Coronafeirws: gofal cymdeithasol i oedolion

Cyhoeddwyd 19/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Wedi'i ddiweddaru ar 22 Mai 2020

Mae'r erthygl hon yn ystyried yr anawsterau sy’n wynebu'r sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Mae cydsyniad cyffredinol nad yw’r system gofal cymdeithasol yn cael digon o gyllid, mae o dan bwysau ac yn wynebu ansicrwydd ariannol. Ystyrir nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu gwerthfawrogi na’u talu’n ddigonol, ac mae’n anodd recriwtio staff.

Yn ogystal â hyn, amcangyfrifir bod 96% o'r holl ofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl (teuluoedd neu ffrindiau fel arfer), ac mae llawer o’r rhain yn ei chael hi'n anodd ac mae angen cymorth ychwanegol arnynt.

Yn ôl dadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gweithwyr gofal yn wynebu risg sylweddol ar hyn o bryd. Yng Nghymru a Lloegr, mae cyfradd y gweithwyr gofal preswyl a gofal cartref sy’n marw o’r coronafeirws tua dwywaith mwy na’r gyfradd yn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae hyn yn cyferbynnu â gweithwyr gofal iechyd. Nid yw cyfradd y marwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws yn y sector hwn yn ddim uwch na’r gyfradd ymhlith pobl o'r un oed a rhyw yn y boblogaeth yn gyffredinol.

Mae cryn dipyn o sôn wedi bod am y prinder profion yn y sector gofal yn hysbys, ac mae pryder mawr y bydd y feirws yn ymledu drwy boblogaeth fregus ein cartrefi gofal. O ganlyniad, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i weithredoedd Llywodraeth Cymru yn sgil pryderon bod posibilrwydd y torrwyd hawliau dynol pobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Mae’r modd y cofnodir marwolaethau oherwydd y coronafeirws wedi’i feirniadu oherwydd, tan yn ddiweddar, dim ond marwolaethau mewn ysbytai fyddai’n cael eu cynnwys. O ganlyniad, cafwyd cyhuddiadau bod pobl hŷn yn cael eu hepgor o ffigurau'r DU.

Bu anawsterau hefyd wrth ddod o hyd i Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Yn ôl rhanddeiliaid, fel Fforwm Gofal Cymru, mae'r sefyllfa wedi gwella'n ddiweddar, ond mae prinder yn parhau mewn rhai mannau ac mae costau cynyddol yn dal yn broblem. Mae ein herthygl ar PPE yn cynnwys rhagor o wybodaeth gyffredinol am ofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth ar 29 Ebrill yn crynhoi’r hyn y mae’n ei wneud ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yn ystod yr argyfwng.

Y pwysau ariannol ar gartrefi gofal

Mae cartrefi gofal yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Dywedodd Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, y gallai Cymru golli hanner ei chartrefi gofal ymhen blwyddyn oni chymerir camau brys. Rhybuddiodd y byddai’r GIG yn cael ei lethu’n llwyr pe bai cartrefi gofal yn cau, gan ddweud:

Unless urgent support is forthcoming we will be seeing care home closures week on week over the summer months.

We're seeing falling occupancy as people pass and as other homes choose not to admit people, because they're terrified that it's going to introduce the virus into those homes and obviously affect the residents they have.

Dywedodd Mr Kreft na all cartref gofal barhau i weithredu os bydd nifer y preswylwyr yn disgyn o dan 85% y cant, a dywedodd fod Fforwm Gofal Cymru yn gwybod am gartrefi lle mae nifer y preswylwyr wedi gostwng i oddeutu 45%, ac i 20% mewn un achos.

Ar 14 Ionawr 2019, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai £40 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol i oedolion yn ystod y pandemig. Y bwriad oedd helpu i dalu am y costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth PPE, bwyd, staff a TGCh. Dywedodd y Gweinidog y bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i’w helpu i fanteisio ar y cyllid hwn ar sail y costau newydd a nodwyd. Dywedodd hefyd y byddai'r dyraniad yn cael ei adolygu ac y byddai cyllid ychwanegol ar gael pe bai angen. Dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau ag awdurdodau lleol ynghylch sut y gellid defnyddio rhywfaint o'r cyllid i gynorthwyo cartrefi gofal os yw nifer eu preswylwyr wedi gostwng.

Croesawodd Fforwm Gofal Cymru y cyhoeddiad, ond dywedodd wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (y Pwyllgor) nad oedd dim, neu prin ddim, cyllid wedi cyrraedd y rheng flaen eto.

Ar 1 Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru daliad ychwanegol o £500 i’r holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, fel cydnabyddiaeth bellach i weithlu sy'n aml yn cael ei 'danbrisio a'i anwybyddu'.

Tynnodd Fforwm Gofal Cymru sylw’r Pwyllgor hefyd at y ffaith nad yw'n hysbys eto faint o gleifion coronafeirws y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt wrth iddynt wella o’r feirws, a bod angen i'r system gyfan fod yn fwy cynaliadwy:

We see local authorities and health board commissioners using toolkits that assume that everybody is paid the legal minimum wage, or very marginally above, and we can't carry on like that. We've got to recognise the skills and training that are already needed, let alone the additional work we're going to have to look at in terms of rehabilitation for people recovering from COVID.

Profion

Mae profion, yn enwedig mewn cartrefi gofal, wedi bod yn fater dadleuol. Mae Llywodraethau'r DU a Chymru wedi cael eu beirniadu am beidio â chynnig digon o brofion mewn cartrefi gofal, ac yn arbennig am beidio â rhoi prawf i gleifion ysbyty yn gynt wrth eu rhyddhau i gartrefi gofal (dechreuodd hyn ar 15 Ebrill yn Lloegr ac ar 22 Ebrill yng Nghymru). Dim ond ar 28 Ebrill yn Lloegr ac ar 16 Mai yng Nghymru roedd profion ar gael i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal.

Ar 21 Mai, galwodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gynnal ymchwiliad i weithredoedd Llywodraeth Cymru yn sgil pryderon ei bod yn bosibl y torrwyd hawliau dynol pobl hŷn mewn cartrefi gofal. Mae’r Comisiynydd yn pryderu ei bod yn bosibl na chafodd hawliau pobl hŷn eu gwarchod yn ddigonol, yn y lleoliadau hyn ac ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach. Ymatebodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan ddweud ei fod yn ‘parhau i fod â chryn bryder am y posibilrwydd y torrwyd hawliau dynol pobl hŷn yn ystod y pandemig’. Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei fod yn cydweithio’n agos â’r Comisiynydd a’i fod yn ‘ystyried defnyddio ei oll bwerau i warchod hawliau pobl hŷn’.

Dywedodd Fforwm Gofal Cymru wrth y Pwyllgor ei fod yn deall bod y feirws wedi cyrraedd cartrefi gofal wrth iddynt dderbyn pobl asymptomatig. Eglurodd:

[…] the barriers seem to us to be that we started from this position on testing where there was not going to be any. We were told, quite categorically, unless they're showing symptoms, they're not going to be tested.

Dywedodd Fforwm Gofal Cymru ei fod wedi galw am ehangu’r profion ym mis Chwefror. Ar 10 Ebrill, ysgrifennodd prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru at y Prif Weinidog yn tynnu sylw at bryderon difrifol ynghylch rhyddhau cleifion o'r ysbyty i gartrefi gofal. Dywedodd fod aelodau wedi nodi eu bod dan bwysau i dderbyn cleifion o'r ysbyty, ond eu bod yn teimlo mai dim ond os oedd ganddynt PPE digonol a phrofion priodol y gallent wneud hynny'n ddiogel.

Roedd staff y GIG a oedd yn dangos symptomau’r coronafeirws yn cael prawf o 18 Mawrth ymlaen yng Nghymru. Cafodd hyn ei ymestyn i bob gweithiwr allweddol (hanfodol), gan gynnwys staff gofal, ar 18 Ebrill.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod, ers 22 Ebrill, yn rhoi prawf i bawb mewn cartrefi gofal a oedd yn dangos symptomau’r coronafeirws, a bod llwybr newydd ar gyfer profi a rhyddhau pobl a oedd yn gadael yr ysbyty i fynd i gartref gofal.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ebrill, amddiffynodd y Prif Weinidog y penderfyniad blaenorol i beidio â chynnig prawf cyn 22 Ebrill i gleifion cyn eu rhyddhau o’r ysbyty i gartrefi gofal gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn cyngor clinigol.

Ar 28 Ebrill 2020 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn cyflwyno profion i holl staff y GIG a staff gofal cymdeithasol a thrigolion cartrefi gofal a oedd yn asymptomatig, ac felly byddai’r holl staff a’r preswylwyr yn cael prawf p’un a oedd ganddynt symptomau ai peidio.

Ar 2 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn y profion i holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal sy’n dangos symptomau’r coronafeirws, ac i’r cartrefi gofal mwyaf sydd â dros 50 o welyau. Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd nad oedd y dystiolaeth wyddonol yn dangos y dylai’r holl staff a’r preswylwyr gael prawf.

Fodd bynnag, ar 16 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn y profion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal yng Nghymru, yn dilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Dywedodd Fforwm Gofal Cymru wrth y Pwyllgor ei fod yn credu bod profion rheolaidd a phrydlon, a chanlyniadau cyflym, yn allweddol i wella'r sefyllfa yng nghartrefi gofal Cymru.

O ran gofal yn y cartref / mewn cartref preswyl, cynigir prawf i weithwyr gofal sydd â symptomau ond, yn wahanol i breswylwyr cartrefi gofal, ni chynigir prawf i’r rhai sy'n cael gofal yn eu cartref (a'r rhai sy’n byw gyda nhw) sydd â symptomau. Mae rhai pecynnau gofal yn cael eu hatal os yw’r person sy’n cael gofal yn ei gartref yn dangos symptomau; gellid dadlau y bydd modd datrys y broblem hon yn gynt pe bai profion ar gael i benderfynu a oes gan y person dan sylw’r coronafeirws ai peidio. Gallai'r sefyllfa hon newid yn y dyfodol o ganlyniad i strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, sef profi, olrhain, diogelu '.

Cofnodi marwolaethau

Mae Llywodraethau'r DU a Chymru wedi cael eu beirniadu am fethu â chynnwys marwolaethau y tu allan i'r ysbytai (gartref ac mewn cartrefi gofal) yn y ffigurau swyddogol ar gyfer marwolaethau coronafeirws. Dim ond yn ddiweddar iawn y newidiodd hyn, ac mae'r rhan fwyaf o ddata iechyd cyhoeddus yn dal i ganolbwyntio'n helaeth ar ysbytai. Darllenwch ein herthygl ar farwolaethau cofrestredig i gael rhagor o wybodaeth.

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer marwolaethau yr amheuir neu y cadarnheir eu bod yn gysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru a Lloegr, yn cofnodi mwy o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru na setiau data Arolygiaeth Gofal Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl ymchwil newydd gan Ysgol Economeg Llundain (14 Mai) amcangyfrifir bod dros hanner yr holl farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a Lloegr yn ystod pandemig COVID-19 yn breswylwyr cartrefi gofal (ffigur sy’n sylweddol uwch nag a nodir yn adroddiadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Gofalwyr di-dâl

Mae darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws y DU i lacio dyletswyddau gofal a chymorth awdurdodau lleol dros dro wedi dod i rym. Mae'r newidiadau hyn yn golygu nad oes dyletswydd ar awdurdodau lleol mwyach i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion, nac anghenion cymorth gofalwyr sy'n oedolion. Bellach, dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol lle mae rhywun mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso y bydd yn rhaid iddynt ddiwallu'r anghenion hyn. Mae hyn yn golygu y gellir lleihau pecynnau gofal a chymorth, a dod â rhai gwasanaethau i ben. Mae pryderon hefyd am y baich a roddir ar ofalwyr di-dâl, a hynny ar yr union adeg y mae eu gwasanaethau cymorth eu hunain, fel gofal seibiant, yn diflannu. Darllenwch ein herthygl am y newidiadau hyn i gael rhagor o wybodaeth.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar weithredu'r 'addasiadau' yn dweud bod tystiolaeth yn dangos bod awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol eisoes yn dioddef oherwydd absenoldebau sylweddol yn y gweithlu o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn pryderu na fydd nifer sylweddol o bobl hŷn, o bosibl, yn cael y cymorth gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt i gynnal eu hiechyd, eu lles a'u hannibyniaeth.

Yn ôl Cymdeithas Gofal Cartref y DU (UKHCA), mae saith awdurdod lleol yn Lloegr hyd yma wedi rhoi’r newidiadau ar waith (wedi llacio’r rheoliadau). Bu adroddiadau yn y cyfryngau am rai o gynghorau Cymru sy'n blaenoriaethu gofal, gan leihau rhai pecynnau gofal o bosibl, a bod disgwyl i deuluoedd, ffrindiau a 'gwirfoddolwyr’ lenwi’r bwlch yn y gofal. Fodd bynnag, dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y Pwyllgor Iechyd ar 21 Mai, er bod pob awdurdod lleol yn ystyried cynlluniau o ran sut i leihau’r pecynnau gofal a sut i flaenoriaethu, cyn belled ag y gwyddai ef, nid oedd yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi gorfod cyflwyno’r cynlluniau hynny.

Daeth Ymchwil gan Carers UK i’r casgliad bod 79% o ofalwyr yng Nghymru yn awr yn darparu mwy o ofal oherwydd y coronafeirws. O ganlyniad, mae gofalwyr yn darparu 11 awr ychwanegol o ofal bob wythnos ar gyfartaledd. Dangosodd yr arolwg hefyd fod dros draean (36%) o ofalwyr yng Nghymru yn darparu mwy o ofal oherwydd bod gwasanaethau lleol wedi crebachu neu wedi dod i ben.

Yn ei ddatganiad ar 4 Mai dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cymorth roedd gofalwyr di-dâl yn ei ddarparu wedi dod yn bwysicach fyth yn ystod pandemig y coronafeirws. Dros y ddau fis diwethaf, meddai, roedd mwy o bobl wedi bod yn gwneud gwaith gofalu - mae pobl wedi symud i gartref arall, wedi gadael eu teuluoedd ac, weithiau, wedi rhoi’r gorau i weithio i ofalu am berthnasau neu ffrindiau a’u gwarchod. Roedd y Dirprwy Weinidog yn cydnabod bod Deddf y Coronafeirws wedi peri i ofalwyr bryderu y gallai eu hawliau cyfreithiol gael eu peryglu ac y gallai trefniadau i’w cynorthwyo nhw a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt gael eu tynnu’n ôl. Pwysleisiodd mai dros dro fyddai unrhyw newidiadau a bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i hawliau gofalwyr.

Wrth ystyried y sefyllfa sy'n wynebu'r sector gofal yng Nghymru, dywedodd Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru wrth y Pwyllgor:

I do hope that, when we come through this, one of the key things we learn is that we never look down on social care and social care workers again.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.