Coronafeirws: cymhariaeth ryngwladol o gyfyngiadau

Cyhoeddwyd 20/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn dysgu o brofiadau rhyngwladol wrth ymateb i’r coronafeirws. Yn ei fframwaith ar gyfer arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws, nodir bod “angen ymwybyddiaeth ragorol o’r sefyllfa a dadansoddi effeithiau strategaethau rhyngwladol ar gyfer llacio cyfyngiadau ar y boblogaeth”.

Mae angen bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol gan fod demograffig a system gofal iechyd pob gwlad yn wahanol, er enghraifft. Mae cyfyngiadau symud pob gwlad yn wahanol, hefyd; felly, wrth edrych ar lacio’r cyfyngiadau, mae’n bwysig cofio nad yw pob lle yn dod o’r un man cychwyn.

Mae fframwaith Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at yr Almaen, Singapôr, De Corea a'r Unol Daleithiau fel enghreifftiau o ddulliau rhanbarthol ar gyfer y mesurau ac amlinelliad o’u defnydd o dechnoleg. Ymdrinnir â’r gwledydd hynny yn yr erthygl hon, ynghyd â'r Eidal a Sbaen sydd wedi cael cyfyngiadau tebyg i rai'r DU. Amlinellir y cyfyngiadau a roddwyd ar waith ym mhob gwlad cyn ymdrin â sut mae'r cyfyngiadau wedi cael eu llacio.

Y cyfyngiadau a osodwyd

Rheolfeydd wrth gyrraedd

Yr Almaen

Tua diwedd mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Ffederal yr Almaen y byddai'n cyflwyno cardiau glanio y byddai’n rhaid i bawb sy’n cyrraedd mewn llong, awyren, bws neu drên eu llenwi, a hynny fel y gellir canfod cadwyni heintio posibl a chysylltu ag unigolion. Ar hyn o bryd, dim ond trigolion a gweithwyr o’r Almaen sy'n cymudo rhwng yr Almaen a gwledydd cyfagos sy'n cael mynediad.

De Corea

Yn gynnar ym mis Chwefror 2020, dechreuodd Llywodraeth De Corea gasglu data ar y bobl a oedd wedi dod i'r wlad o Tsieina. Ar 1 Ebrill 2020, ehangodd y gweithdrefnau mynediad hyn i gynnwys pob teithiwr ac fe’i gwnaethpwyd yn ofynnol i bobl aros mewn cwarantin am 14 diwrnod neu hunanynysu mewn cyfleusterau. Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno nifer o ofynion mynediad yn dibynnu ar a yw teithwyr yn symptomatig, o ble maen nhw wedi teithio ac am ba hyd y byddan nhw'n aros. Er enghraifft, rhaid i ymwelwyr tymor byr, asymptomatig o Ewrop ddefnyddio ap hunan-ddiagnosis i lenwi holiadur iechyd, gan ddiweddaru'r ap yn ystod 14 diwrnod y cwarantin.

Singapôr

Ym mis Ionawr 2020, cyflwynodd Llywodraeth Singapôr Ganiatâd Absenoldeb ar gyfer dinasyddion sy'n dychwelyd, gan ddweud wrthynt i aros gartref ac osgoi cysylltiadau cymdeithasol am 14 diwrnod. O dan y Caniatâd Absenoldeb, caniateir i bobl adael eu cartrefi, ond rhaid iddynt ddychwelyd cyn gynted â phosibl. Rhoddwyd Gorchymyn Cwarantin i deithwyr o Hubei, Tsieina wrth iddynt gyrraedd, i hunanynysu yn eu cartref, yn un o gyfleusterau’r Llywodraeth neu mewn ysbyty.

O 20 Mawrth 2020, roddir i deithwyr tramor sy’n dychwelyd i Singapore Hysbysiad Aros Gartref. Mae hyn yn golygu bod angen i bobl aros yn eu cartref am 14 diwrnod a pheidio â gadael, hyd yn oed i brynu bwyd. Gallai asiantaethau Llywodraeth Singapôr gysylltu â Hysbysiad Aros Gartref ar y ffôn, drwy SMS neu ar WhatsApp, a rhaid i bobl ymateb o fewn awr. Gallai peidio â chydymffurfio arwain at ddirwyon gwerth hyd at $10,000 neu garchar.

Aros gartref

Singapôr

O 7 Ebrill 2020 anogwyd pobl Singapôr i aros gartref ac i beidio â mynd allan heblaw i brynu hanfodion ac ar gyfer ymarfer corff. O dan gyfyngiadau “torri’r cylch”, fel y’i gelwir, ni chaniateir i bobl ymgynnull yn gymdeithasol, ond gallant weld aelodau o'r teulu agos. Bythefnos yn ddiweddarach cyflwynwyd mesurau mwy caeth a oedd yn golygu bod pobl ond yn cael mynd allan ar eu pennau eu hunain (yn hytrach na gydag aelodau eraill o'u haelwyd). Cafodd dull torri’r cylch ei ymestyn tan 1 Mehefin 2020, ond caniatawyd i rai busnesau ailagor trwy gydol mis Mai.

Unol Daleithiau America

Cyhoeddodd Arlywydd yr Unol Daleithiau ganllawiau coronafeirws ym mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, y mae i daleithiau unigol gyhoeddi argyfyngau iechyd cyhoeddus a chyhoeddi gorchmynion. Darparodd Cymdeithas Genedlaethol y Llywodraethwyr drosolwg o'r camau a gymerwyd gan bob talaith. Mae canllawiau’r Arlywydd yn annog pobl i wrando ar gyfarwyddiadau eu taleithiau a’u hawdurdodau lleol a’u dilyn. Gwelwyd protestiadau ledled yr UD yn erbyn mesurau’r cyfyngiadau.

Mae nifer o daleithiau yn gweithio gyda'i gilydd i greu dull rhanbarthol ar gyfer ymateb i’r coronafeirws. Er enghraifft, mae Michigan wedi ymuno â Minnesota, Ohio, Wisconsin, Illinois, Indiana a Kentucky i weithio mewn cydgysylltiad agos yn rhanbarth y gorllewin canol. Dywedodd Llywodraethwr Michigan: “phasing in sectors of our economy will be most effective when we work together as a region” but that doesn’t mean that “every state will take the same steps at the same time”.

Cyfyngu ar symudiad pobl

Yr Almaen

Ni ddywedwyd wrth bobl yr Almaen yn benodol i aros gartref, ond ar 16 Mawrth 2020, fe gyflwynwyd nifer o fesurau i gyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol. Roedd y mesurau’n cynnwys cau busnesau ac eithrio archfarchnadoedd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post, ymhlith eraill. Arhosodd bwytai ar agor, ond cyfyngwyd ar niferoedd y cwsmeriaid, a dim ond rhwng 06.00 a 18.00 yr oedd sefydliadau yn cael agor. Arhosodd y mesurau hyn ar waith tan 3 Mai 2020.

Yr Eidal

Hefyd ar 3 Mai daeth cyfyngiadau Llywodraeth yr Eidal i ben ledled y wlad. Mae'r Llywodraeth wedi cymryd dull rhanbarthol ar gyfer cyfyngiadau’r coronafeirws. Tua diwedd mis Chwefror, rhoddwyd Bwrdeistrefi Lombardia a Rhanbarth Veneto o dan gwarantin. Bythefnos yn ddiweddarach estynnwyd y cwaratin i daleithiau eraill yn y gogledd, cyn ei estyn i’r genedl gyfan ar 9 Mawrth 2020. Yn yr Eidal roedd pobl ond yn cael gadael y cartref i fynd i’r gwaith, i siopa am angenrheidiau, am resymau iechyd neu ar gyfer gweithgareddau corfforol. Fodd bynnag, caewyd parciau, gerddi cyhoeddus a mannau chwarae.

Sbaen

Ar 14 Mawrth 2020 cyhoeddwyd argyfwng yn Sbaen. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd gweithgareddau pobl eu cyfyngu i fynd i gael bwyd a meddyginiaeth, gofalu am bobl agored i niwed, a theithio i'r gwaith os oedd angen. Nid oedd pobl Sbaen yn cael mynd allan i ymarfer corff. O 26 Ebrill 2020 cafwyd rhai newidiadau bach i ganiatáu i blant dan 14 oed fynd am dro dan oruchwyliaeth. O 2Mai caniatawyd i bobl fynd allan i ar gyfer gweithgareddau corfforol unigol ac i fynd am dro gyda'r bobl maen nhw'n byw gyda nhw.

De Corea

Yn Ne Corea, cyflwynwyd rheolau cadw pellter cymdeithasol cryfach ar 22 Mawrth. Arhosodd y rhain ar waith tan 19 Ebrill 2020. Gofynnodd Llywodraeth De Corea i’r cyhoedd gyfyngu eu symudiadau i deithio i’r gwaith ac yn ôl, gan beidio â mynd allan, ymgynnull na mynd ar deithiau.

Llacio cyfyngiadau

Caniatáu i bobl fynd allan mwy

De Corea

Er bod mwyafrif y rheolau cadw pellter cymdeithasol wedi aros ar waith yn Ne Corea, o 20 Ebrill 2020, mae’r Llywodraeth wedi llacio rhai o’r cyfyngiadau, gan ganiatáu gweithgareddau mewn addoldai, ac mewn cyfleusterau chwaraeon ac addysg. Ar 6 Mai daeth cadw pellter cymdeithasol i ben a dechreuodd cadw pellter yn y bywyd bob dydd. Golygai y gallai pobl ailafael yn eu harferion beunyddiol, gan gynnwys bwyta prydau bwyd mewn grwpiau, ymgynnull a mynd allan. Ailagorwyd lleoliadau chwaraeon, theatrau a neuaddau perfformio. Fodd bynnag, yn dilyn cynnydd yn nifer yr heintiau COVID-19 yn Seoul, cyflwynodd y Llywodraeth Fetropolitan yno fesurau llymach ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus wythnos yn ddiweddarach. Roedd y rhain yn cynnwys gwahardd teithwyr heb fasgiau wyneb rhag mynd ar gerbydau’r rheilffordd danddaear.

Yr Almaen

Ar 6 Mai, dywedodd Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, y byddai'r cyfyngiadau ar gysylltiadau yn aros ar waith tan 5 Mehefin 2020. Fodd bynnag, dywedodd Mrs Merkel hefyd y byddai pobl bellach yn gallu treulio amser mewn mannau cyhoeddus gydag aelodau o aelwyd arall, ond bod cyfyngiad clir iawn o hyd ar gysylltiadau.

Codi cyfyngiadau yn raddol

Yr Eidal

Ym mis Ebrill 2020, nododd Prif Weinidog yr Eidal y mesurau ar gyfer cam dau, y dechreuwyd ei lacio o 4 Mai. Ers hynny mae pobl wedi cael teithio ar gyfer gwaith, er lles eu hiechyd, am angenrheidiau neu i ymweld â pherthnasau yn eu rhanbarth. Caniateir i bobl deithio y tu allan i'w rhanbarth am y gwaith, iechyd, rhesymau brys, gan ddychwelyd i'w cartrefi. Ar 18 Mai 2020, codwyd cyfyngiadau eraill a châi pobl adael eu cartrefi heb orfod rhoi cyfiawnhad. Bellach maen nhw’n cael cwrdd â ffrindiau, mynd i'r mynyddoedd ac i lan y môr, mynd i’r siopau gan fod siopau manwerthu wedi ailagor, ynghyd â busnesau trin gwallt, bariau a bwytai.

Sbaen

Cymeradwyodd Cyngor y Gweinidogion yn Sbaen gynllun ar gyfer newid i normalrwydd newydd. Mae'r cynllun yn cynnwys pedwar cam a bydd symud o'r naill gam i'r llall yn dibynnu ar gapasiti’r system iechyd. Dechreuodd Cam 0 ar 4 Mai wrth i fwytai allu darparu gwasanaethau cludfwyd. Dywedodd Arlywydd y Llywodraeth na fyddai’n broses unffurf; byddai’n anghymesur a byddai’r cyflymderau’n wahanol, ond byddai’n cael ei chydlynu. Felly, bydd gwahanol ranbarthau Sbaen ar gamau gwahanol. Ar 4 Mai aeth pedair ynys (Formentera, El Hierro, La Graciosa a La Gomera) yn syth i gam 1. Golyga hyn bod grwpiau bach o bobl yn cael cwrdd a gall siopau agor gyda mesurau diogelwch llym ar waith.

Y darlun yn y DU

Yn y DU, penderfyniad pob un o'r pedair gwlad yw sut mae'r cyfyngiadau'n cael eu gweithredu a sut maen nhw'n cael eu llacio. Roedd nifer o fân wahaniaethau yn y cyfyngiadau cychwynnol rhwng gwledydd y DU, ac ymddengys fod mwy yn codi wrth i'r DU a llywodraethau datganoledig symud tuag at lacio’r cyfyngiad symud.

Yn dilyn adolygiad statudol o'r rheoliadau sy'n sail i’r cyfyngiadau coronafeirws, penderfynodd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gadw'r cyfyngiadau ar waith gyda mân newidiadau a chan gadw’r neges i aros gartref. Penderfynodd Llywodraeth y DU symud Lloegr i gam 1 o'i chynllun i lacio’r cyfyngiadau. O 13 Mai 2020, golyga hyn fod pobl yn Lloegr yn cael treulio mwy o amser yn yr awyr agored, cwrdd ag un person nad yw’n aelod o’r un aelwyd, a theithio pellteroedd diderfyn i fannau awyr agored.

Gallwch ddarllen crynodeb o'r mesurau aros gartref yng Nghymru a chymhariaeth o strategaethau ymadael pedair gwlad y DU yn ein herthyglau ar y blog.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.