Coronafeirws: pwy sy’n gwneud beth yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 11/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Diweddarwyd: 11 Mai 2020

Ar draws y Deyrnas Unedig, mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud ar wahanol lefelau o lywodraeth. Mae gan Lywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac awdurdodau lleol oll swyddi hanfodol i’w cyflawni wrth ymateb i bandemig coronafeirws.

Gall hyn ei gwneud hi’n anodd i bobl yng Nghymru wybod pa benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. I wneud pethau’n fwy dryslyd, efallai y bydd gan lywodraethau datganoledig bwerau mewn maes ond yn penderfynu cymryd yr un dull â Llywodraeth y DU neu’n gadael i Lywodraeth y DU weithredu ar eu rhan. Roedd hyn yn wir gyda phrynu citiau profi coronafeirws, lle cytunodd Llywodraeth Cymru – ynghyd â llywodraethau datganoledig eraill y DU – y dylai Llywodraeth y DU wneud hyn dros y Deyrnas Unedig i gyd, er bod iechyd wedi’i ddatganoli.

Pwy sy’n gwneud beth mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws?

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am lawer o’r prif feysydd sy’n ymateb i’r argyfwng. Er enghraifft: mae iechyd wedi’i ddatganoli, felly Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pryd a sut i leddfu’r cyfyngiadau symud presennol. Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AC wedi pwysleisio y byddai gwahanol ddulliau ledled y DU yn achosi anawsterau, ond y byddai’n gwneud pethau’n wahanol pe bai hynny’n iawn i Gymru.

Ar 20 Mawrth caeodd ysgolion y Deyrnas Unedig i’r mwyafrif o blant. Mae addysg wedi’i ddatganoli, fodd bynnag, felly Llywodraeth Cymru wnaeth y penderfyniad dros Gymru. Yn yr un modd, y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, fydd yn penderfynu pryd y bydd ysgolion yn ailagor yng Nghymru.

Mae datblygu economaidd wedi’i ddatganoli, felly Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, sy’n penderfynu sut i helpu busnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu taro gan gwymp economaidd y feirws. Fodd bynnag, mae rhai o gynlluniau Llywodraeth y DU – fel y Cynllun Benthyciad Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws – ar agor i fusnesau ledled y DU.  Mae trethi busnes wedi’u datganoli hefyd, felly y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans AC sy’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch sut mae busnesau yn cael cymorth gyda gostyngiadau mewn trethi.

Awdurdodau lleol sy’n gwneud yn siŵr bod gwasanaethau lleol yn dal i allu gweithredu tra bo’r wlad dan glo. Awdurdodau lleol sy’n darparu gofal cymdeithasol, ac maen nhw wedi gorfod newid gwasanaethau fel y gallan nhw barhau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Yr awdurdodau lleol ac ysgolion sy’n penderfynu sut mae addysg yn cael ei darparu i blant gweithwyr allweddol a phlant bregus, tra bod ysgolion ar gau i’r mwyafrif helaeth o ddisgyblion. Yn y ddwy enghraifft hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau, ond mater i awdurdodau lleol yw penderfynu sut i gymhwyso hynny ar lawr gwlad.

Llywodraeth y DU sy’n parhau i fod yn gyfrifol am feysydd pwysig eraill. Er enghraifft, Llywodraeth y DU sy’n dal i fod yn gyfrifol am hawliau cyflogaeth a lles, felly Llywodraeth y DU sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch sut i helpu pobl sydd wedi colli enillion o ganlyniad i’r feirws, ac mae hynny’n effeithio ar bobl ledled y DU. Mae hyn yn gymwys i weithwyr cyflogedig sydd ar seibiant (“furlough”) – h.y. ar absenoldeb seibiant â thâl gan eu cyflogwr – a chymorth i bobl hunangyflogedig.

Mae’r tabl canlynol yn esbonio pwy sy’n gwneud beth yng Nghymru mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws:

 

Cymorth busnes
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws yn talu 80 y cant o gyflogau gweithwyr, hyd at £2,500 y mis.

Llywodraeth y DU (a weinyddir gan Gyllid a Thollau EM)

Mae Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws yn cefnogi busnesau bach gyda mynediad at fenthyciadau, gorddrafftiau, cyllid anfoneb a chyllid asedau hyd at £5 miliwn am hyd at 6 mlynedd.

Llywodraeth y DU drwy Fanc Busnes Prydain (ar gael drwy fenthycwyr achrededig)

Mae Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws yn cefnogi busnesau mwy drwy ddarparu cyllid hyd at £50 miliwn iddynt am hyd at 3 mlynedd.

Llywodraeth y DU drwy Fanc Busnes Prydain (ar gael drwy fenthycwyr achrededig)

Bydd Cronfa’r Dyfodol ar gyfer y Coronafeirws yn darparu benthyciadau hyd at £5 miliwn ar gyfer cwmnïau arloesol yn y DU sy'n gallu sicrhau arian cyfatebol gan y sector preifat.

Llywodraeth y DU drwy Fanc Busnes Prydain

Bydd grantiau a benthyciadau ar gael i fusnesau bach a chanolig sy'n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu drwy Innovate UK

Llywodraeth y DU (darperir gan Innovate UK)

Mae’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws (SEISS) yn darparu grantiau i unigolion hunangyflogedig

Llywodraeth y DU (a weinyddir gan Gyllid a Thollau EM)

Gall cyflogwyr sydd â llai na 250 o gyflogeion adhawlio costau tâl salwch statudol.

Llywodraeth y DU

Bydd tenantiaid masnachol na allant dalu eu rhent oherwydd COVID-19 yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 30 Mehefin 2020 (gellir ei ymestyn os oes angen). 

Mae'r ddarpariaeth hon o Ddeddf Coronafeirws y DU yn berthnasol yng Nghymru tan 30 Mehefin ac mae'n darparu pŵer i Lywodraeth Cymru ei hehangu os bydd angen

Mae Cyllid a Thollau EM yn galluogi busnesau ac unigolion i ohirio taliadau TAW a threth incwm

Llywodraeth y DU (a weinyddir gan Gyllid a Thollau EM)

Mae gwasanaeth amser i dalu Cyllid a Thollau EM yn darparu cymorth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sydd mewn trafferthion ariannol gyda’u materion treth.

Llywodraeth y DU (a weinyddir gan Gyllid a Thollau EM)

O dan y Cyfleuster Cyllido Corfforaethol Covid-19 newydd, bydd Banc Lloegr yn prynu dyled tymor byr gan gwmnïau mwy.

Llywodraeth y DU (a weinyddir gan Fanc Lloegr)

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu cymorth i fusnesau drwy:

grantiau o £10,000 i ficrofusnesau sy'n cyflogi hyd at naw o bobl.

grantiau o hyd at £100,000 i gwmnïau bach a chanolig sydd â rhwng 10 a 249 o weithwyr.

Cymorth pwrpasol ar gyfer cwmnïau mwy.

Llywodraeth Cymru

Mae gan Fanc Datblygu Cymru gynllun £100 miliwn sy’n darparu benthyciadau busnes hyd at £250,000. (Mae'r cynllun bellach wedi’i ddefnyddio’n llawn)

Llywodraeth Cymru (a ddarperir gan Fanc Datblygu Cymru)

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig gwyliau ad-daliad cyfalaf tri mis i’w holl gwsmeriaid busnes.

Llywodraeth Cymru (darperir gan Fanc Datblygu Cymru)

Rhyddhad ardrethi busnes am un flwyddyn yn 2020/21 i fusnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol is na £500,000.

Llywodraeth Cymru (a weinyddir gan awdurdodau lleol)

Grantau o £10,000 a £25,000 i fusnesau yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol a'r math o fusnes.

Llywodraeth Cymru (a weinyddir gan awdurdodau lleol)

Budd-daliadau a thâl salwch
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Mae tâl salwch statudol (SSP) ar gael i bobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd eu bod yn sâl, yn hunanynysu neu'n 'gwarchod' ac yn ennill dros £120 yr wythnos.

Llywodraeth y DU (ond caiff ei dalu gan gyflogwyr)

Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Waith ac asesiadau ar gyfer anabledd a budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd wedi'u gohirio am dri mis.

Llywodraeth y DU

Mae gofynion i chwilio’n rhagweithiol am waith (a'r cosbau cysylltiedig am beidio â gwneud hynny) wedi cael eu dileu am dri mis

Llywodraeth y DU

Gall pobl hunangyflogedig ar incwm isel bellach gael mynediad at Gredyd Cynhwysol.

Llywodraeth y DU

Bydd Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith yn cynyddu £20 yr wythnos o 6 Ebrill.

Llywodraeth y DU

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (i bobl sy'n rhy sâl i weithio) bellach ar gael o'r diwrnod cyntaf ac mae ar gael i bobl hunangyflogedig

Llywodraeth y DU

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn grant y gall pobl sy’n wynebu caledi ariannol wneud cais amdano wrth aros i’w budd-daliadau gael eu talu.

Llywodraeth Cymru

Gofal plant
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Mae Deddf y Coronafeirws 2020 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo lleoliadau gofal plant.

Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu a fydd lleoliadau’n cau neu’n aros ar agor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu disodli ei Chynnig Gofal Plant dros dro, gyda Chynllun Cymorth Coronafeirws Gofal Plant. Mae'r cynllun yn ariannu costau gofal plant ar gyfer plant cyn-ysgol gweithwyr allweddol sy'n uwch na'u costau gofal plant arferol. Bydd hefyd yn parhau i ariannu darpariaeth gofal plant i blant sy’n agored i niwed. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i rieni a darparwyr.

Llywodraeth Cymru

Bydd darparwyr yn parhau i gael arian o dan y Cynnig Gofal Plant, mewn perthynas â phlant a gofrestrwyd cyn 18 Mawrth, hyd yn oed os nad yw'r plant hynny'n mynychu oherwydd coronafeirws.

Llywodraeth Cymru

Gall darparwyr gofal plant a gwarchodwyr plant gael cymorth gan gynlluniau sy'n cael eu rhedeg gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain wedi'u nodi yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gymorth i ddarparwyr gofal plant.

Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru - oherwydd natur fasnachol a hunangyflogedig darparwyr gofal plant a gwarchodwyr plant, ceir amrywiaeth o gynlluniau cymorth gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â chynlluniau gan Lywodraeth Cymru.

Addysg
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Fe wnaeth ysgolion gau ar gyfer darpariaeth statudol ar gyfer addysg ar 20 Mawrth. Maent yn parhau i fod ar agor i ddisgyblion sy’n agored i niwed a phlant rhieni y mae eu gwaith yn hanfodol i ymateb i COVID-19 na allant wneud trefniadau gofal plant arall. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar rôl newydd dros dro ysgolion.

Llywodraeth Cymru

Mae gweithredu canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddiffinio gweithiwr allweddol/hanfodol, o ran mynediad i ysgolion, yn fater i ysgolion ac awdurdodau lleol.

Penaethiaid ac awdurdodau lleol (gan ddefnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru)

Darparu parhad dysgu tra bod plant a phobl ifanc gartref ac nid yn yr ysgol. 

Llywodraeth Cymru

Gall disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim barhau i gael y rhain (ar ffurf cymorth ariannol) tra bod ysgolion ar gau ar gyfer darpariaeth gyffredinol.

Awdurdodau lleol

Mae cyfres arholiadau TGAU, Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch haf 2020 wedi'u canslo.

Llywodraeth Cymru (cafodd y penderfyniad ei gydamseru â gwledydd eraill y DU oherwydd materion yn ymwneud â chludadwyedd cymwysterau a derbyniadau addysg uwch). Llywodraeth Cymru sy’n gwneud penderfyniadau strategol a Chymwysterau Cymru, fel rheoleiddiwr, sy’n penderfynu sut y bydd y penderfyniadau hyn yn gweithio'n ymarferol, yn unol â Chyfarwyddyd Gweinidogol

Cymorth cynhaliaeth myfyrwyr a thaliadau ffioedd dysgu i barhau fel arfer.

Llywodraeth Cymru

Prifysgolion sy’n symud i ddarparu cyrsiau ac asesiadau ar gyfer graddau ar-lein.

Prifysgolion

Colegau AB sy’n symud i ddarparu cyrsiau ar-lein.

Colegau

Cymwysterau galwedigaethol (gan effeithio ar addysg bellach a phrentisiaethau)

Y cyrff dyfarnu cymwysterau unigol mewn cysylltiad ag Ofqual a Chymwysterau Cymru

Prentisiaid sy’n parhau â’u prentisiaethau lle y gallant.

Llywodraeth Cymru sy’n rhedeg y rhaglen brentisiaethau ond mae’r cyfrifoldeb dros gymwysterau galwedigaethol fel uchod.

Cymorth i brentisiaid a gafodd eu diswyddo, eu pennu ar seibiant ac ati

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am drefniadau dysgu prentisiaethau, rheoleiddio darparwyr hyfforddiant a lwfans salwch i brentisiaid ifanc. 

Prifysgolion a cholegau AB sy’n cau’n llwyr neu rannol neu’n aros ar agor.

Llywodraeth Cymru (o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020)

Iechyd a gofal cymdeithasol
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

£40m i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws.

Llywodraeth Cymru

Hosbisau: Mae pecyn cymorth ychwanegol £6.3 miliwn wedi’i gyhoeddi ar gyfer hosbisau.

Llywodraeth Cymru

Profi: cynhaliwyd adolygiad o'r profion yng Nghymru a ddisgrifiodd achosion o oedi a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau wythnosol ar y gallu i gynnal profion.

Llywodraeth Cymru

Mae rheoliadau a wnaed yng Nghymru yn dod â darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020 i rym, mewn perthynas â gofal a chymorth awdurdodau lleol, a Thribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Mae'r newidiadau hyn yn golygu nad oes dyletswydd ar awdurdodau lleol bellach i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion, nac anghenion cymorth gofalwyr sy'n oedolion. Bellach, dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol lle mae rhywun mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso y bydd angen iddynt ddiwallu'r anghenion hyn.

Llywodraeth Cymru

Cyfarpar Diogelu Personol Yn dilyn adolygiad brys o gyfarpar diogelu personol ledled y DU, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer y DU

Mae’r canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y cyd gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, Diogelu Iechyd yr Alban, Iechyd Cyhoeddus Lloegr a GIG Lloegr fel canllawiau swyddogol.

Gall pob practis meddyg teulu yng Nghymru gael mynediad at system newydd sy'n caniatáu i bobl gael apwyntiadau ar-lein gyda'u meddyg a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill. Mae ymgynghoriadau fideo wedi cael eu hestyn i ofal eilaidd a chymunedol.

Llywodraeth Cymru

Capasiti gofal critigol: Dywedodd y Gweinidog Iechyd bod nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru yn cynyddu'n ddyddiol.

Llywodraeth Cymru

Mae gwelyau ychwanegol yn cael eu paratoi gan

fyrddau iechyd mewn ysbytai maes. Gan gynnwys: Stadiwm Principality, Parc y Scarlets, Parc Gwyliau Bluestone (Sir Benfro), Stiwdios y Bae (Llandarcy) a Venue Cymru (Llandudno). Rhoddwyd pwerau brys i gynghorau hefyd er mwyn cefnogi'r GIG gydag ysbytai maes newydd.

Llywodraeth Cymru/Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol.

Cylchlythyr Iechyd Cymru sy’n cynghori gweithwyr iechyd proffesiynol i barhau â rhaglenni imiwneiddio cyn belled ag y bo modd.

Llywodraeth Cymru

Bydd gan fenywod yng Nghymru fynediad at wasanaethau erthylu gartref yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Llywodraeth Cymru

Cyd-drefnu cyflenwi meddyginiaethau yn ystod pandemig COVID-19. Canllawiau ar sut y dylid casglu meddyginiaethau mewn gwahanol amgylchiadau. Os bydd unigolyn agored iawn i niwed heb rwydwaith cymdeithasol i gasglu ei feddyginiaethau o’r fferyllfa, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ateb cydgysylltiedig.

Llywodraeth Cymru

Datganiad o fygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru oherwydd y coronafeirws. Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â rhan 4 o Atodlen 22 i Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Llywodraeth Cymru

Staff y GIG i gael teithio am ddim fel rhan o gytundeb cronfa galedi gwerth £69 miliwn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Llywodraeth Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020. Yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf y Coronafeirws 2020 sy'n ymwneud â Thribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru a dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Llywodraeth Cymru

Cymorth ariannol ar gyfer practisau deintyddol gofal sylfaenol annibynnol sy'n darparu gwasanaethau'r GIG.

Llywodraeth Cymru

Datganiad ar y cyd ar ddatblygu capasiti nyrsio gofal critigol ar unwaith, a ddatblygwyd mewn cysylltiad â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, cymdeithasau proffesiynol, cynghreiriau/rhwydweithiau arbenigol a llywodraethau iechyd datganoledig.

Bob un o bedair llywodraeth y DU

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o fregus i’r coronafeirws (COVID-19) Mae gwybodaeth ar gael gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ynghylch y llythyr gwarchod a chymorth i’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed.

Llywodraeth Cymru

Bydd pobl sy'n eithriadol o fregus i’r coronafeirws oherwydd cyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes yn cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Fe'u cynghorir i ddilyn y canllawiau gwarchod.

Llywodraeth Cymru

Canllawiau ar sut y dylai timau deintyddol weithio o 23 Mawrth 2020 yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys y camau i ddeintyddiaeth arferol sydd wedi'i hamserlennu ddod i ben am y tro.

Llywodraeth Cymru

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol a gwyddonwyr ddychwelyd i'r GIG i helpu yn ystod pandemig y coronafeirws. Gofynnir i’r rhai sydd wedi gadael swyddi iechyd a gofal cymdeithasol yn y tair blynedd diwethaf i ymuno â chofrestr dros dro i gyflawni ystod o rolau clinigol ac anghlinigol ar draws y sectorau.

Gallai myfyrwyr ledled Cymru hefyd fod ar gael i weithio, ar sail optio i mewn, a bydd eu rolau’n dibynnu ar ble maent arni yn eu hyfforddiant.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl i GIG Cymru a gofal cymdeithasol ystyried y canllawiau cyflym gan NICE wrth gynllunio a darparu gwasanaethau yn ystod COVID-19. (Mae NICE yn gorff cyhoeddus gweithredol a noddir gan Lywodraeth y DU, sy'n darparu canllawiau a chyngor i wella iechyd a gofal cymdeithasol)

Llywodraeth Cymru

Newidiadau i helpu fferyllfeydd cymunedol gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws.

Llywodraeth Cymru

Mae nifer o wasanaethau'r GIG wedi’u hatal, gan gynnwys gohirio apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys a gohirio derbyniadau a gweithdrefnau llawfeddygol nad ydynt yn rhai brys.

Llywodraeth Cymru

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael eu gwneud, gan wneud COVID-19 yn glefyd hysbysadwy yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru

Coronavirus action plan: a guide to what you can expect. Mae'r cynllun gweithredu ar y cyd hwn rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn nodi ymateb fesul cam i'r feirws.

Bob un o bedair llywodraeth y DU

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020 yn eithrio ymwelwyr o dramor rhag gorfod talu am ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer COVID-19 yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru

Bwyd
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi manylion pobl sy'n eithriadol o agored i niwed yng Nghymru i archfarchnadoedd mawr ac wedi cytuno y bydd yr archfarchnadoedd yn blaenoriaethu archebion ar-lein y mae angen eu danfon i gartrefi’r bobl hyn.

Llywodraeth Cymru

Datganiad yn amlinellu sut y caiff data personol pobl sy’n agored i niwed eu rhannu er mwyn sicrhau y danfonir eitemau hanfodol, gan gynnwys bwyd

Llywodraeth Cymru

Mae pobl sy’n eithriadol o agored i niwed na allant alw ar aelodau teulu, ffrindiau na chymdogion am help wrth warchod yn gymwys i gael blwch bwyd wythnosol am ddim wedi’i ddanfon i'w cartref.

Llywodraeth Cymru / Awdurdodau Lleol

Mae gwasanaethau dosbarthu a chasglu nwyddau groser wedi'u heithrio o'r tâl o 5C am fagiau siopa er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r firws.

Llywodraeth Cymru

Canllawiau i ddefnyddwyr ar hylendid bwyd a phellter cymdeithasol wrth siopa, gan gynnwys sut i ddelio â chludfwyd.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Gwirfoddoli a'r sector gwirfoddol
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Gall pobl yng Nghymru gofrestru eu diddordeb mewn gwirfoddoli gyda Gwirfoddoli Cymru. Mae'r cynllun "gwirfoddolwyr y GIG", sy'n defnyddio’r ap GoodSAM, yn cael ei redeg gan y GIG yn Lloegr. 

Gwirfoddoli Cymru

Mae cronfa cychwynnol £24 miliwn wedi'i chyhoeddi i gefnogi sector gwirfoddol Cymru a chydlynu gwirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector, Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol a Chronfa Galluogi Seilwaith y Trydydd Sector.

Llywodraeth Cymru

Mae Cyllido Cymru yn darparu platfform i chwilio am arian er mwyn helpu elusennau, grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol i ddod o hyd i grantiau a chyllid o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n cynnwys categori cyllido penodol ar gyfer y coronafeirws.

Cefnogi Trydydd Sector Cymru/Llywodraeth Cymru

Tai
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Bydd gan y rhan fwyaf o denantiaid hawl i o leiaf dri mis o rybudd os yw eu landlord yn dymuno eu troi allan. Gall Gweinidogion Cymru ymestyn y cyfnod rhybudd i 6 mis.

Llywodraeth Cymru (mae'r ddarpariaeth hon o Ddeddf Coronafeirws y DU yn gymwys yng Nghymru)

Mae hawliadau meddiant tai wedi'u hatal am gyfnod cychwynnol o 90 diwrnod. Mae hyn yn cynnwys hawliadau sy’n ymwneud â llety rhent a morgeisi.

 Y Farnwriaeth mewn cytundeb â Llywodraeth y DU.

Efallai y bydd gwyliau ad-dalu morgais o hyd at dri mis ar gael i fenthycwyr

Benthycwyr unigol sy’n dilyn canllawiau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd, gan gynnwys darparu llety ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd.

Llywodraeth Cymru / Awdurdodau Lleol

Diwylliant, twristiaeth a chwaraeon
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Mae £18 miliwn o gyllid wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer y celfyddydau; chwaraeon lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad; y sectorau teledu a chyhoeddi; ac amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd.

Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru

Plismona
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)(Cymru) 2020 yn rhoi pwerau i'r heddlu orfodi pellter cymdeithasol a’r rheolau aros gartref yng Nghymru. Mae canllawiau ar yr hyn y mae’r pwerau newydd hyn yn ei wneud. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys gorfodi ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle a rheolau ar gyfer angladdau.

Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae penderfyniadau o ran sut i amseru’r cyfyngiadau symud wedi cael eu gwneud drwy gonsensws rhwng pedair gwlad y DU, ond gan fod iechyd wedi’i ddatganoli, mae’r pŵer gan Lywodraeth Cymru i newid y rheolau hyn yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y fframwaith y byddai’n ei ddefnyddio i leddfu’r rheolau aros gartref.

Llywodraeth Cymru

Ar 8 Mai, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn ymestyn y cyfyngiadau symud am 3 wythnos arall, gydag ychydig o fân newidiadau i’r cyfyngiadau hynny: bydd pobl yn cael mynd allan ar gyfer ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd ond rhaid iddynt aros yn eu hardal leol; caiff canolfannau garddio agor cyhyd ag y byddant yn cydymffurfio â’r cyfarwyddyd i gadw pellter cymdeithasol; gall awdurdodau lleol ddechrau cynllunio i agor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu trefol.

Llywodraeth Cymru

Gwasanaethau lleol
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Canllawiau ar angladdau a gyhoeddwyd ar gyfer awdurdodau lleol a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Awdurdodau lleol a darparwyr angladdau eraill wrth ddehongli arweiniad Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau anstatudol i awdurdodau lleol ar flaenoriaethu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu.

Awdurdodau lleol a gwasanaethau casglu gwastraff eraill wrth ddehongli arweiniad Llywodraeth Cymru.

Amaethyddiaeth
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Mesurau i gefnogi ffermwyr yn ystod yr argyfwng COVID-19: Bydd gan ffermwyr fis ychwanegol i gyflwyno eu Ffurflen y Cais Sengl. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu’r gofyniad i dyfu amrywiaeth o gnydau yn gyfan gwbl ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2020. Mae £5.5 miliwn ychwanegol wedi cael ei neilltuo i Gynllun y Taliad Sylfaenol a chynllun cymorth Glastir 2019

Llywodraeth Cymru

Disgrifiodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gynlluniau ar gyfer cynnal profion TB buchol yn ystod y pandemig.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu atal y cyfreithiau cystadlu dros dro i’r sector llaeth er mwyn caniatáu i'r diwydiant llaeth gydweithio yn ystod y pandemig, a chroesawyd hyn gan Lywodraeth Cymru.

Llywodraeth y DU

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol cau hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad mewn ardaloedd lle y gallai mynediad arwain at ragor o ledaeniad y coronafeirws.

Llywodraeth Cymru

Yn dilyn pryderon am brinder gweithwyr fferm yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwasanaeth ar-lein i baru cyflogwyr â cheiswyr gwaith sy'n chwilio am waith amaethyddol, gwaith ar y tir, a milfeddygol.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa ar gyfer ffermwyr llaeth. Bydd ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli dros 25% o’u hincwm ym mis Ebrill ac eto wedyn ym mis Mai, yn gallu hawlio hyd at £10,000 i dalu am 70% o’r incwm y maent wedi’i golli. Mae cynllun tebyg ar waith yn Lloegr.  

Llywodraeth Cymru

Teithio rhyngwladol / awyr
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Cyhoeddwyd cyngor penodol ar deithio mewn perthynas â’r coronafeirws, ynghyd â chyngor sy'n benodol i wledydd.

Llywodraeth y DU

Mae trefniadau wedi'u rhoi ar waith gyda chwmnïau hedfan i ail-wladoli teithwyr nad ydynt yn gallu dod adre o dramor.

Llywodraeth y DU

Cyhoeddwyd gwybodaeth i deithwyr awyr ac ymwelwyr sy'n teithio ar awyrennau am eu hawliau.

Awdurdod Hedfan Sifil y DU

Ar 31 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig yn nodi y byddai’r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn cael ei atal. Ar 3 Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol ar gyfer y maes awyr.

Llywodraeth Cymru

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi cyngor ar y coronafeirws sy'n nodi bod yr holl hediadau teithiwr o Faes Awyr Caerdydd wedi'u hatal.

Maes Awyr Caerdydd

Cludo nwyddau a thrafnidiaeth
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau newidiadau i drefniadau profion gyrru.

Llywodraeth y DU a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau

Mae Llywodraeth y DU a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi cyhoeddi canllawiau sy’n eithrio lorïau, bysiau a threileri rhag gorfod cael prawf MOT am dri mis.

Ar 25 Mawrth cyhoeddwyd esemptiad hefyd o chwe mis rhag gorfod cael profion MOT ar gyfer ceir, beiciau modur a faniau o 30 Mawrth.

Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd ganllawiau ar gyfer pobl sy’n gyrru’r mathau hyn o gerbydau os yw’r tystysgrif MOT yn dod i ben ar 29 Mawrth neu cyn hynny, gan nodi bod dal angen cynnal profion, ac eithrio ar gyfer gyrwyr sy’n hunanynysu a gyrwyr sy’n ‘gwarchod’.

Llywodraeth y DU a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau

Cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ganllawiau ar lacio’r rheolau sy’n ymwneud ag oriau gyrwyr sy’n cludo nwyddau ar y ffordd. 

Cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ganllawiau ar gyfer gweithredu newidiadau dros dro er mwyn caniatáu i yrwyr bysiau a lorïau barhau i yrru, hyd yn oed oes nad oedd modd iddynt gwblhau eu hyfforddiant ar gyfer y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gyrwyr, sy'n dystysgrif orfodol.

Llywodraeth y DU a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau

Cyhoeddodd Comisiynwyr Traffig Prydain Fawrganllawiau statudol ar gynllunio wrth gefn a chynllunio brys.

Comisiynwyr Traffig Prydain Fawr (yn bennaf cyfrifoldebau nad ydynt wedi'u datganoli er bod cofrestru gwasanaethau bysiau lleol wedi'i ddatganoli i Gymru)

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau ar gyfer y diwydiant cludo nwyddau yng nghyd-destun teithio rhyngwladol.

Llywodraeth y DU

Teithio ar fysiau a’r rheilffyrdd
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

Cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU fesurau brys ar gyfer y masnachfreintiau rheilffordd y mae'n eu goruchwylio. Yng Nghymru, mae'r rhain yn berthnasol i fasnachfreintiau Great Western Railways, CrossCountry, ac Avanti West Coast. Yn ogystal, cyhoeddodd gytundeb ar y trefniadau ar gyfer gwneud ad-daliadau i ddeiliaid tocynnau.

Llywodraeth y DU

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth ar gyfer y diwydiant bysiau yng Nghymru, a chymorth ychwanegol ar gyfer masnachfraint reilffordd Trafnidiaeth Cymru, sef y fasnachfraint y mae’n gyfrifol amdani.

Llywodraeth Cymru

Mae Traveline Cymru wedi coladu gwybodaeth gan weithredwyr bysiau a rheilffyrdd ynghylch newidiadau i amserlenni mewn ymateb i'r feirws.

Traveline Cymru / gweithredwyr bysiau a rheilffyrdd Cymru

Cynllunio
Cynllun, cefnogaeth neu bolisi
Cyfrifoldeb

SMae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo awdurdodau cynllunio i lacio eu gorfodaeth o amodau cynllunio dosbarthu manwerthu fel nad yw danfoniadau wedi'u cyfyngu'n ddiangen a bod mwy o hyblygrwydd o ran amseroedd agor siopau. 

Llywodraeth Cymru

Llaciodd Llywodraeth y DU reolau cynllunio er mwyn caniatáu i dafarndai a bwytai weithredu fel siopau cludfwyd fel rhan o’r ymateb i’r coronafeirws . Dim ond i Loegr yr oedd hyn yn berthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai dyma’r sefyllfa eisoes yng Nghymru ac nad oes angen newid y rheolau cynllunio.

Llywodraeth Cymru

Gall awdurdodau lleol bellach ymgymryd â gwaith datblygu ar eu tir mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws heb fod angen gwneud cais a chael caniatâd cynllunio.

O ganlyniad, er enghraifft, caiff awdurdodau lleol bellach ddefnyddio canolfannau hamdden fel ysbytai dros dro.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio lleol yn nodi sut y mae'n disgwyl iddynt gynnal gwasanaethau yn ystod pandemig y coronafeirws.

Llywodraeth Cymru

 


 

Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.