Gweithwyr lab

Gweithwyr lab

Llinell amser coronafeirws: Ymateb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Cyhoeddwyd 19/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae llinell amser newydd ar gyfer y Chweched Senedd ar gael. Bydd fersiwn archif o linell amser y Bumed Senedd yn parhau i fod ar gael o’r dudalen hon hefyd.


Mae'r llinell amser isod yn tynnu sylw at ddatblygiadau yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig mewn ymateb i’r coronafeirws - COVID-19.

Mae fersiwn PDF a fersiwn Excel o’r llinell amser hon ar gael i chi ei lawrlwytho

Cynnal Etholiad y Senedd

6 Mai 2021

Pobl Cymru wrthi’n bwrw pleidlais er mwyn dewis y Senedd nesaf.

Cymru yn symud i lefel rhybudd 3

3 Mai 2021

O heddiw ymlaen ,mae Cymru’n destun cyfyngiadau lefel rhybudd 3 fel y cadarnhawyd gan y Prif Weinidog ar 30 Ebrill.

Disgwylir yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau Coronafeirws erbyn 13 Mai 2021, felly bydd yn cael ei gynnal gan Lywodraeth newydd Cymru yn dilyn Etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021. Yn flaenorol, mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi'i nodi y gallai Cymru symud i lefel rhybudd 2 ar 17 Mai 2021.

Etholiad y Senedd i fynd rhagddo ar 6 Mai 2021.

27 Ebrill 2021

Mae Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r bwriad i gynnal etholiad Senedd 2021, oherwydd y Coronafeirws. Yn dilyn y pedwerydd adolygiad – a'r adolygiad terfynol – ni bennwyd bod angen gohirio'r etholiad.

Adolygiad o’r Rheoliadau Coronafeirws

23 Ebrill 2021

Yn dilyn yr adolygiad gofynnol o reoliadau cyfyngu’r Coronafeirws, y Prif Weinidog sy’n cyhoeddi, o 26 Ebrill ymlaen, y gellir cynnal gweithgareddau pyllau nofio awyr agored, atyniadau awyr agored, gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl a derbyniadau priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl, ynghyd ag ailagor lletygarwch awyr agored.

O 3 Mai 2021 ymlaen, gall campfeydd a chanolfannau hamdden ailagor, bydd modd cael aelwydydd estynedig, gall gweithgareddau dan do i blant a gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 15 o bobl ddechrau eto.

Llacio’r rheolau ar gwrdd yn yr awyr agored

19 Ebrill 2021

O ddydd Sadwrn 24 Ebrill ymlaen, bydd unrhyw chwech o bobl yn gallu cwrdd yn yr awyr agored. Dyma newid o'r rheol bresennol, lle gall chwech o bobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored.

At hynny, y Prif Weinidog sy’n cadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor ar 26 Ebrill.

Profion llif unffordd ar gyfer y rheini na allant weithio gartref

14 Ebrill 2021

Y Gweinidog Iechyd sy’n annog pawb na allant weithio gartref i gael mynediad at offer prawf llif unffordd, wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno ledled Cymru. Gellir casglu'r offer profi cyflym o safleoedd profi o 16 Ebrill ymlaen. Argymhellir bod profion yn cael eu cymryd ddwywaith yr wythnos, a bod y canlyniadau'n cael eu cofnodi ar wefan Llywodraeth y DU.

Brechlynnau ar gyfer cysylltiadau yn y cartref gydag oedolion â gwrthimiwnedd difrifol

13 Ebrill 2021

Llywodraeth Cymru sy’n dweud ei bod wedi derbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylid cynnig brechiadau COVID-19 i bobl dros 16 oed sy'n byw gydag unigolion â systemau imiwnedd difrifol wan.

Llacio cyfyngiadau’n gynharach

8 Ebrill 2021

Y Prif Weinidog sy’n cyhoeddi, wrth i'r sefyllfa iechyd cyhoeddus barhau i wella, y bydd y cynllun arfaethedig i agor gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, a derbyniadau priodas awyr agored, yn cael eu ddwyn ymlaen i 26 Ebrill.

O 3 Mai ymlaen – wythnos ynghynt nag a nodwyd yn flaenorol – bydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor, a chaniateir aelwydydd estynedig eto.

Trydydd brechlyn yn cyrraedd Cymru

7 Ebrill 2021

Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, sy’n cyhoeddi bod trydydd brechlyn COVID-19 – Moderna – yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o heddiw ymlaen. Fe'i hawdurdodwyd i'w ddefnyddio gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ym mis Ionawr 2021.

Llacio cyfyngiadau

31 Mawrth 2021

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, sy’n cyhoeddi ym mha fodd y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio i mewn i ganol mis Mai, er mwyn symud Cymru i lefel rhybudd 3, yn ddarostyngedig i gyflwr iechyd cyhoeddus.

Ar 12 Ebrill, bydd pob plentyn a myfyriwr yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb yng Nghymru, bydd pob sefydliad manwerthu nad yw'n hanfodol yn gallu ailagor, a chaniateir teithio allan o Gymru i weddill y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon. Mae Gweinidogion Cymru yn anelu at ailagor atyniadau awyr agored a lletygarwch awyr agored – gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai – ar 26 Ebrill.

Strategaeth brofi wedi'i diweddaru

30 Mawrth 2021

Llywodraeth Cymru sy’n cyhoeddi ei strategaeth brofi COVID-19 wedi'i diweddaru, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 2020. Mae'r diweddariad yn nodi sut y bydd technoleg profi newydd yn gweithio ochr yn ochr â'r seilwaith presennol, gyda phum blaenoriaeth at ddibenion profi.

Cyfyngiadau aros yn lleol wedi’u codi

25 Mawrth 2021

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau aros yn lleol yn cael eu codi o ddydd Sadwrn 27 Mawrth. O'r dyddiad hwn, gall llety hunangynhwysol a llyfrgelloedd ailagor, gellir cynnal gweithgareddau awyr agored i blant a gall chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol gyfarfod yn yr awyr agored.

Strategaeth frechu wedi'i diweddaru

23 Mawrth 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi diweddariad i'w Strategaeth Frechu sy'n nodi statws presennol y rhaglen frechu a'r camau nesaf. Trydedd garreg filltir y Llywodraeth yw cynnig y dos cyntaf o frechlyn i'r rhai 18-49 oed erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Strategaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran cael brechlyn

23 Mawrth 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi COVID-19: Strategaeth brechu teg i Gymru sy'n nodi y bydd Pwyllgor Brechu Teg newydd yn sicrhau y caiff y rhaglen frechu ei darparu'n gyfiawn ac yn deg. Bydd y Pwyllgor yn dilyn trywydd a arweinir gan y gymuned i fynd i'r afael â’r pryderon a'r rhwystrau penodol sydd ynghlwm wrth frechu.

Digwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws

23 Mawrth 2021

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cymryd rhan yn nigwyddiad coffa cenedlaethol y coronafeirws i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi marw yn ystod y pandemig ac i gydymdeimlo â’r rhai sy’n galaru am eu hanwyliaid. Cynhelir munud o dawelwch i gofio’r rhai sydd wedi marw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ymestyn y rhaglen profi cymunedol

22 Mawrth 2021

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y bydd rhaglen profi cymunedol COVID-19 yn cael ei hymestyn hyd ddiwedd mis Medi 2021 i helpu i reoli brigiadau o achosion a thargedu ardaloedd sy'n gweld cynnydd cyflym mewn achosion. Mae profion wedi’u cynnal ar gyfer unigolion asymptomatig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ers dechrau mis Mawrth ac mae cynlluniau hefyd ar y gweill yn Ynys Môn mewn ymateb i’r brigiad o achosion yng Nghaergybi.

Etholiad Senedd diogel o ran COVID

22 Mawrth 2021

Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhyddhau £1.5m i alluogi gwneud gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd yn ddiogel o ran COVID. Mae’r cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i sicrhau’r staff a’r offer ychwanegol sydd eu hangen er mwyn diogelu iechyd staff a’r cyhoedd.

Cynllun adfer ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

22 Mawrth 2021

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi cynllun adfer, sydd â £100 miliwn o gyllid y tu ôl iddo, i gefnogi adferiad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y pandemig. Mae’r cynllun yn trafod materion allweddol fel lleihau anghydraddoldebau iechyd, sefydlu gwasanaethau iechyd meddwl cefnogol a chynnig cymorth digidol hygyrch.

Cynllun rheoli’r coronafeirws wedi’i ddiweddaru

19 Mawrth 2021

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ei chynllun rheoli’r coronafeirws, sy’n cynnwys gwybodaeth am y rhaglen frechu a straen newydd Caint. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Cymru yn symud o lefel rhybudd 4 i lefel rhybudd 3 yn y cyfnod hyd at 22 Ebrill 2021.

Taliad bonws i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol

17 Mawrth 2021

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyllido taliad bonws i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol i gydnabod eu cyfraniad yn ystod y pandemig COVID-19. Bydd y taliad untro hwn yn cyfateb i £735 y pen, i dalu am y gyfradd dreth sylfaenol a chyfraniadau yswiriant gwladol. Ar ôl didyniadau bydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn £500.

Creu coedlannau coffa

16 Mawrth 2021

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi y bydd coedlannau coffa yn cael eu creu er cof am y bobl sydd wedi marw o’r coronafeirws. Bydd dwy goedlan yn cael eu creu, un yng ngogledd Cymru a’r llall yn y de. Y gobaith yw y gall teuluoedd a ffrindiau fynd iddynt i gofio am eu hanwyliaid a fu farw. Bydd y coedlannau hefyd yn rhywle i’r cyhoedd fyfyrio ar y pandemig a’i effaith.

Newid y cyngor ynghylch gwarchod

12 Mawrth 2021

Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi y dylid cael saib, yn dilyn argymhelliad y Prif Swyddog Meddygol, o ran y cyngor i’r rheini sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ddilyn mesurau gwarchod, a hynny o 1 Ebrill 2021.  

Cymorth ychwanegol i fusnesau yng Nghymru

12 Mawrth 2021

Ken Skates, Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn cyhoeddi bod £150 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi busnesau yng Nghymru wrth iddynt ymdopi ag effaith barhaus pandemig y coronafeirws.  Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau sy'n gweithredu yn y sectorau twristiaeth, hamdden a manwerthu nad yw’n hanfodol sy’n talu ardrethi annomestig, a bydd yn ychwanegiad i’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Cymru yn cymryd y camau cyntaf i lacio’r cyfyngiadau symud

12 Mawrth 2021

Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cyhoeddi y bydd rheol interim newydd i aros yn lleol yn cymryd lle’r cyfyngiadau aros gartref o 13 Mawrth 2021, sy'n golygu y caiff pobl adael eu cartrefi a theithio yn eu hardaloedd lleol, fel arfer o fewn 5 milltir (gyda rhywfaint o hyblygrwydd). Hefyd o 13 Mawrth, caiff hyd at 4 person o 2 aelwyd gwrdd yn eu hardal leol yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi (nid yw’r terfyn hwn yn cynnwys plant dan 11 oed na gofalwyr); caiff cyfleusterau chwaraeon awyr agored ailagor (uchafswm o 4 person o 2 aelwyd), a chaiff ymweliadau dan do â chartrefi gofal ailddechrau ar gyfer un ymwelydd dynodedig.

O 15 Mawrth 2021, caiff siopau trin gwallt a siopau barbwr ailagor ar gyfer apwyntiadau yn unig. Bydd pob disgybl cynradd a'r rheini sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn dychwelyd i'r ysgol. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â disgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 12 yn eu hôl, a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau. Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd i ddysgu ar y safle ar 12 Ebrill 2021.

O 22 Mawrth 2021, bydd cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu codi ar gyfer y siopau hynny sydd ar agor ar hyn o bryd. Bydd canolfannau garddio hefyd yn ailagor.

Os bydd yr amodau iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol, o 27 Mawrth 2021, bydd y cyfyngiadau aros yn lleol yn cael eu codi i ganiatáu i bobl deithio yng Nghymru; bydd llety gwyliau hunangynhwysol yn ailagor ar gyfer un aelwyd; bydd gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer plant yn cael ailddechrau; a bydd llyfrgelloedd yn ailagor.

Wrth gynnal yr adolygiad ar 1 Ebrill 2021, ystyrir a oes modd ailagor yr holl siopau sy’n weddill a gwasanaethau cyswllt agos ar 12 Ebrill 2021

Brechlyn COVID-19 ar gyfer pobl ddigartref

10 Mawrth 2021

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y bydd pobl ddigartref a phobl sydd wedi bod yn ddigartref yn ddiweddar yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.   

Profion ar gyfer cysylltiadau agos y rheini sydd wedi cael prawf positif

10 Mawrth 2021

Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi y bydd pobl sy'n gysylltiadau agos i’r rheini sydd wedi cael canlyniad positif mewn prawf coronafeirws, ac y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y tîm olrhain cysylltiadau, bellach yn cael cynnig prawf coronafeirws. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi £50 miliwn yn ychwanegol i ganiatáu i fyrddau iechyd ymestyn y gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf.

Fframwaith ar gyfer rhoi profion COVID-19 i gleifion mewn ysbytai yng Nghymru

9 Mawrth 2021

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi fframwaith ar gyfer rhoi profion i gleifion mewn ysbytai yng Nghymru er mwyn atal y coronafeirws rhag mynd i mewn i ysbytai heb yn wybod, ei atal rhag lledaenu mewn ysbytai ac i sicrhau bod modd rhyddhau cleifion yn ddiogel i fynd adref neu i ofal cymunedol.  

Y wybodaeth ddiweddaraf am ymweliadau â chartrefi gofal

4 Mawrth 2021

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi y dylai ymweliadau dan do â chartrefi gofal gan un ymwelydd dynodedig allu ailddechrau o 13 Mawrth 2021 ymlaen, fel rhan o'r pecyn o fesurau ehangach sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad tair wythnos o reoliadau’r coronafeirws.  

Mwy o ddisgyblion i ddychwelyd i'r ysgol cyn y Pasg

3 Mawrth 2021

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn cyhoeddi, o 15 Mawrth 2021 ymlaen, bydd gan bob ysgol uwchradd yr hyblygrwydd i roi cyfle i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 gael sesiwn gydag athrawon sy’n canolbwyntio ar roi cymorth ar gyfer lles a pharodrwydd i ddychwelyd yn llawn i'r ysgol ar ôl gwyliau'r Pasg. Ni fydd hyn yn golygu bod blynyddoedd 7, 8 a 9 yn dychwelyd yn llawn i'r ysgol cyn y Pasg. Bydd y cynlluniau yn amodol ar adolygiad rheolaidd tair wythnos Llywodraeth Cymru o reoliadau’r coronafeirws ar 12 Mawrth 2021.

Hwb ariannol o £680 miliwn i Gymru ar gyfer COVID-19

1 Mawrth 2021

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cyhoeddi y bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael hwb ariannol o fwy na £682 miliwn i gefnogi eu hymdrechion COVID-19. Mae'r pecyn yn cynnwys mwy na £635 miliwn ar gyfer y GIG a chynghorau lleol i'w helpu i gefnogi pobl Cymru dros y chwe mis nesaf a £206.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Gronfa Caledi Llywodraeth Leol. Rhoddir cyllid i ymestyn y Gronfa Cymorth Dewisol, i gefnogi prentisiaethau, ac i gynnal darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol.

Y targedau diweddaraf ar gyfer y brechlyn

26 Chwefror 2021

Mae diweddariad o’r strategaeth frechu ar gyfer Cymru yn cael ei gyhoeddi. Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys y targedau diweddaraf o ran cynnig y brechlyn i'r holl grwpiau blaenoriaeth cyfredol erbyn canol mis Ebrill 2021, ac i weddill y boblogaeth oedolion erbyn diwedd mis Gorffennaf 2021.

Rhaglen brofi yn cael ei hehangu

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi bod y cynllun i weithleoedd gynnal profion a sefydlu eu safleoedd profi eu hunain bellach yn cael ei ymestyn i sefydliadau cyhoeddus a phreifat sydd â mwy na 50 o gyflogeion. Mae fframwaith profi COVID-19 yn y gweithle yn cael ei gyhoeddi. Mae’r fframwaith hwn yn nodi'r meini prawf a'r cymorth sydd ar gael. Ar 1 Mawrth 2021, bydd cyfundrefn o brofion cymunedol wedi'u targedu yn dechrau mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, gyda’r nod o adnabod y bobl hynny sydd â’r coronafeirws ond sy’n asymptomatig.

Llwybr yr Alban allan o’r cyfnod clo

24 Chwefror 2021

Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, yn cyhoeddi’r llwybr arfaethedig allan o’r cyfnod clo ar gyfer yr Alban. O dan y cynllun hwn, bydd yr holl ddisgyblion cynradd a rhai disgyblion uwchradd yn dychwelyd i'r ysgol ar 15 Mawrth 2021, a bydd pedwar person o ddwy aelwyd yn cael cwrdd yn yr awyr agored ar yr un dyddiad.

Map ffordd ar gyfer rhoi terfyn ar y cyfnod clo yn Lloegr

22 Chwefror 2021

Mae Prif Weinidog y DU yn gwneud datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin yn amlinellu map ffordd ar gyfer llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo yn Lloegr. Rhennir y map ffordd yn bedwar cam, ac mae cyfnod o bum wythnos o leiaf rhwng pob cam. Mae cam un, sy'n cynnwys pob plentyn yn Lloegr yn dychwelyd i'r ysgol / sefydliadau addysg bellach, yn dechrau ar 8 Mawrth 2021. Nod cam pedwar yw codi’r holl gyfyngiadau, ond ni fydd y cam hwn yn dechrau cyn 21 Mehefin 2021.

Y cynnig i gyflenwi profion yn cael ei ymestyn i gynnwys dysgwyr uwchradd a cholegau uwch

22 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu bod yn ymestyn y cynnig i gyflenwi profion llif unffordd rheolaidd y gellir eu defnyddio ddwywaith yr wythnos yn y cartref, er mwyn i’r cynnig gynnwys dysgwr oedran uwchradd uwch. Bydd y broses hon yn dechrau drwy gynnig profion i flynyddoedd 11 i 13 a holl ddysgwyr colegau addysg bellach, a dysgwyr ar raglenni prentisiaeth a hyfforddeiaeth seiliedig ar waith. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod y profion hyn ar gael yn unol â cham nesaf y broses o ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.

Y cyfyngiadau symud i barhau am dair wythnos arall

19 Chwefror 2021

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford,  y bydd y cyfnod clo yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall. Bydd plant rhwng tair a saith oed a’r rhai sy'n sefyll cymwysterau galwedigaethol â blaenoriaeth yn dechrau dychwelyd yn raddol i'r ysgol o 22 Chwefror 2021 ymlaen. Cyhoeddwyd rhai mân newidiadau i'r rheolau presennol hefyd: o 20 Chwefror 2021, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol yn cael cyfarfod yn yr awyr agored i ymarfer corff yn lleol, gan gadw pellter cymdeithasol (ond nid mewn gerddi preifat); o 1 Mawrth 2021, gall lleoliadau priodas trwyddedig ailagor ond dim ond i gynnal seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil; bydd trefniadau’n mynd rhagddynt i ragor o athletwyr elitaidd ailddechrau ymarfer a chwarae ac, oherwydd y cynnydd yn y nifer sydd wedi cael eu brechu, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych eto ar y canllawiau ar gyfer ymweld â chartrefi gofal. Yn ôl y Prif Weinidog, os bydd y sefyllfa’n parhau i wella dros y tair wythnos nesaf, mae’n bosibl y bydd mwy o blant ysgolion cynradd a myfyrwyr hŷn yn dychwelyd i’r ysgol o 15 Mawrth 2021 ymlaen.

Diweddaru cynllun rheoli’r coronafeirws yng Nghymru

19 Chwefror 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi diweddaru cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2020. Mae’r diweddariad - Cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru (llacio’r cyfyngiadau’n raddol) - yn cynnwwys dealltwriaeth bresennol Llywodraeth Cymru o effaith yr amrywiolynnau newydd, y systemau sydd ar waith i ymateb i'r heriau presennol, a'r modd y bydd yn llacio’r cyfyngiadau’n raddol.

Rhagor o bobl yn gymwys i wneud cais am y taliad cymorth hunanynysu

17 Chwefror 2021

Cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol newidiadau i’r cynllun Taliad Cymorth Hunanynysu, gwerth £500, sydd wedi'i ymestyn tan fis Mehefin 2021. Yn awr, gall pobl sydd ag incwm personol o lai na £500 yr wythnos a'r rhai sy’n cael Tâl Salwch Statudol Sylfaenol wneud cais am y taliad os bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, ap Covid-19 y GIG neu leoliad addysg eu plentyn yn gofyn iddynt hunanynysu.

Cyflwyno mesurau pellach mewn perthynas â theithio rhyngwladol

13 Chwefror 2021

Yn seiliedig ar gyngor gan y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac i sicrhau cysondeb rhwng gwledydd y DU, mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cyhoeddi y bydd mesurau pellach mewn perthynas â theithio rhyngwladol yn cael eu cyflwyno o 15 Chwefror 2021. O dan y mesurau hyn, ni fydd teithwyr o “wledydd rhestr goch” yn cael teithio i Gymru yn uniongyrchol. Bydd teithwyr o’r gwledydd hyn ond yn gallu teithio i Gymru drwy borth dynodedig (yn Lloegr neu’r Alban) ac ar ôl treulio 10 diwrnod mewn cyfleuster cwarantin a reolir. Bydd yn rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o wledydd rhestr oren ynysu am ddeg diwrnod a threfnu prawf COVID-19 ar ail ddiwrnod ac wythfed diwrnod y cyfnod ynysu.

Cyrraedd carreg filltir gyntaf y rhaglen frechu

12 Chwefror 2021

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi bod carreg filltir gyntaf y rhaglen frechu yng Nghymru wedi’i chyrraedd, sy’n golygu bod pawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf wedi cael cynnig brechlyn.

Y Senedd yn pasio Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

10 Chwefror 2021

Mae Aelodau o’r Senedd wedi pasio’r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), sy’n cyflwyno ystod o fesurau mewn perthynas ag etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae’r Bil yn caniatáu i ddyddiad y bleidlais gael ei ohirio os penderfynir ei bod yn anniogel cynnal yr etholiad oherwydd pandemig y coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud “y dylid bwrw ymlaen â’r etholiad ar 6 Mai 2021 fel y bwriadwyd”.

Cyhoeddi y bydd plant 3-7 oed yn dychwelyd i'r ysgol

5 Chwefror 2021

Gweinidog Addysg Cymru yn cyhoeddi y bydd plant 3–7 oed yn dechrau dychwelyd i’r ysgol yn raddol i gael eu haddysgu wyneb yn wyneb o 22 Chwefror 2021 ymlaen. Bydd yr adolygiad 21 diwrnod nesaf o gyfyngiadau coronafeirws ar 19 Chwefror 2021 yn ystyried a fydd yn bosibl i unrhyw grwpiau blwyddyn eraill ddychwelyd yn raddol i'r ysgol. Disgwylir i ysgolion barhau i ddarparu addysg i blant agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol, a dylai ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion barhau i aros ar agor os oes modd.

Cynnal profion ddwywaith yr wythnos mewn ysgolion

5 Chwefror 2021

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi y bydd y profion cyswllt dyddiol mewn ysgolion a cholegau yn dod i ben am y tro “wrth i ni ddysgu mwy am yr amrywiolion newydd a’u heffaith ar drosglwyddo’r haint”. Yn lle hynny, bydd profion yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos gan ddefnyddio profion llif unffordd - dywed y Gweinidog fy bydd hyn yn rhoi “darlun llawer cliriach o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yn ein hysgolion”.

Mwy o brofion mewn cartrefi gofal

4 Chwefror 2021

Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn cyhoeddi bod profion Covid-19 gwell yn cael eu cyflwyno mewn cartrefi gofal, sy'n cynnwys profi staff cartrefi gofal asymptomatig ddwywaith yr wythnos gan ddefnyddio dyfeisiau prawf llif unffordd cyflym yn ychwanegol at y prawf PCR wythnosol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Pecynnau PPE am ddim i yrwyr tacsi

3 Chwefror 2021

Llywodraeth Cymru yn lansio menter PPE am ddim ar gyfer pob gyrrwr tacsi neu gerbyd hurio trwyddedig yng Nghymru, gan gynnwys gyrwyr Uber.

Gall y rhai sy’n defnyddio ap Covid-19 y GIG wneud cais am daliad hunanynysu

1 Chwefror 2021

O'r dyddiad hwn ymlaen, os gofynnwyd i’r rhai sydd ar incwm isel hunanynysu drwy gyfrwng ap Covid-19 y GIG, byddant yn gallu gwneud cais am y taliad cymorth hunanynysu, gwerth £500, yn ogystal â'r rhai y gofynnodd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu iddynt hunanynysu a rhieni / gofalwyr plant sydd wedi cael cyngor i hunanynysu gan eu lleoliad addysg.

Arian ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc

1 Chwefror 2021

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles yn cyhoeddi y bydd £9.4 miliwn ychwanegol ar gael i hybu iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc. Bydd £4 miliwn o hyn yn cael ei ddefnyddio i’w gwneud yn haws cael cymorth emosiynol ac iechyd meddwl mewn ysgolion, a bydd £5.4 miliwn yn cael ei roi i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i ddarparu cymorth mwy dwys i bobl ifanc.

Adroddiad arbennig y Prif Swyddog Meddygol ar ymateb Cymru i’r pandemig

30 Ionawr 2021

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol arbennig Prif Swyddog Meddygol Cymru sy’n canolbwyntio ar ymateb Cymru i gyfnod cyntaf pandemig y coronafeirws.

Cefnogaeth i fusnesau Cymru

29 Ionawr 2021

Cyhoeddodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, fanylion pellach am y pecyn cymorth gwerth £200 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n parhau i gael eu heffeithio gan y pandemig.

Adolygiad o gyfyngiadau coronafeirws - dychweliad posibl ym mis Chwefror i rai disgyblion ysgolion cynradd

29 Ionawr 2021

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd 4 yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o'r cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, gallai ysgolion cynradd ailagor 'yn raddol ac yn hyblyg' i’r disgyblion ieuengaf o 22 Chwefror os bydd achosion coronafeirws yn parhau i ostwng. Hefyd, bydd dau newid bach i'r cyfyngiadau lefel 4 cyfredol: caiff dau berson o wahanol aelwydydd wneud ymarfer corff yn yr awyr agored gyda’i gilydd (wrth gadw pellter cymdeithasol), ac; os yw trefniant swigen gefnogaeth wedi dod i ben, ceir ffurfio un newydd, ond rhaid aros 10 diwrnod cyn gwneud hynny. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 30 Ionawr 2021.

Estyn y cyngor i'r rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

29 Ionawr 2021

Cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, fod y cyngor a roddir i bobl sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ('gwarchod' gynt), sef na ddylent fynd i'r gwaith neu'r ysgol y tu allan i'r cartref, wedi cael ei ymestyn i 31 Mawrth 2021.

Strategaeth brofi wedi'i diweddaru

28 Ionawr 2021

Cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, strategaeth brofi coronafeirws wedi’i diweddaru. Hefyd, fe gyhoeddwyd fframwaith profi cymunedol sy'n adeiladu ar gynlluniau peilot ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf i brofi pobl asymptomatig er mwyn atal lledaeniad y firws.

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

27 Ionawr 2021

Cyflwynodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), a fydd yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth. Oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â thrywydd y pandemic, mae’r Bil yn cynnig cyflwyno mesurau wrth gefn at ddibenion etholiad y Senedd yn 2021 yn unig. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi gwybodaeth gefndir am y Bil.

Cyllid ar gyfer gwasanaethau digidol GIG Cymru

26 Ionawr 2021

Cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd gyllid ychwanegol gwerth £25 miliwn i helpu GIG Cymru i symud i wasanaethau mwy digidol.

Cynyddu’r Gronfa Cymorth Gofalwyr chwarter miliwn o bunnoedd

21 Ionawr 2021

Cyhoeddodd Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, bod £250,000 pellach ar gael i helpu gofalwyr di-dâl yng Nghymru i ymdopi â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws. Mae’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn agored i ofalwyr ar draws Cymru, a bydd yn darparu grantiau o hyd at £300 ar gyfer ystod o hanfodion, gan gynnwys: bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwyn, neu ddyfeisiau electronig fel gliniaduron i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau. Bydd y Gronfa Cymorth i Ofalwyr ar gael tan 31 Mawrth 2021.

Lansio ap adfer i helpu i gefnogi pobl sydd â COVID hir

20 Ionawr 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, bod ap dwyieithog ar gyfer adferiad yn dilyn COVID-19 yn cael ei lansio fel rhan o'r cymorth ehangach sydd ar gael i bobl sy'n profi effeithiau tymor hwy coronafeirws. Gyda dros 100 o fideos a lincs ar gyfer cael cyngor, bydd defnyddwyr yr ap yn gallu nodi eu symptomau, olrhain eu cynnydd a dysgu rheoli eu cyflwr gartref gyda chymorth. Mae'n cynnwys cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, dietegwyr ac ymgynghorwyr.

£40 miliwn yn ychwanegol i gefnogi myfyrwyr

18 Ionawr 2021

Cyhoeddodd Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, £40m yn ychwanegol i brifysgolion gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol, gan helpu'r rhai y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt, gyda threuliau fel costau llety. Gofynnir i brifysgolion flaenoriaethu cyllid i’r myfyrwyr sydd fwyaf agored i niwed, yn ogystal â chryfhau gwasanaethau cyngor a chymorth. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio, hefyd, i fynd i'r afael â 'thlodi digidol' ymhlith myfyrwyr, er mwyn gallu cael gwell mynediad at ddysgu ar-lein, a chostau a ysgwyddir oherwydd yr angen i hunanynysu.  

Newidiadau i’r rheoliadau ar gyfer archfarchnadoedd a gweithleoedd

15 Ionawr 2021

Cyhoeddiad gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y bydd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn cael eu diwygio ddechrau’r wythnos nesaf. Dywedodd y bydd y newidiadau yn "helpu i sicrhau bod pobl yn fwy diogel pan fyddant yn mynd i siopa ac i gryfhau’r mesurau diogelu yn y gweithle".

Cynllun peilot ar gyfer rhoi’r brechlyn i bobl mewn fferyllfeydd

15 Ionawr 2021

Mae'r fferyllfeydd cyntaf yng Nghymru wedi dechrau rhoi’r brechlynnau rhag COVID-19 i bobl drwy gynllun peilot a ddechreuodd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, mai nod y cynlluniau peilot mewn fferyllfeydd yw “dod o hyd i’r ffordd gyflymaf a diogelaf o roi brechlynnau yn y lleoliadau penodol hyn”.

Rheolau newydd i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru

15 Ionawr 2021

O 4:00 ddydd Llun 18 Ionawr 2021, bydd yn rhaid i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o bob cyrchfan ryngwladol ddarparu canlyniad negyddol i brawf coronafeirws a gymerwyd hyd at 72 awr cyn gadael y wlad y maent ynddi. Dywed Llywodraeth Cymru mai’r nod yw "helpu i ddiogelu rhag y mathau newydd o coronafeirws fel y rhai a welir ym Mrasil, Denmarc a De Affrica”. Bydd gofyn i deithwyr aros mewn cwarantin am 10 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd â’r sefyllfa ledled y DU.

Strategaeth frechu COVID-19

11 Ionawr 2021

Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yn cyhoeddi Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno brechlynnau COVID-19. Mae’r strategaeth frechu yn nodi tair carreg filltir allweddol. Y cyntaf yw y bydd  holl breswylwyr a staff cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, pawb dros 70 oed a phawb sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig y brechlyn erbyn canol mis Chwefror.

Cymeradwyo trydydd brechlyn COVID-19 yn y DU

8 Ionawr 2021

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cymeradwyo’r brechlyn COVID-19 a ddatblygwyd gan Moderna. Bydd y brechlyn hwn ar gael yn y DU o wanwyn 2021 ymlaen.

Cyfyngiadau yn parhau yng Nghymru

8 Ionawr 2021

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi y bydd yr holl fesurau yn parhau, yn dilyn adolygiad ffurfiol o'r cyfyngiadau symud lefel rhybudd 4 a gyflwynwyd am hanner nos ar 19 Rhagfyr 2020. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu a oes angen i archfarchnadoedd a manwerthwyr mawr roi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu pobl mewn siopau, a beth arall y mae angen i gyflogwyr ei wneud i ddiogelu pobl yn y gweithle a chefnogi pobl i weithio gartref. Hefyd, oni bai y gwelir gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o’r coronafeirws cyn 29 Ionawr 2021 – sef dyddiad yr adolygiad tair wythnos nesaf o'r rheoliadau – bydd myfyrwyr ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu ar-lein hyd nes hanner tymor mis Chwefror.

Gorchymyn aros gartref ar gyfer Lloegr a'r Alban

4 Ionawr 2021

Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn cyhoeddi bod yn rhaid i bawb yn Lloegr aros gartref, ac eithrio am resymau a ganiateir, yn ystod cyfyngiadau symud newydd, a disgwylir i’r rhain bara hyd nes canol mis Chwefror 2021. Bydd pob ysgol a choleg yn cau i’r mwyafrif o ddisgyblion ac yn newid i ddysgu o bell o 5 Ionawr 2021. Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn gorchymyn bod yn rhaid i bobl ar dir mawr yr Alban aros gartref mewn cyfyngiadau symud newydd a fydd yn golygu y bydd ysgolion yn parhau i fod ar gau i ddisgyblion hyd nes mis Chwefror 2021.

Dychwelyd i’r ysgol a’r coleg

4 Ionawr 2021

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru, ar ôl ymgynghori â Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Cholegau Cymru, wedi cytuno y dylai’r holl ysgolion, colegau ac ysgolion annibynnol newid i addysg ar-lein tan 18 Ionawr 2021. Bydd ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy’n agored i niwed, yn ogystal ag i ddysgwyr y mae angen iddynt sefyll arholiadau neu asesiadau hanfodol.

Newid lefel rhybudd COVID-19 y DU i lefel 5

4 Ionawr 2021

Yn dilyn cyngor gan y Gydganolfan Bioddiogelwch, ac yn sgil y data diweddaraf, argymhellodd pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU a Chyfarwyddwr Meddygol y GIG yn Lloegr y dylai Lefel Rhybudd y DU newid o Lefel 4 i Lefel 5. Mae’n nodi bod risg sylweddol y bydd gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu llethu.

Cymeradwyo ail frechlyn COVID-19

30 Rhagfyr 2020

Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) y DU yn awdurdodi brechlyn Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca fel brechlyn diogel ac effeithiol. Vaughan Gethin, y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi y bydd y brechlyn hwn yn dechrau cael ei gyflwyno ledled Cymru o’r wythnos nesaf ymlaen. Mewn cyhoeddiad dilynol (31 Rhagfyr 2020) dywedodd y Gweinidog Iechyd y bydd Cymru yn dilyn cyngor pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ac yn blaenoriaethu dosau cyntaf y brechlyn - o 1 Ionawr 2021, ac y rhoddir ail ddos o fewn 12 wythnos i’r dos cyntaf. Mae’r pedwar Prif Swyddog Meddygol yn cytuno â’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ar y cam hwn o’r pandemig, y bydd blaenoriaethu’r dosau cyntaf o frechlyn ar gyfer cynifer o bobl â phosibl ar y rhestr flaenoriaeth yn diogelu’n gyffredinol y nifer fwyaf o bobl sydd mewn perygl, a hynny yn yr amser byrraf posibl.

Cyngor newydd i’r rhai sy’n hynod fregus yn glinigol

22 Rhagfyr 2020

Newidiodd y cyngor i bobl yng Nghymru sy’n hynod fregus yn glinigol (‘rhai sy’n cysgodi rhag y feirws’ gynt) o’r dyddiad hwn. Cynghorir pobl yn y grŵp hwn i beidio â mynd i’r ysgol ac i beidio â gweithio y tu allan i’r cartref. Anfonir llythyrau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru (CMO) yn cadarnhau’r cyngor hwn.

Cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol

20 Rhagfyr 2020

Mae'r rheolau Coronafeirws ledled y DU yn gosod cyfyngiadau ar deithio dramor. At hynny, mae nifer o wledydd – gan gynnwys Ffrainc – wedi cyhoeddi eu bod yn cyfyngu ar deithio o’r DU mewn ymateb i bryderon ynghylch lledaeniad straen newydd o’r feirws. Mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn rhoi cyngor am gyfyngiadau teithio a gofynion mynediad ar gyfer gwahanol wledydd.

Tynhau'r rheolau ledled y DU

19 Rhagfyr 2020

Yn dilyn cyfarfod gyda'r DU a Llywodraethau datganoledig am bryderon ynghylch straen newydd o’r Coronafeirws, fe gyhoeddodd Prif Weinidog y bydd cyfyngiadau lefel rhybudd 4 yn cael eu dwyn ymlaen, ac y byddant yn dod i rym ledled Cymru o hanner nos ymlaen. Bydd y rheolau – a oedd yn caniatáu i ddau aelwydydd ffurfio 'swigen' Nadolig dros gyfnod o bum niwrnod – bellach yn berthnasol ar Ddydd Nadolig yn unig. Mae arweiniad manwl am y cyfyngiadau lefel rhybudd 4 yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Mae cyfyngiadau hefyd yn cael eu tynhau ledled y DU, gyda rheolau'r Nadolig o ran aelwydydd yn cymysgu bellach yn gymwys am un diwrnod yn unig. Gweler y cyhoeddiadau gan Brif Weinidog y DU ar gyfer Lloegr a Phrif Weinidog yr Alban, a gwybodaeth bellach am y cyfyngiadau yn Gogledd Iwerddon.

Datblygiadau o ran y seilwaith profi

18 Rhagfyr 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn rhoi diweddariad ar y seilwaith profi ledled Cymru.

Cyfyngiadau lefel uwch i Gymru

16 Rhagfyr 2020

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 4 (y lefel uchaf o gyfyngiadau o dan ei chynllun rheoli Coronafeirws) o ddydd Nadolig ymlaen. Bydd yr holl wasanaethau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos a chanolfannau hamdden a ffitrwydd yn cau ar ddiwedd y diwrnod masnachu ar Noswyl Nadolig; bydd pob adeilad lletygarwch yn cau o 6pm ymlaen ddydd Nadolig, a; bydd cyfyngiadau tynnach ar gymysgu fel aelwydydd, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn berthnasol o 28 Rhagfyr 2020 ymlaen. Bydd y cyfyngiadau yn berthnasol ledled Cymru. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth ychwanegol o £110 miliwn ar gyfer busnesau y mae'r cyfyngiadau lefel rhybuddio 4 yn effeithio arnynt.

Trefniadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty

15 Rhagfyr 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar drefniadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty, a hyd yr achosion mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Cyhoeddi cynllun peilot ar gyfer brechu mewn cartrefi gofal

14 Rhagfyr 2020

Bydd cynllun peilot ar gyfer cyflwyno'r brechlyn Pfizer/BioNtech i gartrefi gofal yng Nghymru yn cychwyn ar 16 Rhagfyr 2020. Cartref gofal dynodedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd y cyntaf yng Nghymru i gael y brechlyn, gyda thimau mewn Byrddau Iechyd ychwanegol yn mynd â'r brechlyn i gartrefi gofal, wedyn. 'Ar y dechrau bydd y brechlyn yn cael ei roi i gartrefi gofal sy’n agos at fferyllfeydd ysbytai, ond bwriedir iddo fod ar gael mewn lleoliadau eraill yn yr wythnosau nesaf, unwaith y bydd gwybodaeth yn deillio o’r cynllun peilot mewn cartrefi gofal ar gael.'

Cynllun rheoli Coronafeirws wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cymru

14 Rhagfyr 2020

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynllun rheoli coronafeirws wedi’i ddiweddaru. Mae hwn yn nodi pedair ‘lefel rhybuddio’, wedi’u halinio â’r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws, ac amddiffyn iechyd pobl. Mae’r cynllun yn nodi bod y mesurau wedi’u cynllunio i fod mor syml, teg a chlir â phosibl, ac y byddant yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau o ran pa gyfyngiadau cyfreithiol fydd yn cael eu rhoi ar waith, gan ddibynnu ar lefel y risg, gan eu helpu i gynllunio. ar gyfer y dyfodol. At hynny, mae’n nodi pe bai tystiolaeth glir o amrywiad cyson a pharhaus rhwng rhannau o Gymru, mae’r dull lefelau rhybuddio yn caniatáu ar gyfer cymhwysiad rhanbarthol a lleol.

Cynlluniau ar gyfer profi cyfresol mewn ysgolion

14 Rhagfyr 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno profion cyfresol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr 2021 ymlaen.

Atyniadau awyr agored i gau

11 Rhagfyr 2020

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi, o 14 Rhagfyr ymlaen, y bydd yn ofynnol i bob atyniad awyr agored yng Nghymru – gan gynnwys ffeiriau pleser – i gau. Rhaid i barciau trampolîn a pharciau sglefrio dan do gau hefyd.

Ysgolion uwchradd a cholegau i symud i ddysgu ar-lein

10 Rhagfyr 2020

Y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein o 14 Rhagfyr 2020 ymlaen. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig i aros ar agor – ‘Rydym yn cydnabod, fel y gwnaethom yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod yn anos i blant oedran cynradd ac ysgolion arbennig ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig’.

Newidiadau i’r cyfnod hunanynysu

9 Rhagfyr 2020

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi diwygiadau i’r rheoliadau cyfyngiadau Coronafeirws yng Nghymru, fel bod yn rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo hunanynysu o ganlyniad i fod wedi cael cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad prawf positif am y Coronafeirws hunanynysu am 10 diwrnod, yn hytrach na 14. At hynny, mae’r rheoliadau teithio rhyngwladol yn cael eu diwygio, gan leihau’r cyfnod y mae’n ofynnol i berson ynysu o 14 diwrnod i 10 diwrnod.

Dechrau rhoi brechlynnau yng Nghymru

8 Rhagfyr 2020

Mae byrddau iechyd yn dechrau rhoi brechlyn Pfizer-BioNTech COVID-19 i staff cartrefi gofal, pobl dros 80 oed, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen sydd fwyaf mewn perygl. Yn ôl Llywodraeth Cymru, er gwaethaf yr heriau storio a pharatoi penodol sy’n gysylltiedig â’r brechlyn hwn, mae’r ‘mae gwaith yn parhau i sicrhau y bydd brechlyn effeithiol yn cael ei ddosbarthu’n ddiogel i breswylwyr cartrefi gofal’.

Y cynlluniau o ran myfyrwyr Cymru’n dychwelyd yn y flwyddyn newydd

7 Rhagfyr

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ‘dychwelyd diogel’ myfyrwyr i brifysgolion Cymru ar ôl gwyliau’r Nadolig. Gwahoddir myfyrwyr i ddychwelyd i’r campws dros gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau 11 Ionawr 2020, ac mae myfyrwyr Gofal Iechyd ymhlith y rhai a fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer dychwelyd yn gynnar. Bydd addysgu mewn person yn dychwelyd yn raddol, a phrofion llif unffordd i fyfyrwyr sy’n dychwelyd i’w llety prifysgol.

Cynllun y taliad sylfaenol o £500 bellach ar agor i rieni/gofalwyr

7 Rhagfyr 2020

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi y bydd y Cynllun Cymorth gyda Hunanynysu bellach yn cael ei estyn i rieni a gofalwyr ar incwm isel gyda phlant sy’n hunanynysu o ganlyniad i achos o’r Coronafeirws yn eu hysgol, neu eu lleoliad gofal plant.

Cyfyngiadau mewn sectorau lletygarwch a hamdden sydd bellach mewn grym

4 Rhagfyr 2020

Daw cyfyngiadau newydd ar dafarnau a bwytai yng Nghymru i rym am 6pm ar y dyddiad hwn. O dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020, mae’n rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru gau erbyn 6pm bob dydd ac ni chaniateir iddynt weini alcohol ar unrhyw adeg. Mae’n rhaid i atyniadau adloniant ac ymwelwyr dan do gau hefyd, fel y cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd. Caiff y cyfnod cau ei adolygu gan Weinidogion Cymru erbyn dydd Iau 17 Rhagfyr, ac o leiaf unwaith bob tair wythnos ar ôl y dyddiad hwnnw.

Y cyfyngiadau teithio diweddaraf i atal y coronafeirws yn y DU

3 Rhagfyr 2020

Mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi na chaniateir teithio rhwng Cymru ac ardaloedd o’r DU sydd â chyfraddau coronafeirws uchel o 6pm ar 4 Rhagfyr 2020. Caiff rheoliadau coronafeirws Cymru eu diwygio i wahardd teithio i ardaloedd haen tri yn Lloegr; ardaloedd lefel tri a phedwar yn yr Alban a phob ardal yng Ngogledd Iwerddon, sydd dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd, ac o’r ardaloedd hynny. Bydd pobl yng Nghymru yn cael cyngor cryf i beidio â theithio i rannau eraill o’r DU â lefelau coronafeirws is (ardaloedd haen un a dau yn Lloegr neu ardaloedd lefel un a dau yn yr Alban) i helpu i reoli lledaeniad y feirws. Nid oes cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru. Caiff yr holl gyfyngiadau teithio yn y DU eu hatal dros dro rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 er mwyn caniatáu i bobl gwrdd ag aelodau o’u swigen Nadolig. Mae’r cyfyngiadau teithio’n debygol o barhau i fod ar waith tan fis Ionawr 2021 o leiaf ond cânt eu hadolygu’n gyson.

Clinigau iechyd grŵp rhithwir i’w cyflwyno

3 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi bod ymgyngoriadau rhithwir ar draws gwasanaethau GIG Cymru i’w hehangu i gynnwys clinigau grŵp rhithwir, ar gyfer cleifion allanol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol. Bydd y clinigau grŵp rhithwir yn darparu gofal i grwpiau o bobl ag anghenion iechyd tebyg, gan gynnwys diabetes, cyflyrau cyhyrysgerbydol, rhewmatoleg a dermatoleg.

Cyflenwi’r Brechlyn yng Nghymru

2 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn croesawu’r newyddion bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi rhoi awdurdodiad dros dro i ddefnyddio brechlyn Pfizer/BioNTech ar sail tystiolaeth o’i ddiogelwch a’i effeithiolrwydd. Bydd y brechlyn yn cael ei gyflenwi ar sail cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (CBIB), sy’n argymell y dylid cynnig y brechlyn, yn y lle cyntaf, i breswylwyr cartrefi gofal a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ochr yn ochr â phobl 80 oed a hŷn. Mae Cymru yn barod i gyflenwi’r brechlyn fesul cam, gan ddechrau gyda safleoedd ysbyty a lleoliadau cymunedol wedyn. Caiff apwyntiadau eu hanfon at bobl yn awtomatig. Ni fydd y brechlyn yn orfodol.

Cyfyngiadau newydd wedi’u targedu ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden

30 Tachwedd 2020

Mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi, o 4 Rhagfyr 2020, y bydd yn rhaid i dafarnau, bariau, bwytai a chaffis gau erbyn 6pm ac na chaniateir iddynt weini alcohol. Ar ôl 6pm, cânt gynnig gwasanaethau cludfwyd yn unig. Mae’n rhaid i atyniadau adloniant ac ymwelwyr dan do gau hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £340 miliwn arall o gymorth drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau y mae’r newidiadau newydd i’r rheoliadau’n effeithio arnynt. Bydd hyn yn cynnwys cronfa benodol i gefnogi busnesau lletygarwch a thwristiaeth.

Canllawiau ymweld ag ysbytai wedi’u hadolygu

30 Tachwedd 2020

Mae canllawiau diwygiedig ar ymweld ag ysbytai GIG Cymru yn ystod argyfwng y coronafeirws yn cael eu cyhoeddi. Mae’r canllawiau’n nodi’r ‘llinell sylfaen’ ar gyfer ymweld ag ysbytai yng Nghymru yn ystod y pandemig, ond yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau. Bydd ymweld â gwasanaethau mamolaeth bellach ar sail dull gweithredu asesiad risg gan fyrddau iechyd, ac mae’r canllawiau wedi’u diweddaru hefyd yn cydnabod ei bod yn bosibl bod angen cymorth ychwanegol penodol ar rai pobl, e.e. gweithiwr cymorth neu gyfieithydd.

Ymestyn profion torfol i Gwm Cynon isaf

27 Tachwedd 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn dweud y bydd y peilot profi torfol yn cael ei ymestyn i Gwm Cynon isaf o 5 Rhagfyr 2020. Dechreuodd y peilot ar 21 Tachwedd ym Merthyr. Bydd prawf COVID-19 yn cael ei gynnig i holl drigolion yr ardal, waeth beth fo’u symptomau, a hynny “i helpu i ddod o hyd i ragor o achosion positif ac i dorri’r cadwyni trosglwyddo”.

Brechlyn ffliw am ddim ar gael i bobl dros 50 oed

25 Tachwedd 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwsanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi y bydd brechlyn ffliw am ddim ar gael i unrhyw un sy’n 50 oed neu’n hŷn gan GIG Cymru o 1 Rhagfyr 2020. Dylai pobl 50 oed a hŷn ddisgwyl i’w meddyg teulu gysylltu â nhw neu gallant gysylltu â’u fferyllfa leol i drefnu cael eu brechu.

Cytuno ar reolau y DU gyfan ar gyfer y Nadolig

24 Tachwedd 2020

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi bod llywodraethau pedair gwlad y DU wedi cytuno ar set eang o fesurau ar gyfer y DU gyfan i helpu pobl i ddod at ei gilydd dros yr ŵyl, mewn ffordd mor ddiogel â phosibl. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys llacio cyfyngiadau teithio ar draws y pedair gwlad a rhwng haenau fel bod cyfle i aelwydydd ddod at ei gilydd rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 a bod hyd at dair aelwyd yn gallu ffurfio ‘swigen’ i gwrdd gartref yn ystod y cyfnod hwn. Gall pob swigen Nadolig gwrdd gartref, mewn addoldy neu mewn man cyhoeddus awyr agored, ond bydd rheolau mwy llym presennol ar letygarwch a chwrdd mewn lleoliadau eraill yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.

Peilot i brofi ymwelwyr â chartrefi gofal

23 Tachwedd 2020

Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi y bydd technolegau profi cyflym newydd yn cael eu defnyddio i gynnal rhaglen beilot i sgrinio ymwelwyr â nifer fach o gartrefi gofal ledled Cymru o 30 Tachwedd 2020 ar gyfer Covid-19. Bwriad hyn yw paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno rhaglen ehangach i fwy o gartrefi gofal yng Nghymru o’r wythnos sy’n dechrau 14 Rhagfyr 2020.

Newidiadau i bolisi gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau

23 Tachwedd 2020

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau. Mae’r canllaw bellach yn nodi y dylid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man y tu allan i’r ystafell ddosbarth gan staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau, ar drafnidiaeth ysgol a choleg pwrpasol i ddysgwyr ym mlwyddyn 7 ac yn hŷn, a chan ymwelwyr â phob ysgol a choleg, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, wrth ollwng a chasglu plant. Mae polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth yn aros yr un fath.

Cynllun peilot unedau bach dros dro i gynnal ymweliadau mewn cartrefi gofal

23 Tachwedd 2020

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi y bydd ‘unedau bach’ dros dro yn cael eu darparu i gartrefi gofal ledled Cymru i helpu i hwyluso ymweliadau dros fisoedd y gaeaf. Bydd y cynllun peilot gwerth £3 miliwn yn talu costau caffael, gosod a phrydlesu 100 o unedau, gyda 30 yn cael eu gosod i ddechrau a byddant yn barod i’w defnyddio cyn y Nadolig.

Dull gweithredu ledled y DU ar gyfer rheolau’r Nadolig

21 Tachwedd 2020

Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig yn cyfarfod i drafod trefniadau cyffredin ar gyfer cyfnod yr ŵyl. Cymeradwyodd y Gweinidogion amcan cyffredin ar gyfer hwyluso swigod aelwydydd ychwanegol cyfyngedig am nifer fach o ddiwrnodau, ond pwysleisiodd hefyd y bydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu cynghori i fod yn ofalus o hyd, ac y dylai pobl, lle bynnag y bo’n bosibl, osgoi teithio a lleihau cyffyrddiadau cymdeithasol. Mae gwaith yn parhau i gwblhau’r trefniadau.

Amseroedd aros GIG Cymru

19 Tachwedd 2020

Cyhoeddi ystadegau perfformiad GIG Cymru yn ailddechrau. Y Gweinidog Iechyd yn dweud ‘Ers i’r ystadegau gofal wedi’i gynllunio diwethaf gael eu cyhoeddi ym mis Chwefror, mae nifer y bobl ar y rhestr aros wedi cynyddu, fel mewn mannau eraill yn y DU. Mae hyn i’w briodoli, yn rhannol, i’r mesurau ychwanegol sydd wedi’u sefydlu i atal y coronafeirws rhag lledaenu a sicrhau bod modd gweld a thrin pobl yn ddiogel. Mae pawb ar y rhestr aros yn cael ei adolygu gan ei glinigydd ac yn cael ei weld yn nhrefn blaenoriaeth glinigol’. Cyfres newydd o fesurau arbrofol gyfer adrannau achosion brys hefyd yn cael ei chyhoeddi.

Merthyr Tudful fydd yr ardal gyfan gyntaf i gael profion torfol yng Nghymru

18 Tachwedd 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi y bydd pawb sy’n byw neu’n gweithio ym Merthyr Tudful yn cael cynnig profion COVID-19, ni waeth a oes ganddynt symptomau ai peidio – yn y cynllun profi torfol cyntaf ar gyfer ardal gyfan yng Nghymru. Bydd yr holl breswylwyr a gweithwyr yn cael cynnig profion COVID-19 rheolaidd o 21 Tachwedd i helpu i ddod o hyd i fwy o achosion positif a thorri cadwyni trosglwyddo. Bydd y safle cyntaf yn agor yng nghanolfan hamdden Merthyr Tudful ddydd Sadwrn 21 Tachwedd a bydd rhagor o safleoedd yn agor ar draws y fwrdeistref sirol yn nes ymlaen ym mis Tachwedd. Bydd y cynllun profi torfol hefyd yn defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd am y tro cyntaf yng Nghymru

Cynlluniau i gynnal etholiadau ‘diogel o ran Covid’ ar gyfer y Senedd

17 Tachwedd 2020

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn amlinellu cynlluniau i sicrhau y gall pobl Cymru bleidleisio’n ddiogel yn etholiadau’r Senedd yn 2021, a bod yr etholiadau’n cael eu cynnal yn ôl y bwriad ar 6 Mai 2021. Mae’r Grŵp Cynllunio Etholiadau wedi cytuno ar nifer o fesurau, gan gynnwys mwy o hyblygrwydd o ran enwebu ymgeiswyr, yn ogystal ag o ran pleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy, a mesurau i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif yn gweithredu’n ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynlluniau wrth gefn hefyd, rhag ofn y bydd pandemig y coronafeirws yn fygythiad mor ddifrifol i iechyd y cyhoedd fel na fydd hi’n ddiogel cynnal yr etholiad ym mis Mai 2021.

Cynllun taliad hunanynysu yn agor

16 Tachwedd 2020

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi y gall pobl ar incwm isel sydd wedi cael coronafeirws neu sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru wneud cais yn awr am daliad o £500. Mae’r cynllun ar gael i unrhyw un sy’n cael Credyd Cynhwysol a budd-daliadau penodol eraill. Bydd elfen ddewisol hefyd ar gyfer y rhai sydd ddim yn bodloni’r meini prawf ond sy’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i orfod hunanynysu. Gall pobl wneud cais am y taliad hunanynysu ar wefan eu hawdurdod lleol o ddydd Llun 16 Tachwedd 2020 a bydd y taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref 2020. Mae cynllun newydd hefyd wedi’i gyflwyno ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i roi taliad ychwanegol at eu tâl salwch statudol hyd at lefel eu cyflog arferol os oes rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd coronafeirws, neu os ydynt wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â’r feirws.

Cyllid i gynyddu nifer y swyddogion olrhain cysylltiadau

13 Tachwedd 2020

Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn cyhoeddi cyllid ychwanegol o £15.7 miliwn i gynyddu nifer y swyddogion olrhain cysylltiadau yng Nghymru ar gyfer y “cynnydd disgwyliedig mewn galw ym mis Rhagfyr, a hyd at ddiwedd mis Mawrth”.

Cefnogaeth i’r rheini sy’n hunan-ynysu

13 Tachwedd 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion ei dau gynllun cymorth ar gyfer y rheini sydd angen hunan-ynysu oherwydd COVID-19. Mae mwy o fanylion am y cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer gweithwyr gofal, gan gynnwys pwy sy’n gymwys, ar gael yma.

Datblygu brechlyn COVID-19

11 Tachwedd 2020

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn croesawu’r newyddion y gallai brechlyn COVID-19 fod yn barod erbyn diwedd 2020 ond rhybuddiodd “mai dyddiau cynnar iawn yw’r rhain”. Dywedodd Dr Frank Atherton y gallai fod tua diwedd 2021 cyn cyflwyno brechlyn yn llawn i’r holl boblogaeth gymwys, a’i bod yn hanfodol yn y cyfamser i bawb barhau i gadw pellter cymdeithasol, cwrdd mewn lleoedd dan do cyn lleied â phosibl, gwisgo gorchuddion wyneb lle bo hynny’n briodol a chadw at arferion hylendid da o ran peswch a golchi dwylo.

Myfyrwyr yn teithio adref ar gyfer y Nadolig

11 Tachwedd 2020

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi bod dau brif fesur wedi’u cytuno i alluogi’r sector prifysgolion i reoli symudiad myfyrwyr ar ddiwedd y tymor mor ddiogel â phosibl. Yn gyntaf, bydd prifysgolion yn gorffen mwyafrif yr addysgu wyneb yn wyneb yn yr wythnos yn arwain at 8 Rhagfyr 2020. Caiff myfyrwyr sy’n bwriadu teithio eu hannog i wneud trefniadau i symud o’u llety yn ystod y tymor erbyn 9 Rhagfyr fan bellaf. Yn ail, bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n dymuno dychwelyd adref ar ddiwedd y tymor ddilyn cyfres syml o ganllawiau. Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i bob myfyriwr wneud dewisiadau cyfrifol i amddiffyn pobl eraill, gan gynnwys yr opsiwn i sefyll prawf llif unffordd asymptomatig.

Canslo arholiadau 2021

10 Tachwedd 2020

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi na fydd arholiadau TGAU, Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn cael eu cynnal yn 2021. Dywedodd y Gweinidog “y prif reswm dros fy mhenderfyniad yw tegwch; bydd yr amser y bydd dysgwyr yn ei dreulio mewn ysgolion a cholegau yn amrywio’n aruthrol ac, yn y sefyllfa hon, mae’n amhosibl gwarantu chwarae teg i gynnal arholiadau”.

Cyfnod atal byr Cymru yn dod i ben

9 Tachwedd 2020

Daw’r cyfnod atal byr i ben yng Nghymru a daw cyfres newydd o fesurau cenedlaethol i rym. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r rheolau ar gyfer gwahanol leoliadau a gweithgareddau, gyda neges allweddol i annog pobl i ‘feddwl am beth sy’n synhwyrol i’w wneud i ddiogelu eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned yn hytrach na meddwl am yr hyn a ganiateir’.

Ymestyn y cynllun ffyrlo

5 Tachwedd 2020

Mae Rishi Sunak, Canghellor y DU, yn cyhoeddi y bydd y cynllun ffyrlo yn cael ei ymestyn ledled y DU hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd y cynllun yn talu hyd at 80 y cant o gyflog pobl, hyd at £2,500 y mis. Bydd Llywodraeth y DU yn adolygu’r polisi ym mis Ionawr 2021. Mae Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid Cymru, yn croesawu’r estyniad, ond mae’n annog y Canghellor i ôl-ddyddio’r cymorth i fusnesau a gweithwyr Cymru ar gyfer holl gyfnod atal 17 diwrnod Cymru.

Cyfyngiadau symud yn dod i rym yn Lloegr

5 Tachwedd 2020

Daw cyfyngiadau cenedlaethol i rym yn Lloegr am gyfnod o bedair wythnos hyd at 2 Rhagfyr 2020. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nodyn i atgoffa pawb o’r rheolau ar deithio ar draws y ffin. Mewn mannau eraill yn y DU: mae system bum haen o lefelau diogelu lleol ar waith yn yr Alban a gyflwynwyd ar 2 Tachwedd 2020; cyflwynwyd cyfyngiadau cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon ar 16 Hydref 2020 am gyfnod o bedair wythnos.

Cyllid i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl sy’n agored i niwed

4 Tachwedd 2020

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn addo rhoi cyllid ychwanegol o bron i £3 miliwn i gefnogi rhai o’r defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod y pandemig. Bydd cymorth ar gael i’r rhai sy’n chwilio am waith neu lety parhaol, neu a allai fod yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. ‘Bydd y cyllid ychwanegol yn darparu cymorth cynnar wedi’i dargedu, ar gyfer yr unigolion mwyaf agored i niwed mewn ffordd ataliol er mwyn atal anghenion, sy’n aml yn rhai cymhleth, rhag gwaethygu’.

Mesurau cenedlaethol i ddilyn cyfnod atal byr Cymru

2 Tachwedd 2020

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi y bydd cyfres newydd o fesurau cenedlaethol yn cymryd lle’r cyfnod atal byr, o 9 Tachwedd ymlaen. Mae’r rhain yn cynnwys: dwy aelwyd yn cael ffurfio aelwyd estynedig (neu swigen); gall hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau wedi’u trefnu y tu mewn a gall hyd at 30 o bobl wneud hynny y tu allan; a gall yr holl safleoedd a oedd ar gau ail-agor.

Cyfyngiadau symud cenedlaethol i’w cyflwyno yn Lloegr

31 Hydref 2020

Mae Prif Weinidog y DU yn cyhoeddi cyfyngiadau cenedlaethol newydd ar gyfer Lloegr o 5 Tachwedd 2020.

Help i bobl sy’n hunanynysu

30 Hydref 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dau gynllun cymorth ariannol newydd i bobl y mae angen iddynt hunanynysu oherwydd canlyniad positif i brawf coronafeirws neu oherwydd y gofynnir iddo wneud hynny gan system Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Gall y rhai sydd ar incwm isel wneud cais am daliad £500 os na allant weithio gartref a byddant yn colli incwm oherwydd hunanynysu. Hefyd, mae cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol newydd i staff gofal cymdeithasol gynyddu’r tâl salwch statudol i’w cyflogau arferol os oes angen iddynt hunanynysu.

Eitemau hanfodol ac eitemau nad ydynt yn hanfodol

29 Hydref 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chwestiynau cyffredin ar y cyfnod atal byr i egluro’r rheolau ynghylch prynu eitemau hanfodol ac eitemau nad ydynt yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhestr o eitemau y caniateir i archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd a diod eraill eu gwerthu yn cael ei chyhoeddi.

Cymorth i deuluoedd a phlant sy’n agored i niwed

29 Hydref 2020

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £12.5m i gefnogi plant a theuluoedd sy’n agored i niwed. Bydd yn cefnogi ystod o wasanaethau i blant a theuluoedd y mae pandemig parhaus y coronafeirws wedi effeithio ar eu bywydau. Mae’r cyllid yn rhan o agenda Llywodraeth Cymru, sef Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau.

Y cyfnod atal byr yn dechrau

23 Hydref 2020

Y cyfnod atal byr yn dechrau am 18:00, pan ddaw cyfyngiadau cenedlaethol i rym tan 8 Tachwedd 2020 (hynny yw, tan ddiwedd y diwrnod hwnnw). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin ar gyfer y cyfnod atal byr, a gallwch ddarllen ein blog i gael mwy o wybodaeth am yr hyn a arweiniodd ato.

Llythyr newydd at y rhai a oedd yn arfer gwarchod eu hunain

22 Hydref 2020

Llythyrau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael eu dosbarthu i’r unigolion hynny sy’n agored iawn i niwed ac a oedd yn arfer gwarchod eu hunain. Nid oes unrhyw ofyniad bod y broses o gysgodi yn ail-ddechrau, ond mae’r llythyrau dan sylw yn cynnwys y cyngor diweddaraf ynghylch sut y gall pobl gymryd camau gofal ychwanegol ac ynghylch y ffyrdd gorau o ddiogelu eu hunain.

Cronfa o £1 miliwn ar gyfer gofalwyr

20 Hydref 2020

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi cronfa newydd gwerth dros £1 miliwn i helpu gofalwyr di-dâl yng Nghymru ymdopi â’r pwysau ariannol a ddaw yn sgil COVID-19. Yn agored i ofalwyr ar draws Cymru, bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn darparu grantiau o hyd at £300 ar gyfer ystod o hanfodion, gan gynnwys: bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwyn, neu ddyfeisiau electronig fel gliniaduron i gael mynediad i gymorth a gwasanaethau. Bydd y Gronfa ar gael hyd at 31 Mawrth 2021.

£300 miliwn i fusnesau Cymru

20 Hydref 2020

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, yn cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn dyblu trydydd cam ei Chronfa Cadernid Economaidd, gan sicrhau bod bron i £300 miliwn ar gael i gefnogi busnesau sy’n parhau i gael eu heffeithio gan COVID-19. O ganlyniad i’r cyfnod atal byr, a fydd yn dechrau ddydd Gwener 23 Hydref ac yn parhau tan ddydd Llun 9 Tachwedd, bydd gofyn i amrywiaeth o fusnesau gau eu drysau neu leihau eu gweithgareddau. Bwriad cam diweddaraf y gronfa yw sicrhau bod busnesau ledled Cymru yn cael cymorth pellach.

Cyfnod atal y coronafeirws wedi’i gyhoeddi

19 Hydref 2020

Mae Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi cyfyngiadau symud 17 ddiwrnod i atal y coronafeirws o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd 2020. Mae’n rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn, ac ni chânt ymweld â phobl nad ydynt yn byw gyda hwy na chwrdd â hwy. Bydd rhai busnesau a lleoliadau, gan gynnwys bariau, bwytai a’r rhan fwyaf o siopau’n cau. Bydd ysgolion cynradd a lleoliadau gofal plant yn aros ar agor; bydd ysgolion uwchradd ar agor i blant ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn unig, a byddant yn darparu dysgu ar-lein i ddisgyblion blynyddoedd eraill yn ystod yr wythnos ar ôl hanner tymor. Bydd prifysgolion yn aros ar agor ac yn parhau i ddarparu cyfuniad o ddysgu personol ac ar-lein. Yn dilyn diwedd cyfnod atal y coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd cyfres newydd o reolau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno.

Cyfyngiadau teithio i atal lledaeniad y Coronafeirws

14 Hydref 2020

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi, dan reoliadau newydd sy’n cael eu paratoi gan Weinidogion Cymru, na fydd pobl sy’n byw mewn ardaloedd â chyffredinrwydd uchel o’r Coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru am y tro. Bydd y rheoliadau i ddarparu ar gyfer hyn yn dod i rym am 6pm ddydd Gwener 16 Hydref 2020.

System rybuddio dair haen yn Lloegr

12 Hydref 2020

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi cyhoeddi system newydd dair haen o rybuddion lleol COVID-19 yn Lloegr. O 14 Hydref 2020, bydd Dinas Ranbarth Lerpwl ar lefel rybudd ‘uchel iawn’ sef y lefel rybudd uchaf

Cyfyngiadau lleol ym Mangor

9 Hydref 2020

Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i ymateb i’r cynnydd mewn achosion ym Mangor. ‘Mae’r ardal amddiffyn iechyd leol wedi’i thargedu ym Mangor yn cael ei chreu fel ymateb i glwstwr sylweddol o achosion sydd wedi datblygu yn y ddinas – mae’r gyfradd achosion tua 400 achos am bob 100,000 o bobl. Mae’n ymddangos bod cysylltiad agos rhwng yr achosion â phobl ifanc a’r boblogaeth o fyfyrwyr’

Gweinidog newydd ar gyfer Iechyd Meddwl yng Nghymru

8 Hydref 2020

Mae’r Prif Weinidog wedi penodi Eluned Morgan fel Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, i gydnabod yr effaith y mae pandemig y coronafeirws yn ei chael ar iechyd meddwl a llesiant pobl. Bydd Eluned Morgan yn gweithio ochr yn ochr â Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn parhau i arwain ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws.

Safleoedd profi galw i mewn ger prifysgolion

8 Hydref 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg yn cyhoeddi y bydd mwy o Safleoedd Profi Lleol galw heibio yn agor y mis hwn ger prifysgolion yn Abertawe, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth. (Agorodd y Safle Profi Lleol cyntaf ym mis Medi ym Mhontypridd ger Prifysgol De Cymru).

Adolygiad o gartrefi gofal

7 Hydref 2020

Cyhoeddi adolygiad cyflym annibynnol o brofiad gweithredol cartrefi gofal rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at arfer gorau ac ystyriaethau ar gyfer partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar gynnydd ei chynllun gweithredu cartrefi gofal hefyd.

Cynllun ail-greu ar ôl COVID-19

6 Hydref 2020

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn cyhoeddi’r adroddiad Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau sy’n nodi dull Llywodraeth Cymru o ail-greu. Mae’n tynnu sylw at feysydd blaenoriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio adnoddau ac ymdrechion arnynt i sicrhau’r buddion gorau posibl i Gymru. Nodir wyth blaenoriaeth allweddol ar gyfer ail-greu a bydd pecyn o £320 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau a chynlluniau ym mhob un o’r meysydd blaenoriaeth dros y 6 mis nesaf.

Newidiadau i’r rheini sy’n byw ar eu pen eu hunain mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol

2 Hydref 2020

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain, gan gynnwys rhieni sengl, mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol yn cael ffurfio aelwyd estynedig (swigen) dros dro gydag aelwyd arall yn yr un ardal leol o 3 Hydref ymlaen. Dywedodd Llywodraeth Cymru mai diben y newid yw “helpu i ddiogelu pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain rhag teimlo’n unig ac yn ynysig”.

Cyfyngiadau i barhau yng Nghaerffili

2 Hydref 2020

Yn dilyn a adolygiad o’r rheoliadau sy’n sail i’r cyfyngiadau coronafeirws dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod “angen i’r cyfraddau ostwng ymhellach cyn inni lacio’r cyfyngiadau” yng Nghaerffili. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn defnyddio’r 7 diwrnod nesaf “i gytuno ar lwybr fesul cam o lacio’r cyfyngiadau hyn” gyda Chyngor Sir Caerffili ac awdurdodau lleol eraill.

Cyfyngiadau lleol ar draws gogledd Cymru

29 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd y mesurau sydd ar waith yn y deuddeg ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru yn dod i rym yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam o ddydd Iau 1 Hydref ymlaen.

Blaenoriaethu profion COVID-19

29 Medi 2020

Mae Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer profion COVID-19 yng Nghymru wrth i Lywodraeth Cymru symud i gam newydd yn ei hymateb. Nododd y Gweinidog chwe blaenoriaeth ar gyfer profi. Y cyntaf oedd profion ar gyfer gofal clinigol y GIG (cleifion mewn ysbytai) ac yna’r rhai sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal. Y drydedd flaenoriaeth yw profi staff y GIG gan gynnwys meddygon teulu a fferyllwyr, ac yna profi i reoli achosion. Y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg neu ofal plant yw’r pumed grŵp blaenoriaeth, a’r chweched yw’r holl unigolion sydd â symptomau.

Cyfyngiadau ar gyfer tair sir arall

27 Medi 2020

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi y bydd yr un mesurau sydd ar waith mewn naw ardal leol arall yng Nghymru yn dod i rym yng Nghastell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg o ddydd Llun 28 Medi.

Galw am ‘ddiogelu’r GIG’

27 Medi 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bobl “helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf drwy ddefnyddio gwasanaethau eraill yn lle Adrannau Achosion Brys pan nad yw’r sefyllfa yn peryglu bywyd nac yn ddifrifol”. Dywedodd y Gweinidog Iechyd: “mae angen inni i gyd gofio bod ein staff a’n gwasanaethau GIG o dan bwysau enfawr o hyd.”.

Cyfyngiadau yng Nghaerdydd, Llanelli ac Abertawe

25 Medi 2020

Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn cyhoeddi y daw cyfyngiadau i rym yn Llanelli o 6pm ddydd Sadwrn 26 Medi ac yng Nghaerdydd ac Abertawe o 6pm ddydd Sul 27 Medi. Bydd y mesurau canlynol yn gymwys i’r tri ardal: ni chaniateir i unrhyw un adael na dod i mewn i’w hardal heb esgus rhesymol; ac ni all pobl gwrdd dan do ag unrhyw un nad ydyn nhw’n byw gyda nhw, gan gynnwys eu haelwyd estynedig.

Adolygiad o’r cyfyngiadau yng Nghaerffili

24 Medi 2020

Yn dilyn adolygiad o gyfyngiadau lleol y coronafeirws yng Nghaerffili, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn dweud “ar ôl trafod y sefyllfa gyda’r awdurdod lleol, rydym wedi penderfynu cadw’r cyfyngiadau yn eu lle am saith niwrnod arall o leiaf”.

Lansio ap COVID-19 y GIG

24 Medi 2020

Gall pobl 16 oed a hŷn ledled Cymru a Lloegr lawrlwytho ap COVID-19 y GIG. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn “rhan ganolog o raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i adnabod cysylltiadau’r rhai sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws”.

Mesurau ar gyfer Cymru gyfan

22 Medi 2020

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn mynychu cyfarfod COBR gyda Phrif Weinidog y DU, Prif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Mark Drakeford yn cyhoeddi mesurau newydd i Gymru, a fydd yn dod i rym ar yr un pryd â gweddill y DU. Mae hyn yn cynnwys, o 6pm ddydd Iau 24 Medi: bydd busnesau lletygarwch (tafarndai, caffis, bwytai a chasinos) yn cau am 10pm ac yn gallu darparu gwasanaeth bwrdd yn unig; bydd siopau diodydd trwyddedig, fel archfarchnadoedd, yn stopio gwerthu alcohol am 10pm.

Rhagor o gyfyngiadau coronafeirws lleol

21 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Chasnewydd. O 6pm ar 22 Medi ymlaen bydd y cyfyngiadau a ganlyn ar waith: ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i ardal yr awdurdod lleol na gadael yr ardal heb esgus rhesymol (fel teithio am resymau gwaith neu addysg); dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd ac ni fyddant yn cael cwrdd ag aelodau o’u haelwyd estynedig dan do; a bydd yn rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm. Bydd y mesurau hyn hefyd yn cael eu hymestyn i fwrdeistref Caerffili ar yr un pryd.

Briff gan gynghorwyr Llywodraeth y DU

21 Medi 2020

Rhannodd Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Chris Whitty, a’r Prif Gynghorydd Gwyddonol, Patrick Vallance, y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith bod nifer yr achosion yn y DU yn dyblu bob 7 diwrnod ac os bydd hyn yn parhau heb unrhyw gamau gweithredu gallai fod oddeutu 49,000 o achosion newydd y dydd erbyn canol mis Hydref. Dywedodd Chris Whitty ei bod yn ‘broblem chwe mis ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi gyda’n gilydd’ ac mai ‘problem i bob un ohonom yw hyn’.

Cynnydd yn lefel rhybudd COVID-19

21 Medi 2020

Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn argymell y dylid symud lefel rhybudd COVID-19 i lefel 4. Mae hyn yn golygu bod y feirws mewn cylchrediad cyffredinol a bod trosglwyddiad yn uchel neu’n codi’n gyflymach.

Y diweddaraf ynglŷn â phrofion

17 Medi 2020

Mewn datganiad, rhoddodd y Gweinidog Iechyd y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag ymateb Cymru i’r heriau presennol o ran profion coronafeirws.

Cronfa adfer chwaraeon a hamdden

17 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru wedi cyhoeddi ‘cronfa adfer chwaraeon a hamdden’ gwerth £14 miliwn. Nod y pecyn cyllido yw cefnogi’r sector gyda’r heriau parhaus sy’n deillio o’r pandemig a sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hwy. Rheolir y gronfa gan Chwaraeon Cymru, a bydd yn ychwanegol at y Gronfa Cymorth mewn Argyfwng Chwaraeon a Chronfa Cymru Actif, a weinyddir gan Chwaraeon Cymru hefyd.

Cyfyngiadau Rhondda Cynon Taf

16 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu tynhau yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn cynnydd mawr mewn achosion yn yr ardal. O 6pm ymlaen ar 17 Medi: ni fydd pobl yn cael dod i mewn i ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf, na gadael yr ardal, heb esgus rhesymol; dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd; ni chaiff pobl gwrdd ag aelodau o’u haelwyd estynedig o dan do, na ffurfio aelwyd estynedig chwaith; bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm.

Cynllun Diogelu’r Gaeaf

15 Medi 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun diogelu’r gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan nodi sut y bydd gwasanaethau’n rheoli her ychwanegol y coronafeirws yn ystod y gaeaf sydd i ddod. Gwnaeth y Gweinidog Iechyd ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn hefyd am y cynllun.

Dweud wrth Gasnewydd am fod yn wyliadwrus

14 Medi 2020

Mae preswylwyr Casnewydd wedi cael eu cynghori am yr angen i barhau i gadw pellter cymdeithasol, gan fod cynnydd mewn achosion. Caiff saith o fariau eu rhestru lle bu achosion wedi’u cadarnhau o’r Coronafeirws, ac fe gynghorir pobl i gadw llygad am symptomau COVID-19 od ydyn nhw wedi bod i’r llefydd hyn yn ddiweddar.

Cyfleuster Coronafeirws newydd Caerdydd

14 Medi 2020

Gweinidog Iechyd Cymru’n cyhoeddi cyllid o £33 miliwn ar gyfer cyfleuster newydd yng Nghaerdydd i reoli unrhyw gynnydd posibl mewn achosion o’r Coronafeirws y gaeaf hwn. “Bydd y cyfleuster newydd, a fydd yn darparu 400 o welyau ychwanegol, yn cael ei adeiladu y drws nesaf i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn digomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality.”

Gweithio gartref yng Nghymru

13 Medi 2020

Llywodraeth Cymru yn nodi ei huchelgais yn y tymor hir i weld tua 30% o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu’n agos at eu cartref, gan gynnwys ar ôl i fygythiad y Coronafeirws leihau. “Y bwriad yw datblygu model hybrid ar gyfer y gweithle, ble y gall staff weithio yn y swyddfa, gartref neu yn lleoliad y ganolfan. Y nod yw y bydd hyn yn galluogi 30% neu ragor o weithwyr i weithio o bell, gan helpu i leihau tagfeydd a llygredd a gwella y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i weithwyr a chyflogwyr”.

Y ‘rheol chwe pherson’ a gorchudd wyneb gorfodol

11 Medi 2020

Mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion o’r Coronafeirws ledled Cymru, cyhoeddwyd y bydd y rheolau ar gyfarfod yn gymdeithasol yng Nghymru’n cael eu tynhau, ynghyd â gorfod gwisgo gorchudd wyneb. O 14 Medi 2020 ymlaen, chwe pherson ar y mwyaf fydd yn gallu cyfarfod y tu fewn ar unrhyw un adeg (nid yw hynny’n cynnwys plant sy’n iau nag 11 oed). Rhaid iddynt fod o’r un grŵp cartref / swigen unigryw. Nid yw’r rheol chwe pherson yn berthnasol i gyfarfodydd awyr agored yng Nghymru. Gwaherddir mwy na chwe pherson rhag cyfarfod yn Lloegr hefyd o’r dyddiad hwn ymlaen (y tu mewn neu’r tu allan). Yn Yr Alban, gall uchafswm o chwech o bobl o ddwy aelwyd ddod at ei gilydd y tu mewn neu’r tu allan.

Cymryd camau ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf

10 Medi 2020

Cyhoeddi camau pellach o ran iechyd cyhoeddus yn ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful er mwyn cyfyngu ar ymlediad y Coronafeirws. Roedd y camau hynny’n cynnwys y dylai cyflogwyr annog staff i weithio gartref lle byddai’n bosibl gwneud hynny.

Newidiadau pellach i’r rhestr cwarantin

10 Medi 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi,, o 12 Medi ymlaen, bod yn rhaid i bobl sy’n cyrraedd Cymru o Hwngari a Reunion hunan-ynysu am bythefnos. Bydd Sweden yn cael ei thynnu oddi ar y rhestr cwarantin. Roedd hynny’n dilyn diwygiadau cynharach i’r rheoliadau teithio rhyngwladol o ran Coronafeirws gan ychwanegu ynysoedd Santorini, Serifos a Tinos – sef ynysoedd gwlad Groeg – at y rhestr cwarantîn a fydd yn dod i rym ar 10 Medi 2020.

Camau ymyrryd yn Sir Caerffili

7 Medi 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfyngiadau lleol i reoli’r achosion yn Sir Caerffili. O 6pm ymlaen ar 8 Medi 2020, ni chaniateir i bobl fynd i mewn i ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili, na gadael heb esgus rhesymol; bydd gofyn i bobl dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn siopau; ni chaniateir cyfarfod dan do â phobl eraill nac aelwydydd estynedig.

Nifer yr achosion yn y DU yn codi

6 Medi 2020

Adroddwyd am 2,988 o achosion newydd o’r coronafeirws ar draws y DU ar 6 Medi, sef cynnydd o 1,175 o achosion o’u cymharu â’r diwrnod blaenorol. Roedd 98 o’r achosion hyn yng Nghymru, sef cynnydd o 21 o achosion o’u cymharu â’r diwrnod blaenorol.

Clwstwr Caerffili

4 Medi 2020

Credir bod ‘cynnydd sylweddol’ yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Nghaerffili wedi digwydd o ganlyniad i bobl nad ydynt yn cadw pellter cymdeithasol. Mae canolfan brofi dros dro yn cael ei sefydlu yng nghanolfan hamdden Caerffili.

Gwahaniaeth rhwng polisïau’r DU o ran gofynion cwarantîn

3 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi, o 4 Medi 2020, y bydd yn ofynnol i bobl sy’n cyrraedd Cymru o dir mawr Portiwgal, Gibraltar, Gwlad Pwynesia Ffrainc ac ynysoedd Groeg Mykonos, Zakynthos, Lesvos, Paros ac Antiparos a Crete hunanynysu am 14 diwrnod. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ofynion cwarantîn hefyd ar gyfer Groeg (o 3 Medi) a Phortiwgal (o 5 Medi). Nid yw Llywodraeth y DU yn gwneud unrhyw newidiadau i’w rhestr cwarantin ar gyfer Lloegr.

Newidiadau cwarantin

29 Awst 2020

Cyflwyno newidiadau pellach i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio o’r rheolau cwarantin. O’r dyddiad hwn bydd yn rhaid i bobl sy’n cyrraedd Cymru o’r Weriniaeth Tsiec, Jamaica a’r Swistir hunanynysu am 14 diwrnod pan fyddant yn dychwelyd. Ni fydd yn rhaid i deithwyr sy’n dychwelyd o Giwba a Singapore wneud hynny mwyach.

Pobl ar wyliau yn cael eu hannog i gwarantinio

28 Awst 2020

Ar ôl i nifer o achosion positif gael eu hadrodd yng Nghymru o ganlyniad i bobl sy’n dychwelyd o’u gwyliau ac nad ydynt yn hunanynysu, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i “ddilyn y rheolau cwarantin”.

Ailddechrau ymweliadau dan do â chartrefi gofal

28 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn cadarnhau y gall ymweliadau dan do â chartrefi gofal ailddechrau o’r dyddiad hwn yn ogystal ag ymweliadau â hosbisau a llety diogel i blant a phobl ifanc. Mae’r Gweinidog yn dweud mai mater i bob sefydliad yw penderfynu pryd yn union y byddant yn ailddechrau’r ymweliadau hyn.

Dirwyon ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth heb drwydded

27 Awst 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dirwyon llymach i bobl sy’n trefnu digwyddiadau cerddoriaeth heb drwydded lle mae mwy na 30 o bobl yn bresennol. Mae’n dweud bod hyn yn dod yn dilyn trafodaethau gyda’r heddlu ac yn rhoi pwerau tebyg iddynt i’r rhai sy’n cael eu cyflwyno yn Lloegr.

Gorchuddion wyneb mewn ysgolion

26 Awst 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell “bod pob aelod o’r cyhoedd sydd dros 11 oed yn gwisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a cherbydau cludo dysgwyr i’r ysgol.” Bydd yn ofynnol i ysgolion gynnal “asesiadau risg o’u hystadau er mwyn penderfynu p’un a ddylid argymell bod eu staff a’u pobl ifanc yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunol”. Mae’r Grŵp Cyngor Technegol wedi cyhoeddi ei adolygiad o orchuddion wyneb mewn ysgolion

Newidiadau cwarantîn

22 Awst 2020

Mae newidiadau pellach yn cael eu gwneud i’r rheoliadau teithio rhyngwladol adeg y Coronafeirws. O’r dyddiad hwn ymlaen, mae’n rhaid i bobl sy’n cyrraedd y DU o Awstria, Croatia a Trinidad a Tobago hunan-ynysu am 14 diwrnod. Mae’r gofyniad o ran cwarantîn i deithwyr o Bortiwgal yn cael ei ddiddymu.

Cyfarfod gyda theulu a ffrindiau

21 Awst 2020

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau cyfyngiadau Coronafeirws, y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd hyd at bedair aelwyd yn gallu ymuno â’i gilydd yng Nghymru o 22 Awst 2020 ymlaen, i ffurfio aelwyd estynedig, sy’n fwy o faint. Pwysleisiodd y Prif Weinidog nad yw’r amodau eto’n caniatáu llacio’r cyfyngiadau cyffredinol ar bobl sy’n cyfarfod tu mewn. ‘Mae hyn yn dal i olygu bod rhaid inni beidio ag ymweld â phobl eraill yn eu cartrefi oni bai ein bod yn rhan o aelwyd estynedig gyda nhw neu’n darparu gofal. Mae hefyd yn golygu na allwn ond ymweld â busnes neu safle y tu mewn, megis tafarn neu fwyty, gydag aelodau o’n haelwyd ein hunain neu’n haelwyd estynedig. Mae’n bosibl, wrth gwrs, cyfarfod â gwahanol bobl yn yr awyr agored gan gofio cadw pellter cymdeithasol’. At hynny, o 22 Awst ymlaen, gellir caniatáu dathliadau cyfyngedig o dan do yn dilyn priodas, partneriaeth sifil, neu angladd, i hyd at 30 o bobl. Nododd y Prif Weinidog hefyd y bydd rhai digwyddiadau awyr agored cyfyngedig ar gyfer hyd at 100 o bobl yn cael eu treialu dros yr wythnosau nesaf.

Adroddiad ar ddeddfwriaeth y Coronafeirws

19 Awst 2020

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei hadroddiad cyntaf i’r Senedd ar wneud deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws, a defnyddio pwerau o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Cynllun rheoli’r Coronafeirws

18 Awst 2020

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynllun rheoli’r Coronafeirws� yn cyhoeddi cynllun rheoli’r Coronafeirws� y’n nodi sut y dylai pobl sefydliadau ledled Cymru weithio gyda’i gilydd i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws, wrth i’r hydref a’r gaeaf agosáu.

Buddsoddiad pellach mewn profion

18 Awst 2020

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cyllid o £32 miliwn i wella perfformiad profion Coronafeirws. Nod y buddsoddiad hwn yw prosesu profion yn gyflymach, a sicrhau bod systemau profi ac olrhain cysylltiadau yn ddigon cadarn i ddelio â cham nesaf y pandemig.

Cyllid ychwanegol ar gyfer cynghorau

17 Awst 2020

Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi Pecyn cymorth o £260 miliwn i awdurdodau lleol yng Nghymru. Diben yr arian yw helpu i dalu costau uwch, rheoli pwysau o ran colli incwm, ac ariannu gofynion glanhau ychwanegol ar gyfer ysgolion. ‘Gyda phosibilrwydd gwirioneddol y bydd nifer yr achosion yn cynyddu eto yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi’r hyder i awdurdodau lleol baratoi eu cyllidebau ar gyfer ail don bosibl. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu drwy broses hawlio’.

Diddymu cyfyngiad ‘teithio hanfodol’ ar drafnidiaeth gyhoeddus

17 Awst 2020

Mae’r cyfyngiad ‘teithio hanfodol’ ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi’i ddiddymu yng Nghymru. Cafodd y neges teithio hanfodol yn unig ei chyflwyno er mwyn rhoi blaenoriaeth i weithwyr allweddol, yn ogystal â’r bobl hynny nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o deithio. Mae’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn parhau.

Ychwanegu mwy o wledydd at y rhestr cwarantîn

14 Awst 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno diwygiadau pellach i’r rheoliadau teithio rhyngwladol mewn perthynas â’r coronafeirws i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n cyrraedd Cymru o Aruba, Ffrainc, Malta, Monaco, yr Iseldiroedd a Turks a Caicos hunan-ynysu am 14 diwrnod. Mabwysiadwyd yr un dull o fynd i’r afael â’r sefyllfa ledled y DU.

Mwy o aelodau teulu yn cael cwrdd

14 Awst 2020

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i ganiatáu i fwy o deuluoedd gwrdd yng Nghymru. Y bwriad yw, o ddydd Sadwrn 22 Awst ymlaen: y bydd hyd at bedwar cartref yn cael dod ynghyd fel un aelwyd estynedig; caniateir pryd o fwyd yn dilyn priodas, partneriaeth sifil neu angladd i hyd at 30 o bobl dan do ar yr amod y gellir cadw pellter cymdeithasol. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau i’r rheolau ynglŷn â phobl yn cyfarfod dan do ag eraill nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu aelwyd estynedig.

Cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf

7 Awst 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn cyhoeddi y bydd cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf yn cael ei ddatblygu. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y cynllun yn ‘amlinellu disgwyliadau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’ ac y bydd ‘yn rhoi gwell sicrwydd inni mewn nifer o feysydd hanfodol’. Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi.

Campfeydd a phyllau nofio yn ailagor

7 Awst 2020

Prif Weinidog Cymru yn cadarnhau y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor o ddydd Llun 10 Awst ymlaen ynghyd â mannau chwarae dan do i blant. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn parhau i ystyried i weld a oes modd newid y rheolau i alluogi pobl i gwrdd dan do gyda phobl nad ydynt yn perthyn i’w haelwyd estynedig.

£800 miliwn ar gyfer GIG Cymru

5 Awst 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn sefydlogi o £800 miliwn i helpu GIG Cymru ‘i baratoi ar gyfer yr heriau a ragwelir yn ystod y gaeaf’. Mae hyn yn cynnwys ‘ymateb i ail don bosibl o’r feirws ochr yn ochr â phwysau arferol y gaeaf’.

Rhagor o gyfyngiadau i gael eu llacio yng Nghymru

31 Gorffennaf 2020

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei chynlluniau ar gyfer parhau â’r broses o lacio’r cyfyngiadau symud yng Nghymru dros y tair wythnos nesaf. O 3 Awst ymlaen, caiff tafarndai a bwytai ailagor dan do, yn ogystal ag aleau bowlio, neuaddau bingo ac ystafelloedd ocsiwn. Caiff y cyfyngiadau ar gwrdd yn yr awyr agored eu llacio hefyd o 3 Awst ymlaen, a hynny er mwyn caniatáu i hyd at 30 o bobl gwrdd yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol. O 10 Awst ymlaen, os yw’r amodau’n caniatáu, bydd pyllau nofio, sbas, campfeydd, canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do i blant yn cael ailagor. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried a fydd modd newid y rheolau ynglŷn â phobl yn cyfarfod dan do o 17 Awst ymlaen.

Cyfyngiadau yng Ngogledd Lloegr

31 Gorffennaf 2020

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyfyngiadau lleol a gaiff eu rhoi ar waith mewn ardaloedd yng ngogledd Lloegr, a hynny mewn ymateb i gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Cynllun gweithredu ar gyfer cartrefi gofal

30 Gorffennaf 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi ‘cynllun gweithredu’ ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar chwe maes allweddol: atal a rheoli heintiau; cyfarpar diogelu personol; cymorth cyffredinol a chlinigol ar gyfer cartrefi gofal; lles preswylwyr; lles gweithwyr gofal cymdeithasol; a chynaliadwyedd ariannol.

Y cyfnod hunan-ynysu yn cael ei ymestyn

30 Gorffennaf 2020

Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn gwneud datganiad ar y cyd ynghylch ymestyn y cyfnod hunan-ynysu o 7 diwrnod i 10 diwrnod ar gyfer pobl sy’n symptomatig neu sy’n cael canlyniad prawf positif.

Parhau i lacio’r cyfyngiadau yn sgil y Coronafeirws

27 Gorffennaf 2020

Gall salonau harddwch, sinemâu ac amgueddfeydd ailagor yng Nghymru o heddiw ymlaen. At hynny, gall pobl sy’n ystyried prynu tŷ fynd i weld eiddo, cyn belled â’i fod yn wag. Daw rheolau newydd i rym, sy’n ei gwneud hi’n orfodol gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys tacsis.

Ailgyflwyno cwarantin i deithwyr o Sbaen

25 Gorffennaf 2020

Gweinidogion o bedair gwlad y DU yn cytuno i ailgyflwyno mesurau cwarantin ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o Sbaen, mewn ymateb i fwy o achosion o’r Coronafeirws mewn rhannau o’r wlad honno. O 26 Gorffennaf 2020, bydd angen i unrhyw un sy’n cyrraedd y DU o Sbaen (gan gynnwys ei hynysoedd) hunanynysu am 14 diwrnod. Mae’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn rhoi hyn ar waith yng Nghymru.

Gwersyllfeydd a gwestai yn ailagor

25 Gorffennaf 2020

Mae llety i dwristiaid gyda chyfleusterau a rennir, fel safleoedd gwersylla a phob gwesty, yn cael ailagor yng Nghymru. Gall atyniadau tanddaearol ailagor o heddiw ymlaen.

Cyllid i gefnogi prifysgolion a cholegau

22 Gorffennaf 2020

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi y bydd £50 miliwn yn ychwanegol o gyllid ar gyfer prifysgolion a cholegau – ‘Mae’r gefnogaeth yn rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr a phrif sefydliadau addysg Cymru ac i ddarparu’r sgiliau a’r dysgu fel ymateb i effaith economaidd y coronafeirws’.� Bydd £27 miliwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau addysg uwch gyda £23 miliwn i gefnogi myfyrwyr mewn colegau addysg bellach a chweched dosbarth.

Ailagor meysydd chwarae a ffeiriau

20 Gorffennaf 2020

O’r dyddiad hwn, bydd meysydd chwarae a champfeydd awyr agored yn gallu ailagor yng Nghymru, yn ogystal â ffeiriau (dan do ac awyr agored).

Adroddiad ar farwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws yng Nghymru

17 Gorffennaf 2020

Cyhoeddwyd adolygiad cyntaf ar farwolaethau cysyllitedig â’r coronafeirws yng Nghymru. Canfu adroddiad y Grŵp Cyngor Technegol fod y coronafeirws yn ffactor yn 24.1 y cant o’r holl farwolaethau yng Nghymru rhwng 1 Mawrth a 31 Mai. Yn Lloegr, y gyfran gyfatebol o farwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws oedd 42 y cant. Yng Nghymru, roedd cyfraddau marwolaeth cysylltiedig â’r coronafeirws ar eu huchaf yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, lle roedd y cyfraddau marwolaeth ar eu huchaf ymhlith pobl hŷn, pobl o gymunedau BAME, a phobl o gymunedau difreintiedig. Mae’r cyfraddau marwolaeth yn gyson yn uwch i ddynion ym mhob grŵp ethnig. Yn ôl yr adroddiad, mae’n debygol mai’r ffactorau pwysicaf ar gyfer lleihau marwolaethau mewn tonnau coronafeirws yn y dyfodol yw: adnabod yn gynnar bod yr haint yn ailgodi yn y gymuned; a chanolbwyntio’n barhaus ar adnabod ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Y wybodaeth ddiweddaraf am warchod yng Nghymru

16 Gorffennaf 2020

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cadarnhau na fydd angen i bobl sy’n gwarchod eu hunain wneud hynny yng Nghmru ar ôl 16 Awst.

Strategaeth brofi newydd

15 Gorffennaf 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau ei strategaeth profi coronafeirws newydd i Gymru, lle mae’n nodi ei blaenoriaethau profi ar gyfer y cyfnod nesaf. ‘Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y bydd y drefn brofi yn gweithio law yn llaw â llacio’r cyfyngiadau er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw nifer yr achosion dyddiol yn isel, ond mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn parhau i feithrin capasiti ar gyfer y posibilrwydd o ail don hyd nes y bydd brechlyn effeithiol sydd ag effeithlonrwydd amddiffynnol hirdymor ar gael ac yn cael ei ddefnyddio’n eang’

Gorchuddion wyneb i fod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus

13 Gorffennaf 2020

Cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd gwisgo gorchuddion wyneb tair haen yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, o 27 Gorffennaf 2020. Dywedodd hefyd y gall rhai busnesau ofyn i bobl wisgo gorchudd wyneb cyn mynd i mewn i’w safleoedd.

Llacio’r cyfyngiadau symud ymhellach yng Nghymru

10 Gorffennaf 2020

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, mae’r Prif Weinidog yn nodi cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau symud ymhellach. Cafodd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 eu dirymu a’u disodli gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. O 11 Gorffennaf 2020, gall llety gwyliau hunangynhwysol heb gyfleusterau a rennir ailagor. O 13 Gorffennaf 2020, gall nifer o wasanaethau/busnesau ailagor os ydyn nhw’n gallu gwneud hynny’n ddiogel, gan gynnwys siopau trin gwallt, ardaloedd awyr agored tafarndai a bwytai, sinemâu awyr agored, y rhan fwyaf o atyniadau ymwelwyr dan do, a mannau addoli. Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bydd cyfyngiadau’n cael eu llacio mewn meysydd eraill trwy gydol mis Gorffennaf, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â meysydd chwarae a champfeydd awyr agored (o 20 Gorffennaf 2020), llety arall i dwristiaid (o 25 Gorffennaf 2020), gwasanaethau lle mae angen dod i ‘gysylltiad agos’ fel salonau harddwch, sinemâu ac amgueddfeydd o dan do, ac ailagor y farchnad dai yn llawn (o 27 Gorffennaf 2020).

Cynlluniau ar gyfer mynd yn ôl i’r ysgol yng Nghymru

9 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer mynd yn ôl i’r ysgol yng Nghymru o 1 Medi 2020. Bydd ysgolion yn dychwelyd i’w capasiti llawn, gydag elfen gyfyngedig yn unig o gadw pellter cymdeithasol oddi mewn i grwpiau cyswllt. Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog gyllid o £29 miliwn a fydd yn ‘recriwtio, yn adfer ac yn parhau i godi safonau’ mewn ysgolion yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor y Grŵp Cynghori Technegol a oedd yn argymell dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi.

Llacio’r cyfyngiadau cwarantîn yng Nghymru

9 Gorffennaf 2020

Mae Llywodraeth Cymru’n cytuno i ddiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i eithrio’r rheini sy’n teithio o restr o wledydd rhag gorfod dilyn y gofynion ynysu. Daw’r rheoliadau diwygiedig i rym ar 10 Gorffennaf.

Codwyd cyfyngiadau teithio a chaniateir aelwydydd ‘estynedig’

6 Gorffennaf 2020

Codwyd gofyniad i ‘aros yn lleol’ heddiw, sy’n golygu bod pobl yn cael teithio yng Nghymru ac i Gymru. ‘Bydd atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored hefyd yn gallu agor a bydd hefyd yn gam tuag at ail-agor y sector twristiaeth o ddydd Llun Gorffennaf 13 ymlaen, os yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng’. Hefyd o’r dyddiad hwn, bydd pobl o ddwy aelwyd wahanol yn gallu ymuno i ffurfio un aelwyd estynedig rhyngddyn nhw yn unig. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd mesurau’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio mewn datganiad ar 3 Gorffennaf 2020.

Mae tafarndai a siopau trin gwallt yn Lloegr yn ailagor

4 Gorffennaf 2020

Mae tafarndai, bwytai a siopau gwallt yn ailagor yn Lloegr. Ymhlith y newidiadau eraill o’r dyddiad hwn yn Lloegr, bydd dwy aelwyd yn gallu cwrdd unrhyw le, gan gadw pellter cymdeithasol, bydd safleoedd llety gwyliau, rhai cyfleusterau hamdden ac atyniadau i dwristiaid yn ailagor, yn ogystal â llyfrgelloedd, clybiau cymdeithasol, addoldai a chanolfannau cymunedol. Cyhoeddwyd y newidiadau hyn gan gan Brif Weinidog y DU ar 23 Mehefin 2020.

Llacio cyfyngiadau teithio rhyngwladol yn Lloegr

3 Gorffennaf 2020

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pobl, o 10 Gorffennaf 2020, yn gallu teithio i wledydd y nodir eu bod yn ‘risg is’ heb orfod hunanynysu ar ôl dychwelyd i Loegr. Yn ôl y datganiad, bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn nodi eu dulliau eu hunain ar gyfer esemptiadau [o hunanynysu], ac felly dylai teithwyr sy’n dychwelyd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sicrhau eu bod yn dilyn y deddfau a’r canllawiau sy’n berthnasol yno.

Camau i’r sector lletygarwch a thwristiaeth ailagor yn raddol

2 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru wedi nodi amserlen i’r sector twristiaeth ailagor yn raddol. Bydd bariau, bwytai a chaffis gyda mannau awyr agored yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf 2020. ‘Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch ailagor yn yr adolygiad nesaf o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, a bydd yn dibynnu ar a yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng. Gwneir penderfyniadau ynghylch ailagor y sector o dan do maes o law, a bydd llawer yn dibynnu ar lwyddiant y cam cyntaf o agor y sector yn yr awyr agored.’ Hefyd, yn ddarostyngedig i’r adolygiad o reoliadau coronafeirws ar 9 Gorffennaf, mae’r dyddiad ar gyfer derbyn archebion llety gwyliau hunangynhwysol yn cael ei ddwyn ymlaen i 11 Gorffennaf o 13 Gorffennaf, i gyd-fynd â’r patrwm o aros o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn.

Mae’r cwarantîn i deithwyr rhyngwladol yn aros yng Nghymru

30 Mehefin 2020

Cafwyd datganiad gan y Prif Weinidog yn dilyn adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020: bydd y gofyniad i bobl sy’n cyrraedd neu sy’n dychwelyd o dramor i hunanynysu am 14 diwrnod aros mewn grym yng Nghymru. ‘Gellir diwygio’r Rheoliadau maes o law gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau sy’n parhau â gweinyddiaethau eraill y DU a chan ystyried yn llawn y cyngor meddygol a gwyddonol a fyddai’n sail ar gyfer unrhyw newidiadau a allai gael eu cynnig’.

Ysgolion yng Nghymru yn ailagor

29 Mehefin 2020

Mae plant yn dychwelyd i’r ysgol yng Nghymru mewn dull graddol. Bydd grwpiau blwyddyn yn cael eu rhannu’n garfannau gydag amseroedd cychwyn ac egwyliau gwahanol. Disgwylir, ar y mwyaf, y bydd traean o’r disgyblion yn bresennol ar unrhyw un adeg. Mae canllawiau wedi’u diweddaru i ysgolion a chwestiynau cyffredin wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Achosion mewn safleoedd prosesu cig a bwyd

24 Mehefin 2020

Y Gweinidog Iechyd yn gwneud datganiad ar achosion o’r coronafeirws sydd wedi’u canfod mewn dau safle prosesu cig a bwyd yng Nghymru, yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn a ffatri Rowan Foods yn Wrecsam. Cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer safleoedd prosesu cig a chynhyrchu bwyd ar atal a rheoli achosion o’r coronafeirws ar ôl hynny, ar 26 Mehefin 2020.

Adroddiad ar ganlyniadau pobl dduon a grwpiau lleiafrifoedd ethnig o ran y coronafeirws

22 Mehefin 2020

Cyhoeddwyd adroddiad ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar ganlyniadau negyddol Covid-19 i unigolion duon a rhai o gefndiroedd ethnig. Mewn datganiad ar 25 Mehefin 2020, dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r adroddiad ac yn darparu ymateb ffurfiol i argymhellion yr adroddiad yn fuan.

Adolygiad o gyfyngiadau’r coronafeirws

19 Mehefin 2020

Mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws yn dilyn y pedwerydd adolygiad o’r rheoliadau. O 22 Mehefin, caiff yr holl fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, cyfleusterau gofal plant a’r farchnad dai ailagor; a chaniateir gweddïau preifat mewn mannau addoli. Hefyd, ailadroddodd y Prif Weinidog y bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgolion ar 29 Mehefin.

Defnyddio decsamethason i drin COVID-19

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi bod y canllawiau ar gyfer ysbytai sy’n trin COVID-19 wedi’u diweddaru i gynnwys defnyddio decsamethason. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Brifysgol Rhydychen bod decsamethason yn lleihau marwolaethau’n sylweddol ymhlith cleifion y mae arnynt angen ocsigen neu gymorth anadlu.

Gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell Nghymru

9 Mehefin 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell “y dylid gwisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle gall fod yn anoddach cadw pellter cymdeithasol… fel ar gludiant cyhoeddus”. Fodd bynnag, ni fydd yn orfodol i bobl wisgo gorchuddion wyneb. Eglurodd Llywodraeth Cymru yn glir hefyd nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn dileu’r angen i gadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo yn rheolaidd. Ailbwysleisiodd hefyd fod yn rhaid i unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws “hunanynysu am o leiaf saith diwrnod a chael prawf cyn gynted â phosibl”.

Cwarantin i’r rhai sy’n cyrraedd y DU mewn grym yn awr

8 Mehefin 2020

Daw’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 � � i rym – rhaid i breswylwyr ac ymwelwyr sy’n dod i’r wlad o dramor hunanynysu am 14 diwrnod rhag i’r coronafeirws ymledu ymhellach. Mae hyn yn adlewyrchu sefyllfa gyffredin ym mhedair gwlad y DU. Mae nifer o eithriadau i’r rheolau newydd.

Cyhoeddi y bydd disgyblion Cymru yn dychwelyd i’r ysgol

3 Mehefin 2020

Cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd ysgolion yn ailagor i bob grŵp blwyddyn ar 29 Mehefin 2020. Bydd y tymor yn para wythnos ychwanegol tan 27 Gorffennaf 2020. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen yn egluro’i dealltwriaeth ddiweddaraf o’r coronafeirws mewn perthynas â phlant ac addysg. Mae ysgolion Lloegr wedi bod ar agor ers 1 Mehefin 2020. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni fydd disgyblioon yn dychwelyd i’r ysgol cyn Awst 2020 pan fydd y flwyddyn academaidd yn dechrau yno.

Olrhain cysylltiadau yn dechrau yng Nghymru

1 Mehefin 2020

Wrth i’r system olrhain cysylltiadau gael ei chyflwyno, bydd aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau’n cysylltu ag unrhyw un sy’n cael canlyniad prawf coronafeirws positif ac yn gofyn am fanylion pawb maent wedi dod i gysylltiad agos â hwy. Bydd y tîm yn cysylltu â’r holl gysylltiadau hyn a gofynnir iddynt hunanynysu am 14 diwrnod.

Newidiadau ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain

1 Mehefin 2020

Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi dau newid i bobl sy’n gwarchod eu hunain o heddiw, ond fe’u cynghorir i wneud hynny ar adegau llai prysur i leihau’r risg o ddod i gysylltiad ag eraill. Yn gyntaf, gallant wneud ymarfer corff yn yr awyr agored nifer diderfyn o weithiau’r dydd. Yn ail, gallant gyfarfod ag aelwyd arall yn yr awyr agored, ar yr un telerau â phawb arall yng Nghymru.

Aros yn lleol

29 Mai 2020

Yng Nghymru, yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o’r rheoliadau, mae Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi bod y neges i ‘aros gartref’ yn newid i ‘aros yn lleol’. O 1 Mehefin, gall dwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored a dylid parhau i ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid da. Pwysleisiwyd y dylai pobl barhau i aros yn lleol gan ddefnyddio “pum milltir fel canllaw” ond bod “hyblygrwydd i hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn”. Nododd Prif Weinidog Cymru hefyd i “fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol i ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i ddechrau paratoi i ailagor”.

Cyhoeddi mesurau ffiniau’r DU

22 Mai 2020

Mae Ysgrifennydd Cartref y DU wedi cyhoeddi mesurau iechyd cyhoeddus newydd ar gyfer pob un sy’n cyrraedd y DU, er mwyn helpu i warchod rhag ail don o’r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys 14 diwrnod o hunanynysu i unrhyw un sy’n dod i mewn i’r DU, gydag ambell eithriad prin.

Llywodraeth Cymru wedi’i chyfeirio i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

21 Mai 2020

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am ymchwiliad i Lywodraeth Cymru gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dros bryderon bod hawliau dynol pobl hŷn wedi’u torri mewn cartrefi gofal. Mae gan y Comisiynydd bryderon nad yw hawliau pobl hŷn wedi’u diogelu ddigon yn y lleoliadau hyn ac ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach. Ymatebodd y Comisiynydd i ddweud ei fod yn ‘parhau i fod â chryn bryder am y posibilrwydd y torrwyd hawliau dynol pobl hŷn yn ystod y pandemig’. Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn gweithio’n agos gyda’r Comisiynydd ac yn “ystyried defnyddio ei holl bwerau i warchod hawliau pobl hŷn”.

Cyflwyno prawf coronafeirws gartref

18 Mai 2020

O’r dyddiad hwn ymlaen, dylai pobl yng Nghymru sydd â symptomau’r coronafeirws allu gofyn am gael prawf coronafeirws gartref trwy wasanaeth archebu ar-lein. Mae’r prawf yn rhan o system newydd ledled y DU ar gyfer archebu pecynnau i brofi am y coronafeirws gartref. At hynny, gall gweithwyr hanfodol yng Nghymru ofyn am becynnau profi gartref trwy’r gwasanaeth ar-lein, a “rhoddir blaenoriaeth i’r gweithwyr hynny dros aelodau o’r cyhoedd yn ôl y capasiti”. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddefnyddio’r pecyn profi gartref.

Diweddariad o ran symptomau

18 Mai 2020

Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cyhoeddi diweddariad o ran symptomau’r coronafeirws i gynnwys colli arogl neu flas. O’r dyddiad hwn ymlaen, dylai pob unigolyn hunanynysu os yw’n datblygu o leiaf un o’r symptomau hyn: peswch parhaus o’r newydd; twymyn; colli arogl neu flas (anosmia).

Profi ar gyfer pob cartref gofal

16 Mai 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y gall holl breswylwyr a staff cartrefi gofal gael mynediad at brofion ar borth Llywodraeth y DU.

Fframwaith ar gyfer addysg a gofal plant

15 Mai 2020

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, , yn cyhoeddi fframwaith yn amlinellu’r egwyddorion a’r meddylfryd cyfredol ynghylch y camau nesaf ar gyfer addysg a gofal plant yng Nghymru.

Canllaw golau traffig ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud

15 Mai 2020

Prif Weinidog Cymru yn amlinellu’r map o’r ffordd ymlaen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru. Mae’n cynnwys naw maes gyda phedwar cam ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud, o goch i oren i wyrdd. Dywed y ddogfen fod y camau hyn yn “amlinellu camau bras” ac na fydd Cymru’n “symud popeth ar yr un pryd o’r naill gam i’r llall”. Mae’n bosibl, felly, bod wrth y cam coch mewn un maes, a cham gwyrdd mewn maes arall.

Profi, Olrhain, Diogelu

13 Mai 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth brofi er mwyn “gwella gwyliadwriaeth iechyd”� ac� “olrhain cysylltiadau yn effeithiol ac yn helaeth”. Dywed fod profi, hyd yn hyn, wedi canolbwyntio ar bobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr allweddol symptomatig a bydd y cam nesaf yn golygu profi unrhyw un yn y gymuned â symptomau.

Dim rhaid gorchuddio’r wyneb/ neu Nid yw gorchuddion wyneb yn orfodol

12 Mai 2020

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn dweud mewn datganiad nad yw’n “argymell gorfodi pob un i wisgo gorchudd wyneb bob tro y byddant yn gadael eu cartref – dylai hyn fod yn fater o ddewis personol.”

Prif Weinidog yn dweud wrth Loegr am aros yn wyliadwrus

10 Mai 2020

Mewn anerchiad teledu, mae Prif Weinidog y DU wedi amlinellu newidiadau i’r cyfyngiadau symud yn Lloegr ac wedi hyrwyddo neges newydd i ‘aros yn wyliadwrus’. Caiff mwy o fanylion eu cyflwyno i Senedd y DU ar 11 Mai 2020. Mae’r neges ‘aros gartref’ yn parhau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyhoeddi cyngor gwyddonol

8 Mai 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r modelu diweddaraf gan ei Chell Cynghori Technegol (TAC). Caiff cyngor TAC, yn ogystal â chyngor Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar gyfer Argyfyngau (SAGE), ei ddefnyddio i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws.

Cynllun ‘profi, monitro ac olrhain’

5 Mai 2020

Y Gweinidog Iechyd yn amlinellu Cynllun Ymateb Llywodraeth Cymru er mwyn Diogelu Iechyd y Cyhoedd. Bydd y Cynllun ‘yn nodi sut y bydd rhaglen effeithiol o brofi, monitro ac olrhain yn allweddol er mwyn rheoli trosglwyddiad y feirws’.

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn holi’r Gweinidog Iechyd

5 Mai 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar effaith pandemig y coronafeirws ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant, ac ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cymorth i brifysgolion a myfyrwyr

4 Mai 2020

Y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi datganiad polisi addysg uwch yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prifysgolion a myfyrwyr i ymdopi ag effaith y coronafeirws.

Taliad o £500 i weithwyr gofal

1 Mai 2020

Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi taliad ychwanegol o £500 i staff gofal cymdeithasol. “Mae’r taliad hwn yn gydnabyddiaeth bellach o weithlu sydd yn aml yn cael ei anwybyddu, a ddim yn cael digon o werthfawrogiad. Bydd y taliad ar gael i tua 64,600 o weithwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal yn y cartref ar draws Cymru.”

Heibio’r brig?

30 Ebrill 2020

Dywed Prif Weinidog y DU yn y gynhadledd i’r wasg ddyddiol ein bod wedi mynd heibio i frig y clefyd hwn.

Y Gweinidog Iechyd yn ymddangos gerbron pwyllgor

30 Ebrill 2020

Bu’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws. Mae’r Gweinidog Iechyd yn ateb cwestiynau ynghylch cyfarpar diogelu personol (PPE), profion a ‘strategaeth i lacio’r cyfyngiadau’ presennol o ran y coronafeirws.

Rhagor o brofion drwy ffenest y car

28 Ebrill 2020

Bydd dwy ganolfan brofi newydd yn agor a bydd gwasanaeth archebu ar-lein yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Dywed datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru y bydd y ganolfan brofi yn Llandudno yn agor ar 29 Ebrill, a chanolfan Caerfyrddin yn dechrau profi gweithwyr allweddol ar 30 Ebrill 2020.

Y wybodaeth ddiweddaraf am beiriannau anadlu

29 Ebrill 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn darparu’r diweddaraf am gapasiti gofal critigol a chymorth anadlu. O’r 1,035 o beiriannau anadlu ychwanegol sy’n cael eu caffael gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a thrwy drefniadau’r DU (yn unol â’i ddatganiad ar 6 Ebrill), cafwyd 353). Dywedodd y Gweinidog “Mae’r broses o gyflenwi’r peiriannau anadlu sydd wedi’u caffael drwy Gydwasanaethau GIG Cymru a threfniadau yn y DU wedi bod yn broses raddol dros gyfnod o 13 o wythnosau, ar sail yr amcanestyniad gwreiddiol y byddai nifer yr achosion ar ei uchaf ym mis Mehefin/Gorffennaf. Tra bo achosion o COVID-19 yng Nghymru nid oes prinder wedi bod o safbwynt peiriannau anadlu o fewn y GIG yng Nghymru”.

Adolygu’r data marwolaethau

28 Ebrill 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygu’r dull ar gyfer adrodd ar farwolaethau COVID-19 yng Nghymru. Cynhaliwyd yr adolygiad ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dangofnodi nifer sylweddol o farwolaethau. Nodwyd problemau hefyd gyda data a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Pwyllgor y Cynulliad yn craffu ar y Gweinidog Addysg

28 Ebrill 2020

Bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn holi’r Gweinidog am effaith y coronafeirws ar addysg cyn-16 oed, ac addysg ôl-16. Yn gynharach, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad a oedd yn disgrifio dull graddol o ailagor ysgolion – “ni fydd ysgolion yn dychwelyd ar unwaith i weithredu i’w capasiti llawn.” Pwysleisiodd y Gweinidog nad oedd unrhyw gam i ailagor ysgolion ar fin digwydd.

Marwolaeth mewn swydd

27 Ebrill 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn sefydlu Cynllun Marwolaeth mewn Gwasanaeth COVID-19 ar gyfer gweithwyr rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol. O dan y Cynllun, bydd buddiolwyr cymwys yn cael swm unwaith ac am byth o £60,000, waeth beth yw cyflogau gweithwyr unigol. Bydd terfyn amser ar y Cynllun, gan y bydd yn darparu sicrwydd ar gyfer cyfnod y pandemig a bydd yn gymwys yn ôl-weithredol o 25 Mawrth 2020.

Fframwaith y strategaeth i lacio’r cyfyngiadau

24

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei ‘fframwaith ar gyfer adferiad ar ôl pandemig y coronafeirws. “Cyflwynwyd y cyfyngiadau ar symud,” meddai’r Prif Weinidog, “yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ledled y Deyrnas Unedig, a’n dewis ni fel llywodraeth fyddai bod pob un o’r pedair gwlad yn mynd ati i godi’r cyfyngiadau yn yr un ffordd.� Serch hynny, rydym wedi dweud yn gyson y byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir er lles pobl Cymru”. Bydd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn cydlynu’r paratoadau ar gyfer adferiad.

Diwygio’r cyfyngiadau aros gartref

24

Mae’r rheoliadau aros gartref wedi’u hadolygu yng Nghymru i egluro na all pobl sy’n rhoi esgus rhesymol dros adael eu cartref (fel siopa am eitemau hanfodol, gofal iechyd neu waith) aros allan i wneud pethau eraill. Mae trefniadau newydd hefyd yn caniatáu i bobl sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau penodol adael eu cartref i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd. Nod penodol y trefniadau hyn yw helpu teuluoedd sydd â phlant ag awtistiaeth ac anableddau dysgu.

Cymorth i hosbisau

19 Ebrill 2020

Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol o £6.3 miliwn dros dri mis i hosbisau.

Adolygiad profion

18 Ebrill 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygiad o’i gweithdrefn ar gyfer profi am y coronafeirws. Mae’r adolygiad yn disgrifio ystod o achosion o oedi a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi, ac mae’n cadarnhau “na fyddwn yn cyrraedd 5000 o brofion erbyn trydedd wythnos mis Ebrill”. Mae’n cynnwys ymrwymiad i ddarparu diweddariadau wythnosol yn nodi’r cynnydd disgwyliedig a’r cynnydd gwirioneddol o ran capasiti profi.

Mesurau aros gartref yn parhau

16 Ebrill 2020

Yn dilyn sesiwn friffio’r cyfryngau gan Lywodraeth y DU, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod pedair gwlad y DU wedi cytuno mewn cyfarfod COBR i barhau â’r mesurau cyfredol i aros gartref am dair wythnos yn rhagor. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch adolygu’r rheoliadau sy’n sail i’r cyfyngiadau hyn.

Ymestyn tâl salwch statudol

16 Ebrill 2020

Rheoliadau newydd yn dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i ymestyn y tâl salwch statudol i’r rheini sy’n fregus iawn, sydd â risg uchel o gael salwch difrifol yn sgil y coronafeirws ac a argymhellir iddynt aros gartref am 12 wythnos.

Cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol

13 Ebrill 2020

Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi £40m ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws. “Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatgan yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fodloni’r galw ychwanegol sydd ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Byddwn yn adolygu’r dyraniad hwn ac yn sicrhau bod rhagor o arian ar gael efallai os bydd angen yn y dyfodol.”

Ehangu ymgynghoriadau fideo

12 Ebrill 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad pellach i gyflwyno gwasanaeth ymgynghori fideo i ofal eilaidd a gofal yn y gymuned. “Bydd y system hon yn galluogi gwasanaethau allweddol i gadw cysylltiad gweledol â chleifion, sydd yn arbennig o bwysig yn achos rhai gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl.”

Cyllid ar gyfer elusennau

8 Ebrill 2020

Canghellor y DU yn cyhoeddi cyllid o £750 miliwn ar gyfer y sector elusennau. Caiff cyfran o’r cyllid hwn ei ddyrannu drwy’r fformiwla Barnett i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofal critigol

5 Ebrill 2020

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi datganiad am gapasiti gofal critigol ac argaeledd peiriannau anadlu yng Nghymru. Dywedodd fod nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru’n cynyddu’n ddyddiol. Ar 3 Ebrill, mae 353 o welyau gofal critigol neu welyau cymorth anadlu mewnwthiol (mae tua 153 fel arfer). Nododd hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo i gaffael 1,035 o beiriannau anadlu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a thrwy drefniadau’r DU, a bod disgwyl i Gymru gael cyfran o gaffaeliad y DU yn seiliedig ar ei phoblogaeth.

Cadw pellter cymdeithasol – gweithleoedd ac angladdau

4 Ebrill 2020

dan reoliadau diwygiedig i Gymru, bydd yn rhaid i fusnesau gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rheol cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr yn cael ei dilyn ymhlith pobl ar eu safle. Cyhoeddir canllawiau i egluro’r camau rhesymol y gellir disgwyl i gyflogwyr eu cymryd. Mae’r rheoliadau hefyd yn egluro’r trefniadau ar gyfer angladdau ac amlosgfeydd. Mae’r rheoliadau, sy’n diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, yn dod i rym ar 7 Ebrill 2020.

Apwyntiadau gyda meddygon teulu dros y we

2 Ebrill 2020

Gwasanaeth fideo-ymgyngoriadau yn cael ei gyflwyno ym mhob practis meddyg teulu yng Nghymru.

Cyfarpar Diogelu Personol (CDP)

2 Ebrill 2020

Yn dilyn adolygiad cyflym o CDP ar draws y DU, cyhoeddir canllawiau newydd ledled y DU.

Cefnogaeth economaidd ychwanegol

30 Mawrth 2020

Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi Cronfa Cadernid Economaidd newydd i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi, busnesau ac elusennau Cymru.

Datganiad o fygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru

29 Mawrth 2020

O ganlyniad i’r datganiad galluogir Gweinidogion Cymru i ddefnyddio’r pwerau a roddir iddynt yn Rhan 4 o Atodlen 22 i Ddeddf Coronafeirws 2020, sy’n ymwneud â gwahardd neu gyfyngu ar ddigwyddiadau neu gynulliadau ac â chau mangre neu osod cyfyngiadau ar bobl sy’n dod i mewn neu’n aros y tu mewn i fangre.

Tâl salwch statudol o’r diwrnod cyntaf

28 Mawrth 2020

Rheoliadau newydd yn dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sy’n caniatáu i dâl salwch statudol gael ei dalu o ddiwrnod cyntaf absenoldeb gweithiwr oherwydd y coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd bod ganddynt symptomau coronafeirws a’r rhai sydd yn aelwyd rhywun sydd â’r symptomau.

Profion newydd

28 Mawrth 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi cynllun profi coronafeirws newydd ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno prawf gwrthgyrff newydd (sy’n cael ei brofi yn y DU yn ystod yr wythnos sydd i ddod) a fydd yn nodi a yw pobl wedi cael y feirws yn ddiweddar ac a oes ganddynt imiwnedd.

Stadiwm Principality i ddod yn ysbyty maes

27 Mawrth 2020

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cyhoeddi y bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn dod yn ysbyty dros dro i ddarparu 2,000 o welyau ychwanegol i’r GIG. Cefnogir hyn gan £8 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Cau llwybrau a thir cyhoeddus

27 Mawrth 2020

Gan ddefnyddio’r pwerau newydd i orfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae nifer o lwybrau a thir cyhoeddus yng Nghymru ar gau, gan gynnwys yr Wyddfa, Pen y Fan a rhannau o arfordir Sir Benfro.

Cymorth i’r hunangyflogedig

26 Mawrth 2020

Canghellor y Trysorlys yn amlinellu cynllun cymhorthdal incwm newydd y DU i bobl hunangyflogedig y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt yn andwyol.

Pwerau’r heddlu

26 Mawrth 2020

Mae rheoliadau newydd yn dod i rym sy’n rhoi pŵer i’r heddlu orfodi cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Gellir cyfeirio pobl nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau i ddychwelyd adref (neu gael eu symud o ble bynnag y maent a’u hanfon adref) a gallent gael hysbysiad cosb benodedig.

Cario gwyliau blynyddol ymlaen

26 Mawrth 2020

Rheoliadau newydd yn dod i rym ar draws Prydain Fawr yn caniatáu i weithwyr, nad yw’n rhesymol iddynt gymryd gwyliau blynyddol oherwydd y coronafeirws, gario eu gwyliau drosodd i’r ddwy flwyddyn wyliau nesaf.

Gofal a chymorth awdurdodau lleol

26 Mawrth 2020

Gwneud rheoliadau newydd yng Nghymru i ddod â darpariaethau o Ddeddf y Coronafeirws 2020 i rym ac i lacio rhai o ddyletswyddau awdurdodau lleol o ran asesu a bodloni anghenion am ofal a chymorth. Bellach, nid oes ond angen i awdurdodau lleol fodloni gofynion yr achosion mwyaf difrifol lle bo rhywun yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Deddf Coronafeirws 2020

25 Mawrth 2020

Yn dilyn cydsyniad gan ddau Dŷ’r Senedd, mae Bil Coronafeirws wedi cael Cydsyniad Brenhinol.

Cydsyniad Deddfwriaethol

24 Mawrth 2020

Mae’r Cynulliad wedi cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Coronafeirws.

Gwarchod y rhai sydd fwyaf agored i niwed

24 Mawrth 2020

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer pobl a nodir fel y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgîl y coronafeirws. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am ddarparu meddyginiaeth a bwyd, yn ogystal â chyfarwyddiadau i rywun sy’n byw gyda phobl sy’n fwyaf agored i niwed.

Atal twristiaid

23 Mawrth 2020

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd meysydd carafannau, meysydd gwersylla a chyrchfannau poblogaidd i dwristiaid ar gau i ymwelwyr “o heddiw ymlaen”. Daeth rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gau parciau gwyliau, parciau gwersylla, arcêds difyrion a chanolfannau chwarae dan do yng Nghymru i rym ar 24 Mawrth 2020. Mae’r rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer cau tir a llwybrau cerdded penodol. Daeth y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i gymryd lle’r rheoliadau hyn yn ddiweddarach, sef ar 26 Mawrth 2020.

Anerchiad y Prif Weinidog

23 Mawrth 2020

Prif Weinidog y DU yn annerch y genedl – mae’n ofynnol i bawb aros gartref bellach ac eithrio ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn. Bydd siopau a mannau cymunedol nad ydynt yn hanfodol yn cau, a gwaherddir i fwy na dau berson ymgynnull yn gyhoeddus. Mae’r mesurau hyn yn cael eu gorfodi gan yr heddlu ac awdurdodau perthnasol eraill. Prif Weinidog Cymru yn gwneud datganiad ar y mesurau newydd.

Teithio yng Nghymru

22 Mawrth 2020

Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod cadw pellter cymdeithasol “yn cynnwys osgoi pob taith heblaw am rai hanfodol ac os na fydd pobl yn dilyn y cyngor yma ni fydd gennym unrhyw ddewis ond defnyddio pwerau i’w orfodi”.

Cynllun cadw swyddi coronafeirws

20 Mawrth 2020

Mae’r Canghellor yn cyhoeddi bod Cynllun Cadw Swydd Coronafeirws yn cael ei greu fel y gall unrhyw gyflogwyr yn y DU gysylltu â Chyllid a Thollau EM am grant i dalu 80 y cant o gyflogau gweithwyr y parheir i’w cyflogi. Bydd y Cynllun yn talu costau cyflogau wedi’u hôl-ddyddio i 1 Mawrth 2020; fe’i sefydlwyd i dalu am o leiaf tri mis i ddechrau.

Rhai busnesau yn cael eu gorfodi i gau�

20 March 2020

Cyhoeddodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth “yn dweud wrth gaffis, tafarndai, bariau, bwytai i gau heno” yn ogystal â “chlybiau nos, theatrau, sinemâu, campfeydd a chanolfannau hamdden”. Daeth Rheoliadau a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau a oedd yn gwerthu bwyd neu ddiod i’w bwyta ar y safle i gau i rym yng Nghymru a Lloegr y diwrnod canlynol. Daeth y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i gymryd lle’r rheoliadau hyn yn ddiweddarach, sef ar 26 Mawrth 2020.

Cyflwyno bil brys

19 Mawrth 2020

Cyflwyno Bil Coronafeirws 2019-21 yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, mae’r Bil yn sicrhau bod yr asiantaethau a’r gwasanaethau dan sylw, sef ysgolion, ysbytai, yr heddlu ac ati, â’r cyfarpar a’r pwerau sydd eu hangen arnynt. Mae gan y pedair gwlad yn y DU ei chyfres ei hun o gyfreithiau, ac felly mae’r cyfarpar a’r pwerau hyn yn amrywio ym mhob ardal i raddau. Dywedir mai’r ffordd orau i sicrhau canlyniadau cyson fydd gwneud y gyfres o gyfarpar a phwerau yn gyson ar draws y DU. Mae crynodeb Ymchwil y Senedd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y Bil a’i oblygiadau i Gymru.

Pwyllgor yn holi Gweinidog ynghylch cau ysgolion

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i drafod effaith COVID-19 ar addysg, gan gynnwys canslo arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn.

Ysgolion yng Nghymru yn cau

18 Mawrth 2020

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi y bydd yn cyflwyno toriad y Pasg yn gynharach ac y bydd ysgolion ledled Cymru “yn cau am ddarpariaeth addysg statudol” erbyn 20 Mawrth 2020.

Rheoliadau diogelu iechyd Cymru

18 Mawrth 2020

Daw rheoliadau i rym sy’n darparu ar gyfer “gosod cyfyngiadau cymesur” ar unigolion lle yr amheuir y gallent fod â choronafeirws. Gwnaed Rheoliadau tebyg yn Lloegr fis Chwefror. Daeth y Ddeddf Coronafeirws 2020, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020, i gymryd lle’r rheoliadau hyn.

Llywodraeth Cymru yn briffio’r Pwyllgor Iechyd

18 Mawrth 2020

Cafodd y Pwyllgor � sesiwn friffio technegol gan y Prif Swyddog Meddygol ar yr ymateb i COVID-19 yng Nghymru, a gan y Gweinidog Iechyd ar y ddeddfwriaeth frys.

Deddfwriaeth frys

17 Mawrth 2020

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi manylion o’r mesurau arfaethedig i’w cynnwys yn y ddeddfwriaeth frys ar goronafeirws.

Cymorth i fusnesau

17 Mawrth 2020

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, gymorth i fusnesau bach yng Nghymru. Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael gostyngiad o 100% mewn ardrethi busnes, a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000.

Diwygio busnes y Cynulliad

17 Mawrth 2020

Bydd busnes y Cynulliad yn blaenoriaethu COVID-19 ac mae holl fusnes nad yw’n frys wedi’i atal. Adeilad y Senedd ar gau i ymwelwyr.

Cyngor wedi’i ddiweddaru a phellter cymdeithasol

16 Mawrth 2020

Gwnaeth y Prif Weinidog, Boris Johnson, ddiweddaru’r cyngor os oes gan unrhyw un yn y cartref beswch parhaus neu dymheredd uchel, dylai pawb yn y cartref hunanynysu am 14 diwrnod.

Gohirio apwyntiadau GIG nad ydynt yn rhai brys

13 Mawrth 2020

Mae Vaughan Gething yn cyhoeddi atal nifer o wasanaethau’r GIG, gan gynnwys gohirio apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys a gohirio derbyniadau a gweithdrefnau llawfeddygol nad ydynt yn rhai brys. Dywed y Gweinidog y bydd “y camau hyn yn caniatáu i wasanaethau a gwelyau gael eu hailddyrannu ac i staff gael eu hadleoli a’u hailhyfforddi mewn meysydd blaenoriaeth”.

Rheoliadau tâl salwch statudol

13 Mawrth 2020

Mae rheoliadau newydd yn dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar gyfer pobl sy’n hunanynysu yn unol â chanllawiau sy’n ymwneud â COVID-19, sef y bernir na allant weithio a bod ganddynt hawl i dâl salwch statudol.

Cam oedi

12 Mawrth 2020

Mae’r DU yn symud i’r cam oedi, ac mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi codi lefel y risg i’r DU o ‘gymedrol’ i ‘uchel’. Cyhoeddir cyngor newydd sy’n dweud y dylid hunanynysu am saith diwrnod os ydych chi’n datblygu tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd. Nid oes angen gweld meddyg teulu na mynd i’r fferyllfa na’r ysbyty. Argymhellir ffonio 111 dim ond os nad yw’r symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod neu os yw’ch cyflwr yn gwaethygu.

Ymgynghoriadau iechyd fideo

12 Mawrth 2020

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi y bydd gwasanaeth ar y we yn caniatáu i bobl sy’n hunanynysu ddefnyddio fideo i siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG a chael cyngor ganddynt.

Pandemig

11 Mawrth 2020

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio COVID-19 fel pandemig, ond mae’n pwysleisio nad yw hyn yw’n newid asesiad Sefydliad Iechyd y Byd o’r bygythiad sy’n deillio o’r coronafeirws. “It doesn’t change what WHO is doing, and it doesn’t change what countries should do”. (Mae’r term ‘pandemig’ yn cyfeirio at ledaeniad clefyd heintus newydd ar draws sawl gwlad, yn hytrach na’i ddifrifoldeb neu nifer yr achosion/marwolaethau).

Cyllideb 2020

11 Mawrth 2020

Mae Canghellor y DU yn cyhoeddi pecyn o fesurau gwerth £12 biliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, unigolion a busnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Mae’n cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau, newidiadau i dâl salwch statudol, a chynnydd dros dro yn y gostyngiad ardrethi busnes ar gyfer manwerthwyr (yn Lloegr yn unig). Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu‘r cyhoeddiad, ond mae am gael eglurder pellach ynghylch sut y bydd y mesurau yn cael eu hariannu’n llawn. “Rydym wrthi’n trafod â Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael y cyllid y mae arni ei hangen i ddelio â’r effaith, yn enwedig o ystyried y pwysau a allai ddod i’r amlwg oherwydd ein patrwm demograffig”.

‘COBRA Cymru’

10 Mawrth 2020

Mae’r Prif Weinidog yn cadarnhau bod grŵp gweinidogol craidd wedi cael ei sefydlu a’i fod yn cyfarfod yn wythnosol, “i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i ymateb ar frys ac ar unwaith pan fo angen ymateb o’r fath”. Hefyd, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at y ffaith bod Prif Weithredwr GIG Cymru yn sefydlu ‘tîm cynllunio ac ymateb o blith GIG Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol’, a fydd yn “rhoi cymorth parhaus, yn cydgysylltu ac yn integreiddio’r ymateb o ran y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol”.

Cam cyfyngu

09 Mawrth 2020

Mae Prif Weinidog y DU yn cadeirio cyfarfod COBRA brys, gyda Phrif Weinidog Cymru, Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon yn bresennol. Mae Prif Weinidog y DU yn cyhoeddi bod y DU yn aros yng ngham cyntaf yr achosion, sef ‘cyfyngu’, ond bod paratoadau helaeth yn cael eu gwneud ar gyfer mynd i’r cam ‘oedi’.

Deddfwriaeth frys

08 Mawrth 2020

Mae Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd Bil COVID-19 Brys ar ddod, fel rhan o ymateb fesul cam y DU i’r feirws. Mae’r ddeddfwriaeth, a fydd yn gymwys � i bedair gwlad y DU, yn darparu pwerau brys i Gymru ymateb i’r achosion yn sydyn ac effeithiol.

Clefyd hysbysadwy

05 Mawrth 2020

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael eu gwneud, gan wneud COVID-19 yn glefyd hysbysadwy yng Nghymru. Caiff rheoliadau cyfatebol i Loegr eu gwneud ar yr un dydd. Yr Alban oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud COVID-19 yn glefyd hysbysadwy (o 22 Chwefror 2020), ac yna Gogledd Iwerddon (29 Chwefror 2019).

Briffio’r Pwyllgor Iechyd

04 Mawrth 2020

Cynhelir cyfarfod arbennig o Gabinet Cymru. Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cael brîff technegol gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, y Prif Swyddog Meddygol, ac arweinydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cynllun gweithredu y DU

03 Mawrth 2020

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei chynllun gweithredu: Coronavirus action plan: a guide to what you can expect. Mae’r cynllun gweithredu ar y cyd hwn rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn nodi ymateb fesul cam i’r feirws. Mae hyn yn cynnwys y ‘cam cyfyngu’, y ‘cam oedi’, ‘cam ymchwilio’ hyd at y ‘cam lliniaru’. Nodwyd yn y cynllun gweithredu y byddai’r llywodraeth yn ystyried opsiynau deddfwriaethol, pe bai angen, i helpu systemau a gwasanaethau weithio’n fwy effeithiol i drechu’r achosion o’r feirws, ac y byddai’n sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.

Yr achos cyntaf yng Nghymru

28 February 2020

Cadarnheir achos cyntaf Cymru o’r coronafeirws. Roedd y claf wedi teithio yn ôl i Gymru o ogledd yr Eidal.

Rheoliadau diogelu iechyd

10 Chwefror 2020

Mae rheoliadau yn cael eu gwneud ar gyfer Lloegr o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, sy’n rhoi pwerau i weithwyr iechyd proffesiynol gadw unigolion ar wahân lle y credir bod risg resymol y gall y feirws fod ar unigolyn. Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru ei fod yn ystyried a oedd angen deddfwriaeth debyg yng Nghymru. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud y rheoliadau cyfatebol ar gyfer Cymru o dan Ddeddf 1984.

Dim ffioedd GIG ar gyfer ymwelwyr tramor

04 C

Gosodir Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020. Mae’r rhain yn esemptio ymwelwyr tramor rhag gorfod talu am ddiagnosis ac am driniaeth ar gyfer COVID-19 yng Nghymru. Mae rheoliadau cyfatebol hefyd mewn grym yn Lloegr (o 29 Ionawr 2020). Daeth y Ddeddf Coronafeirws 2020, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020, i gymryd lle’r rheoliadau hyn

Golchwch eich dwylo

01 Chwefror 2020

Ar 1 Chwefror, mae Llywodraeth y DU yn lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i gynghori ar sut i arafu lledaeniad COVID-19, sy’n debyg i’r ymgyrch ‘Ei Ddal. Ei Daflu. Ei Ddifa’. Mae’r ymgyrch yn pwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi’r ymgyrch.

Lefel y risg yn y DU

31 Ionawr 2020

Cadarnheir achosion cyntaf o’r coronafeirws yn y DU. Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn cynghori codi lefel yn risg yn y DU o isel i gymedrol. Fodd bynnag, fe’i gwnaed yn glir nad yw hyn yn golygu y credir bod y risg i unigolion yn y Deyrnas Unedig wedi newid, ond dylai llywodraethau gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd.

Argyfwng iechyd cyhoeddus

30 Ionawr 2020

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi bod COVID-19 wedi cwrdd â’r meini prawf ar gofer bod yn Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol (PHEIC).

Gwelir y coronafeirws gyntaf yn Tsieina

31 Rhagfyr 2019

Adroddir nifer o achosion o niwmonia yn Wuhan, Tsieina; yn ddiweddarach, fe nodir eu bod yn straen newydd o’r coronafeirws nas gwelwyd mewn pobl o’r blaen: y coronafeirws newydd (y cyfeirir ato fel COVID-19 o 11 Chwefror).


Erthygl gan Philippa Watkins a Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddarllen ein herthyglau ar y coronafeirws a thrwy danysgrifio i’n rhestr bostio.