Cymunedau

Coronafeirws: budd-daliadau lles

Bydd llawer o bobl y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eu hincwm yn anghymwys ar gyfer cynlluniau amnewid incwm Llywodraeth y DU.

Amcangyfrif o amser darllen: 7 Munud

8 Ebrill 2020

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg | View this post in English

Bydd llawer o bobl y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eu hincwm yn anghymwys ar gyfer cynlluniau amnewid incwm Llywodraeth y DU (sydd wedi’u hamlinellu yn ein herthygl ynghylch cyflogaeth a choronafeirws). Ymhlith y grwpiau hynny mae:

  • gweithwyr sy’n cael eu diswyddo gan eu cyflogwr, yn hytrach na chael eu pennu’n weithwyr ar seibiant;
  • gweithwyr y mae eu horiau a / neu eu cyflog yn gostwng, yn hytrach na chael eu pennu’n weithwyr ar seibiant neu eu diswyddo;
  • gweithwyr nad oeddent ar gyflogres talu wrth ennill (PAYE) ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny, ac nad oedd Cyllid a Thollau EM wedi’i hysbysu amdanynt ar ffurf cyflwyniad gwybodaeth amser real ar y dyddiad hwnnw neu cyn hynny, ac felly nid oes modd i’w cyflogwr presennol eu rhoi ar seibiant (ac nid yw eu cyflogwr blaenorol yn fodlon eu hail-gyflogi a’u rhoi ar seibiant);
  • gweithwyr sydd yn methu neu’n anfodlon mynd i’r gwaith neu wedi cymryd absenoldeb di-dâl oherwydd eu bod mewn grŵp sy’n agored i niwed, yn byw gyda pherson sy’n agored i niwed, neu’n ofni mynd i’r gwaith (ac nad ydyn nhw wedi eu pennu’n weithwyr ar seibiant);
  • gweithwyr sy’n hunanynysu neu’n sâl ac na allant fyw ar dâl salwch statudol yn unig;
  • pobl nad ydynt yn gymwys i gael tâl salwch statudol oherwydd eu bod yn ennill llai na £120 yr wythnos;
  • pobl hunangyflogedig a ddechreuodd eu busnes ar ôl Ebrill 2019 neu nad ydynt wedi cyflwyno eu ffurflen dreth ar gyfer 2018-19 hyd yn hyn (er bod gan bobl tan 23 Ebrill i gyflwyno), a
  • pobl sy’n methu gweithio oherwydd eu bod yn gofalu am blant, ond nad ydynt wedi’u pennu’n weithwyr ar seibiant.

Os yw’r bobl hyn ar incwm isel, maent yn debygol o fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill. Gwnaeth bron i filiwn o bobl yn y DU gais am Gredyd Cynhwysol yn ystod y pythefnos hyd at 1 Ebrill 2020.

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o fudd-daliadau lles (heblaw am ostyngiadau yn y dreth gyngor a’r Gronfa Cymorth Dewisol). Mae ganddi dudalen yn unswydd ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch coronafeirws a hawlio budd-daliadau, ac mae’r dudalen yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Newidiadau i’r system fudd-daliadau

Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ystod o newidiadau i’r system fudd-daliadau wrth ymateb i’r coronafeirws, gan gynnwys:

  • atal dros dro apwyntiadau wyneb i wyneb mewn canolfannau byd gwaith, a chynnal pob cyfweliad dros y ffôn;
  • atal dros dro asesiadau ar gyfer budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag anableddau ac iechyd (er enghraifft y Taliad Annibynnol Personol (PIP) a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) am dri mis;
  • dileu’r gofynion o ran chwilio’n rhagweithiol am waith (a’r sancsiynau cysylltiedig am beidio â gwneud hynny) at ddibenion Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Lwfans Ceisio Gwaith am dri mis;
  • cynyddu Credyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith £20 yr wythnos ar ben yr uwchraddio blynyddol a gynlluniwyd;
  • dileu’r gofyn am ‘nodyn ffitrwydd’ gan feddygon teulu er mwyn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol;
  • dileu’rllawr isafswm incwm’ o ran Credydau Cynhwysol, ar gyfer pobl hunangyflogedig. Fodd bynnag, caiff unrhyw arian a delir i bobl hunangyflogedig o’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig  ei drin fel enillion wrth bennu’r gefnogaeth a ddarperir trwy Gredyd Cynhwysol;
  • cynyddu’r Lwfans Tai Lleol  fel ei fod yn talu hyd at 30% o rent y farchnad ym mhob ardal;
  • talu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ‘ar ei newydd wedd’ i bobl sy’n rhy sâl i weithio o ddiwrnod cyntaf eu salwch, yn hytrach na diwrnod wyth;
  • caniatáu i bobl barhau i dderbyn Lwfans Gofalwr hyd yn oed os na allan nhw ddarparu gofal oherwydd coronafeirws.

Mae’r adrannau isod yn rhoi trosolwg o rai o’r budd-daliadau y gallai pobl yng Nghymru, y mae coronafeirws wedi effeithio ar eu hincwm, fod yn gymwys i’w cael at wasanaethau sy’n rhoi cyngor arbenigol ar fudd-daliadau.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i bobl o oedran gweithio, sydd yn gweithio neu’n ddi-waith, ac ar incwm isel.

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal presennol ar sail prawf modd. Rhaid i bob ymgeisydd newydd hawlio Credyd Cynhwysol, ac mae ‘hawlwyr presennol yn cael eu symud yn raddol i Gredyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol wedi’i ffurfio gan ddefnyddio lwfans ‘safonol’ ac arian ychwanegol ar gyfer cartrefi â phlant, ac at ddibenion gofal plant. At hynny, mae aelwydydd sy’n cynnwys pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hefyd yn cael arian ychwanegol bob mis. Efallai y bydd pobl mewn tai rhent hefyd yn gymwys i gael help gyda chostau tai.

Nid yw Credyd Cynhwysol ar gael i aelwydydd sy’n meddu ar dros £16,000 o gynilon.

Gellir gwneud cais ar gyfer Credyd Cynhwysol ar-lein, ond mae’r taliad cyntaf yn cymryd hyd at bum wythnos i’w dalu (sy’n un o nodweddion dyluniad y budd-dal, yn hytrach na chyfnod prosesu). Gyda channoedd o filoedd o bobl yn gwneud cais ar gyfer Credyd Cynhwysol ar yr un pryd, mae’n bosibl y bydd oedi ychwanegol hefyd. Mae Sefydliad Bevan wedi galw am leihau’r cyfnod disgwyl o bum wythnos.

Mae taliadau ymlaen llaw yn dal i fod ar gael, ond mae’n rhaid eu talu’n ôl.

Gall pobl yng Nghymru gyflwyno cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol i gael help gyda chostau hanfodol os ydyn nhw’n profi caledi ariannol wrth aros am eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf (gweler y manylion isod).

Cronfa Cymorth Dewisol

Mae Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau na ellir eu had-dalu i bobl ar incwm isel yng Nghymru sydd:

  • angen help gyda chostau hanfodol (fel bwyd, nwy, trydan, dillad a theithio brys) yn dilyn ‘achos o argyfwng’ neu sy’n profi caledi ariannol eithafol am resymau sy’n cynnwys oedi cyn talu budd-daliadau, neu
  • angen cymorth i fyw’n annibynnol yn hytrach nag mewn cartref gofal neu ysbyty.

Er nad yw’r grant wedi’i ddylunio i gwmpasu diffygion ariannol parhaus, gallai gynnig cymorth i bobl sy’n profi caledi sy’n aros am eu taliad Credyd Cynhwysol (neu fudd-dal arall) cyntaf. Gellir cyflwyno cais amdano ar-lein.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ‘ar ei newydd wedd’ ar gael i bobl y mae eu hanabledd neu eu cyflwr iechyd yn effeithio ar faint y gallan nhw weithio, p’un a oes ganddynt swydd ai peidio.

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth bellach yn daladwy o’r diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch i bobl â’r coronafeirws, neu sy’n hunanynysu. Mae hyn yn golygu y dylai hawlwyr sy’n bodloni’r meini prawf gael eu taliad cyntaf ar ôl tua phythefnos.

Ni ellir hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yr un pryd â thâl salwch statudol, ond gellir ei hawlio ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol, neu yn lle Credyd Cynhwysol.

O 6 Ebrill ymlaen, cyfradd sylfaenol Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yw hyd at £58.90 yr wythnos i bobl dan 25 oed, a £74.35 yr wythnos i bobl dros 25 oed. Gellir ychwanegu cydrannau eraill at y budd-dal o dan amgylchiadau penodol.

Nid yw’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ond ar gael i bobl sydd wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod y 2 i 3 blynedd diwethaf. Gellir cyflwyno cais am y lwfans ar-lein.

Lwfans Ceisio Gwaith ‘ar ei newydd wedd’

Efallai y bydd pobl sy’n ddi-waith neu sy’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos yn gallu hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ‘ar ei newydd wedd’ os ydyn nhw wedi gwneud digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Lwfans Ceisio Gwaith ar ei newydd wedd yn daliad fesul pythefnos y gellir ei hawlio ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol. Nid yw cyfalaf na chynilion hawlydd (a chyfalaf, cynilion ac incwm y partner) yn cael eu hystyried. Gellir cyflwyno cais am y lwfans ar-lein.

Gostyngiadau’r dreth gyngor

Mae’n bosibl y bydd gan bobl yng Nghymru’r hawl i dalu llai o dreth gyngor os yw’r coronafeirws yn effeithio ar eu hincwm, neu os ydyn nhw’n cael budd-daliadau penodol. Mae gan Lywodraeth Cymru holiadur gwirio cymhwysedd ar-lein. I wneud cais am ostyngiad dylai pobl gysylltu â’u cyngor lleol.

Taliadau disgresiwn at gostau tai

Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai’n rhoi cymorth byrdymor i bobl sy’n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ac sy’n cael trafferth gyda chostau tai.

Cynghorau lleol sy’n gweinyddu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (gyda chryn ddisgresiwn), er mai Llywodraeth y DU sy’n gosod y rheolau cyffredinol. Mae gan Shelter Cymru gyfleuster chwilio i ddod o hyd i fanylion cyswllt Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar gyfer pob cyngor yng Nghymru, er mwyn i bobl wneud cais.

Taliadau Cymorth Profedigaeth

Mae Taliadau Cymorth Profedigaeth ar gael i bobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth y bu farw eu gŵr, gwraig neu bartner sifil ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Gall pobl fod yn gymwys os talodd eu partner gyfraniadau Yswiriant Gwladol am o leiaf 25 wythnos, neu os buont farw oherwydd damwain yn y gwaith neu glefyd a achoswyd gan waith.

Mae wedi’i ffurfio gan daliad rhwng £2,500 a £3,500, ac yna hyd at 18 taliad misol o naill ai £100 neu £350. Telir y gyfradd uwch i bobl â phlant dibynnol.

Nid yw’r taliad yn effeithio ar gymhwysedd i gael budd-daliadau eraill am flwyddyn ar ôl y taliad cyntaf. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar-lein.

Help gyda chostau angladd

Gall Taliadau Costau Angladd helpu pobl ar incwm isel gyda chostau angladd. Gellir gwneud cais am hyn dros y ffôn neu trwy’r post.

Budd-daliadau eraill

Efallai y bydd pobl yn gymwys i gael budd-daliadau eraill, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau unigol.

Er enghraifft, gallai rhywun sy’n rhoi’r gorau i weithio i ofalu’n amser llawn am rywun fod yn gymwys i gael Lwfans Gofalwyr. Gallai rhywun dros 65 oed sydd angen gofal gael Lwfans Gweini. Efallai y bydd rhywun o oedran pensiwn y wladwriaeth sydd ar incwm isel yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Gallai rhywun ag anabledd hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol os nad ydyn nhw eisoes yn gwneud hynny.

Cyngor

Mae’r system fudd-daliadau yn un gymhleth, a dylai pobl gysylltu â gwasanaeth cynghori budd-daliadau arbenigol er mwyn helpu i bennu’r hyn y gallent fod yn gymwys i’w gael. Mae ystod o wasanaethau cynghori ynghylch budd-daliadau yng Nghymru, â’r canlynol yn eu plith:


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: