn y gynhadledd i’r wasg ddyddiol ein bod wedi mynd heibio i frig y clefyd hwn.

Y Gweinidog Iechyd yn ymddangos gerbron pwyllgor

30 Ebrill 2020

Bu’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws. Mae’r Gweinidog Iechyd yn ateb cwestiynau ynghylch cyfarpar diogelu personol (PPE), profion a ‘strategaeth i lacio’r cyfyngiadau’ presennol o ran y coronafeirws.

Rhagor o brofion drwy ffenest y car

28 Ebrill 2020

Bydd dwy ganolfan brofi newydd yn agor a bydd gwasanaeth archebu ar-lein yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Dywed datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru y bydd y ganolfan brofi yn Llandudno yn agor ar 29 Ebrill, a chanolfan Caerfyrddin yn dechrau profi gweithwyr allweddol ar 30 Ebrill 2020.

Y wybodaeth ddiweddaraf am beiriannau anadlu

29 Ebrill 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn darparu’r diweddaraf am gapasiti gofal critigol a chymorth anadlu. O’r 1,035 o beiriannau anadlu ychwanegol sy’n cael eu caffael gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a thrwy drefniadau’r DU (yn unol â’i ddatganiad ar 6 Ebrill), cafwyd 353). Dywedodd y Gweinidog “Mae’r broses o gyflenwi’r peiriannau anadlu sydd wedi’u caffael drwy Gydwasanaethau GIG Cymru a threfniadau yn y DU wedi bod yn broses raddol dros gyfnod o 13 o wythnosau, ar sail yr amcanestyniad gwreiddiol y byddai nifer yr achosion ar ei uchaf ym mis Mehefin/Gorffennaf. Tra bo achosion o COVID-19 yng Nghymru nid oes prinder wedi bod o safbwynt peiriannau anadlu o fewn y GIG yng Nghymru”.

Adolygu’r data marwolaethau

28 Ebrill 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygu’r dull ar gyfer adrodd ar farwolaethau COVID-19 yng Nghymru. Cynhaliwyd yr adolygiad ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dangofnodi nifer sylweddol o farwolaethau. Nodwyd problemau hefyd gyda data a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Pwyllgor y Cynulliad yn craffu ar y Gweinidog Addysg

28 Ebrill 2020

Bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn holi’r Gweinidog am effaith y coronafeirws ar addysg cyn-16 oed, ac addysg ôl-16. Yn gynharach, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad a oedd yn disgrifio dull graddol o ailagor ysgolion – “ni fydd ysgolion yn dychwelyd ar unwaith i weithredu i’w capasiti llawn.” Pwysleisiodd y Gweinidog nad oedd unrhyw gam i ailagor ysgolion ar fin digwydd.

Marwolaeth mewn swydd

27 Ebrill 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn sefydlu Cynllun Marwolaeth mewn Gwasanaeth COVID-19 ar gyfer gweithwyr rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol. O dan y Cynllun, bydd buddiolwyr cymwys yn cael swm unwaith ac am byth o £60,000, waeth beth yw cyflogau gweithwyr unigol. Bydd terfyn amser ar y Cynllun, gan y bydd yn darparu sicrwydd ar gyfer cyfnod y pandemig a bydd yn gymwys yn ôl-weithredol o 25 Mawrth 2020.

Fframwaith y strategaeth i lacio’r cyfyngiadau

24 Ebrill 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei ‘fframwaith ar gyfer adferiad ar ôl pandemig y coronafeirws. “Cyflwynwyd y cyfyngiadau ar symud,” meddai’r Prif Weinidog, “yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ledled y Deyrnas Unedig, a’n dewis ni fel llywodraeth fyddai bod pob un o’r pedair gwlad yn mynd ati i godi’r cyfyngiadau yn yr un ffordd.  Serch hynny, rydym wedi dweud yn gyson y byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir er lles pobl Cymru”. Bydd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn cydlynu’r paratoadau ar gyfer adferiad.

Diwygio’r cyfyngiadau aros gartref

24 Ebrill 2020

Mae’r rheoliadau aros gartref wedi’u hadolygu yng Nghymru i egluro na all pobl sy’n rhoi esgus rhesymol dros adael eu cartref (fel siopa am eitemau hanfodol, gofal iechyd neu waith) aros allan i wneud pethau eraill. Mae trefniadau newydd hefyd yn caniatáu i bobl sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau penodol adael eu cartref i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd. Nod penodol y trefniadau hyn yw helpu teuluoedd sydd â phlant ag awtistiaeth ac anableddau dysgu.

Cymorth i hosbisau

19 Ebrill 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol o £6.3 miliwn dros dri mis i hosbisau.

Adolygiad profion

18 Ebrill 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygiad o’i gweithdrefn ar gyfer profi am y coronafeirws. Mae’r adolygiad yn disgrifio ystod o achosion o oedi a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi, ac mae’n cadarnhau “na fyddwn yn cyrraedd 5000 o brofion erbyn trydedd wythnos mis Ebrill”. Mae’n cynnwys ymrwymiad i ddarparu diweddariadau wythnosol yn nodi’r cynnydd disgwyliedig a’r cynnydd gwirioneddol o ran capasiti profi.

Mesurau aros gartref yn parhau

16 Ebrill 2020

Yn dilyn sesiwn friffio’r cyfryngau gan Lywodraeth y DU, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod pedair gwlad y DU wedi cytuno mewn cyfarfod COBR i barhau â’r mesurau cyfredol i aros gartref am dair wythnos yn rhagor. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch adolygu’r rheoliadau sy’n sail i’r cyfyngiadau hyn.

Ymestyn tâl salwch statudol

16 Ebrill 2020

Rheoliadau newydd yn dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i ymestyn y tâl salwch statudol i’r rheini sy’n fregus iawn, sydd â risg uchel o gael salwch difrifol yn sgil y coronafeirws ac a argymhellir iddynt aros gartref am 12 wythnos.

Cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol

13 Ebrill 2020

Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi £40m ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws. “Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatgan yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fodloni’r galw ychwanegol sydd ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Byddwn yn adolygu’r dyraniad hwn ac yn sicrhau bod rhagor o arian ar gael efallai os bydd angen yn y dyfodol.”

Ehangu ymgynghoriadau fideo

12 Ebrill 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad pellach i gyflwyno gwasanaeth ymgynghori fideo i ofal eilaidd a gofal yn y gymuned. “Bydd y system hon yn galluogi gwasanaethau allweddol i gadw cysylltiad gweledol â chleifion, sydd yn arbennig o bwysig yn achos rhai gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl.”

Cyllid ar gyfer elusennau

8 Ebrill 2020

Canghellor y DU yn cyhoeddi cyllid o £750 miliwn ar gyfer y sector elusennau. Caiff cyfran o’r cyllid hwn ei ddyrannu drwy’r fformiwla Barnett i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofal critigol

5 Ebrill 2020

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi datganiad am gapasiti gofal critigol ac argaeledd peiriannau anadlu yng Nghymru. Dywedodd fod nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru’n cynyddu’n ddyddiol. Ar 3 Ebrill, mae 353 o welyau gofal critigol neu welyau cymorth anadlu mewnwthiol (mae tua 153 fel arfer). Nododd hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo i gaffael 1,035 o beiriannau anadlu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a thrwy drefniadau’r DU, a bod disgwyl i Gymru gael cyfran o gaffaeliad y DU yn seiliedig ar ei phoblogaeth.

Cadw pellter cymdeithasol – gweithleoedd ac angladdau

4 Ebrill 2020

dan reoliadau diwygiedig i Gymru, bydd yn rhaid i fusnesau gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rheol cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr yn cael ei dilyn ymhlith pobl ar eu safle. Cyhoeddir canllawiau i egluro’r camau rhesymol y gellir disgwyl i gyflogwyr eu cymryd. Mae’r rheoliadau hefyd yn egluro’r trefniadau ar gyfer angladdau ac amlosgfeydd. Mae’r rheoliadau, sy’n diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, yn dod i rym ar 7 Ebrill 2020.

Apwyntiadau gyda meddygon teulu dros y we

2 Ebrill 2020

Gwasanaeth fideo-ymgyngoriadau yn cael ei gyflwyno ym mhob practis meddyg teulu yng Nghymru.

Cyfarpar Diogelu Personol (CDP)

2 Ebrill 2020

Yn dilyn adolygiad cyflym o CDP ar draws y DU, cyhoeddir canllawiau newydd ledled y DU.

Cefnogaeth economaidd ychwanegol

30 Mawrth 2020

Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi Cronfa Cadernid Economaidd newydd i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi, busnesau ac elusennau Cymru.

Datganiad o fygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru

29 Mawrth 2020

O ganlyniad i’r datganiad galluogir Gweinidogion Cymru i ddefnyddio’r pwerau a roddir iddynt yn Rhan 4 o Atodlen 22 i Ddeddf Coronafeirws 2020, sy’n ymwneud â gwahardd neu gyfyngu ar ddigwyddiadau neu gynulliadau ac â chau mangre neu osod cyfyngiadau ar bobl sy’n dod i mewn neu’n aros y tu mewn i fangre.

Tâl salwch statudol o’r diwrnod cyntaf

28 Mawrth 2020

Rheoliadau newydd yn dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sy’n caniatáu i dâl salwch statudol gael ei dalu o ddiwrnod cyntaf absenoldeb gweithiwr oherwydd y coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd bod ganddynt symptomau coronafeirws a’r rhai sydd yn aelwyd rhywun sydd â’r symptomau.

Profion newydd

28 Mawrth 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi cynllun profi coronafeirws newydd ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno prawf gwrthgyrff newydd (sy’n cael ei brofi yn y DU yn ystod yr wythnos sydd i ddod) a fydd yn nodi a yw pobl wedi cael y feirws yn ddiweddar ac a oes ganddynt imiwnedd.

Stadiwm Principality i ddod yn ysbyty maes

27 Mawrth 2020

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cyhoeddi y bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn dod yn ysbyty dros dro i ddarparu 2,000 o welyau ychwanegol i’r GIG. Cefnogir hyn gan £8 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu capasiti gwelyau ychwanegol mewn rhannau eraill o Gymru. Daeth rheoliadau newydd i rym ar 30 Mawrth 2020 sy’n caniatáu i awdurdod lleol ymgymryd â datblygiad ar ei dir mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws heb iddo orfod cael caniatâd cynllunio. O ganlyniad, gallai awdurdodau lleol ddefnyddio canolfannau hamdden fel ysbytai dros dro, er enghraifft.

Rhoddodd y Gweinidog Iechyd fanylion pellach am ysbytai maes yng Nghymru mewn datganiad ysgrifenedig ar 5 Ebrill 2020.

Cau llwybrau a thir cyhoeddus

27 Mawrth 2020

Gan ddefnyddio’r pwerau newydd i orfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae nifer o lwybrau a thir cyhoeddus yng Nghymru ar gau, gan gynnwys yr Wyddfa, Pen y Fan a rhannau o arfordir Sir Benfro.

Cymorth i’r hunangyflogedig

26 Mawrth 2020

Canghellor y Trysorlys yn amlinellu cynllun cymhorthdal incwm newydd y DU i bobl hunangyflogedig y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt yn andwyol.

Pwerau’r heddlu

26 Mawrth 2020

Mae rheoliadau newydd yn dod i rym sy’n rhoi pŵer i’r heddlu orfodi cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Gellir cyfeirio pobl nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau i ddychwelyd adref (neu gael eu symud o ble bynnag y maent a’u hanfon adref) a gallent gael hysbysiad cosb benodedig.

Cario gwyliau blynyddol ymlaen

26 Mawrth 2020

Rheoliadau newydd yn dod i rym ar draws Prydain Fawr yn caniatáu i weithwyr, nad yw’n rhesymol iddynt gymryd gwyliau blynyddol oherwydd y coronafeirws, gario eu gwyliau drosodd i’r ddwy flwyddyn wyliau nesaf.

Gofal a chymorth awdurdodau lleol

26 Mawrth 2020

Gwneud rheoliadau newydd yng Nghymru i ddod â darpariaethau o Ddeddf y Coronafeirws 2020 i rym ac i lacio rhai o ddyletswyddau awdurdodau lleol o ran asesu a bodloni anghenion am ofal a chymorth. Bellach, nid oes ond angen i awdurdodau lleol fodloni gofynion yr achosion mwyaf difrifol lle bo rhywun yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Deddf Coronafeirws 2020

25 Mawrth 2020

Yn dilyn cydsyniad gan ddau Dŷ’r Senedd, mae Bil Coronafeirws wedi cael Cydsyniad Brenhinol.

Cydsyniad Deddfwriaethol

24 Mawrth 2020

Mae’r Cynulliad wedi cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Coronafeirws.

Pan fydd Senedd y DU am ddeddfu ar rywbeth a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ôl confensiwn, mae angen iddi gael cydsyniad y Cynulliad cyn pasio’r ddeddfwriaeth dan sylw. Rhoddir y cydsyniad hwn drwy Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

Gwarchod y rhai sydd fwyaf agored i niwed

24 Mawrth 2020

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer pobl a nodir fel y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgîl y coronafeirws. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am ddarparu meddyginiaeth a bwyd, yn ogystal â chyfarwyddiadau i rywun sy’n byw gyda phobl sy’n fwyaf agored i niwed.

Atal twristiaid

23 Mawrth 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd meysydd carafannau, meysydd gwersylla a chyrchfannau poblogaidd i dwristiaid ar gau i ymwelwyr “o heddiw ymlaen”. Daeth rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gau parciau gwyliau, parciau gwersylla, arcêds difyrion a chanolfannau chwarae dan do yng Nghymru i rym ar 24 Mawrth 2020. Mae’r rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer cau tir a llwybrau cerdded penodol. Daeth y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i gymryd lle’r rheoliadau hyn yn ddiweddarach, sef ar 26 Mawrth 2020.

Anerchiad y Prif Weinidog

23 Mawrth 2020

Prif Weinidog y DU yn annerch y genedl – mae’n ofynnol i bawb aros gartref bellach ac eithrio ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn. Bydd siopau a mannau cymunedol nad ydynt yn hanfodol yn cau, a gwaherddir i fwy na dau berson ymgynnull yn gyhoeddus. Mae’r mesurau hyn yn cael eu gorfodi gan yr heddlu ac awdurdodau perthnasol eraill. Prif Weinidog Cymru yn gwneud datganiad ar y mesurau newydd.

Teithio yng Nghymru

22 Mawrth 2020

Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod cadw pellter cymdeithasol “yn cynnwys osgoi pob taith heblaw am rai hanfodol ac os na fydd pobl yn dilyn y cyngor yma ni fydd gennym unrhyw ddewis ond defnyddio pwerau i’w orfodi”.

Cynllun cadw swyddi coronafeirws

20 Mawrth 2020

Mae’r Canghellor yn cyhoeddi bod Cynllun Cadw Swydd Coronafeirws yn cael ei greu fel y gall unrhyw gyflogwyr yn y DU gysylltu â Chyllid a Thollau EM am grant i dalu 80 y cant o gyflogau gweithwyr y parheir i’w cyflogi. Bydd y Cynllun yn talu costau cyflogau wedi’u hôl-ddyddio i 1 Mawrth 2020; fe’i sefydlwyd i dalu am o leiaf tri mis i ddechrau.

Rhai busnesau yn cael eu gorfodi i gau 

20 March 2020

Cyhoeddodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth “yn dweud wrth gaffis, tafarndai, bariau, bwytai i gau heno” yn ogystal â “chlybiau nos, theatrau, sinemâu, campfeydd a chanolfannau hamdden”. Daeth Rheoliadau a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau a oedd yn gwerthu bwyd neu ddiod i’w bwyta ar y safle i gau i rym yng Nghymru a Lloegr y diwrnod canlynol. Daeth y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i gymryd lle’r rheoliadau hyn yn ddiweddarach, sef ar 26 Mawrth 2020.

Cyflwyno bil brys

19 Mawrth 2020

Cyflwyno Bil Coronafeirws 2019-21 yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, mae’r Bil yn sicrhau bod yr asiantaethau a’r gwasanaethau dan sylw, sef ysgolion, ysbytai, yr heddlu ac ati, â’r cyfarpar a’r pwerau sydd eu hangen arnynt. Mae gan y pedair gwlad yn y DU ei chyfres ei hun o gyfreithiau, ac felly mae’r cyfarpar a’r pwerau hyn yn amrywio ym mhob ardal i raddau. Dywedir mai’r ffordd orau i sicrhau canlyniadau cyson fydd gwneud y gyfres o gyfarpar a phwerau yn gyson ar draws y DU. Mae crynodeb Ymchwil y Senedd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y Bil a’i oblygiadau i Gymru.

Pwyllgor yn holi Gweinidog ynghylch cau ysgolion

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i drafod effaith COVID-19 ar addysg, gan gynnwys canslo arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn.

Ysgolion yng Nghymru yn cau

18 Mawrth 2020

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi y bydd yn cyflwyno toriad y Pasg yn gynharach ac y bydd ysgolion ledled Cymru “yn cau am ddarpariaeth addysg statudol” erbyn 20 Mawrth 2020.

Rheoliadau diogelu iechyd Cymru

18 Mawrth 2020

Daw rheoliadau i rym sy’n darparu ar gyfer “gosod cyfyngiadau cymesur” ar unigolion lle yr amheuir y gallent fod â choronafeirws. Gwnaed Rheoliadau tebyg yn Lloegr fis Chwefror. Daeth y Ddeddf Coronafeirws 2020, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020, i gymryd lle’r rheoliadau hyn.

Llywodraeth Cymru yn briffio’r Pwyllgor Iechyd

18 Mawrth 2020

Cafodd y Pwyllgor  sesiwn friffio technegol gan y Prif Swyddog Meddygol ar yr ymateb i COVID-19 yng Nghymru, a gan y Gweinidog Iechyd ar y ddeddfwriaeth frys.

Deddfwriaeth frys

17 Mawrth 2020

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi manylion o’r mesurau arfaethedig i’w cynnwys yn y ddeddfwriaeth frys ar goronafeirws.

Cymorth i fusnesau

17 Mawrth 2020

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, gymorth i fusnesau bach yng Nghymru. Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael gostyngiad o 100% mewn ardrethi busnes, a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000.

Diwygio busnes y Cynulliad

17 Mawrth 2020

Bydd busnes y Cynulliad yn blaenoriaethu COVID-19 ac mae holl fusnes nad yw’n frys wedi’i atal. Adeilad y Senedd ar gau i ymwelwyr.

Cyngor wedi’i ddiweddaru a phellter cymdeithasol

16 Mawrth 2020

Gwnaeth y Prif Weinidog, Boris Johnson, ddiweddaru’r cyngor os oes gan unrhyw un yn y cartref beswch parhaus neu dymheredd uchel, dylai pawb yn y cartref hunanynysu am 14 diwrnod.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd y dylai holl gyswllt nad yw’n hanfodol a theithio diangen ddod i ben, a dylai pobl ddechrau gweithio gartref lle bo hynny’n bosibl. Mae’r pellter cymdeithasol hwn yn arbennig o bwysig i bobl sy’n hŷn na 70 mlwydd oed, menywod beichiog a phobl sydd â rhai cyflyrau meddygol, ac ychwanegodd y bydd yn ofynnol mynd ymhellach a sicrhau bod y rhai sydd â’r cyflyrau meddygol mwyaf difrifol yn cael eu gwarchod i raddau helaeth rhag cael cyswllt cymdeithasol am oddeutu 12 wythnos. Dywedodd Llywodraeth y DU na fyddant bellach yn cefnogi cynulliadau torfol gyda gweithwyr brys.

Gohirio apwyntiadau GIG nad ydynt yn rhai brys

13 Mawrth 2020

Mae Vaughan Gething yn cyhoeddi atal nifer o wasanaethau’r GIG, gan gynnwys gohirio apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys a gohirio derbyniadau a gweithdrefnau llawfeddygol nad ydynt yn rhai brys. Dywed y Gweinidog y bydd “y camau hyn yn caniatáu i wasanaethau a gwelyau gael eu hailddyrannu ac i staff gael eu hadleoli a’u hailhyfforddi mewn meysydd blaenoriaeth”.

Rheoliadau tâl salwch statudol

13 Mawrth 2020

Mae rheoliadau newydd yn dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar gyfer pobl sy’n hunanynysu yn unol â chanllawiau sy’n ymwneud â COVID-19, sef y bernir na allant weithio a bod ganddynt hawl i dâl salwch statudol.

Cam oedi

12 Mawrth 2020

Mae’r DU yn symud i’r cam oedi, ac mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi codi lefel y risg i’r DU o ‘gymedrol’ i ‘uchel’. Cyhoeddir cyngor newydd sy’n dweud y dylid hunanynysu am saith diwrnod os ydych chi’n datblygu tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd. Nid oes angen gweld meddyg teulu na mynd i’r fferyllfa na’r ysbyty. Argymhellir ffonio 111 dim ond os nad yw’r symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod neu os yw’ch cyflwr yn gwaethygu.

Ymgynghoriadau iechyd fideo

12 Mawrth 2020

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi y bydd gwasanaeth ar y we yn caniatáu i bobl sy’n hunanynysu ddefnyddio fideo i siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG a chael cyngor ganddynt.

Pandemig

11 Mawrth 2020

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio COVID-19 fel pandemig, ond mae’n pwysleisio nad yw hyn yw’n newid asesiad Sefydliad Iechyd y Byd o’r bygythiad sy’n deillio o’r coronafeirws. “It doesn’t change what WHO is doing, and it doesn’t change what countries should do”. (Mae’r term ‘pandemig’ yn cyfeirio at ledaeniad clefyd heintus newydd ar draws sawl gwlad, yn hytrach na’i ddifrifoldeb neu nifer yr achosion/marwolaethau).

Cyllideb 2020

11 Mawrth 2020

Mae Canghellor y DU yn cyhoeddi pecyn o fesurau gwerth £12 biliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, unigolion a busnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Mae’n cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau, newidiadau i dâl salwch statudol, a chynnydd dros dro yn y gostyngiad ardrethi busnes ar gyfer manwerthwyr (yn Lloegr yn unig). Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu‘r cyhoeddiad, ond mae am gael eglurder pellach ynghylch sut y bydd y mesurau yn cael eu hariannu’n llawn. “Rydym wrthi’n trafod â Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael y cyllid y mae arni ei hangen i ddelio â’r effaith, yn enwedig o ystyried y pwysau a allai ddod i’r amlwg oherwydd ein patrwm demograffig”.

‘COBRA Cymru’

10 Mawrth 2020

Mae’r Prif Weinidog yn cadarnhau bod grŵp gweinidogol craidd wedi cael ei sefydlu a’i fod yn cyfarfod yn wythnosol, “i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i ymateb ar frys ac ar unwaith pan fo angen ymateb o’r fath”. Hefyd, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at y ffaith bod Prif Weithredwr GIG Cymru yn sefydlu ‘tîm cynllunio ac ymateb o blith GIG Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol’, a fydd yn “rhoi cymorth parhaus, yn cydgysylltu ac yn integreiddio’r ymateb o ran y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol”.

Cam cyfyngu

09 Mawrth 2020

Mae Prif Weinidog y DU yn cadeirio cyfarfod COBRA brys, gyda Phrif Weinidog Cymru, Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon yn bresennol. Mae Prif Weinidog y DU yn cyhoeddi bod y DU yn aros yng ngham cyntaf yr achosion, sef ‘cyfyngu’, ond bod paratoadau helaeth yn cael eu gwneud ar gyfer mynd i’r cam ‘oedi’.

Deddfwriaeth frys

08 Mawrth 2020

Mae Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd Bil COVID-19 Brys ar ddod, fel rhan o ymateb fesul cam y DU i’r feirws. Mae’r ddeddfwriaeth, a fydd yn gymwys  i bedair gwlad y DU, yn darparu pwerau brys i Gymru ymateb i’r achosion yn sydyn ac effeithiol.

Clefyd hysbysadwy

05 Mawrth 2020

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael eu gwneud, gan wneud COVID-19 yn glefyd hysbysadwy yng Nghymru. Caiff rheoliadau cyfatebol i Loegr eu gwneud ar yr un dydd. Yr Alban oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud COVID-19 yn glefyd hysbysadwy (o 22 Chwefror 2020), ac yna Gogledd Iwerddon (29 Chwefror 2019).

Briffio’r Pwyllgor Iechyd

04 Mawrth 2020

Cynhelir cyfarfod arbennig o Gabinet Cymru. Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cael brîff technegol gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, y Prif Swyddog Meddygol, ac arweinydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cynllun gweithredu y DU

03 Mawrth 2020

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei chynllun gweithredu: Coronavirus action plan: a guide to what you can expect. Mae’r cynllun gweithredu ar y cyd hwn rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn nodi ymateb fesul cam i’r feirws. Mae hyn yn cynnwys y ‘cam cyfyngu’, y ‘cam oedi’, ‘cam ymchwilio’ hyd at y ‘cam lliniaru’. Nodwyd yn y cynllun gweithredu y byddai’r llywodraeth yn ystyried opsiynau deddfwriaethol, pe bai angen, i helpu systemau a gwasanaethau weithio’n fwy effeithiol i drechu’r achosion o’r feirws, ac y byddai’n sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.

Yr achos cyntaf yng Nghymru

28 February 2020

Cadarnheir achos cyntaf Cymru o’r coronafeirws. Roedd y claf wedi teithio yn ôl i Gymru o ogledd yr Eidal.

Rheoliadau diogelu iechyd

10 Chwefror 2020

Mae rheoliadau yn cael eu gwneud ar gyfer Lloegr o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, sy’n rhoi pwerau i weithwyr iechyd proffesiynol gadw unigolion ar wahân lle y credir bod risg resymol y gall y feirws fod ar unigolyn. Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru ei fod yn ystyried a oedd angen deddfwriaeth debyg yng Nghymru. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud y rheoliadau cyfatebol ar gyfer Cymru o dan Ddeddf 1984.

Dim ffioedd GIG ar gyfer ymwelwyr tramor

04 Chwefror 2020

Gosodir Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020. Mae’r rhain yn esemptio ymwelwyr tramor rhag gorfod talu am ddiagnosis ac am driniaeth ar gyfer COVID-19 yng Nghymru. Mae rheoliadau cyfatebol hefyd mewn grym yn Lloegr (o 29 Ionawr 2020). Daeth y Ddeddf Coronafeirws 2020, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020, i gymryd lle’r rheoliadau hyn

Golchwch eich dwylo

01 Chwefror 2020

Ar 1 Chwefror, mae Llywodraeth y DU yn lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i gynghori ar sut i arafu lledaeniad COVID-19, sy’n debyg i’r ymgyrch ‘Ei Ddal. Ei Daflu. Ei Ddifa’. Mae’r ymgyrch yn pwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi’r ymgyrch.

Lefel y risg yn y DU

31 Ionawr 2020

Cadarnheir achosion cyntaf o’r coronafeirws yn y DU. Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn cynghori codi lefel yn risg yn y DU o isel i gymedrol. Fodd bynnag, fe’i gwnaed yn glir nad yw hyn yn golygu y credir bod y risg i unigolion yn y Deyrnas Unedig wedi newid, ond dylai llywodraethau gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd.

Argyfwng iechyd cyhoeddus

30 Ionawr 2020

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi bod COVID-19 wedi cwrdd â’r meini prawf ar gofer bod yn Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol (PHEIC).

Gwelir y coronafeirws gyntaf yn Tsieina

31 Rhagfyr 2019

Adroddir nifer o achosion o niwmonia yn Wuhan, Tsieina; yn ddiweddarach, fe nodir eu bod yn straen newydd o’r coronafeirws nas gwelwyd mewn pobl o’r blaen: y coronafeirws newydd (y cyfeirir ato fel COVID-19 o 11 Chwefror).


Erthygl gan Philippa Watkins a Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddarllen ein herthyglau ar y coronafeirws a thrwy danysgrifio i’n rhestr bostio.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: