Coronafeirws: cyflog ac amodau gwaith gweithwyr allweddol

Cyhoeddwyd 21/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ledled y DU, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) wedi canfod bod gweithwyr allweddol, ar gyfartaledd, yn cael llai o gyflog yr awr na gweddill y gweithlu a bod y bwlch cyflog hwn wedi bod yn tyfu dros amser. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod gan weithwyr allweddol nodweddion demograffig ac addysgol tebyg i weddill y gweithlu. O ganlyniad i hyn, mae'r pwnc hwn wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau a chan wleidyddion yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar y data ar gyflog gweithwyr allweddol yng Nghymru, yn ogystal â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran cyflog ac amodau gwaith. Cyflwynwyd nifer o ddadleuon ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd i gyflog ac amodau gwaith gweithwyr allweddol yn yr economi ar ôl y pandemig, felly rydym hefyd wedi crynhoi'r rhain.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi cyhoeddi erthygl heddiw ar nodweddion gweithwyr allweddol Cymru, gan nodi ym mha sectorau y maent yn gweithio, sut y maent yn cymharu â'r boblogaeth gyffredinol, a sut mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt.

Mae’r erthyglau a gyhoeddwyd gennym yn flaenorol ar gyfarpar diogelu personol (PPE) a phrofi yn ymdrin â'r pynciau hyn o ran gweithwyr allweddol.

Mae gwahaniaethau mewn cyflog ar draws galwedigaethau gweithwyr allweddol

Mae gwahaniaethau cyflog sylweddol ar draws galwedigaethau gweithwyr allweddol. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi fel a ganlyn:

Some sectors, such as professional services, are much better-educated and better-paid than the rest of the UK workforce. Others, such as the health and education sectors which employ the majority of key workers, look more similar to the rest of the economy.

But some sectors – most notably the social care and food sectors – stand out in the other direction. Workers in these sectors are paid much less than other key worker sectors

O ddadansoddi data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gallwn weld bod hyn hefyd yn wir yng Nghymru. Mae gan bob sector swyddi â chyflog canolrifol uwch na £20 yr awr, ond mae gan bron pob sector hefyd swyddi â chyflog canolrifol is na £10 yr awr gyda rhai swyddi'n talu llai na'r Cyflog Byw gwirfoddol o £9.30 yr awr. Mae hanner yr holl weithwyr yn ennill llai na gwerth y cyflog canolrifol, a thelir mwy i'r hanner arall.

Enillion canolrifol gros yr awr y galwedigaethau sy'n ennill y cyflog uchaf ac isaf ym mhob sector gweithwyr allweddol yn 2019

Ffynhonnell: Dadansoddiad y Gwasanaeth Ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Enillion Gweithwyr yn y DU 2019 gan ddefnyddio diffiniadau o weithwyr allweddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Y Coronafeirws a gweithwyr allweddol yn y DU

Mae cyflog rhai galwedigaethau gweithwyr allweddol yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, bwyd ac addysg yn arbennig o isel

Mae nifer o alwedigaethau gweithwyr allweddol â chyfraddau cyflog cymharol isel. Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) wedi amcangyfrif bod 38 y cant o weithwyr allweddol yng Nghymru yn ennill llai na £10 yr awr o gyflog.

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai’r sectorau gweithwyr allweddol sydd â'r swyddi sy'n talu isaf yng Nghymru yw bwyd a nwyddau angenrheidiol; gofal plant ac addysg; ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Enillion canolrifol gros yr awr i weithwyr yng Nghymru am 10 swydd gweithiwr allweddol sy'n talu'n gymharol isel yn 2019

Ffynhonnell: Dadansoddiad y Gwasanaeth Ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Enillion Gweithwyr yn y DU 2019 gan ddefnyddio diffiniadau o weithwyr allweddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Y Coronafeirws a gweithwyr allweddol yn y DU

Mae'r wasg, melinau trafod a sefydliadau eraill wedi rhoi sylw arbennig i enillion cymharol isel llawer o weithwyr gofal cymdeithasol, o ystyried eu swydd o ran gofalu am rai o'r bobl sydd fwyaf agored i’r coronafeirws.

Mae’r Resolution Foundation yn tynnu sylw at y ffaith bod 56 y cant o weithwyr gofal rheng flaen yng Nghymru yn ennill llai na'r Cyflog Byw gwirfoddol (sy'n uwch na'r Cyflog Byw Cenedlaethol statudol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth y DU). Mae'n nodi bod gweithwyr gofal yn y sector preifat ledled y DU yn ennill llai o gyflog na'r rhai a gyflogir gan awdurdodau lleol.

Canran y gweithwyr gofal rheng flaen a enillodd lai na'r Cyflog Byw gwirfoddol ym mhob gwlad yn y DU, 2017-19

Ffynhonnell: Resolution Foundation, Beth sy'n digwydd ar ôl i'r clapio ddod i ben? Y cyflog, y telerau a'r amodau a ddewiswn ar gyfer ein gweithwyr gofal

Mae rhai galwedigaethau gweithwyr allweddol â chyflog isel wedi teimlo effaith fwyaf y coronafeirws

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi tynnu sylw at y ffaith bod 6 o'r 16 galwedigaeth sydd â'r amlygiad mwyaf, o bosibl, i’r coronafeirws ledled y DU, â chyflog canolrifol is yr awr na chyfartaledd y DU.

Yng Nghymru, mae data ar gael ar gyfer 11 o'r galwedigaethau hyn ac mae'n dangos bod pedwar o'r galwedigaethau hyn yn ennill llai nag enillion canolrifol yr awr yn 2019. Ledled y DU, roedd pob un o'r pedair galwedigaeth hon hefyd yn ennill cyflog is na chyflog canolrifol y DU.

Cyflog canolrif gros yr awr yng Nghymru ar gyfer galwedigaethau sydd â'r amlygiad mwyaf i’r coronafeirws, 2019

Ffynhonnell: Dadansoddiad y Gwasanaeth Ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Enillion Gweithwyr yn y DU 2019, gan ddefnyddio’r galwedigaethau sydd fwyaf agored i’r coronafeirws gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Pa alwedigaethau sydd â'r amlygiad mwyaf, o bosibl, i'r coronafeirws (COVID-19)?

Yn ogystal, mae tair o'r pum galwedigaeth â'r cyfraddau uchaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol. Roedd y tair galwedigaeth hon - swyddogion diogelwch a galwedigaethau cysylltiedig; gweithwyr gofal a gofalwyr cartref; a gyrwyr bysiau a choetsys – yn ennill llai na’r cyflog canolrifol yr awr yng Nghymru yn 2019.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i geisio sicrhau bod Cymru yn dod yn Wlad o Waith Teg

Nid yw cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol wedi'u datganoli i'r Senedd (ac eithrio pennu cyflogau amaethyddol), ac mae'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael eu pennu bob blwyddyn gan Lywodraeth y DU. O fis Ebrill 2020, y Cyflog Byw Cenedlaethol yw £8.72 yr awr, gyda Llywodraeth y DU yn cynnig y bydd hyn yn codi i £10.50 yr awr erbyn 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei huchelgais i Gymru fod yn Genedl o Waith Teg. Ym mis Mawrth 2019, gwnaeth adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg argymhellion o ran sut y gellid cyflawni hyn, gan gynnwys trwy ddeddfwriaeth, dylanwadu ar Lywodraeth y DU, gorfodi hawliau cyfreithiol cyfredol, hyrwyddo gwaith teg drwy gymhellion economaidd, gweithio gydag undebau llafur, a meithrin gallu yng Nghymru i sicrhau gwaith teg.

Ym mis Tachwedd 2019, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at bob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddynt sicrhau achrediad Cyflog Byw, gan gydnabod y gallai hyn gymryd amser i rai sefydliadau. Mae llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus datganoledig eisoes yn talu Cyflog Byw gwirfoddol o £9.30 yr awr i bob aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol. Mae'r rhain yn cynnwys GIG Cymru, llawer o awdurdodau lleol, y Senedd, Llywodraeth Cymru a rhai cyrff a noddir ganddi.

Disgwyliwyd i gyrff datganoledig y sector cyhoeddus ymrwymo i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi hefyd. Mae ei lofnodwyr wedi gwneud nifer o ymrwymiadau gwaith teg, gan gynnwys ystyried talu’r Cyflog Byw gwirfoddol ac annog cyflenwyr i wneud hynny, peidio â defnyddio contractau dim oriau “annheg”, a sicrhau bod gweithwyr yn cael ymuno ag undeb llafur neu gytundeb ar y cyd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil Partneriaeth Cymdeithasol arfaethedig, a fyddai’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithio i hyrwyddo nodau gwaith teg.

O ran y sector preifat, mae Contract Economaidd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau sy'n gwneud cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru fodloni pedwar maen prawf cyn cymhwyso, gan gynnwys gwaith teg. Y diffiniad o waith teg a ddefnyddir yw'r un a ddatblygwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg, sef “bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli'n deg, bod ganddynt sicrwydd a’u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau'n cael eu parchu”. Mae llawer o gyflogwyr y sector preifat yng Nghymru yn talu'r Cyflog Byw gwirfoddol, ac mae rhai sy'n cyflogi gweithwyr allweddol wedi talu taliadau bonws iddynt yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae Rheoliadau wedi bod mewn grym ers mis Ebrill 2018 fel bod gan weithwyr gofal cartref sydd wedi cael eu cyflogi ar gontract oriau heb eu gwarantu, ac sydd wedi gweithio oriau rheolaidd am o leiaf dri mis, yr hawl i ddewis cael eu cyflogi o dan drefniadau amgen gydag oriau wedi’u gwarantu. Mae'r rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wahaniaethu rhwng amser teithio ac amser gofalu wrth drefnu gwasanaethau, fel bod yn rhaid i ymweliadau gofal bara o leiaf 30 munud yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o brosiectau peilot yn ymwneud â chyflogaeth decach yn y sector gofal cymdeithasol drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol. Mae hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i asesu pa gamau pellach y dylid eu cymryd i sicrhau gwaith teg yn y sector yn y tymor canolig a'r tymor hwy.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau er budd rhai gweithwyr allweddol ers dechrau pandemig y coronafeirws

Ar 27 Ebrill dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cyflwyno cynllun i ddarparu cymorth ariannol o £60,000 i fuddiolwyr gweithwyr rheng flaen y GIG a Gofal Cymdeithasol, am farwolaethau sy'n gysylltiedig â’ coronafirws. Nid yw'n ofynnol i weithwyr na chyflogwyr wneud cyfraniadau tuag at y cynllun hwn, sy'n ceisio darparu rhwyd ddiogelwch i staff sydd naill ai ddim yn gymwys i ymuno â chynlluniau pensiwn neu sy’n dewis peidio â gwneud hynny am resymau fforddiadwyedd.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 1 Mai y byddai’n ariannu taliad ychwanegol o £500 i weithwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref ledled Cymru i gydnabod gweithlu sydd yn aml yn cael ei "anwybyddu a ddim yn cael digon o werthfawrogiad." Mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i beidio â threthu’r taliad ychwanegol hwn, ac mae’n gweithio i sicrhau nad yw’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau lles y gallai fod gan weithwyr hawl i’w cael.

Mae nifer o sefydliadau wedi gwneud awgrymiadau diweddar ar gyfer newidiadau yng nghyflog ac amodau gwaith gweithwyr allweddol yn y dyfodol

Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu nifer o alwadau am newidiadau yng nghyflog ac amodau gwaith gweithwyr allweddol, yn enwedig mewn perthynas â'r sector gofal cymdeithasol.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi awgrymu y bydd deall gwahaniaethau yng nghyflog ac amodau gwaith grwpiau o weithwyr allweddol yn bwysig o ran gwneud unrhyw newidiadau, gan nodi:

For policymakers who wish to change the working conditions of key workers, a first step will be to acknowledge the differences between them. While appreciation and gratitude should certainly extend to all the people in these critical roles, post-pandemic policy must not be based on overly broad categorisations that hide the differences within.

Mae’r TUC wedi galw am isafswm cyflog o £10 ledled y DU, codiadau cyflog teg i weithwyr allweddol, ac am Dâl Salwch Statudol uwch. Mae Unsain Cymru hefyd wedi dweud y dylid talu o leiaf £10 yr awr i bob gweithiwr gofal yng Nghymru, i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith ac i gydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud.

Yn benodol, mewn perthynas â gofal cymdeithasol, mae’r Resolution Foundation yn dweud y dylid talu Cyflog Byw gwirfoddol o leiaf i bob gweithiwr gofal ledled y DU. Mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi galw am warant cyflog i weithwyr iechyd a gofal ledled y DU, sy’n cynnwys tâl salwch, taliadau bonws, a thalu'r Cyflog Byw gwirfoddol. Mae Sefydliad Bevan wedi dadlau bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i wella gwobrwyon ac amddiffyniadau yn y sector.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i weld a ellir talu’r Cyflog Byw gwirfoddol o leiaf i bob gweithiwr gofal yng Nghymru ar ôl pandemig y coronafeirws. Dywedodd hefyd y byddai angen cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i wneud hyn.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.