Delweddau Data Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Ystadegau

Coronafeirws: ystadegau

Mae'r blog hwn yn esbonio sut a phryd y cyhoeddir data ynghylch achosion o COVID-19 yng Nghymru a’r marwolaethau cysylltiedig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio COVID-19 fel clefyd heintus a gaiff ei achosi gan y coronafeirws. Rydym wedi cynnwys siartiau sy’n crynhoi’r data a chaiff y rhain eu diweddaru ddwywaith yr wythnos. Mae’n bosibl y cânt eu hadolygu wrth i'r data a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru newid. Mae data ar gyfer y ddau neu dri diwrnod diweddaraf wedi'u hepgor gan eu bod yn debygol o newid yn sylweddol wrth i ragor o achosion, profion a marwolaethau gael eu cofnodi.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

Diweddarwyd: 26 Mai 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r blog hwn yn esbonio sut a phryd y cyhoeddir data ynghylch achosion o COVID-19 yng Nghymru a’r marwolaethau cysylltiedig.  Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio COVID-19 fel clefyd heintus a gaiff ei achosi gan y coronafeirws. Rydym wedi cynnwys siartiau sy’n crynhoi’r data a chaiff y rhain eu diweddaru ddwywaith yr wythnos. Mae’n bosibl y cânt eu hadolygu wrth i’r data a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru newid. Mae data ar gyfer y ddau neu dri diwrnod diweddaraf wedi’u hepgor gan eu bod yn debygol o newid yn sylweddol wrth i ragor o achosion, profion a marwolaethau gael eu cofnodi.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ystadegau COVID-19 bob dydd ar ei ddangosfwrdd. Mae’n cyhoeddi data am nifer y profion a gynhelir, nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau a nifer y marwolaethau. Cawn ein rhybuddio mai data dros dro a gyhoeddir ar ei ddangosfwrdd ac y caiff y ffigurau eu hadolygu bob dydd.

Nifer y profion a gynhaliwyd a nifer achosion a gadarnhawyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn esbonio y gall unigolyn gael mwy nag un prawf COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno data’r profion fesul cyfnodau o chwe mis, ac oes caiff unigolyn fwy nag un prawf yn ystod y cyfnod hwnnw, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif.  Os bydd canlyniad unrhyw brawf yn bositif, caiff hyn ei gyhoeddi fel achos a gadarnhawyd. Cyhoeddir data’r profion yn ôl yr awdurdod lleol lle mae’r unigolyn dan sylw’n byw, ac mae’r data yng Nghymru hefyd yn cael ei ddadansoddi’n ôl rhyw ac oedran. Mae nifer y profion a gynhaliwyd yn cynnwys achosion a gadarnhawyd mewn ysbytai ac mewn mannau eraill. Darllenwch ein blog ar y coronafeirws a’r drefn brofi i gael rhagor o wybodaeth.

Nifer cronnol o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd  fesul 100,000 o drigolion

Nifer cronnus o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol (BILl)

Profion newydd a gynhaliwyd yng Nghymru

Gan fod y coronafeirws yn glefyd heintus sydd, fel rheol, yn cael ei ledaenu drwy gyswllt personol agos, gellir disgwyl iddo ledaenu’n gynt mewn ardaloedd â dwysedd poblogaeth uwch. Mae’r duedd hon wedi’i hadlewyrchu yn y ffigur isod, sy’n dangos y gydberthynas rhwng yr achosion cronnus fesul 100,000 o bobl a dwysedd y boblogaeth ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Dangosir ffit llinellol (y llinell ddashiau) ac un gwyriad safonol bob ochr i’r ffit (y llinellau toredig).

Nifer yr achosion cronnfus fesul 100,000 o’r boblogaeth gan ddwysedd poblogaeth

Mae gwyriadau o’r ffit llinellol yn dangos pa mor wahanol yw nifer yr achosion COVID-19 fesul 100,000 o bobl o’i gymharu â’r hyn y gellid ei ddisgwyl ar sail dwysedd y boblogaeth yn unig. Er enghraifft, mae gan boblogaeth Sir Ddinbych ddwysedd poblogaeth isel, ac mae nifer yr achosion COVID-19 yno yn uwch na’r disgwyl, yn seiliedig ar ddwysedd y boblogaeth yn unig. Gallai’r amrywiadau hyn ddeillio o amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol a daearyddol, fel gwahaniaethau yn y ddarpariaeth profion, materion yn ymwneud â phellter cymdeithasol, lefel y cyfyngu mewn ysbytai a chartrefi gofal, a chyfran y bobl mewn categorïau risg uchel.

Nid yw’r ffit llinellol yn cynnwys Caerdydd, sy’n allanolyn o ran y data. Gellir gweld sefyllfa Caerdydd yn y graff sydd wedi’i fewnosod, sy’n dangos yr un data ar raddfa ehangach. Yng Nghaerdydd, nid yw’r dwysedd poblogaeth uwch yn cyfateb i nifer uwch o achosion fesul 100,000.

Marwolaethau’n ôl dyddiad a BILl

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi nifer y marwolaethau yr amheuir y cawsant eu hachosi gan COVID-19 ymhlith y rhai a gafodd brawf positif, a chaiff y rhain eu dangos yn ôl dyddiad y farwolaeth.

Marwolaethau dyddiol yng Nghymru

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys dim ond y nifer a fu farw yn dilyn cadarnhad mewn labordy fod ganddynt COVID-19. Digwyddodd mwyafrif y marwolaethau a gofnodir yma mewn ysbyty, ond digwyddodd cyfran ohonynt mewn cartrefi gofal. Nid yw’r ffigurau’n cynnwys unigolion a allai fod wedi marw oherwydd COVID-19 ond na chafodd hynny ei gadarnhau mewn labordy. Bydd gwir nifer y rhai a fu farw oherwydd COVID-19 yn uwch.

Ni fydd mwyafrif y rhai a fu farw mewn cartrefi gofal yn cael eu cyfrif yn nata Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n nodi y bydd ei ystadegau’n wahanol i’r data y bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn eu cyhoeddi yng nghyswllt y nifer y cadarnhawyd neu yr amheuir eu bod wedi marw oherwydd COVID-19 yng Nghymru a Lloegr.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi nifer y marwolaethau ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) ond, os bydd nifer y marwolaethau’n 5 neu’n llai, ni chaiff y ffigurau ar gyfer y Bwrdd Iechyd dan sylw eu cyhoeddi rhag i wybodaeth am y marwolaethau unigol gael ei gwneud yn hysbys.

Ffynonellau eraill

Bob wythnos, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ffigurau sy’n dangos y nifer y cadarnhawyd neu yr amheuir eu bod wedi marw oherwydd COVID-19 yng Nghymru a Lloegr – Deaths registered weekly in England and Wales, provisional. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio data sydd ar gael ar ôl y broses cofrestru marwolaeth ac felly mae dros wythnos ar ei hôl hi.

Mae’r ONS hefyd yn cyhoeddi Deaths involving COVID-19 by local area and socioeconomic deprivation: deaths occurring between 1 March and 17 April 2020 sy’n cynnwys map rhyngweithiol sy’n dangos nifer y marwolaethau ym mhob ardal.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau wythnosol ynghylch Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data am achosion, marwolaethau, cleifion mewn ysbytai, derbyniadau newydd i’r ysbyty a’r defnydd o welyau gofal critigol yng Nghymru.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cyhoeddi ei ddata ar ddangosfwrdd, bydd Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi ystadegau bob dydd ar ei gwefan a bydd National Records Scotland yn cyhoeddi diweddariad wythnosol. Bydd Adran Iechyd Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau bob dydd ar ei gwefan.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: