Coronafeirws: materion o ran hawliau dynol

Cyhoeddwyd 15/04/2020   |   Amser darllen munudau

Daeth cyfreithiau a safonau modern ynghylch hawliau dynol yn sgil cyfnodau o ryfel, a dywedir eu bod yn cynnig ‘canllaw’ i’r ffordd orau ymlaen yn ystod argyfwng.

Mae gwerthoedd craidd Llywodraeth Cymru i lywio gwaith cynllunio a phenderfyniadau ar gyfer darparu gofal iechyd yn ystod y pandemig yn glir bod “pawb yn bwysig”. Mae hyn yn golygu y “caiff gwasanaethau iechyd eu darparu mewn ffordd sy'n dilyn yr egwyddorion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol”.

Mae’r erthygl hon yn rhoi trosolwg o’r ffordd y mae pwerau cyfreithiol , polisïau a chamau gweithredu newydd awdurdodau cyhoeddus yn effeithio ar hawliau a rhyddid pobl yng Nghymru.

Mae gennym erthygl ar wahân ar faterion cydraddoldeb, a byddwn yn cyhoeddi erthygl arall ar hawliau plant. Rydym hefyd wedi cyhoeddi erthygl ar y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r pandemig, yn ogystal â blog ar ddarpariaethau brys ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 6 Mai 2020.

Hawliau dynol yng Nghymru

Mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ystod o gytuniadau rhyngwladol ynghylch hawliau dynol. Y pwysicaf o’r rhain yw’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy’n gwarchod yr hawl i fywyd, yr hawl i ryddid, yr hawl i fywyd preifat a bywyd teuluol, yr hawl i ymgynnull a’r hawl i ryddid mynegiant, ymysg hawliau eraill.

Mae’r hawliau hyn yn gymwys i'r Deyrnas Unedig drwy Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae’r Ddeddf hon yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus (fel awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a’r heddlu) barchu a gwarchod yr hawliau hyn ym mhob peth y maent yn ei wneud. Gall pobl herio achosion o dorri hawliau’r Confensiwn yn y llysoedd.

Hefyd, ni all Weinidogion Cymru ymddwyn mewn ffordd sy’n groes i hawliau o dan y Confensiwn. Mae unrhyw ddarpariaethau yn neddfwriaeth Cymru sy’n anghydnaws â hawliau dynol yn annilys.

Taro cydbwysedd rhwng yr hawl i fywyd a hawliau eraill yn ystod y pandemig

Mae’r hawl i fywyd wedi’i gwarchod gan Erthygl 2 o’r Confensiwn Ewropeaidd. Mae’n rhoi dyletswydd ragweithiol ar Lywodraethau i gymryd camau i warchod bywyd, yn enwedig ar gyfer y bobl fwyaf bregus ac agored i niwed.

Mae mesurau i ddiogelu bywyd yn rhagweithiol drwy arafu ymlediad y feirws yn cynnwys pasio deddfwriaeth sy’n:

  • ei wneud yn ofynnol i fusnesau a lleoliadau penodol gau;
  • cyfyngu ar allu pobl i symud o le i le heb ‘reswm dilys’; a
  • rhoi pwerau i ddal pobl sydd o bosibl yn heintus.

Mae’r mesurau hyn yn cyfyngu ar hawliau pobl i ryddid, yr hawl i fywyd preifat a bywyd teuluol a’r hawl i ymgynnull. Maent wedi’u disgrifio fel y cyfyngiadau ehangaf ar ryddid sifil ers o leiaf 75 mlynedd.

Gall Llywodraeth osod cyfyngiadau ar yr hawliau hyn am reswm ‘dilys’ (sy’n cynnwys gwarchod iechyd y cyhoedd) ar yr amod bod y cyfyngiadau hyn yn ‘gymesur’ (hynny yw, nad ydynt yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n hollol angenrheidiol i gyrraedd y nod).

Fodd bynnag, ni ellir cyfyngu ar yr hawl i fywyd a’r camau i wahardd artaith a thriniaeth greulon a diraddiol.

Yn ystod y ddadl ar ddeddfwriaeth frys ar 24 Mawrth, dywedodd Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd:

“I recognise the need to balance my duty to protect the public's health against my duty to respect individual rights.”

Ym marn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae sail gadarn i’r pwerau yn y Ddeddf Coronafeirws sy’n cyfyngu ar rai hawliau dynol o ystyried yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol sy’n trechu ystyriaethau eraill.

Gallai mesurau rhagweithiol eraill i warchod bywyd gynnwys sicrhau bod gan y bobl sydd fwyaf agored i’r feirws gyfarpar diogelu personol addas. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i weithwyr hŷn ym maes gofal iechyd sydd wedi ymddeol yn ddiweddar ac sydd wedi dychwelyd i’r GIG yn ystod y pandemig ac sydd, o bosibl, yn fwy agored i’r feirws.

Dyletswyddau ynghylch gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl

Mae rhai dyletswyddau ar awdurdodau lleol wedi’u llacio i leihau’r baich gwaith pan fo nifer y staff sydd ar gael yn llai, neu os oes cynnydd yn y galw yn ystod y pandemig.

Gofal cymdeithasol

Mae Rheoliadau gan Weinidogion Cymru i ddod â darpariaethau yn Neddf Coronafeirws y Deyrnas Unedig i rym yn golygu nad oes dyletswydd ar awdurdodau lleol mwyach i ddiwallu anghenion oedolion o ran gofal a chymorth nac ychwaith anghenion gofalwyr o ran cymorth. Maent ond bellach yn gorfod diwallu anghenion yn yr achosion mwyaf difrifol pan fo person mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Mae’r adran gyfatebol ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr yn ei wneud yn ofynnol iddynt ddiwallu anghenion o ran gofal a chymorth i osgoi ymddwyn yn groes i hawliau’r oedolyn o dan y Confensiwn. Cafodd yr adran sy’n ymdrin â Lloegr ei beirniadu gan y British Institute of Human Rights (BIHR) oherwydd maent yn credu ei bod yn afresymol disgwyl i staff awdurdod lleol benderfynu a fyddai’r camau y mae’n eu cymryd yn groes i’r rheolau o ran hawliau dynol.

Roedd canllawiau, fframwaith moesegol (sy’n cynnwys yr egwyddor graidd a ganlyn: “every person and their human rights, personal choices, safety and dignity matters”) ac asesiad o effaith yn cyd-fynd â’r Rheoliadau cyfatebol sy’n berthnasol i Loegr.

Ar 30 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar y newidiadau i ofal cymdeithasol oedolion yn ystod y pandemig, gan gynnwys rhai egwyddorion cyffredin:

  • mae pawb yn bwysig – caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol eu darparu mewn ffordd sy'n dilyn yr egwyddorion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol
  • mae pawb yr un mor bwysig â'i gilydd – nid yw hyn yn golygu y caiff pawb ei drin yn yr un ffordd, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob sector weithio'n effeithiol ac yn deg mewn partneriaeth â phob person yn unol â'i anghenion
  • mae buddiannau pob person yn bwysig i bob un ohonom, ac i'n cymdeithas
  • mae'r niwed y gallai pob person ei ddioddef yn bwysig, ac felly, nod ein gweithredoedd yw lleihau'r niwed cyffredinol y gallai pandemig ei achosi

Gallwch ddarllen rhagor am y Rheoliadau ac ymateb y sector iddynt yn ein blog.

Iechyd Meddwl

Mae’r Rheoliadau yng Nghymru hefyd yn gwneud newidiadau cyfreithiol sy’n golygu nad oes yn rhaid i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gydymffurfio â gofynion penodol mwyach.

Mae hyn yn cynnwys caniatáu i achosion gael eu penderfynu heb wrandawiad mewn rhai amgylchiadau, a allai gyfyngu ar yr hawl i gael gwrandawiad teg (Erthygl 6). Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys achosion lle y byddai cynnal gwrandawiad yn arwain at oedi annerbyniol, ac os oes tystiolaeth ddigonol ar gael eisoes ac ar yr amod na fyddai’n cael effaith andwyol ar iechyd y claf.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddatganiadau (eto) o ran pam yr oedd yn credu bod angen gwneud hyn, ac nid yw wedi amlinellu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ei phenderfyniad.

Nid yw darpariaethau eraill yn y Ddeddf Coronafeirws a fyddai’n llacio camau diogelu eraill ynghylch iechyd meddwl wedi’u ‘switsio ymlaen’ yng Nghymru eto.

Ym marn y BIHR, byddai’r newidiadau hyn yn gallu arwain at y sefyllfa a ganlyn: “people may be released into the community early (without the right support) or find themselves detained for longer than necessary”. Gallai hyn fod â goblygiadau i hawl yr unigolyn i fywyd a rhyddid. Mae’r BIHR yn awgrymu y dylid parhau â’r camau diogelu i warchod yr hawl i ryddid, ond y gellid gwneud hynny law yn llaw â phrosesau mwy ystwyth.

Dal pobl sydd o bosibl yn heintus

Gellir cyfyngu ar hawl person i ryddid os ydynt yn gallu ymledu clefydau heintus.

Mae rheoliadau iechyd cyhoeddus Cymru yn rhoi’r hawl i Weinidogion Cymru, swyddogion iechyd cyhoeddus a chwnstabliaid yr heddlu gadw pobl sydd o bosibl wedi’u heintio â’r coronafeirws.

Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi datgan y gellir cadw unigolyn yn gyfreithiol i atal ymlediad clefyd pan fo’n glir bod perygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd a lle bod dal y person hwnnw yn gam olaf pan nad yw mesurau llai llym wedi gweithio.

Ar 20 Mawrth, amlinellodd y Cyngor Ewropeaidd (nad yw’n un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd) yr egwyddorion y dylai gwladwriaethau gadw atynt wrth gadw pobl yn ystod y pandemig.

Cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu

Rhaid i’r holl hawliau a phob rhyddid a nodwyd yn y Confensiwn gael eu gwarchod a’u cymhwyso yn ddiwahân (fel y nodwyd yn Erthygl 14).

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwarchod yr hawl i fywyd sydd gan berson ifanc neu berson nad yw'n anabl yn yr un modd â hawl person anabl neu berson hŷn, er enghraifft, i fywyd. Mae gwerthoedd craidd Llywodraeth Cymru i lywio gwaith cynllunio a phenderfyniadau ar gyfer darparu gofal iechyd yn ystod y pandemig yn datgan bod “pawb yn bwysig” ac mai’r gwerth craidd sy’n sail i’r fframwaith moesegol hwn yw “pryder a pharch cyfartal”.

Rhoddwyd y mater hwn mewn cyd-destun cyferbyniol gan ganllawiau cyflym y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (a ddefnyddir gan GIG Cymru) a oedd, i ddechrau, yn argymell y dylid asesu pob oedolyn pan roeddent yn cyrraedd yr ysbyty gan ddefnyddio’r Raddfa Eiddilwch Clinigol. Fel arfer, defnyddir y raddfa hon i nodi pobl hŷn y mae’n bosibl na fyddent yn elwa o ofal critigol drwy ystyried ffactorau fel faint o gymorth sydd ei hangen ar bobl yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Fodd bynnag, lleisiodd ymgyrchwyr bryderon nad oedd hyn yn ffordd addas o asesu pobl ifanc ag awtistiaeth, anableddau dysgu a chyflyrau fel parlys yr ymennydd, ac y gallai olygu na fyddai’r grwpiau hynny yn cael mynediad cyfartal at ofal clinigol. Cafodd y canllawiau eu newid yn sgil cais arfaethedig am adolygiad barnwrol (yn seiliedig ar rwymedigaethau o ran hawliau dynol a chydraddoldeb) i’w wneud yn glir na ddylid defnyddio’r raddfa yn achos pobl iau sydd â’r mathau hyn o anableddau.

Mae’r materion cydraddoldeb a nodwyd yn ein blog blaenorol yn dangos bod rhai pobl yn fwy agored nag eraill i’r feirws a’i effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Lywodraethau sicrhau hyblygrwydd i ymateb i wahanol anghenion, ac nad oes neb yn disgyn drwy’r bylchau mewn gofal a chymorth.

Materion eraill o ran hawliau dynol

Mae ystod eang o faterion eraill o ran hawliau dynol yn dod i’r amlwg o ganlyniad i’r pandemig, gan gynnwys:

  • Cam-drin domestig: fel y nodwyd yn ein blog blaenorol, ceir tystiolaeth fod achosion o gam-drin domestig yn cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud presennol. Mae hyn yn berthnasol i’r rhwymedigaethau i ddiogelu bywyd (Erthygl 2) ac i warchod pobl rhag triniaeth greulon neu ddiraddiol (Erthygl 3).
  • Addysg: fel y nodwyd yn ein blog blaenorol, mae rhai grwpiau o blant yn peri risg uwch o fod ar ei hôl hi yn academaidd tra bod yr ysgolion ar gau. Mae hyn yn berthnasol i’r hawl i addysg (Erthygl 2 o Brotocol 1).
  • Gwyliadwriaeth: Mae Deddf Coronafeirws y DU yn gwneud newidiadau i’r pwerau ynghylch gwyliadwriaeth at ddibenion ‘diogelwch cenedlaethol’. Gallai hyn gyfyngu ar hawl pobl i breifatrwydd (Erthygl 8).

Tryloywder, craffu ac adolygu

Mae’r Cynulliad yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws drwy Gyfarfodydd Llawn rhithwyr, ond nid yw pwyllgorau’r Cynulliad yn cynnal cyfarfodydd ar hyn o bryd.

Mae tryloywder a gwaith craffu hyd yn oed yn bwysicach pan mae’r camau a gymerir gan wladwriaeth yn cyfyngu ar hawliau dynol. Mae canllawiau’r Cyngor Ewropeaidd ar barchu democratiaeth a hawliau dynol yn ystod y pandemig yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith craffu seneddol:

Parliaments [..] must keep the power to control executive action [..] by verifying, at reasonable intervals, whether the emergency powers of the executive are still justified, or by intervening on an ad hoc basis to modify or annul the decisions of the executive.

Mae’r canllawiau hefyd yn nodi pwysigrwydd tryloywder gwybodaeth swyddogol a gallu’r cyhoedd i gael mynediad at y wybodaeth hon. Gallai hyn gynnwys cyhoeddi’r dystiolaeth wyddonol a’r dystiolaeth o ran iechyd cyhoeddus sy’n sail i benderfyniadau Llywodraethau. Mae’r canllawiau’n nodi mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid cyfyngu ar fynediad at wybodaeth ac y dylai unrhyw gamau i gyfyngu ar fynediad yn y modd hwn fod yn gymesur o ran diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae canllawiau’r Cyngor Ewropeaidd hefyd yn pwysleisio y dylid ond cyfyngu ar hawliau dynol am gyfnod penodol. Mae’r terfynau amser ar gyfer amryw bwerau cyfreithiol mewn argyfwng wedi’u hamlinellu yn y blog hwn.

Mae egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ynghylch llywodraethu da a hawliau dynol yn pwysleisio tryloywder, cyfrifoldeb, atebolrwydd, cyfranogiad a pharodrwydd i ymateb i anghenion y bobl. Mae Cyd-bwyllgor Dethol Senedd y Deyrnas Unedig ar Hawliau Dynol wedi dechrau ymchwiliad i oblygiadau’r coronafeirws o ran hawliau dynol. Hefyd, mae Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Tŷ’r Cyffredin wedi dechrau ymchwiliad i’r effaith ar y nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Rhanddirymiad

Mae’n bosibl i wladwriaethau ‘randdirymu’ (sy’n golygu optio allan) rhai rhwymedigaethau o ran hawliau dynol o dan y Confensiwn yn ystod adeg rhyfel neu argyfwng cyhoeddus arall sy’n bygwth bywyd y genedl.

Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi rhoi gwybod i’r Cyngor Ewropeaidd ei bod yn bwriadu rhanddirymu unrhyw ran o’r Confensiwn yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae rhai gwledydd wedi gwneud hynny, gan gynnwys Latfia, Armenia, Estonia, Moldofa a Rwmania, a hynny gan ddenu cryn feirniadaeth.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.