Crynodeb o’r Bil: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – Cyfnod 1

Cyhoeddwyd 23/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gerbron y Cynulliad ym mis Tachwedd 2019. Mae’r Bil yn cynnig diwygio'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trefniadau etholiadol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant ym maes llywodraeth leol.

Fe ddaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau roi i’r farn unfrydol y dylai’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Er hynny, nid oedd y Pwyllgor yn gwbl unfrydol ar rhai agweddau penodol o’r Bil, megis: estyn y yr hawl i ddinasyddion tramor sy’n byw’n gyfreithlon yng Nghymru i bleidleisio yn etholiadau lleol Cymru.

Bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ddydd Mawrth 24 o Fawrth 2020.

Darllenwch y briff yma: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (PDF 601KB)

 


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru