Coronafeirws: cyfarpar diogelu personol

Cyhoeddwyd 05/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Drwy gydol pandemig y coronafeirws, rydym wedi clywed llawer am y pryder sylweddol yn y DU, a gwledydd eraill, ynghylch sicrhau cyflenwadau digonol a pharhaus o gyfarpar diogelu personol (PPE). Bydd yr erthygl hon yn edrych ar y canllawiau ar gyfer PPE, rhai o'r problemau sydd wedi codi wrth geisio cael digon o PPE a'r hyn sy'n cael ei wneud i ymateb i’r problemau hyn.

Beth yw Cyfarpar diogelu personol (PPE)?

Dyluniwyd PPE i helpu i amddiffyn unigolion rhag risgiau iechyd neu ddiogelwch yn y gwaith ac i atal heintiau rhag lledaenu. Mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, mae PPE yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, gan gynnwys amddiffyniad i'r llygaid a'r wyneb, menig, ffedogau a gynau, a chyfarpar diogelu anadlol, fel masgiau neu darianau wyneb. Defnyddir gwahanol fathau o PPE, yn ôl lefel y risg, y lleoliad neu'r driniaeth angenrheidiol. Mae'n hanfodol i sicrhau amgylchedd diogel i ofalu am bobl sydd â choronafeirws a rhag i'r rhai sy'n rhoi ac yn derbyn gofal gael eu heintio.

Canllawiau PPE

Mae holl wledydd y DU wedi cytuno ar ganllawiau craidd ar y mathau o PPE y dylid eu defnyddio a sut y dylid eu defnyddio. Mae’r canllawiau hefyd yn nodi am ba hyd y dylid defnyddio PPE a phryd y dylid newid yr eitemau. Yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ebrill 2020, cadarnhaodd y Prif Weinidog ei fod wedi ymrwywmo i gadw at ganllawiau’r DU a’u rhoi ar waith. Mae cyngor manylach i’w gael hefyd ynghylch defnyddio PPE mewn lleoliadau unigol: ysbytai, lleoliadau gofal sylfaenol, lleoliadau gofal cymunedol a chymdeithasol, ac ynghylch PPE i barafeddygon, yn ogystal â lleoliadau nad ydynt yn lleoliadau gofal iechyd, fel carchardai, porthladdoedd a threfnwyr angladdau.

Diweddarwyd y canllawiau craidd mewn ymateb i faterion newydd a ddaeth i'r amlwg yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys yr angen i roi diogelwch ychwanegol i gleifion mewn grwpiau agored i niwed sy'n cael eu cysgodi, yn ogystal â chanllawiau ar ailddefnyddio rhai eitemau PPE a gwneud defnydd estynedig ohonynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes angen ailddefnyddio PPE yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar y mater hwn. Mae hyn yn amlinellu'r sefyllfaoedd hynny lle mae'n amhriodol ac yn briodol ailddefnyddio PPE.

Sut mae PPE yn cael ei ddosbarthu?

Yng Nghymru, caiff y gwaith o ddosbarthu PPE ei gydgysylltu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gan weithio gyda'r Joint Equipment Stores sy'n gwasanaethu awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi creu tudalen we lle gall sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ofyn am PPE.

Beth yw’r pryderon?

Mae'r prif bryderon a godwyd yn ystod y pandemig yn ymwneud â sicrhau bod y PPE cywir yn cael ei gyflenwi'n ddigon cyflym. Fodd bynnag, gall y cyflenwad PPE amrywio'n sylweddol ledled y DU, ac mae problemau penodol yn codi mewn ardaloedd gwahanol; gan fod iechyd wedi’i ddatganoli, mae Cymru yn rhan o drefniadau caffael y DU gyfan, ond mae ganddi ei systemau ei hun hefyd.

Yn Lloegr, mae Darparwyr y GIG wedi dweud eu bod yn pryderu nad oes cyflenwad cynaliadwy o gynau diogelu. Yn ôl arolwg Cymdeithas Feddygol Prydain o'i aelodau yn y DU roedd disgwyl i nifer fawr o feddygon ofalu am gleifion coronafeirws heb ddim, neu fawr ddim, PPE, ac roedd prinder gynau a chyfarpar i ddiogelu’r llygaid yn broblemau penodol. Cynhaliodd y Coleg Nyrsio Brenhinol arolwg o ryw 900 o aelodau yng Nghymru, a daeth i’r amlwg bod disgwyl i dros hanner y rhai a ymatebodd weithio heb y PPE cywir neu fod disgwyl iddynt ailddefnyddio eitemau a ddyluniwyd i’w defnyddio unwaith yn unig. Mae Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion wedi mynegi pryder am brinder PPE, er nad yw'n eglur a yw hyn yn berthnasol i Loegr yn unig. Yn ôl Arolwg o aelodau Coleg Brenhinol y Meddygon - y mwyafrif o Loegr - roedd 26.5% wedi methu cael y PPE angenrheidiol.

Gan droi at y cyfryngau cymdeithasol, mae TUC Cymru a BMA Cymru wedi dweud y gallai ddibynnu ar y cyflenwyr presennol arwain at anghysondebau mewn cyflenwadau PPE, ac mae Unsain Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn pryderu bod cyflenwadau PPE yn anghyson yn y sector gofal. Mae Cynghrair Gofalwyr Cymru wedi dweud bod pryderon ynghylch sicrhau PPE i weithwyr gofal a gofalwyr di-dâl.

Roedd Cydffederasiwn GIG Cymru yn falch o glywed bod PPE ar gael i bawb sydd ei angen yng Nghymru, ond nododd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru barhau i roi blaenoriaeth i’r mater hwn.

Mewn cyfarfod briffio ar 21 Ebrill, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn pryderu’n arw am y mater ac, er iddo ddweud bod gan Gymru:

…enough of stocks of all items to last for a few days, partly because of the mutual aid we received from other UK countries, partly because of the UK supplies that have come in that we've got our population share from…we're not in a position to say that we have weeks and weeks of advanced stock on all of those items.

At hyn, yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ebrill dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio i roi trefniadau cyflenwi dibynadwy ar waith yng Nghymru a’r DU, ond bod y 'galw byd-eang am gyfarpar diogelu personol yn creu marchnad anniogel ac anrhagweladwy'.

Yng nghyfarfod Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 30 Ebrill dywedodd y Gweinidog fod digon o PPE yn y system ond tanlinellodd fod y galw yn debygol o aros ymhell uwchlaw'r galw arferol, a'i bryder pennaf oedd cadw staff yn ddiogel.

Faint o PPE sydd ei angen?

Mae’r WHO wedi dweud bod cyflenwadau’n brin drwy’r byd i gyd ac mae’r galw’n cynyddu’n aruthrol. Yn ôl yr amcangyfrifon, mae angen 89 miliwn o fasgiau meddygol, 76 miliwn o fenig archwilio ac 1.6 miliwn o gogls meddygol ar gyfer yr ymateb i’r coronafeirws bob mis, ac mae angen cynnydd sylweddol o ran pentyrru a chynhyrchu cyflenwadau. Ar 22 Ebrill, dywedodd y Gweinidog (para.84) bod tua 48.3 miliwn o eitemau PPE wedi'u rhoi i staff gofal iechyd ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn ers 9 Mawrth.

Cynhyrchu a chyflenwi PPE

Yn ôl ymchwil ar gyfer Banc Datblygu Asia, mae’r coronafeirws wedi amlygu gwendidau mewn cadwyni cyflenwi nifer o ddiwydiannau, gan gynnwys PPE. Tsieina yw prif gynhyrchydd PPE yn y rhwydwaith masnach byd-eang, ac mae anawsterau wedi codi mewn perthynas â chyflenwadau o’r wlad honno.

Yn draddodiadol, mae Cymru a'r DU wedi dibynnu'n drwm ar gyflenwadau o Tsieina a gwledydd eraill yn Asia. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'n dibynnu'n llwyr ar y systemau traddodiadol hyn, ond mae’n defnyddio dulliau amrywiol o sicrhau cyflenwadau PPE cynaliadwy, gan gynnwys:

  • Gweithio gyda chenhedloedd eraill y DU i gydymdrechu i gaffael PPE, i ddod o hyd i gyflenwadau newydd ac i gynorthwyo’i gilydd i’w ddarparu;
  • Caffael cyflenwadau PPE ychwanegol gan ddefnyddio Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru;
  • Parhau i gaffael cyflenwadau rhyngwladol, gan gynnwys masgiau o Tsieina a gynau o Cambodia;
  • Gweithio’n gynyddol gyda busnesau Cymru drwy ddod o hyd i ddulliau arloesol o weithio a chynhyrchu PPE, gan gynnwys tariannau wyneb a sgrybs. Mae Cymru bron yn hunangynhaliol mewn perthynas â’r olaf.

Gall y pwynt olaf fod yn bwysig i sefylfa Cymru ar ôl y pandemig; mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi nodi bod gwerth pendant mewn datblygu hunangynhaliaeth o'r fath, a gallai hynny gryfhau economim’r ddwy wlad. Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru

Prin yw’r hanesion cadarnhaol o ganlyniad i’r pandemig hwn, ond heb os nac oni bai mae dod â swyddi yn gwneud offer meddygol hanfodol yn ôl i Gymru a’u sefydlu ein heconomi yn un ohonyn nhw.


Erthygl gan Dr Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.