Coronafeirws: ysgolion a disgyblion

Cyhoeddwyd 08/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 9 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai pob disgybl yn gallu dychwelyd i’r ysgol yn amser llawn o ddechrau’r tymor newydd ar 1 Medi, yn dibynnu ar amodau trosglwyddo’r coronafeirws.

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 15 Mai 2020.

Mae rôl ysgolion wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws (COVID-19). Ar hyn o bryd nid ydynt ar agor ar gyfer darpariaeth addysg statudol ac, yn lle hynny, maent yn chwarae rôl allweddol wrth alluogi’r ymateb i’r coronafeirws.

Ar 17 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer ysgolion, gan ddarparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy’n agored i newid, a hynny i ategu ei chanllawiau cychwynnol a gyhoeddwyd ar 20 Mawrth pan gaewyd ysgolion ar gyfer darpariaeth gyffredinol.

Cau ysgolion ar gyfer darpariaeth gyffredinol

Rhoddodd ysgolion ledled Cymru y gorau i weithredu fel arfer ddydd Gwener 20 Mawrth. Gwnaethant gau ar gyfer darpariaeth addysg statudol ac, erbyn hyn, maent ar agor i rai disgyblion yn unig.

Wrth i’w rôl arferol ddod i ben dros dro, mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi dweud bod gan ysgolion ‘ddiben newydd’ am y tro.

Byddant yn helpu i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus, gan gynnwys gweithwyr allweddol sy'n rhan o'r ymateb uniongyrchol i’r sefyllfa coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi blaenoriaeth i gefnogi a diogelu ‘disgyblion agored i niwed’.

Mewn llawer o achosion, gwneir darpariaeth drwy ‘hwb’, lle mae disgyblion o sawl ysgol yn mynd i leoliad unigol (fel arfer, safle ysgol) gyda’r staff yn dod o’r ysgolion hyn.

Nid yw newidiadau ar fin dod a chânt eu cyflwyno fesul un

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ar 28 Ebrill nad yw newid i’r sefyllfa bresennol ar fin dod a, phan fydd newidiadau, ei bod yn debygol y bydd ailgychwyn fesul cam. Dywedodd y Gweinidog y canlynol:

It is not feasible, in this sense, that we would move from where we are now to what all of us would regard as normal education and what the operation of schools looked like before the start of this pandemic.

Mae’r Gweinidog wedi dweud bod ‘pum egwyddor allweddol ar gyfer ailgychwyn ysgolion’ a rhoddodd ragor o wybodaeth amdanynt mewn datganiad ysgrifenedig ar 28 Ebrill. Yn gryno, dyma’r pum ystyriaeth:

  • Diogelwch a lles myfyrwyr a staff;
  • Cyfraniad ysgolion i’r ymdrech genedlaethol i frwydro yn erbyn y coronafeirws;
  • Hyder rhieni, myfyrwyr a staff – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel y gallant gynllunio ymlaen llaw;
  • Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol o’u haddysg, gan gynnwys disgyblion o gefndiroedd difreintiedig;
  • Ystyriaethau ymarferol megis cadw pellter cymdeithasol, reoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.

Ailadroddodd datganiad y Gweinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ebrill y byddai gwasanaethau’n cael eu hailgyflwyno fesul un.

Bwriad Llywodraeth y DU yw i ysgolion cynradd yn Lloegr ailagor ar gyfer rhai grwpiau blwyddyn o 1 Mehefin (diwrnod ar gwyliau hanner tymor a drefnwyd) ar yr amod y bodlonir ei phum prif brawf (PDF t11) bryd hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyried ailagor ysgolion yng Nghymru ar 1 Mehefin, gan ddefnyddio dull ‘goleuadau traffig’ tuag at lacio’r cyfyngiadau, gan ddefnyddio dull graddol i blant blaenoriaeth ddychwelyd i’r ysgol (Oren) cyn y gall yr holl blant a holl fyfyrwyr ddychwelyd (Gwyrdd). Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw ddyddiadau arfaethedig ar gyfer y fath newidiadau ac mae wedi dweud y bydd hyn yn dibynnu ar gyfradd trosglwyddo y coronafeirws (R).

Mae rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru yn y fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant, sy’n dweud, tra bydd gofynion cadw pellter ar waith, bydd ysgolion a darparwyr eraill yn gyfyngedig o ran nifer y plant/dysgwyr y gallant gynnig lle iddynt ar unrhyw un adeg.

Mae un o’n herthyglau eraill yn trafod cynlluniau Cymru a gwledydd eraill y DU ar gyfer llacio’r cyfyngiadau yn fwy cyffredinol, y tu hwnt i addysg.

Pa blant sy'n gymwys i barhau i fynd i’r ysgol?

Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ar 20 Mawrth, gan nodi pa ddisgyblion fyddai'n gymwys ar gyfer y ddarpariaeth newydd mewn ysgolion. Mae'r rhain yn ddisgyblion sy'n agored i niwed neu y mae gwaith eu rhieni naill ai'n hanfodol o ran yr ymateb i’r coronafeirws neu wedi'u cynnwys mewn rhestr o'r sectorau hanfodol. Lluniwyd y rhestr hon o’r sectorau hanfodol ar y cyd gan y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU.

At ddibenion cymhwystra ar gyfer y ddarpariaeth gyfredol, mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio disgyblion sy’n agored i niwed fel plant sydd dan ofal gweithiwr cymdeithasol a’r rhai sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig a fyddai’n elwa ar y ddarpariaeth. Mae plant sydd dan ofal gweithiwr cymdeithasol yn cynnwys plant â chynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau cymorth, plant ar y gofrestr amddiffyn plant, a phlant sy’n derbyn gofal. Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei diffiniad o blant agored i niwed er mwyn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol i gynnig lle mewn hybiau i’r rheini sydd ar gyrion derbyn gofal a chymorth os yw’r ysgol neu’r gwasanaeth cefnogi teuluoedd yn gwybod eu bod yn agored i niwed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i hybiau ac ysgolion gyda’r bwriad o helpu i ddatblygu darpariaeth effeithiol ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu darpariaeth ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i barhau i’w cael tan diwedd Awst.

Mae’r Gweinidog wedi dweud bod ysgolion bellach yn wasanaeth brys a dylai hyd yn oed rhiant sy'n weithiwr allweddol ystyried yn ofalus iawn a allent wneud eu gwaith gartref, neu a allent roi trefniadau gofal plant diogel eraill ar waith, cyn ystyried anfon ei blentyn i’r ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data wythnosol ar nifer a chyfrannau’r plant a staff sy’n mynd i leoliadau addysg a gofal plant awdurdod lleol.

Dilyniant dysgu i ddisgyblion gartref

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y system addysg yn parhau i fod ‘o bwysigrwydd canolog’ ac mae’i thasg yw ‘dod o hyd i ffyrdd o helpu ein plant ni i ddal ati i ddysgu, sy’n golygu ‘galluogi dysgu o bell a chynllunio ar gyfer sut gallwn ni helpu plant orau yn ystod y cyfnod hwn’. Felly, disgwylir i ysgolion gefnogi disgyblion sy’n dysgu gartref, drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein, megis Hwb.

Mae Llywodraeth Cymru’n nodi ei blaenoriaethau fel a ganlyn:

  • diogelwch ac iechyd corfforol a meddyliol yr holl ddysgwyr a’r gweithlu addysg yng Nghymru;
  • gallu’r dysgwyr i gyd i ddal ati i ddysgu;
  • a symud y dysgwyr yn ôl i’r ysgol ac ymlaen i gam nesaf eu dysgu pan mae’n ddiogel gwneud hynny.

Ddydd Llun 20 Ebrill, sef y dyddiad yr oedd ysgolion i fod dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg, cyhoeddodd Llywodraeth ‘Cymru Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu: datganiad polisi parhad dysgu’. Mae’n nodi’r hyn sy’n cael ei wneud i ddarparu adnoddau dysgu drwy lwyfan ar-lein Hwb. Bydd elfennau cyntaf y gwaith hwn yn

  • mynd i’r afael â’r broblem bod yna rai wedi’u hallgáu yn ddigidol drwy gydweithio ag awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau mynediad ehangach i Hwb a’i gyfleoedd dysgu, a mynd i’r afael â phroblemau o ran cyfarpar a chysylltedd;
  • darparu canllawiau a chymorth i staff ysgolion i ddatblygu arferion sy’n gydnaws â’r ffordd newydd o ddysgu;
  • darparu canllawiau a chymorth i ysgolion ar ddefnyddio Hwb i barhau â busnes yr ysgol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ragor o ganllawiau i ysgolion, rhieni a gofalwyr ar 23 Ebrill.

Mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi cyhoeddi adroddiad ar effaith cau ysgolion ar symudedd cymdeithasol, sy’n cynnwys cydberthynas rhwng amgylchiadau economaidd-gymdeithasol teuluoedd a faint mae plant yn dysgu gartref. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar Loegr, ond mae’n debygol bod ei ganfyddiadau’n gymwys yng Nghymru hefyd. Mae rhai o’r rhesymau y gallai dysgu gartref waethygu anghydraddoldeb yn ymwneud â thechnoleg a holodd y Pwyllgor PPIA y Gweinidog am hyn ar 28 Ebrill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at ei gwasanaethau digidol ar gyfer addysg, gan gynnwys Hwb a darparu Microsoft Office am ddim i deuluoedd disgyblion ysgol. Fodd bynnag, cydnabu’r Gweinidog fod y mater hwn yn parhau i fod yn hanfodol a dywedodd fod swyddogion y llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan yr holl blant fynediad at y galedwedd a’r cysylltedd y mae arnynt ei angen.

Pa ganllawiau sydd ar gael i staff ysgolion, penaethiaid a llywodraethwyr?

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i staff ysgolion y disgwylir iddynt weithio yn ystod y cyfnod hwn. Mae gwybodaeth ar gael hefyd am y goblygiadau i athrawon cyflenwi.

Mae canllawiau ar iechyd a lles mewn ysgolion sy'n aros ar agor yn dweud y dylent geisio dilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol, gan gadw maint dosbarthiadau cyn lleied â phosibl, er bod hyn yn dibynnu ar nifer yr athrawon sydd ar gael. Dylai ysgolion hefyd amrywio amser cinio, amser egwyl, a chyfyngu ar symudiad disgyblion o amgylch yr ysgol er mwyn osgoi gweld grwpiau mawr o blant yn crynhoi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd cadw pellter cymdeithasol yn anoddach mewn lleoliadau addysg a gofal plant sydd â phlant ifanc iawn. Cynghorwyd y staff i weithredu'r mesurau uchod cymaint ag y gallant, gan sicrhau bod y plant yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn cael gofal da yn eu lleoliadau.

Fel gweithwyr hanfodol, gall staff ysgol fod yn gymwys i gael prawf i ganfod a oes ganddynt y coronafeirws ar hyn o bryd dan bolisi Llywodraeth Cymru ar feini prawf profi seiliedig ar anghenion ar gyfer gweithwyr allweddol y GIG a gweithwyr allweddol eraill. Fodd bynnag,

Oni bai y dynodir yn benodol, dim ond os oes ganddynt symptomau fydd gweithwyr hanfodol (neu aelod o’u teulu sy’n byw gyda hwy) yn cael eu profi. Ni fydd gweithwyr (neu aelod o’u teulu sy’n byw gyda hwy) sydd wedi cael eu hanfon am brawf neu y gwnaed cais am brawf ar eu cyfer ac sydd heb symptomau’n cael eu profi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ynghylch sut y gallant barhau i gyflawni swyddogaethau brys, gan gynnwys drwy gyfarfodydd rhithwyr.

Mae Estyn wedi gohirio arolygiadau ysgolion ac ymweliadau eraill ac mae penaethiaid wedi cael gwybod na chaiff adroddiad ei gyflwyno ar ddata perfformiad ysgol yn 2020 ac nad oes angen i ddisgyblion sefyll y profion darllen a rhifedd cenedlaethol.

Canslo arholiadau haf 2020

Ar yr un diwrnod pan gyhoeddwyd bod ysgolion yn cau (18 Mawrth), penderfynodd y Gweinidog Addysg, yn dilyn trafodaethau â Cymwysterau Cymru a CBAC, na fyddai cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch haf 2020 yn mynd yn ei blaen.

Dywedodd y Gweinidog y byddai 'gradd deg' yn cael ei dyfarnu i ddysgwyr Blwyddyn 11 a 13, 'gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael'. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar effaith COVID-19 ar brofion ac asesiadau yn nodi’r canlynol:

Bydd graddau cymwysterau TGAU a Safon Uwch 2020 yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r ystod o wybodaeth sydd ar gael, er enghraifft y gwaith a wnaed hyd yma, ffug-arholiadau a graddau wedi’u hasesu gan athrawon. Wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen, byddwn yn canolbwyntio ar fuddiannau’r dysgwyr o ran eu llesiant presennol a’u cynnydd tuag at fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant. Ein nod yw sicrhau na fydd unrhyw ddysgwyr dan anfantais.

Fe’i cadarnhawyd y bydd dyddiau canlyniadau haf eleni yn aros ar eu dyddiadau gwreiddiol – sef 13 Awst ar gyfer Safon UG a Safon Uwch a 20 Awst ar gyfer TGAU. Yr un fydd y drefn yn Lloegr a Gogledd Iwerddon (mae gan yr Alban gymwysterau gwahanol).

Mae Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau, wedi ymgynghori ar drefniadau ar gyfer dyfarnu TGAU, Safon UG a Safon Uwch eleni. Mae dull gweithredu’r rheoleiddiwr yn ystyried polisi Llywodraeth Cymru fel y nodwyd mewn Cyfarwyddyd Gweinidogol.

Mae gwybodaeth arall ar gael o atebion i'r cwestiynau cyffredin ar wefan Cymwysterau Cymru a chan CBAC, sef y corff dyfarnu ar gyfer y mwyafrif helaeth o gymwysterau (academaidd) cyffredinol yng Nghymru.

Gall disgyblion blwyddyn 10 sy'n sefyll arholiadau ar gyfer unedau sy'n cyfrannu at TGAU a ddyfernir yn 2021 naill ai sefyll y rhain y flwyddyn nesaf ynghyd â'u harholiadau Blwyddyn 11 neu gallant ddewis i’w gradd TGAU fod yn seiliedig ar unedau Blwyddyn 11 yn unig. Bydd y radd orau o'r naill opsiwn neu'r llall yn cael ei dyfarnu iddynt os byddant yn dewis gwneud y ddau.

Bydd gradd amcangyfrifedig Safon UG yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy'n astudio Safon UG ond ni fydd yn cyfrannu at eu gradd Safon Uwch y flwyddyn ganlynol fel y byddai fel arfer. Bydd graddau Safon Uwch ar gyfer 2021 yn cael eu seilio ar naill ai'r unedau a ddilynwyd yn ystod ail hanner y cyrsiau Safon Uwch (Uwch 2) yn 2020/21, neu'r unedau UG ac Uwch 2 a ddilynir y flwyddyn nesaf os yw myfyrwyr yn dewis gwneud y ddau. Dyfernir y radd orau iddynt o'r naill lwybr neu'r llall.

Sectorau eraill

Rydym hefyd wedi creu erthyglau yn egluro goblygiadau argyfwng y coronafeirws i addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau, a gofal plant.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n casglu barn y cyhoedd ar effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (PDF) yn dilyn sesiynau tystiolaeth diweddar gyda Gweinidogion.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.