Coronafeirws: gweithgarwch a chapasiti'r GIG

Cyhoeddwyd 14/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, wedi bod yn arwain y sesiynau briffio i’r wasg ar ddydd Iau ar ran Llywodraeth Cymru. Mae pennaeth y GIG yn amlinellu'r ystadegau diweddaraf a sut mae GIG Cymru yn ymdopi yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data wythnosol ar achosion, marwolaethau, achosion yn yr ysbyty, derbyniadau newydd i'r ysbyty, defnyddio gwelyau gofal critigol yng Nghymru, galwadau ambiwlans, galwadau 111 a nifer damweiniau ac achosion brys. Cyhoeddir y datganiad ystadegol nesaf yn ddiweddarach heddiw (am 12.30pm).

Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut mae GIG Cymru wedi ymateb i'r pandemig hyd yn hyn.

Gweithgarwch a chapasiti’r GIG

Yn y gynhadledd i'r wasg yr wythnos diwethaf, dywedodd Dr Goodall fod achosion coronafeirws yng Nghymru wedi sefydlogi; dywedodd fod nifer y bobl â coronafeirws sy'n cael eu trin gan GIG Cymru yn gostwng, a bod llai o achosion newydd wedi'u cadarnhau bob dydd.

Ar 7 Mai, dywedodd Dr Goodall fod tua 1,020 o gleifion yn ysbytai Cymru yn cael eu trin am y coronafeirws, neu amheuaeth o coronafeirws – ac mae'r nifer hwnnw'n newid yn ddyddiol.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae oddeutu 40 y cant o welyau ysbytai acíwt ac ysbytai cyffredinol yn y GIG yng Nghymru (sef, oddeutu 3,474) yn wag ar hyn o bryd, ac mae oddeutu 60 y cant o’r gwelyau gofal critigol sydd ar gael (sef, oddeutu 235) heb eu defnyddio.

Nifer y gwelyau gofal critigol yn ôl defnydd

Nodyn: Ysbytai maes wedi’u cynnwys o 21 Ebrill 2020 ymlaen ac ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen. Mae cleifion COVID-19 yn cynnwys achosion posibl o COVID-19 ac achosion sydd wedi’u cadarnhau.
Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) Data ar 6 Mai 2020

Nifer y gwelyau cyffredinol ac acíwt yn ôl defnydd

Nodyn: Ysbytai maes wedi’u cynnwys o 21 Ebrill 2020 ymlaen ac ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen. Mae cleifion COVID-19 yn cynnwys achosion posibl o COVID-19 ac achosion sydd wedi’u cadarnhau.
Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) Data ar 6 Mai 2020

Gellir diwallu anghenion rhai cleifion coronafeirws trwy ofal ward arferol, neu gyda chefnogaeth staff gofal critigol ar ward acíwt; efallai y bydd angen cymorth mwy arbenigol ar gleifion eraill (h.y. gofal critigol mewn uned dibyniaeth uchel neu ofal dwys). Mae gan y GIG wahanol lefelau o ofal critigol, yn seiliedig ar anghenion clinigol cleifion. Mae pandemig y coronafeirws wedi cynyddu'r galw am wasanaethau'r GIG, yn enwedig gwasanaethau fel gofal critigol, sy'n trin cleifion â chlefyd anadlol acíwt difrifol.

Paratoi ar gyfer y pandemig

Daeth yn amlwg wrth i’r coronafeirws ledaenu ledled Ewrop – o brofiad gwledydd fel yr Eidal a Sbaen – y byddai’r feirws yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal critigol.

Rhybuddiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai GIG Cymru gael ei “lethu” gan y firws.

Ar 11 Mawrth, codwyd pryderon gan Dr Parry-Jones, ymgynghorydd gofal dwys yng Nghasnewydd a Chaerdydd, fod Cymru “mewn perygl unigryw” pe bai cynnydd yn y bobl sâl iawn â choronafeirws oherwydd diffyg gwelyau gofal dwys yma. Ar ddechrau'r pandemig, roedd gan Gymru lai o welyau gofal critigol na gweddill y DU, ac roedd gan y DU lai na llawer o wledydd Ewrop.

Cadarnhaodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, fod GIG Cymru fel arfer â thua 153 o welyau gofal critigol.

Lleihau'r galw am ofal critigol

Mae Byrddau Iechyd yng Nghymru wedi arfer delio â chynnydd yn y galw, ac mae ganddyn nhw gynlluniau ar waith i gynyddu capasiti gwelyau yn eu hysbytai – er enghraifft, yn ystod cyfnod y gaeaf. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen cynyddu capasiti gofal critigol yn sylweddol i ddelio â'r feirws.

Cymerodd Llywodraeth Cymru y penderfyniad ar 13 Mawrth 2020 i ryddhau capasiti gofal critigol a pharatoi ar gyfer nifer fawr o gleifion ysbyty sydd angen cymorth gofal critigol trwy ohirio llawdriniaethau arferol (cyhoeddodd gwledydd eraill y DU gynlluniau tebyg yn fuan wedi hynny). Gofynnwyd i ysbytai’r GIG ohirio llawdriniaethau a gynlluniwyd nad ydynt yn rhai brys, gan leihau’r angen am gymorth gofal critigol yn y cyfnod yn syth ar ôl llawdriniaeth gymhleth. Byddai'r cam hwn hefyd yn cynyddu nifer gwelyau ward mewn ysbytai y gallai cleifion â’r coronafeirws gael eu rhyddhau iddynt. Gohiriwyd triniaethau nad yw’n driniaeth frys ac apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys, ond mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y dylai mynediad at driniaeth canser a thriniaethau hanfodol eraill fel dialysis arennau barhau.

Fodd bynnag, mae clinigwyr wedi codi pryderon ynghylch y “cwymp sylweddol” mewn pobl sy'n ceisio cymorth meddygol ar gyfer salwch nad yw'n gysylltiedig â’r feirws. Adroddwyd gostyngiad o 35 y cant mewn derbyniadau brys i'r ysbyty. Ar 6 Mai, cyhoeddodd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru fframwaith gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar gyfer chwarter 1 (2020/21) a chyhoeddwyd canllaw i sicrhau bod y system iechyd yn darparu gwasanaethau hanfodol.

Nid yw'n anarferol i Fyrddau Iechyd unigol ganslo llawdriniaeth a gynlluniwyd am ryw hyd fel ffordd o leddfu pwysau ar wasanaethau'r GIG. Gwnaed hyn i leddfu'r galw dros y gaeaf a achoswyd gan bwysau'r gaeaf ychydig wythnosau cyn i bandemig y coronafeirws gael ei ddatgan. Roedd nifer o ysbytai Cymru eisoes yn taro lefelau uchel o ran cynnydd mewn achosion ym mis Rhagfyr 2019, ac yn gohirio llawdriniaethau a gynlluniwyd ym mis Ionawr 2020. Ond mae’n ddigynsail i hyn gael ei gyfarwyddo’n ganolog gan GIG Cymru.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnwys sawl maes gweithredu pwysig arall gan gynnwys;

  • Cynyddu capasiti staffio. Mae staff wedi cael eu hadleoli, a gofynnwyd i'r rheini a oedd â sgiliau gofal critigol fel anesthetyddion weithio mewn unedau gofal critigol. Gofynnwyd i nyrsys sydd â phrofiad blaenorol mewn gofal dwys ymgymryd â hyfforddiant gloywi, ac yn ddiweddar daethpwyd â meddygon a nyrsys sydd wedi ymddeol yn ôl i gynnig cymorth ychwanegol.
  • Caffael mwy o offer. Mae gwasanaethau gofal critigol yn dibynnu ar offer cymhleth fel cyflenwadau ocsigen a pheiriannau anadlu mecanyddol sy'n helpu cleifion i anadlu. Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod gan ysbytai Cymru 415 o beiriannau anadlu a allai ddarparu cymorth anadlu mewnwthiol yn nyddiau cynnar y feirws, gyda 349 o beiriannau anesthetig pellach â chapasiti peiriant anadlu a 207 o beiriannau anadlu anfewnwthiol (6 Ebrill), gyda 1,035 ychwanegol yn cael eu caffael. Mae busnesau Cymreig wedi helpu i gynhyrchu peiriannau anadlu yn ogystal â chitiau profi coronafeirws ychwanegol ar gyfer y GIG. Mae sicrhau stoc ddigonol o Gyfarpar Diogelu Personol hefyd wedi bod yn fater allweddol – gallwch ddarllen mwy am hynny yn ein herthygl blog.
  • Cynyddu nifer gwelyau gofal critigol. Gofynnwyd i'r GIG i gynllunio ar gyfer cynnydd sylweddol yn nifer y gwelyau gofal critigol i gefnogi cleifion. Cyflawnwyd hyn wrth i ysbytai presennol y GIG ehangu eu capasiti gofal critigol – er enghraifft, trwy addasu theatrau llawdriniaeth ac ardaloedd adfer yn unedau gofal dwys dros dro. Mae defnyddio cyfleusterau a chyfarpar gofal critigol a ddefnyddir gan y sector preifat hefyd wedi bod yn rhan o'r cynllunio. Erbyn 5 Ebrill, mae nifer y gwelyau gofal critigol yn ysbytai Cymru wedi mwy na dyblu – i oddeutu 350.
  • Ysbytai maes. Yn ogystal â chynyddu'r cyflenwad o welyau gofal critigol, mae GIG Cymru wedi creu gwelyau ysbyty ychwanegol i gleifion sy'n gwella o'r feirws gael eu rhyddhau iddynt. Mewn datganiad ar 5 Ebrill, nododd y Gweinidog Iechyd fod hyd at 7,000 o welyau ysbyty ychwanegol yn cael eu creu. Rhoddwyd pwerau brys i awdurdodau lleol yng Nghymru i gefnogi GIG Cymru gyda'r ysbytai maes newydd. Mae rhai o'r ysbytai dros dro hyn yn cynnwys defnyddio Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, Parc y Scarlets yn Llanelli, Bluestone yn Sir Benfro a Venue Cymru yn Llandudno. Mae pob Bwrdd Iechyd wedi gweithio i gynyddu nifer gwelyau ysbytai, cymunedau a chartrefi gofal. Cafodd manylion am gapasiti a defnydd yr ysbytai maes eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 5 Mai.

Gofyn i'r cyhoedd aros gartref

Mae cydgysylltiad canolog y neges gan bedair gwlad y DU yn gofyn i'r cyhoedd aros gartref hefyd wedi bod yn gam allweddol i amddiffyn y GIG.

Er bod y GIG wedi bod yn canolbwyntio ar gynyddu'r cyflenwad o welyau a staff, mae mesurau ‘cyfyngiadau symud’ sy'n gofyn i'r cyhoedd aros gartref (a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar 23 Mawrth), â’r bwriad o amddiffyn y GIG trwy leihau lledaeniad y feirws a lleihau nifer brig y cleifion a fyddai angen cymorth gofal critigol ar unrhyw adeg.

Er gwaethaf rhywfaint o wahaniaeth polisi, mae pedair gwlad y DU wedi symud gyda'i gilydd ar hyn. Fodd bynnag, tra bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau â’r cyfyngiadau symud (ond gyda rhai mân newidiadau i'r rheoliadau yng Nghymru), cyhoeddodd Prif Weinidog y DU newidiadau i Loegr ar 10 Mai.

Ar 8 Mai, eglurodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, pam nad yw'r neges i aros gartref yng Nghymru wedi newid.

Yn y gynhadledd i'r wasg yr wythnos diwethaf, dywedodd Dr Goodall y bydd “rhaid cael camau gofalus wrth gydbwyso mesurau i lacio’r cyfyngiadau”.

Dywedodd Dr Goodall fod tua 2,800 o gleifion a gafodd eu trin yn ysbytai Cymru am coronafeirws wedi gwella ac wedi cael eu rhyddhau. Ond pwysleisiodd hefyd, er ei bod yn ymddangos bod Cymru wedi “pasio cyfnod brig” yr achosion, mae achosion newydd yn parhau i gael eu canfod yng Nghymru bob dydd.

O ddydd Mawrth 13 Mai mae cyfanswm o 1,154 o bobl wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, yn ôl ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigurau ar nifer y marwolaethau bob dydd, yn bennaf mewn ysbytai, wrth i labordai gadarnhau eu bod oll yn cynnwys coronafeirws. (Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi ffigurau wythnosol sy'n cynnwys yr holl farwolaethau cofrestredig, gan gynnwys y rhai mewn cartrefi gofal ac yn y cartref, lle amheuir achos coronafeirws, yn ogystal ag achosion wedi'u cadarnhau. Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd ganddynt ddydd Mawrth 12 Mai, bu 1,641 o farwolaethau yn cynnwys y coronafeirws hyd yma yng Nghymru).

Lleddfu cyfyngiadau symud yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei fframwaith ar gyfer ‘Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad. Mae'n nodi bod GIG Cymru wedi ymdopi'n dda â'r pandemig a'i fod yn parhau i adeiladu capasiti. Mae hefyd yn nodi sut y bydd yn parhau i fonitro cyfradd atgynhyrchu'r feirws, a'i gynlluniau i adeiladu capasiti i brofi, tracio ac olrhain. Mae'n nodi y bydd y camau hyn, o'u cymryd gyda'i gilydd, yn galluogi Llywodraeth Cymru i gymryd camau cynyddrannol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i “leddfu’r cyfyngiadau pan fydd yn ddiogel gwneud hynny”.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.