Addysg

Coronafeirws: addysg uwch, addysg bellach, a phrentisiaethau

Mae prifysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru bellach yn addysgu trwy ddulliau dysgu o bell. Fel sefydliadau annibynnol, cwmnïau preifat a chyrff trydydd sector, y darparwyr eu hunain sy’n penderfynu ynghylch addysgu.

Amcangyfrif o amser darllen: 8 Munud

24 Ebrill 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cafodd yr erthygl hon ei ddiweddaru ddiwethaf ar 30 Ebrill 2020

Mae prifysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru bellach yn addysgu trwy ddulliau dysgu o bell. Fel sefydliadau annibynnol, cwmnïau preifat a chyrff trydydd sector, y darparwyr eu hunain sy’n penderfynu ynghylch addysgu.

Mae Deddf Coronafeirws 2020 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gau sefydliadau addysgol, yn rhannol neu’n llwyr, neu eu cadw ar agor, ond ni ddefnyddiwyd y pwerau hyn ar adeg ysgrifennu’r blog hwn.

Mae gan bob darparwr fynediad amodol i Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws y DU am rai yn eu gweithlu.

Arholiadau prifysgolion

Y prifysgolion sy’n penderfynu ynghylch sut i gyflwyno ac asesu eu dyfarniadau gradd eu hunain. Mae ganddynt gryn ddisgresiwn i ddatblygu eu strategaethau a’u trefniadau asesu eu hunain.

Fodd bynnag, mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, sy’n sicrhau ansawdd darpariaeth prifysgolion yn y DU a Chymru, yn disgwyl i asesiadau fod yn deg, ac i safonau academaidd gael eu cynnal. Mae wedi cyhoeddi canllawiau thematig ar gyfer prifysgolion.

Cymwysterau Galwedigaethol – cynigion Ofqual

Bydd canslo arholiadau ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru yn effeithio ar ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach. Mae’r trefniadau sydd ar waith i ddysgwyr addysg bellach Cymru sy’n astudio ar gyfer y cymwysterau hyn gael graddau wedi’u cyfrifo yr un fath â’r trefniadau i ddisgyblion mewn ysgol neu leoliad chweched dosbarth.

Fodd bynnag, bydd pob prentis, a nifer sylweddol o ddysgwyr addysg bellach, yn dilyn cyrsiau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Roedd y sefyllfa ar gyfer y dysgwyr hyn yn llai eglur ar yr adeg pan ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae pethau wedi cymud ymlaen a chyhoeddodd Cymwysterau Cymru ragor o wybodaeth ar 24 Ebrill 2020.

Mae mwyafrif y cymwysterau addysg gyffredinol yng Nghymru yn cael eu dyfarnu gan CBAC, ond mae cymwysterau galwedigaethol yn cael eu dyfarnu gan dros 100 o gyrff dyfarnu sy’n gweithio ledled y DU. Mae Cymwysterau Cymru yn egluro: er mwyn “sicrhau cysondeb ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn y cymwysterau hyn, bydd yr un dull yn cael ei ddilyn ar gyfer dysgwyr yng Nghymru â’r hyn a nodir gan Ofqual”, sef y rheoleiddiwr yn Lloegr.

Erbyn hyn, mae Ofqual wedi lansio pythefnos o ymgynghoriad ynghylch trefniadau eithriadol ar gyfer asesu a graddio yn 2020 a fydd ar agor tan 08 Mai 2020. Yn unol â’r bwriad a nodir uchod, ni fydd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar wahân, ac mae’n annog y rhai sydd â diddordeb i ymateb i ymgynghoriad Ofqual. Un o brif nodau cynigion Ofqual, yn ôl Cymwysterau Cymru yw:

sicrhau y gall dysgwyr dderbyn graddau yr haf hwn er mwyn iddyn nhw allu symud ymlaen i’w cam nesaf, gan roi sicrwydd y bydd y graddau’n werthfawr a bod y dull gweithredu’n deg.

Mae Ofqual yn cynnig bod cyrff dyfarnu yn mabwysiadu dull o gyfrifo, addasu neu oedi, gan roi’r holl gymwysterau galwedigaethol mewn tri chategori:

  • Categori 1 – Cymwysterau a ddefnyddir ar gyfer symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch (eu trin yn debyg iawn i TGAU / Safon Uwch) 
  • Categori 2 – Cymwysterau sy’n cyflawni dibenion cymysg 
  • Categori 3 – Cymwysterau sy’n dyfarnu cymhwysedd galwedigaethol

Mae Cymwysterau Cymru yn esbonio y bydd y “cyrff dyfarnu yn penderfynu pa rai o’r egwyddorion canlynol y dydlid eu defnyddio:

  • Gradd wedi’i chyfrifo, os yw’n bosibl (Cyfrifo) 
  • Lle nad oes modd cyfrifo, dylid ystyried addasu asesiadau sy’n bodoli eisoes (Addasu)
  • Aildrefnu asesiadau lle mae’n amlwg nad yw cyfrifo nac addasu yn bosibl (Oedi)”.

Mae Cymwysterau Cymru yn disgwyl y bydd mwyafrif y dysgwyr galwedigaethol a oedd yn disgwyl gorffen eu hasesiadau rhwng mis Mai a mis Gorffennaf yn cael canlyniad wedi’i gyfrifo “yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth a ddelir gan yr ysgol, y coleg neu’r darparwr hyfforddiant”. Ond lle mae cymwysterau’n gweithio fel trwydded i ymarfer, neu’n nodi cymhwysedd yn uniongyrchol (Categori 3 uchod), efallai “na fydd [gan ddysgwyr ddewis] ond aros nes y gall asesiadau arferol ddigwydd eto”.

Derbyniadau i brifysgolion

Bydd graddau Safon Uwch a gyfrifir yn cael eu cyhoeddi ar yr adegau arferol yng Nghymru a Lloegr. Fel y nodir uchod, mae’n bosibl y bydd cymwysterau galwedigaethol a ddefnyddir gan brifysgolion i benderfynu ar dderbyniadau, fel cymwysterau BTEC, hefyd yn cael eu cyfrifo yn ôl amserlenni tebyg. Golyga hyn fod system derbyn y prifysgolion, sy’n cael ei rhedeg gan UCAS ar ran prifysgolion y DU, yn glynu yn fras at y terfynau amser arferol ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Medi.

Dechreuodd rhai prifysgolion yn Lloegr gyhoeddi cynigion diamod i ymgeiswyr yn fuan ar ôl i’r argyfwng coronafeirws ddechrau. Ysgrifennodd Gweinidogion o bob rhan o’r DU, gan gynnwys Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg Cymru, at ddarparwyr yn eu gwledydd nhw yn gofyn iddynt beidio â chyhoeddi cynigion diamod tan 1 Mai 2020.

Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gwnaeth y datganiad canlynol ar dderbyniadau:

Rydym ni a chyllidwyr a rheoleiddwyr eraill y DU yn cynnal trafodaethau ag UCAS er mwyn gweld a ellir gwneud unrhyw newidiadau eraill i gylch recriwtio eleni er mwyn sefydlogi’r system.  Gallai hyn gynnwys ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ‘gwrthod yn ddiofyn’ (lle y tybir bod darpar fyfyrwyr wedi gwrthod cynnig os na fyddant wedi’i gadarnhau cyn dyddiad cau derbyn UCAS) a chynyddu’r wybodaeth, cyngor a chanllawiau sydd ar gael i ymgeiswyr er mwyn ystyried y ffaith fod gan y rhai sy’n gadael ysgol lai o fynediad i gymorth gyrfaol.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr a dysgwyr coleg

Mae cymorth i fyfyrwyr prifysgol, ynghyd â chymorth i addysg bellach a phrentisiaid, yn fater datganoledig. Mae gan Gymru becynnau cymorth myfyrwyr a dysgwyr gwahanol i’r rhai sydd ar gael yng ngwledydd eraill y DU.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (sy’n prosesu ffioedd dysgu a thaliadau cynhaliaeth ar ran Llywodraeth Cymru o dan y brand Cyllid Myfyrwyr Cymru) wedi nodi y bydd taliadau cynhaliaeth ar gyfer tymor yr haf yn parhau fel arfer ac y dylent gael eu talu yn brydlon.

O dan y rheolau arferol, mae myfyrwyr sy’n byw gyda’u rhieni yn cael lefel is o gynhaliaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro na fydd lefelau cynhaliaeth yn gostwng y tymor hwn ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd wedi symud yn ôl at eu rhieni yn ddiweddar oherwydd yr argyfwng coronafeirws. Dywedodd y Gweinidog Addysg fel a ganlyn wrth Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ar 28 Ebrill:

I want to reassure students that there will be no change to their student support payments just because they have left their universities and have decided to go home. There should be no change.

Nid yw’n glir a fydd lefelau cynhaliaeth is yn daladwy yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ar gyfer unrhyw fyfyrwyr na fydd yn gallu symud i’w llety myfyrwyr, neu yn ôl iddo, oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi y bydd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru i ddysgwyr addysg bellach yn parhau fel arfer.

Fel rheol, nid yw prentisiaid dan 18 oed yn gallu cael tâl salwch statudol na Chredyd Cynhwysol, felly mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i dalu £50 yr wythnos iddyn nhw ar gyfer cyfnod o salwch coronafeirws neu gyfnod o hunanynysu.

Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ôl-16

Gall prifysgolion Cymru ddisgwyl i’w hincwm o ffioedd dysgu gael ei dalu yn y ffordd arferol gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am weddill blwyddyn academaidd 2019/20. Mae contractwyr dysgu seiliedig ar waith, sy’n cynnwys colegau addysg bellach, wedi cael trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch datblygu methodoleg ariannu newydd ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn egluro:

The Welsh Government has agreed a series of measures to enable work-based learning providers to continue to work with trainees, participants, apprentices and employers throughout the period of the Coronavirus pandemic.  This includes the payment of average funding values, which although results in a reduction to the expected funding to the sector, it does ensure the financial stability of the provider network, in order that they can continue to deliver innovative teaching, learning and assessment.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ail-flaenoriaethu cyllid ar draws ei llinellau cyllideb i gefnogi argyfwng coronafeirws. Yn ei llythyr at CCAUC, mae Kirsty Williams yn egluro bod disgwyl i’r ymarfer hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill, sy’n golygu y gallai fod newidiadau i’r dyraniadau gwreiddiol yng Nghyllideb Derfynol 2020-21 ar gyfer addysg ôl-16.

Yn yr un llythyr, mae’r Gweinidog yn nodi dyraniad dros dro o £171.9 miliwn i CCAUC ar gyfer 2020-21 yn hytrach na’r £178.2 miliwn yng Nghyllideb Derfynol 2020-21. Mae’r Gweinidog yn rhybuddio y gallai’r grant fod yn llai yn y pen draw.

Cynnig “cyflawni sefydlogrwydd” Prifysgolion y DU

Prifysgolion y DU yw’r corff cynrychioliadol ar gyfer y sector addysg uwch yn y DU. Prifysgolion Cymru yw cyngor cenedlaethol Prifysgolion y DU yng Nghymru ac mae’n cynrychioli buddiannau darparwyr addysg uwch yng Nghymru.

Bydd y buddiannau hyn weithiau yn wahanol i fuddiannau sector addysg uwch ehangach y DU, gan fod polisi yn y maes hwn wedi’i ddatganoli i Gymru. Ond mae rhai meysydd sylweddol o fuddiant trawsffiniol a rennir er hynny, gan fod y sectorau yng Nghymru a Lloegr yn rhannu cronfa recriwtio myfyrwyr, systemau cyllido ymchwil a nodweddion cyffredinol.

Ysgrifennodd Prifysgolion y DU at Weinidogion Llywodraeth y DU (ond nid Gweinidog Addysg Cymru, fe ymddengys) yn galw am ymyriadau sylweddol yn y sector addysg uwch i’w sefydlogi yn ystod cyfnod pryd y disgwylir gostyngiad sylweddol yn ei incwm. Byddai angen i’w gynigion gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth y DU ar gyfer prifysgolion yn Lloegr, a chan Lywodraeth Cymru ar gyfer prifysgolion yng Nghymru.

Mewn rhai meysydd, mae’r cynigion yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i drosglwyddo’r cyfan o unrhyw gyllid canlyniadol Barnett sy’n deillio o unrhyw ymyriadau a wneir yn Lloegr yn uniongyrchol i’r sector yng Nghymru.

Mae’r papur yn egluro:

Ministers across all four nations must work together to deliver this package of proposals that meets the needs of universities across all four nations. Implementation of the package of measures should reflect the different funding models across the devolved nations. Whilst devolved administrations must firstly protect investment in universities, the scale of the challenges goes beyond what can be afforded from devolved budgets. The necessary investment must reach universities in the devolved nations. A co-ordinated plan is needed to maintain capacity and enable a swift recovery for universities in Wales, Scotland, and Northern Ireland.

Mae papur Prifysgolion y DU yn nodi bod y sector yn y DU yn wynebu sawl risg sylweddol, gan gynnwys effaith ariannol uniongyrchol ym mlwyddyn academaidd 2019/20, a hefyd y risg y bydd cwymp lawer mwy mewn incwm ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 oherwydd:

  • cwymp sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol;
  • cynnydd yn nifer y gohiriadau gan israddedigion; a
  • cholli incwm o weithgareddau masnachol a phrosiectau ymchwil.

Mae adroddiad gan ymgynghoriaeth London Economics a luniwyd ar ran yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn rhybuddio y gallai prifysgolion Cymru ddioddef colledion yn 2020/21 o £98 miliwn a cholli 1,200 o staff. Yn arwyddocaol, mae’r papur hefyd yn rhybuddio y gallai hanner yr wyth prifysgol yng Nghymru fod â llif arian negyddol ar ôl y pandemig.

Mae Prifysgolion y DU yn galw am gynnydd o 100 y cant mewn cyllid ymchwil craidd i brifysgolion (a fyddai’n costio £71 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru).

Yn arwyddocaol, mae hefyd yn galw am i bob prifysgol roi cap gwirfoddol ar recriwtio myfyrwyr i ddim mwy na’r rhagolwg cyffredinol ar gyfer cynllun recriwtio 2020/21 ynghyd â lwfans o 5 y cant. Daw’r cynnig hwn o’r risg y bydd prifysgolion cael eu hunain mewn cystadleuaeth agored i gynyddu yn sylweddol nifer yr israddedigion maen nhw’n eu recriwtio i wneud iawn am y risg y bydd cwymp yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol. Gallai cystadleuaeth gynyddol o’r fath weld rhai sefydliadau yn mynd i drafferthion ariannol trwy golli incwm o ffioedd dysgu.

Yng Nghymru, cafodd y sector 54 y cant o’i incwm o ffioedd dysgu yn 2018/19. Fodd bynnag, mae sefydliadau yng Nghymru yn dibynnu ar ffioedd dysgu i raddau gwahanol; yn 2018/19, ar y pegwn uchaf roedd 76 y cant o’r incwm yn dod o ffioedd dysgu, gyda 46 y cant yn dod o’r ffioedd ar y pegwn isaf.

Dywedodd y Gweinidog fel a ganlyn wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 28 Ebrill 2020:

We are working closely with Universities Wales and have a lot of sympathy for the proposals that have come forward from Universities UK, which Wales’s universities have been a part of forming. […] clearly we will need to have an ongoing discussion about how we respond to the immediacy of the issues facing HE, how we can get stability for the next academic year, and how we then can support the sector through what is a really challenging time for them. We will do that in a Welsh context and we will continue to do that also in a UK context, because you will have seen the scale of some of the figures that have been talked about in terms of the impact on the HE sector at this time. Clearly, a four-nation approach to that will be crucial.

Gwybodaeth bellach i ddysgwyr a myfyrwyr


Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: