Coronafeirws: llywodraeth leol

Cyhoeddwyd 23/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 07 Mai 2020.

Mae llywodraeth leol, o ganlyniad i'r achosion o’r coronafeirws, wedi gorfod ymateb i alw cynyddol am lawer o'i gwasanaethau, ar adeg pan mae ganddi lai o gapasiti o ran y gweithlu. Mewn datganiad ysgrifenedig ar 25 Mawrth 2020, nododd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y gwaith paratoi a oedd yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol:

Mae cynghorau ledled Cymru yn sefydlu trefniadau wrth gefn i sicrhau y bydd y gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnynt yn parhau i gyflawni’r anghenion sylfaenol. Caiff newidiadau eu gwneud i wasanaethau wrth i’r galw am wasanaethau gynyddu yn sgîl capasiti llai i gyflenwi wrth i weithwyr gael eu hynysu. Bydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd ynghylch yr hyn sydd bwysicaf.

Mae’r datganiad hefyd yn nodi er mwyn amddiffyn trigolion bregus, mae awdurdodau lleol yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector ‘i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau hanfodol i’r rheini sydd fwyaf bregus a bod modd cyflawni gofynion newydd’.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ar dudalennau ei ganllawiau yn nodi y dylai pobl na allant gael cefnogaeth na chymorth gan ffrindiau a theulu yn ystod y pandemig gysylltu â'u cyngor lleol.

Gwasanaethau lleol

Mae awdurdodau lleol eisoes wedi gwneud newidiadau sylweddol i lawer o'r gwasanaethau a ddarperir i drigolion: gan leihau neu atal llawer o wasanaethau nad ydynt yn hanfodol.

Nod y newidiadau i'r gwasanaeth yw lleihau lledaeniad y feirws, a rheoli’r pwysau ar y gweithlu wrth i staff hunan-ynysu. Ymhlith y newidiadau mae cau cyfleusterau fel llyfrgelloedd, canolfannau ailgylchu a mynwentydd, newid gwasanaethau casglu gwastraff, ac atal rhai gwasanaethau gan gofrestrydd. Er y bydd llawer o'r newidiadau i wasanaethau yn debyg ledled Cymru, bydd rhai, fel gwasanaethau casglu gwastraff, yn amrywio rhwng gwahanol ardaloedd cynghorau lleol.

Gwastraff cartref ac ailgylchu

Mae casglu gwastraff cartref yn wasanaeth hanfodol a gweladwy a ddarperir gan gynghorau. Bydd newidiadau i drefniadau casglu gwastraff yn cael effaith amlwg ar unwaith ar fywydau preswylwyr. Ar 14 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau anstatudol ar flaenoriaethu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu. Mae’r canllawiau yn nodi:

Fel gwasanaeth allweddol, dylid cynnal y gwaith o gasglu gwastraff ac ailgylchu cyn belled ag y bo modd i atal unrhyw wastraff a allai fod yn niweidiol i amwynder lleol ac iechyd y cyhoedd.

Caiff gwastraff bwyd, gwastraff clinigol / cewynnau a gwastraff bin du y flaenoriaeth uchaf er mwyn osgoi risgiau sylweddol sy'n gysylltiedig â chronni gwastraff o'r fath ar iechyd y cyhoedd. Mae'r canllaw hefyd yn nodi y dylid parhau â chasgliadau â chymorth ar gyfer pobl fregus.

Mae cynghorau yn adolygu eu gwasanaethau yn barhaus, ac mae rhai cynghorau nawr yn ailgyflwyno rhai gwasanaethau casglu gwastraff a gafodd eu hatal dros dro.

Angladdau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chanllawiau ar angladdau ar 3 Ebrill 2020. Mae'r canllaw yn egluro’r gofynion cyfreithiol ar amlosgfeydd, mynwentydd ac addoldai i gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cyfyngu ar nifer y bobl sy’n bresennol mewn angladdau, er nad yw'n rhagnodi nifer penodol o bobl. Mae'r canllawiau'n nodi:

O ran amlosgfa neu fan addoli, bydd y terfyn priodol yn dibynnu ar faint a chynllun yr adeilad. Y gofyniad cyfreithiol yw y cymerir pob cam rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng y rheini sy’n mynd.

Darperir cyfarwyddiadau ar effaith cyfyngiadau’r coronafeirws ar angladdau yn yr Atodiad i'r canllawiau (tudalen 6).

Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol sydd ag amlosgfeydd a mynwentydd yn eu hardal wedi gosod cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n bresennol mewn angladdau. Mae'r cyfyngiadau ar bresenoldeb yn amrywio ledled Cymru, er enghraifft, mae rhai cynghorau'n cyfyngu presenoldeb i bump aelod o'r teulu agos, ac mae cynghorau eraill yn rhoi rhagor o hyblygrwydd yn hyn o beth.

Y gofyniad cyfreithiol allweddol yw y cymerir yr holl fesurau rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng y rheiny sy’n bresennol. Mae hyn yn berthnasol i bobl sy’n byw mewn gwahanol aelwydydd yn unig, ac felly mae'r canllawiau'n nodi bod rhywfaint o hyblygrwydd o ran rheoli niferoedd mewn angladdau gan mai'r rhagdybiaeth yw y bydd cyfran sylweddol o'r rhai sy'n bresennol yn eistedd gydag aelodau o'r un aelwyd (a allai alluogi mwy o bobl i fod yn bresennol).

Nid yw’r Rheoliadau’n mynnu bod mynwentydd yn cau yng Nghymru. Serch hynny, caeodd nifer o awdurdodau claddedigaethau (y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a rhai cynghorau cymunedol) eu mynwentydd i ymateb i'r pandemig. Ers hynny, mae'r rhan fwyaf o awdurdodau claddedigaethau wedi ailagor eu mynwentydd neu mae disgwyl iddynt ailagor yn fuan yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru.

Gohirio etholiadau yng Nghymru

Mae Deddf y Coronafeirws 2020 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ohirio isetholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r pŵer hwn wedi'i gyfyngu i'r cyfnod rhwng pasio'r Ddeddf a 5 Mai 2021.

Ar 29 Ebrill 2020, gosododd Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad y Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020. Daw'r Rheoliadau i rym ar 5 Mai 2020, ac maent yn galluogi Swyddogion Canlyniadau i ohirio is-etholiad ar gyfer swydd wag mewn prif gyngor neu gyngor cymunedol hyd at ddyddiad rhwng 1 Chwefror 2021 a 16 Ebrill 2021.

Nid oes disgwyl i'r etholiadau llywodraeth leol ar gyfer Cymru gyfan gael eu cynnal tan fis Mai 2022.

Hefyd mae Deddf 2020 yn gohirio etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, a oedd i’w cynnal ym mis Mai 2020. Caiff yr etholiad nesaf ei gynnal ym mis Mai 2021 bellach.

Cyfarfodydd awdurdodau lleol

Mae Adran 78 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn cyflwyno pwerau eang i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o ran cyfarfodydd cynghorau yng Nghymru. Gall Gweinidogion Cymru nawr nodi pethau fel amser ac amlder cyfarfodydd awdurdodau lleol, sut neu ble maent i'w cynnal, a mynediad i'r cyhoedd i’r cyfarfodydd hynny.

Gosodwyd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 (PDF 146KB) gerbron y Cynulliad ar 21 Ebrill 2020, gan ddod i rym ar 22 Ebrill 2020. Mae’r Rheoliadau yn galluogi cyfarfodydd awdurdodau lleol i weithredu’n wahanol yn ystod y pandemig. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys caniatáu i aelodau awdurdodau lleol gwrdd o bell (h.y. trwy fideo-gynadledda), newidiadau i’r trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfodydd (e.e. amser, dyddiad ac amlder cyfarfodydd), ac addasu gofynion mynediad y cyhoedd (e.e. cyhoeddi hysbysiadau a dogfennau). Dim ond ar gyfer cyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhelir cyn Mai 2021 y mae’r Rheoliadau mewn grym.

Mae’r Rheoliadau’n berthnasol i brif gynghorau a’r weithrediaeth i’r prif gyngor, cynghorau cymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ac Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cynghorau ar gynnal cyfarfodydd o bell (PDF 177KB).

Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

Mae'r tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru wedi atal dros dro rywfaint o 'waith codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu nad yw'n hanfodol'. Gwnaethpwyd hyn i ddiogelu a rheoli gwasanaethau rheng flaen allweddol, yn enwedig pan allai fod angen i staff hunan-ynysu neu wella o salwch.

Nododd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei datganiad ar 25 Mawrth ei bod yn hyderus bod gan y tri gwasanaeth tân ac achub yr ‘adnoddau a’r cynlluniau yn eu lle i ymateb yn y ffyrdd arferol'.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ebrill 2020, adroddodd y Gweinidog fod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi profi cyfradd absenoldeb o 4 y cant yn unig yn ystod pandemig y coronafeirws. Roedd hyn, nododd y Gweinidog, wedi galluogi'r Gwasanaeth Tân ac Achub i ddarparu gwasanaethau brys llawn, yn ogystal â rhoi cymorth ychwanegol i'r Gwasanaeth Ambiwlans ac asiantaethau eraill yn ystod y cyfnod hwn. Mynegodd y Gweinidog bryder ynghylch achosion diweddar o danau glaswellt, sy'n rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaethau tân yn ystod y pandemig.

Nododd y Gweinidog hefyd fod y tanau glaswellt yn cynyddu'r peryglon iechyd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal, yn enwedig y rhai sydd â symptomau Covid-19.

Rhagor o wybodaeth

Gall preswylwyr weld y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i wasanaethau sy'n effeithio arnynt ar we-dudalennau coronafeirws pwrpasol eu cyngor. Mae Ymchwil y Senedd yn diweddaru ei flog yn rheolaidd - Y Coronafeirws: gwybodaeth a chymorth i bobl yng Nghymru sy’n darparu lincs uniongyrchol i dudalen we benodol pob awdurdod lleol ar y coronafeirws.

Mae awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chymorth ariannol nad ydynt yn cael eu crybwyll yn y blog uchod. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthyglau mewn ymateb i'r achosion o’r coronafeirws a gwasanaethau y mae gan awdurdodau lleol rywfaint o gyfrifoldeb, neu'r cyfrifoldeb llawn, i'w darparu. Mae'r rhain yn cynnwys tai, trafnidiaeth, gofal cymdeithasol ac ysgolion. Hwy hefyd sy’n gyfrifol am weinyddu cymorth a chynlluniau ariannol penodol, gan gynnwys rhai budd-daliadau lles a chymorth i fusnesau.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.