Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd

Coronafeirws: amaethyddiaeth

Mae'r gwanwyn fel arfer yn amser prysur yn y calendr ffermio, ond yng ngwanwyn 2020 mae coronafirws wedi effeithio'n sylweddol ar weithgarwch busnes ffermydd. Mae'r erthygl hon yn cynnwys enghreifftiau o rai o'r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu ac yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd i'w cefnogi.

Amcangyfrif o amser darllen: 7 Munud

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ar 10 Gorffennaf 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r gwanwyn fel arfer yn amser prysur yn y calendr ffermio, ond yng ngwanwyn 2020 mae coronafirws wedi effeithio’n sylweddol ar weithgarwch busnes ffermydd.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys enghreifftiau o rai o’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu ac yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i’w cefnogi.

Rydym wedi cyhoeddi a erthygl ar wahân ar sut mae’r sector manwerthu bwyd yn ymateb.

Marchnadoedd

Newidiodd patrymau prynu’n sylweddol pan gafodd y cyfyngiadau symud eu cyflwyno.

Newidiodd arferion prynu defnyddwyr  ac fe’u gwelwyd yn siopa fwyfwy yn yr archfarchnadoedd, ac yn prynu rhai cynhyrchion penodol (e.e. briwgig yn hytrach na thoriadau cig o ansawdd uwch) a gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y galw ymhlithsector gwasanaeth bwyd (ysgolion, bwytai ac ati) hefyd.

Mae’r ffactorau hyn wedi cyfrannu at ansefydlogrwydd prisiau yn y sectorau llaeth a chig coch yn ystod y misoedd nesaf.

Bu gostyngiad o 30 y cant yn y pris swmp am hufen rhwng mis Mawrth a mis Ebrill o £1280 y dunnell i £900 y dunnell. Bu gostyngiad o 13 y cant ym mhris powdr llaeth sgim yn yr un cyfnod o £1990 y dunnell i £1730 y dunnell. Fodd bynnag, ar 25 Mehefin, dywedodd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) fod marchnadoedd yn adfywio eto wrth i’r galw ddechrau cynyddu.

Ym mis Ebrill, dywedodd FUW nad oedd fawr o ddewis gan rai ffermwyr ond cael gwared ar eu llaeth gan nad oedd proseswyr yn gallu ei gasglu.

Ar 24 Mehefin, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ynghylch cynigion i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ar draws sector llaeth y DU a chynnig amodau tecach newydd ar gyfer contractau llaeth.

Mae’r NFU wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin o ran y sector llaeth a choronafeirws..

O ran cig coch,  dywedodd NFU Cymru  fod maint y problemau’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi yn “wirioneddol ddigynsail”. Mae data Hybu Cig Cymru ar Brisiau Cyfartalog y Farchnad ym Mhrydain yn dangos bod y pris ar gyfer bustych, heffrod, teirw ifanc a gwartheg wedi’u pesgi yn codi eto ar ôl iddynt ostwng ar ddechrau’r pandemig. Er enghraifft, gwelwyd pris gwartheg wedi’u pesgi yn gostwng o 198.3 ceiniog y cilogram ar 21 Mawrth i 184.9 ceiniog y cilogram yr wythnos ganlynol ond, erbyn 4 Gorffennaf, roedd y pris wedi codi i 194 ceiniog y cilogram.

Mae’r ddau undeb ffermio (NFU Cymru a FUW) wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymyrryd i gefnogi’r diwydiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi llacio elfennau o gyfreithiau cystadlu dros dro, ac mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu hyn. Y bwriad oedd galluogi ffermwyr a chynhyrchwyr llaeth i gydweithredu mwy i atal llaeth dros ben rhag mynd yn wastraff a niweidio’r amgylchedd.  Gallai hyn gynnwys rhannu llafur a chyfleusterau, lleihau cynhyrchiant dros dro neu ddod o hyd i gyfleoedd i brosesu llaeth yn gynhyrchion eraill fel caws a menyn.

Cafodd y mesurau hyn eu yn lled-groesawu gan FUW, ond roeddent yn tanlinellu bod angen gwybodaeth fanwl gywir am laeth dros ben, ond bod perygl y bydd yn cael effaith niweidiol ar y prisiau ar y pryd, ac mae llawer o ffermwyr llaeth yn dibynnu ar y rhain.

Ar 9 Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun cymorth ar gyfer y sector llaeth. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddi cynllun tebyg yn Lloegr.Bydd ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill a mis Mai, yn gallu hawlio hyd at £10,000 i dalu am 70% o’r incwm y maent wedi’i golli.  Bydd modd gwneud cais  rhwng 18 Mehefin a 14 Awst.

Ar 6 Mai, lansiodd AHDB ymgyrch gwerth £1 miliwn ledled y DU i hybu’r galw am laeth  a hynny mewn ymateb i’r ffaith bod sectorau’r gwasanaeth bwyd ac arlwyo wedi cau. AHDB sy’n arwain yr ymgyrch gyda chyllid ychwanegol gan Dairy UK, llywodraethau’r DU, y sector manwerthu, a’r diwydiant ehangach. Ei nod yw ysgogi cynnydd o 3% yn y galw am laeth ymhlith defnyddwyr dros gyfnod o 12 wythnos. Mae hyn yn cyfateb i 450,000 litr o laeth hylif y dydd.

Mewn ymateb i’r newidiadau yn y galw am gig coch, lansiodd Hybu Cig Cymru ymgyrch farchnata i annog pobl i brynu darnau mwy o gig er mwyn creu “profiad bwyty” gartref.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd nad oedd ganddi unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ymyrryd i helpu’r sector cig coch, ond roedd yn cadw llygad ar y sefyllfa.  Y Grŵp Cydnerthu Amaethyddiaeth, y Grŵp Ffocws Defaid a Grwpiau Ffocws Cig Eidion wedi bod yn cyfarfod at y diben hwn (PDF 461 KB).

Nid yw ffermwyr wedi bod yn gymwys i fanteisio ar Gronfa Gwydnwch Economaidd Llywodraeth Cymru. Mae’r gronfa’n darparu cefnogaeth ychwanegol i fusnesau sy’n profi cwymp sydyn mewn masnachu o ganlyniad i’r coronafeirws.

Gofynnodd NFU Cymru am adolygiad brys o’r meini prawf cymhwysedd i ganiatáu i ffermwyr gael manteisio ar y gronfa, gan ddweud bod ffermwyr “wrth reswm dan straen” oherwydd “prinder cymorth pwrpasol i ffermio gan Lywodraeth Cymru”.

Wrth gael ei holi am y mater hwn tanlinellodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, fod ffermydd sydd wedi arallgyfeirio ac sydd â busnesau ychwanegol yn gallu gwneud cais am gymorth gan y gronfa. Nid yw’r rhai nad ydynt wedi arallgyfeirio yn gymwys gan eu bod yn derbyn taliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Gall ffermwyr wneud cais am y Cynllun Benthyciad Amhariad Busnes yn sgil y Coroanfeirws (CBILS). Mae’r cynllun hwn yn cefnogi busnesau bach a chanolig yn bennaf i gael mynediad at fenthyca banc a gorddrafftiau, ac mae’n cael ei ddarparu gan Fanc Busnes Prydain.

Mae NFU Cymru wedi galw am gyllid i’r diwydiant ffermio gan Raglen Datblygu Gwledig, a hynny’n dilyn cyhoeddiad y Comisiwn Ewropeaidd y bydd mesur Covid-19 yn cael ei gynnwys yng Nghronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Manylir ar fesurau cymorth eraill ar gyfer ffermwyr yr UE ym Mriff Gwasanaeth Ymchwil Senedd Ewrop.

Pwysleisiodd NFU Cymru hefyd “na ellir rhoi ffermio ar gynllun ffyrlo” gan ei bod “er budd cenedlaethol i fusnesau ffermio barhau i weithredu i ddarparu bwyd i’r genedl ar adeg o argyfwng a’r tu hwnt”.

Rydym wedi cyhoeddi erthygl ar wahân am gymorth i fusnesau yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Taliadau fferm

O ystyried y pwysau ychwanegol ar gyllid ffermydd, mynegodd FUW bryder ynghylch y rhai nad ydynt hyd yma wedi cael eu talu eu Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) neu daliadau Glastir o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, naill ai’n rhannol neu’n llawn.

Soniodd yr undeb hefyd ei bod yn bosibl na fyddai rhai ffermwyr yn gallu cyflwyno eu Ffurflen Cais Sengl (SAF) erbyn y dyddiad cau o ystyried yr amgylchiadau anghyffredin. Er enghraifft, oherwydd gallai’r ffaith na chwblhawyd adroddiadau arolygu ohirio’r broses o lenwi’r ffurflen gais. Mae angen y Ffurflen Cais Sengl i ffermwyr dderbyn eu taliadau. Mae cosbau ariannol yn wynebu ffermwyr sy’n hwyr yn anfon eu ceisiadau, a chaiff rhai ceisiadau hwyr eu gwrthod.

Soniodd NFU Cymru am broblemau ffermwyr âr sy’n methu bodloni gofynion arallgyfeirio cnydau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin oherwydd pwysau ychwanegol yn sgil y coronafeirws a’r llifogydd yn gynharach eleni. Dyma’r gofyniad dau gnwd a thri chnwd i fod yn gymwys ar gyfer taliadau gwyrddu’r BPS.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r materion hyn ar 1 Ebrill drwy:

  • Ddyrannu £5.5 miliwn yn ychwanegol i’r BPS a Glastir i leddfu problemau llif arian. Ailagor y cynlluniau ar 1 Ebrill ar gyfer ffermwyr sydd eto i dderbyn eu taliadau 2019.
  • Rhoi mis ychwanegol i ffermwyr gyflwyno eu Ffurflen Gais Sengl trwy ymestyn y dyddiad cau o 15 Mai i 15 Mehefin. Croesawodd NFU yr estyniad ond nid yw am weld taliadau yn cael eu gohirio o ganlyniad.
  • Dileu gofynion arallgyfeirio cnydau ar gyfer y BPS ar gyfer 2020. Dilynodd hyn newid tebyg a wnaed yn Lloegr.

Wedi hynny, cafodd offerynnau statudol eu gosod i roi’r ymrwymiadau hyn ar waith, sef Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020.

Mae Gwefan Taliadau Gwledig Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau talu y mae’r coronafeirws yn effeithio arnynt.

Profion TB buchol

Codwyd pryderon ynghylch y risg o gael profion TB hwyr, am resymau gan gynnwys prinder posibl o filfeddygon.

Ymhlith y pryderon mae p’un a fydd y cosbau traws-gydymffurfio os ceir profion hwyr (fel gostyngiad yn y taliad BPS) yn gymwys, neu a fyddai profion cyfyngedig yn effeithio ar symudiad gwartheg.

Dywedodd Lesley Griffiths ar 8 Ebrill na fydd profion yn parhau “os na ellir eu cynnal yn ddiogel”. Eglurodd hefyd y bydd cyfyngiadau ar symud gwartheg yn cael eu gweithredu ar gyfer profion hwyr, ond ni fydd y sawl sy’n cadw gwartheg yn wynebu cosbau traws-gydymffurfio mwyach.

Ar 4 Mai, cyhoeddodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion eithriad dros dro rhag profi TB mewn lloi (iau na 180 diwrnod) os na ellir cynnal y profion yn ddiogel. Byddai lloi sydd wedi eu heithrio yn dal i fod angen prawf cyn symud pe byddent yn symud o ddaliad, os byddai’r symud hwnnw’n gofyn am brawf fel arfer. Mae’r canllawiau hyn yn gymwys yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r TBhub yn cynnwys gwybodaeth gyfredol am gynlluniau wrth gefn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar gyfer profion TB.

Mynediad cyhoeddus i dir ffermydd

Yn sgil nifer sylweddol o ymwelwyr â chefn gwlad ddiwedd mis Mawrth, mynegwyd pryder o fewn cymunedau ffermio ynglŷn â lledaenu’r coronafeirws, yn enwedig lle mae hawliau tramwy cyhoeddus yn mynd trwy fuarth fferm.

Mae NFU Cymru a FUW wedi annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu polisïau mynediad cefn gwlad.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau brys i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, parciau cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol roi terfyn ar hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad at dir lle gallai’r mynediad hwnnw gynyddu lledaeniad y coronafeirws.

Mae The Ramblers a sefydliadau eraill wedi gofyn i bobl barchu achosion hyn o gau mynediad ond hefyd wedi annog yn erbyn unrhyw achosion diangen o gau mynediad.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw i dirfeddianwyr ynghylch y rheoliadau ar 7 Ebrill.

Gweithwyr tymhorol

Mae llawer o fusnesau ffermio yn dibynnu ar weithwyr tymhorol o dramor, fel casglwyr ffrwythau a thimau cneifio. Mae NFU yn pryderu y bydd cyfyngiadau teithio ac anawsterau wrth gael fisâu yn golygu na fydd y galw am weithwyr tymhorol yn cael ei ddiwallu. Mae’n dweud bod angen hyd at 70,000 o gasglwyr ffrwythau a llysiau ledled y DU.

Bu ymgyrch i recriwtiogweithwyr fferm tymhorol domestig a rhyngwladol ledled y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu LANTRA i ddatblygu gwasanaeth ar-lein i baru cyflogwyr â cheiswyr gwaith sy’n chwilio am waith amaethyddol, gwaith tir a gwaith milfeddygol. Mae’r Gwasanaeth Siarter Awyr yn amserlennu hediadau ar gyfer gweithwyr o ddwyrain Ewrop. Mae yna hefyd fentrau eraill ar y gweill.

Gall gweithwyr sydd wedi’u rhoi ar gynllun ffyrlo ymgymryd â gwaith yn rhywle arall a chadw eu taliad ffyrlo o dan daliad Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y  Coronafeirws gan Lywodraeth Cymru.

Soniwyd yn y Cyfarfod Llawn ei bod yn bosibl na fydd gweithwyr tymhorol yn gymwys i elwa ar y cynllun ffyrlo. Rhaid bod gweithwyr wedi bod ar gyflogres TWE cyflogwr “ar neu cyn 19 Mawrth 2020”.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod gweithio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws mewn perthynas â’r sector amaethyddiaeth a’r sector bwyd.

Y camau nesaf

Mae pandemig y coronafeirws wedi dysgu’r diwydiant, llywodraethau a’r cyhoedd am y pwysau ar y gadwyn gyflenwi, o’r gwaith cynhyrchu bwyd i fanwerthu bwyd. Mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth ar ôl Brexit yn cael eu datblygu a bydd pawb sydd ynghlwm wrth y gwaith yn gwbl ymwybodol o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector yn dilyn y cyfnod anodd hwn.

Rhagor o wybodaeth


Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: