Economi

Coronafeirws: twristiaeth

Er bod Croeso Cymru fel arfer yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, yng ngoleuni’r pandemig coronafeirws, mae’r neges gan asiantaeth hyrwyddo twristiaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir—dewch i ymweld â Chymru…rywbryd yn y dyfodol. Mae’r erthygl hon yn archwilio effaith y feirws ar y diwydiant twristiaeth a’r materion y mae’r rhai sy’n gweithio yn y sector yn eu hwynebu

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

20 Ebrill 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Er bod Croeso Cymru fel arfer yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, yng ngoleuni’r pandemig coronafeirws, mae’r neges gan asiantaeth hyrwyddo twristiaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir—dewch i ymweld â Chymru…rywbryd yn y dyfodol.

Mae’r erthygl hon yn archwilio effaith y feirws ar y diwydiant twristiaeth a’r materion y mae’r rhai sy’n gweithio yn y sector yn eu hwynebu.

Twristiaeth yng Nghymru

“Mae twristiaeth yn dod ag arian mawr i Gymru”. Dyna yw neges arferol Llywodraeth Cymru, ac mae pryderon wedi’u codi ynghylch sut y bydd y sector yn goroesi’r pandemig. Yn ôl yr ystadegau sector blaenoriaethol diweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (ystadegau a gyhoeddwyd yn 2018), cyflogir tua 144,000 o bobl yn y sector twristiaeth yng Nghymru.

Mae’r ystadegau perfformiad diweddaraf ym maes twristiaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Ionawr 2019 a Medi 2019. Maent yn dangos y bu 8.5 miliwn o ymweliadau domestig dros nos â Chymru yn ystod y cyfnod dan sylw, sy’n gynnydd o 4.8 y cant o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2018. Arweiniodd yr ymweliadau hynny at wariant o £1.7 biliwn, sef cynnydd o 7.9 y cant o’i gymharu â 2018. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r ffigurau cyfatebol ar lefel Brydeinig yn dangos codiadau llai o 3 y cant a 2.3 y cant, yn y drefn honno.

Yn ystod yr un cyfnod yn 2019 bu 65.4 miliwn o dripiau am y dydd gan dwristiaid i Gymru, a arweiniodd at wariant o £2.6 biliwn

Rheoliadau yn ymwneud â’r coronafeirws

Yn sgil y pandemig, ar 23 Mawrth 2020, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai meysydd carafanau, meysydd gwersylla, mannau twristaidd a mannau harddwch poblogaidd yng Nghymru ar gau i ymwelwyr.

Gan ddefnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, gwnaeth Llywodraeth Cymru y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, (rheoliadau 2020), a ddaeth i rym ar 26 Mawrth 2020.

Cau llety gwyliau

Mae adrannau 4 a 5 o reoliadau 2020 yn nodi bod yn rhaid i lety gwyliau gau, gan gynnwys gwestai, pentrefi gwyliau, parciau teithio a pharciau gwersylla. Mae’r rheoliadau yn gosod rhwymedigaeth ar berchnogion i sicrhau bod pobl yn gadael y mangreoedd hyn, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau.

Mae’r Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r eithriadau hyn—er enghraifft, mewn achosion lle gellir gofyn i fusnesau aros ar agor er mwyn rhoi llety i weithwyr allweddol neu bobl ddigartref.

Ar 8 Ebrill 2020, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at ddarparwyr llety gwyliau (PDF, 260KB) yn gofyn am fanylion ynghylch a fyddai modd iddynt gynnig rhoi llety i bobl sy’n agored i niwed, gan alw ar fusnesau i “gynorthwyo’r ymdrech genedlaethol i gadw pawb yn ddiogel yn ystod yr argyfwng yma”. 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyngor i berchnogion busnes mewn achosion lle’r oedd pobl eisoes yn aros yn y llety dan sylw pan ddaeth y rheoliadau i rym. Mae’r canllawiau yn nodi’n glir farn Llywodraeth Cymru, sef:

na ddylai honiad o fod yn hunanynysu neu’n ynysu oddi wrth aelodau o’r teulu fod yn rheswm dilys dros aros

Fodd bynnag, dylai perchnogion busnes ystyried amgylchiadau unigol, fel achosion lle byddai angen i’r sawl sy’n aros yn y llety ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddychwelyd adref, neu achosion lle mae gwaith hanfodol yn cael ei wneud yn eu prif gartrefi.

Mae’r canllawiau’n nodi’n glir nad yw’r rheoliadau’n effeithio ar bobl sy’n byw’n barhaol mewn cartrefi mewn parciau.

Gyda pharciau gwyliau ar gau, mae’r Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafanau (NACO) wedi cael llawer o gwestiynau gan berchnogion carafanau sydd wedi’u lleoli mewn parciau sy’n codi ffioedd llain. Ar hyn o bryd, ei chyngor i berchnogion yw eu bod yn parhau i dalu’r ffioedd hyn er mwyn bodloni eu rhwymedigaethau cytundebol ac er mwyn helpu busnesau i oroesi’r cyfnod hwn.

Parciau ac ardaloedd o harddwch

Yn unol â’r rheolau ar ymbellhau cymdeithasol, gall pobl wneud un math o ymarfer corff bob dydd, ar eu pennau eu hunain neu gydag aelodau o’r un aelwyd. Mae Llywodraeth y DU wedi egluro y dylid gwneud eich ymarfer corff dyddiol yn agos at eich cartref, gan osgoi unrhyw deithio diangen. Mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar fynediad i fannau gwyrdd.

Yn gychwynnol, teithiodd nifer fawr o bobl i fannau sy’n boblogaidd ymhlith twristiaid ac i ardaloedd o harddwch er mwyn gwneud eu hymarfer corff dyddiol yno. Er enghraifft, dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri ei fod wedi cael y diwrnod prysuraf erioed o ran ymwelwyr ar 21 Mawrth 2020.

Mewn ymateb, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau newydd drwy reoliadau 2020 i atal unrhyw ailadrodd o’r golygfeydd hyn, pan ymgasglodd nifer fawr o bobl ar draethau, mewn parciau ac ar lethrau mynyddoedd yng Nghymru.

Mae Adran 9 o reoliadau 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gau llwybrau cyhoeddus ac atal mynediad i dir lle maent o’r farn y byddai defnyddio llwybr neu dir yn peri risg uchel o ledaenu’r feirws. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi rhestr o lwybrau neu dir sydd ar gau ar ei wefan, ynghyd â chodi hysbysiadau ar y tir dan sylw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o feysydd parcio a llwybrau troed poblogaidd sydd ar gau, ynghyd â lincs i wybodaeth am bethau sydd wedi cau mewn awdurdodau lleol gwahanol. Mae pob un o barciau cenedlaethol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhestr lawn o lwybrau troed a thir sydd ar gau ar hyn o bryd:

Gweithwyr tymhorol

Gyda llawer o weithwyr yn y diwydiant twristiaeth yn cael eu cyflogi yn ystod y gwyliau yn unig— yn draddodiadol, rhwng y Pasg a mis Hydref—codwyd pryderon ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr tymhorol.

Roedd gofyn i weithwyr a gafodd eu rhoi ar gyfnod o seibiant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (sy’n cael ei drafod yn fanylach yn ein herthygl ar wahân ar y coronafeirws a chyflogaeth) fod ar gyflogres talu wrth ennill eu cyflogwr ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny. Y dyddiad cau gwreiddiol oedd 28 Chwefror 2020, ond cafodd y dyddiad hwnnw ei ymestyn yn sgil galwadau gan sawl diwydiant.

Ar 3 Ebrill, ysgrifennodd y Gynghrair Twristiaeth at y Canghellor i godi’r mater hwn. Fodd bynnag, ni fydd modd rhoi ar gyfnod o seibiant unrhyw weithwyr tymhorol yr oedd eu contractau’n destun oedi neu ganslo yn sgil y coronafeirws (gan olygu nad oeddent ar y gyflogres ar 19 Mawrth).

Effaith ar y diwydiant

Er na fydd maint effaith y feirws ar y sector yn hysbys am dipyn o amser, mae Croeso Cymru wedi cynnal arolygon dros y ffôn er mwyn ceisio gwneud asesiad cynnar o’r effeithiau y mae’r pandemig yn eu cael a sut mae busnesau’n ymateb.

Cafodd y gyfres gyntaf o arolygon eu cynnal ar 12 a 13 Mawrth 2020. Roedd y canlyniadau a gafwyd yn awgrymu y bu rhywfaint o effaith, ond nid oedd mwyafrif y busnesau wedi teimlo unrhyw effaith ar yr adeg honno.

Fodd bynnag, yn sgil natur newidiol y sefyllfa, nododd busnesau eu bod wedi dioddef effeithiau llawer mwy sylweddol wrth ymateb i’r ail gyfres o arolygon a gynhaliwyd rhwng 26 a 31 Mawrth. Dywedodd bron pob busnes a oedd yn destun arolwg bryd hynny (tua 96%) eu bod yn disgwyl i effaith y feirws yn y dyfodol fod yn ‘sylweddol negyddol’. Lleisiodd perchnogion busnes bryderon ynghylch cael mynediad at gymorth ariannol, gan gynnwys pryderon ynghylch sut i dalu staff yn y cyfnod hyd nes bod cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y staff hynny sydd wedi’u rhoi ar gyfnod o seibiant yn cael ei ddyrannu. Mae ein herthygl flaenorol yn dadansoddi yn fwy manwl y cymorth sydd ar gael i berchnogion busnes gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Edrych i’r dyfodol

Er y bydd llawer o fusnesau ar draws y sector yn pryderu am y dyfodol, mae’r Gynghrair Twristiaeth, yn ei llythyr at y Canghellor, yn awgrymu y bydd y diwydiant yn rhan hanfodol o’r broses o adfer yr economi yn dilyn y feirws. Dywed y llythyr:

In 2010…at the height of the Global Economic Crisis, the Government identified tourism as one of six key industries that could provide much needed employment and growth to reshape and rebalance the UK economy.

Gan fod yr effaith lawn ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn parhau i fod yn annelwig, bydd llawer o fusnesau yn awyddus i ailgydio yn eu gweithgarwch. Mae’n bosibl y bydd y sector yn eiddgar i lacio’r cyfyngiadau cyfredol cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, ar 1 Ebrill 2020 yn ystod y Cyfarfod Llawn, cafwyd neges glir gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, sef:

Os ydych chi’n ceisio achub y tymor twristiaeth yn 2020, rydych chi’n peryglu tymor twristiaeth 2021. Ni allwn fforddio gweld coronafeirws yn dychwelyd


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: