Coronafeirws: manwerthu bwyd

Cyhoeddwyd 17/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae siopa am fwyd ac eitemau hanfodol eraill yn wahanol iawn dan gyfyngiadau symud y coronafeirws.

Mae'r erthygl hon yn nodi pa gamau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws, a sut y mae busnesau bwyd wedi ymateb. Mae hefyd yn amlinellu'r hyn sydd wedi'i roi ar waith i gefnogi pobl sy’n agored i niwed a gweithwyr allweddol.

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 1 Mai 2020.

Beth y mae'r llywodraethau wedi'i wneud?

Ar 24 Mawrth, cyfarwyddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fusnesau a mangreoedd nad ydynt yn hanfodol i gau er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws. Mae hyn yn cynnwys bwytai, caffis, tafarnau, bariau a'r mwyafrif o fangreoedd manwerthu.

Caiff siopau cludfwyd a dosbarthu bwyd barhau. Ar 17 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU lacio rheolau cynllunio yn Lloegr i roi caniatâd i dafarnau a bwytai weithredu fel siopau cludfwyd. Yn ddiweddarach, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai dyma’r sefyllfa eisoes yng Nghymru heb yr angen i ddiwygio’r rheolau cynllunio.

Caiff rhai busnesau barhau i weithredu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, gan gynnwys:

  • archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill;
  • gwasanaethau meddygol (megis deintyddion, optegwyr, ffisiotherapyddion ac ati);
  • fferyllfeydd;
  • gorsafoedd petrol a garejis ceir;
  • siopau nwyddau haearn;
  • banciau’r stryd fawr;
  • swyddfeydd post;

Caiff banciau bwyd hefyd barhau i weithredu.

Mae'r gyfraith yn sail i'r cyfarwyddyd. Daeth Rheoliadau Cymru i rym ar 26 Mawrth. Bydd busnes sy’n torri’r rheoliadau’n troseddu a gall fod yn agored i ddirwy ddiderfyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi eithrio gwasanaethau danfon a chasglu nwyddau groser rhag y tâl 5c am fagiau siopa i leihau’r risg o ledaenu’r feirws.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau i gwsmeriaid sy’n ymwneud â hylendid bwyd a chadw pellter cymdeithasol wrth siopa, a sut i ymdrin â chludfwyd.

Mae busnesau bwyd yn gymwys i gael cymorth gan y llywodraeth – gweler ein herthyglau ar wahân ynghylch cymorth i fusnesau a chyflogaeth.

Sut y mae manwerthwyr bwyd wedi ymateb?

Mae archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill wedi ymateb i'r amgylchiadau anghyffredin drwy wneud newidiadau i ddiogelu eu cwsmeriaid a'u staff.

Mae pob cadwyn archfarchnad wedi rhoi ei chamau ei hun ar waith, sy'n cynnwys:

  • cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid a ganiateir yn y siop ar unrhyw adeg;
  • marciau llawr, arwyddion a/neu rwystrau cyfeirio i helpu llif cwsmeriaid a chadw pellter dau fetr rhwng pobl;
  • agor tiliau bob yn ail, neu osod sgriniau rhwng tiliau cyferbyn i ddiogelu staff (ar 7 Ebrill, daeth yn orfodol yng Nghymru cymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter dau fetr rhwng gweithwyr);
  • gosod sgriniau tryloyw wrth y tiliau rhwng gweithredwyr y tiliau a chwsmeriaid;
  • darparu hylif diheintio dwylo a/neu glytiau wrth fynd i mewn i siopau;
  • annog taliad digyswllt, gyda'r terfyn yn cynyddu o £30 i £45;
  • cau eiliau wrth i staff ailstocio silffoedd;
  • newid oriau agor ac annog cwsmeriaid i siopa pan fydd y siopau'n llai prysur.

Mae manwerthwyr bwyd llai o faint ac annibynnol wedi ymateb mewn ffyrdd tebyg, gan ddibynnu ar yr hyn sy'n ymarferol i'w busnes. Mae rhai hefyd wedi arallgyfeirio i werthu ystod ehangach o gynhyrchion, er enghraifft siop fara neu siop gig yn gwerthu nwyddau sylfaenol eraill.

Mae llawer o fanwerthwyr bwyd, rhai mawr a bach, wedi cynyddu eu capasiti i’w cwsmeriaid archebu nwyddau ar-lein a’u danfon i’w cartrefi. Gallai hyn gynnwys cadwyn archfarchnad yn ychwanegu cannoedd o filoedd o slotiau danfon nwyddau ar-lein ychwanegol, neu siop lysiau leol yn cymryd archebion ffôn ar gyfer danfon blychau llysiau.

Rydym wedi cyhoeddi rhestr ar wahân o gyhoeddiadau am y coronafeirws gan y prif archfarchnadoedd. Mae Consortiwm Manwerthu Prydain hefyd wedi llunio crynodeb o rai o'r cyhoeddiadau diweddaraf gan fanwerthwyr (mae’n cynnwys manwerthwyr bwyd a manwerthwyr eraill).

Beth am bobl sy’n agored i niwed a gweithwyr allweddol?

Mae archfarchnadoedd wedi ceisio cefnogi pobl sy’n agored i niwed a gweithwyr allweddol drwy ddynodi oriau blaenoriaeth pan mai dim ond y bobl hyn a gaiff siopa yn y siop, a thrwy roi blaenoriaeth ar gyfer slotiau danfon ar-lein i bobl sy’n agored i niwed.

Bydd gan bob archfarchnad a siop fwyd, hyd yn oed yn yr un gadwyn, ei camau ei hun. Felly, mae'n bwysig bod pobl sy’n agored i niwed a gweithwyr allweddol yn gwirio gyda'r siop benodol cyn mynd yno.

O 16 Ebrill, mae Morrisons yn cynnig gostyngiad 10 y cant i staff y GIG oddi ar eu nwyddau.

Mae camau ychwanegol ar waith i gefnogi pobl y dosberthir eu bod yn hynod agored i niwed (h.y. y rhai y gofynnwyd iddynt 'warchod' oherwydd cyflwr iechyd isorweddol difrifol).

Ar 8 Ebrill, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cwblhau cytundebau data â'r prif archfarchnadoedd ac y byddant yn rhoi blaenoriaethu i archebion ar-lein y mae angen eu danfon i gartrefi pobl a warchodir yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn trefniad tebyg rhwng Llywodraeth y DU ac archfarchnadoedd i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn Lloegr sydd wedi bod ar waith ers diwedd mis Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn amlinellu sut y caiff data personol pobl sy’n agored i niwed eu rhannu er mwyn sicrhau y danfonir eitemau hanfodol, gan gynnwys bwyd.

Pa ffordd arall y gall pobl sy’n agored i niwed gael bwyd?

Ar 3 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod pobl sy’n hynod agored i niwed na allant alw ar aelodau teulu, ffrindiau na chymdogion am help wrth warchod yn gymwys i gael blwch bwyd wythnosol am ddim wedi’i ddanfon i'w cartref.

Mae’r 'cynllun danfon bwyd uniongyrchol' gwerth £15 miliwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan awdurdodau lleol. Dylai pobl sy’n hynod agored i niwed sydd am gymryd rhan yn y cynllun gysylltu â'u hawdurdod lleol.

Hyd at 27 Ebrill, cyflwynwyd 7,572 o archebion parsel bwyd i’r cynllun. Bu 8,666 o ymdrechion i ddanfon (gan gynnwys 3,000 o ailddanfoniadau) hyd at 23 Ebrill. Rhoddwyd 98 y cant ohonynt i’r preswylwyr neu cawsant eu gadael ar stepen y drws.

Er y caiff banciau bwyd barhau i weithredu, mae Ymddiriedolaeth Trussell yn dweud bod rhai’n wynebu penderfyniadau anodd ynghylch a allant, yn ymarferol, barhau i fod ar agor. Maent yn cymryd camau i gadw pellter cymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel, megis darparu cyfleusterau golchi dwylo, lleihau nifer y sesiynau bob wythnos a rhoi parsel banc bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i bobl.

Ar draws Cymru, mae pobl mewn cymunedau’n cefnogi eu cymdogion, gan gynnwys cynnig danfon bwyd i bobl sy’n agored i niwed. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Covid-19 Mutual Aid UK sy'n rhestru grwpiau lleol.

Rydym wedi cyhoeddi erthygl ar wahân sy’n esbonio sut y gall pobl wirfoddoli yn ystod argyfwng y coronafeirws.

A fu effaith ar gadwyni cyflenwi bwyd?

Yn ystod wythnosau cyntaf argyfwng y coronafeirws yn y DU, dechreuodd rhai pobl bentyrru nwyddau, gan adael silffoedd archfarchnadoedd yn wag o rai cynhyrchion.

Yn ôl y cwmni ymchwil Kantar, cyfanswm gwerthiannau bwyd yn y DU oedd £10.8 biliwn yn ystod pedair wythnos ym mis Mawrth, sy'n uwch na'r lefelau a geir adeg y Nadolig.

Ond, ym mis Mawrth, cafwyd y dirywiad gwaethaf ar gofnod yn y cyfanswm gwerthiant manwerthu, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain a KPMG. Maent yn tynnu sylw at wahaniaeth clir rhwng busnesau bwyd a’r rhai nad ydynt yn ymwneud â bwyd a busnesau ffisegol ac ar-lein, gyda phobl yn ailasesu’r hyn sy’n bwysig a sut y maent yn prynu nwyddau.

Dywedant hefyd y cafwyd ymchwydd digynsail mewn gwerthiant bwyd a hanfodion eraill ddechrau mis Mawrth, ond y bu gostyngiad sylweddol ar ôl y cyfyngiadau symud a chyflwyno camau cadw pellter cymdeithasol mewn siopau.

Ategwyd hyn gan ddata’r SYG a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill sy’n dangos y cafwyd gostyngiad 5.1 y cant mewn manwerthiant ym mis Mawrth. Fel rhan o hyn, cafwyd twf 10.4 y cant mewn gwerthiant bwyd (gan gynnwys cynnydd 31.4 y cant mewn gwerthiant alcohol). Cyrhaeddodd gwerthiant ar-lein 22.3 y cant, sef y mwyaf erioed, o gyfanswm manwerthiant. Mewn cyferbyniad, cafwyd gostyngiad sydyn 34.8 y cant mewn gwerthiant siopau dillad, o’i gymharu â mis Chwefror.

Ar 15 Mawrth, cyhoeddodd y prif fanwerthwyr bwyd lythyr ar y cyd i'w cwsmeriaid gan roi sicrwydd iddynt am y camau ychwanegol roeddent yn eu cymryd i sicrhau cyflenwad bwyd a galw ar bobl i siopa'n ystyriol.

Mae archfarchnadoedd yn rhoi camau ar waith megis llai o oriau agor a chyfyngiadau ar faint o gynnyrch penodol y caiff pob cwsmer ei brynu. Fodd bynnag, mae archfarchnadoedd bellach yn dechrau codi rhai o'r cyfyngiadau prynu hyn.

Mae llywodraethau hefyd wedi rhoi camau ar waith i helpu i gynnal cyflenwadau bwyd. Cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru awdurdodau cynllunio i lacio eu gorfodaeth o amodau cynllunio dosbarthu manwerthu fel nad yw danfoniadau wedi'u cyfyngu'n ddiangen a bod mwy o hyblygrwydd o ran amseroedd agor siopau. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar lacio rheolau ar oriau gyrwyr ar gyfer cludo nwyddau ar y ffordd.

Tra bo’r diwydiant a'r llywodraeth yn rhannu gwybodaeth am gyflenwadau bwyd yn wirfoddol, creodd Deddf y Coronafeirws 2020 bŵer i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ofyn am y wybodaeth hon pe na bai partner diwydiant yn cydweithredu'n wirfoddol yn ystod cyfnod o darfu posibl.

Ar 8 Ebrill, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wrth y Cynulliad ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws y gadwyn gyflenwi i sicrhau parhad cyflenwadau bwyd. Dywedodd y canlynol:

Gallaf sicrhau Aelodau bod manwerthwyr a chadwyni cyflenwi yn ateb yr her. Mae ein storfeydd bwyd yn cael eu cyflenwi waeth beth fo'u lleoliad. Hoffwn ddiolch o galon i'r gweithlu manwerthu am eu gwaith caled.


Erthygl gan Elfyn Henderson a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.